Sun, snow & hosepipe bans Danielle Cowell, 5 Ebrill 2012 What a crazy few weeks of weather we have had! In one week the weather reporters have featured record breaking temperatures, hosepipe bans and now snow in many places!The high pressure gave us plenty of sunshine and record breaking temperatures but now temperatures have returned more to what we would normally expect for the time of year.Meanwhile, the temperature of our planet is still rising. 2010 was the hottest year across the globe. For the UK this seems to mean that wierd weather is becoming more and more normal. We have certainly seen some strange weather since starting our investigation.BBC Horizon broadcast a program called ‘Global Weirding’, it explored the science behind why the world’s weather seems to be getting more extreme.It will be interesteing to see what our results show this year.I've recieved all the data now so after Easter I will be looking at the trends and discussing them with schools.Many thanks to all the bulb buddies that have worked so hard keeping records since last November.Enjoy the Easter Break!www.museumwales.ac.uk/scan/bulbsTwitter http://twitter.com/Professor_PlantFacebook Professor Plant
Gwneud Tro a Thrwsio Hywel Couch, 5 Ebrill 2012 Mae Wood for the Trees yn dychwelyd i'r T? Gwyrdd ar Ddydd Sadwrn, 7 Ebrill. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd gweithdy gwneud stôl droed, a oedd yn llwyddiant mawr fel y gwelir o'r llun. Gwnaeth ymwelwyr gwneud stôl droed eu hunain o'r dechrau i'r diwedd, o’r gwaith saer i'r gwaith clustogwaith ar y diwedd. Roedd y gweithdy stôl draed ar gyfer pobl oedd wedi archebu ymlaen llaw, ond y tro yma, bydd drysau’r T? Gwyrdd yn agored i bawb am Upcycling Chalky Workshop! Bydd cyfle i wneud bwrdd du eich hun i fynd adref gyda chi a hefyd cyfle i addurno rhai dodrefn!Bydd y T? Gwyrdd ar agor rhwng 11 ac 1 yn y bore ac eto o 2 tan 4 ar ôl cinio, felly beth am alw draw i weld beth sydd ar gael!Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Noah's Ark Sian Lile-Pastore, 2 Ebrill 2012 These photos are from february half term, but I'd forgotten to put them on the blog until now (in fact I thought I had put them on the blog already but I must have just popped a few on twitter...).It may be hard to tell but the art work is based on the mural of Noah's Ark in the church here in St Fagans: National History Museum. I drew the ark on a large piece of paper and asked the children to add animals to it - some they had drawn themselves and some coloured in from pictures provided. I also drew a couple of pictures of a devil and a dragon based on those in the church and they went down a storm! I must remember to bring those nasty creatures back round about halloween!There will be drop in art sessions over the may bank holiday, so please come by and say hello!Sian
Darganfyddiad newydd am hen offeryn: oedd dau seinflwch y crwth Cymreig yn unigryw? 2 Ebrill 2012 Crwth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y crwth o'r 18fed ganrif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn ddigon ffodus i feddu ar un o dri chrwth Cymreig sy'n dal i fodoli ym Mhrydain. Wedi darganfod agorfa gudd, ai dyma'r unig offeryn a chwaraeir gyda bwa i gael dau seinflwch? Gwelir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at offeryn llinynnol o'r enw 'crwth' yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12fed ganrif. Roedd yn boblogaidd yng Nghymru drwy gydol yr Oesoedd Canol ac yn ffefryn ymysg y dosbarthiadau uwch. Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn cyfeirio at y crwth, ynghyd â'r delyn a'r pibau, fel offeryn o statws a chwaraeir gan wŷr bonheddig ac a ddefnyddid yn aml mewn adloniant cerddorol. Cynhaliwyd cystadlaethau ar y crwth yn Eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, ac mae cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, acrobatiaid a cherddorion (gan gynnwys y crythwyr) gai eu croesawu i gartrefi noddwyr cyfoethog. Poblogeiddio'r ffidil Newidiodd rôl gymdeithasol y crwth yn sylweddol oddeutu 1600 fodd bynnag, wrth iddo gael ei gysylltu fwyfwy â'r traddodiad gwerin. Daeth poblogrwydd y ffidil yn y 18fed ganrif ag oes y crwth fel offeryn byw i ben yng Nghymru i bob pwrpas, gan gau pen y mwdwl ar fileniwm a mwy o arfer a datblygiad. Erbyn ailgynnau'r diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol yn nechrau'r 20fed ganrif, roedd y grefft o greu crwth, heb sôn am y dulliau cydnabyddedig o'i chwarae a thechnegau perfformio eraill, wedi mynd yn angof. Y crythau olaf O'r tair esiampl hanesyddol sy'n dal i fodoli, mae pob un yn offeryn chwe thant hirsgwar gyda chefn, ochrau a seinfwrdd gwastad, gyda'r corff, y seinflwch a'r brif ffrâm wedi'u cynhyrchu o un darn o bren. Mae byseddfwrdd yn rhannu agoriad hirsgwar yn un pen a gellir gweld dau dwll yn y seinfwrdd. Crwth Sain Ffagan Mae'r flwyddyn 1742 wedi'i harysgrifio ar y crwth a chafodd ei gynhyrchu gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon. Cafodd ei fenthyg i'r Amgueddfa'n wreiddiol ym 1935 gan y Cyrnol J. C. Wynne Finch o'r Foelas, Sir Gaernarfon; ei deulu yw perchnogion yr offeryn hyd heddiw. Er ei fod yn gyflawn, mae cyfres o begiau tiwnio wedi'u cau sydd bron yn cydredeg â'r set bresennol. Crwth Aberystwyth Mae ail grwth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a roddwyd i'r Llyfrgell ar ei hagoriad ym 1907 gan ei phrif sylfaenydd, Syr John Williams. Mae'n bosibl taw'r Parchedig John Jenkins (1770-1829) o Geri, Sir Drefaldwyn oedd perchennog yr offeryn hwn. Er ei fod yn gyflawn (ac eithrio dau dant drôn sydd ar goll), mae gwaith adfer/atgyweirio sylweddol wedi cael ei wneud i'r prif fframwaith rywdro. Crwth Warrington Gellir gweld y drydedd esiampl yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington, ac er bod y dyddiad yn anhysbys mae'n debyg i offeryn a ddisgrifiwyd ac a ddarluniwyd yn rhifyn 1775 o'r cyfnodolyn Archaeologia (cyfrol III, plât vii). Prynwyd y crwth hwn yng Nghymru ym 1843 gan Dr James Kendrick, un o haneswyr lleol cyntaf Warrington a hynafiaethydd nodedig. Rhoddodd Kendrick y crwth i'r dref y flwyddyn honno gan ddod yn un o'r eitemau cyntaf i gael ei arddangos yn yr amgueddfa leol. Mae crwth Warrington yn llai cyflawn na'r ddau flaenorol, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll. Crwth Sain Ffagan dan belydr-X. Mae'r darn tywyllach yn y gwddf yn dangos gofod clir yn culhau ac mae agoriad cudd wedi'i guddio o dan y byseddfwrdd lle mae'r gofod ar ei fwyaf llydan Mae delwedd pelydr-x o grwth y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos yr un nodweddion ag esiampl Sain Ffagan. Y crwth yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. © Warrington Museum and Art Gallery. Mae byseddfwrdd coll crwth Warrington yn ein galluogi i weld maint llawn y gofod. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y coed moel golau yn y llun a'r border tywyllach fyddai wedi'i leinio â glud. Datgelu agoriad cudd Mae gwaith cadwraeth ar grwth Sain Ffagan wedi datgelu agoriad cudd o dan y byseddfwrdd sy'n ymwthio tu hwnt i'r byseddfwrdd. Yn dilyn archwilio pellach, gwelwyd bod yr agoriad yn ymestyn ar hyd y gwddf. Datgelodd delwedd pelydr-x o'r offeryn fod gwagle pwrpasol sy'n culhau ar hyd y byseddfwrdd. Golyga hyn bod llai o arwyneb i ludo'r byseddfwrdd i'r gwddf ac felly byddai'n dipyn anoddach i'w gynhyrchu nag offeryn â gwddf solid, gwastad — fyddai wedi glynu'n well i arwyneb uwch y gwddf. Beth fyddai'r rheswm dros greu agoriad o'r fath? A fyddai'n gwella safon donyddol yr offeryn? Mae'n bosibl iawn y byddai'r agoriad wedi gweithio mewn modd tebyg iawn i seinflwch offeryn neu chwyddseinydd i roi sain mwy cyflawn wrth i'r tannau ddirgrynu. Offeryn bwa unigryw? Mae'n ddigon posibl bod yr ail seinfwrdd hwn yn gwneud y crwth yn unigryw ymysg offerynnau gaiff eu chwarae â bwa, gan nad oes nodwedd o'r fath wedi cael ei ddefnyddio yn un o offerynnau eraill teulu'r feiolin. Dangosodd archwiliad o grwth Aberystwyth agoriad tebyg yn y gwddf. Gan fod nodweddion gwahanol i'r esiampl hon i'r un a gedwir yn Sain Ffagan (a'i bod mwy na thebyg wedi cael ei hadeiladu gan grefftwr gwahanol) mae'n ddigon posibl bod agoriad o'r fath yn nodwedd oedd yn gyffredin i bob crwth. Er mwyn cadarnhau'r ddamcaniaeth hon, dangosodd archwiliad manwl o ddelwedd o'r crwth yn Amgueddfa Warrington y gellir gweld y llinellau glud yn culhau bob ochr i'r gwddf, gyda phren moel yn y canol, gan ddangos maint yr agoriad gwreiddiol. Mae'r amrywiad yn y cynllun eto'n awgrymu taw crefftwr gwahanol a'i cynhyrchodd. Mae'n rhaid felly bod agoriad yng ngwddf y crwth yn dechneg adeiladu safonol y byddai gwneuthurwyr crythau yn eu defnyddio wrth adeiladu'r offeryn. Mae'n bosibl bod modd profi'r gwahaniaeth a wnaiff yr agoriad hwn i sain yr offeryn drwy gofnodi graddfa donyddol atgynhyrchiad o grwth sydd â byseddfwrdd solid, cyn creu agoriad yn yr un offeryn a chofnodi'r gwahaniaeth. Dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig Rhaid tynnu sylw hefyd at nodwedd arbennig arall am grwth Sain Ffagan, sef dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig. Gan y byddai'r crwth yn cael ei ddal yn erbyn y corff fel arfer, gallai'r offerynnwr weld i lawr y gwddf a byddai cynllun ar y byseddfwrdd o bosibl wedi helpu gyda lleoliad y bysedd ar y gwddf. Yn rhyfedd iawn, mae ôl y dyluniad hwn i'w weld hefyd ar seinfwrdd telyn fechan sydd hefyd i'w gweld yn Sain Ffagan. Erthygl gan: Emyr Davies, Cadwraethydd: Celfi, Offerynnau Cerdd a Horoleg, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Croeso Grace Todd, 29 Mawrth 2012 Croeso i Ganolfan Ddarganfod Clore. I’r rheiny ohonoch sydd heb gamu drwy ein drysau dwbl eto, oriel ‘ymarferol’ ydyn ni ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Galwch draw i archwilio cannoedd o wrthrychau amgueddfa: pryfed, ffosilau, mwynau a gemau, penglogau anifeiliaid, crochenwaith Rhufeinig ac arfau o’r Oes Efydd (a llawer mwy!). Dyma gyfle i chi drin a thrafod rhai o’r 7.5 miliwn o wrthrychau fydd fel arfer yn cuddio yng nghrombil ein storfeydd.Gall y gwrthrychau real yma ysbrydoli oedolion a phlant fel eu gilydd. Gydag amser, byddwn ni’n postio esiamplau o’ch ymatebion i’r casgliadau ac yn cynnig syniadau i chi fanteisio i’r eithaf ar yr oriel a’i chasgliadau. Beth am ddod â’ch ‘gwrthrychau dirgel’ i’r oriel er mwyn i’n harbenigwyr eich helpu i’w hadnabod. Byddwn ni’n dangos ein ffefrynnau ar y blog ac yn gofyn i chi gynnig eich syniadau eich hun. Welwn ni chi’n fuan!