Baner Gymreig Capten Scott Elen Phillips, 1 Mawrth 2012 Y Terra Nova yn gadael Caerdydd ar 15 Mehefin 1910. Mae'r Ddraig Goch yn cyhwfan o'r hwylbren canol, tra bod y Lluman Gwyn yn cyhwfan o'r tryfer canol. Gwelir baner Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen. Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Hysbyseb llawn tudalen ar gyfer James Howell & Co. a welwyd yn rhaglen Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Cyhoeddwyd gan y Great Western Railway Co. Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910–13.Dangoswyd y faner hon mewn cinio ffarwel a gynhaliwyd er anrhydedd i Capten Scott a'i swyddogion yng Nghaerdydd ar 13 Mehefin 1910, ac a hedfanodd ar fwrdd y Terra Nova wrth i'r llong hwylio o Gaerdydd ac ar ei dychweliad ym 1913.Ar ddydd Gŵyl Dewi 1911 a 1912, codwyd y faner uwchlaw caban pencadlys Scott yn yr Antarctig.Mae wedi'i gwneud o ddefnydd gwlanen garw gyda selfeisiau ar yr ymylon uchaf ac isaf ac yn mesur 3.45m x 1.83m. Torrwyd y motiff draig o ddefnydd gwahanol a'i wnio â pheiriant i'r ffabrig cefndir gwyrdd a gwyn. Mae manylion — fel y crafangau, y tafod a'r llygaid — wedi'u paentio arni â phaent du gwyn.James Howell & Co. o GaerdyddWyddon ni ddim pwy bwythodd neu liwiodd y faner, ond rydyn ni'n gwybod taw cwmni James Howell & Co yng Nghaerdydd a'i cynhyrchodd, yn yr adran wisgoedd mwy na thebyg.Cyhoeddwyd mewn cinio a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1909 er anrhydedd i'r Is-gapten E. R. G. R. Evans, aelod o alldaith Scott, bod Howell wedi cynnig cynhyrchu baner Draig Goch fawr iddo ei chludo i Begwn y De. Roedd Evans wedi rhoi'r gorau i drefnu Alldaith Antarctig Gymreig ei hun ac wedi ymuno â Scott fel ei ddirprwy.Bu Evans yn hynod ddylanwadol yn hyrwyddo a chasglu nawdd i'r alldaith, a hynny'n bennaf drwy olygydd y Western Mail, Willie Davies — gwraig Davies gafodd y syniad o gyflwyno baner Cymru i'r alldaith.Caerdydd yn 'un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'Estynnodd trigolion Caerdydd groeso cynnes i'r Alldaith Antarctig Brydeinig — mwy nag unrhyw ardal arall o bosibl. Wedi ennill statws dinas ym 1905, roedd arweinwyr dinesig Caerdydd wrthi'n ceisio ei hailfrandio. Yng ngeiriau Clerc y Dref, J. L. Wheatley, roeddent am hyrwyddo Caerdydd 'fel un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'.Roedd cael ei chysylltu'n agos â mordaith Scott i Antarctica — un o'r cyffindiroedd mawr olaf — yn brawf o'r hyder dinesig newydd hwn.Un o ffigurau blaenllaw cymuned fusnes Caerdydd oedd James Howell. Sefydlwyd ei siop adrannol, James Howell & Co, ym 1865 fel siop ddillad fechan ar Yr Aes ac erbyn dechrau'r ganrif roedd yn un o'r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Does dim syndod fod James Howell yn teimlo cymhelliad i gyfrannu at fenter Scott mewn rhyw fodd ac yntau â hanes o 'noddi' digwyddiadau dinesig yng Nghaerdydd. Yn nechrau 1909, darparodd un o'i adeiladau ar Stryd Wharton i Basiant Cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim. Cerdyn post i goffau Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909 Ardalyddes Biwt fel 'Dame Wales' ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 1909. Yn haf 1914, cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa dros dro o luniau dyfrlliw a brasluniau Edward Wilson o'r Antarctig. Wilson oedd Prif Wydonydd yr alldaith a bu farw gydag ef ar y daith yn ôl o Begwn y De ym 1912. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas gan fod adeilad yr Amgueddfa heb ei gwblhau ar y pryd. Pasiant Cenedlaethol CymruI bob pwrpas, cyfle i fawrion cymdeithas ail-greu golygfeydd o hanes arwrol Cymru oedd y Pasiant Cenedlaethol. Roedd angen 40,000 o wisgoedd ar drefnwyr y pasiant a cyflogwyd tîm o 800 o fenywod. Sefydlodd y menywod gweithdy yn Stryd Wharton am chwe mis. Fel un o noddwyr y Pasiant byddai Howell hefyd wedi darparu gwneuthurwyr gwisgoedd proffesiynol o'i weithlu ei hun. Yn wir, mae gwisg eiconig 'Dame Wales' o olygfa agoriadol y Pasiant ar 16 Gorffennaf 1909 wedi ei chreu mewn modd tebyg iawn i faner y Terra Nova. Mae gan y ddwy addurn gosod ar lun motiff draig goch, mewn dyluniad naïf. Gyda'r ddwy wedi'u creu ychydig fisoedd ar wahân yn un o weithdai James Howell & Co, ai'r un dwylo a'u pwythodd ys gwn i?Draig Goch y 1890auMae'r ddraig ar faner y Terra Nova yn amlwg yn wahanol i'r faner bresennol. Mae'n fwy talsyth, dragon segreant yn hytrach na dragon passant. Roedd yr arddull hwn yn gyffredin yn y 1890au a dechrau'r 1900au a gellir ei weld, mewn ffurfiau amrywiol, ar gadeiriau eisteddfodol y cyfnod a llu o arwyddluniau cenedlaethol eraill. Mae'n siŵr taw o ffynonellau tebyg y gweithiodd gwneuthurwyr dillad Howell wrth greu draig y Terra Nova.Safoni Baner CymruYm 1910, ysgrifennodd yr Eisteddfod Genedlaethol at yr Amgueddfa yn gofyn am gymorth gyda ffurf y ddraig: 'Rydym yn awyddus i gael ffurf y ddyfais mor gywir a phosibl'. Cawsant ateb gan guradur: 'Gresynaf nad oes gennym sbesimen dilys o'r anifail yn yr Amgueddfa Genedlaethol'. Trosglwyddwyd y llythyr i Mr Thomas Henry Thomas, awdurdod cydnabyddedig ar faterion o'r fath, a fu wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cysoni ffurf y ddraig Gymreig. Mae ei frasluniau a'i bapurau bellach wedi eu cadw yn yr Amgueddfa.Torri'r faner yn gofroddionPan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym Mehefin 1913, gyda'r ddraig goch yn cyhwfan o'r mast, nododd y Western Mail ei bod 'dipyn yn llai na pan y codwyd hi am y tro cyntaf dair mlynedd yn ôl. Tra bod y Terra Nova wedi'i hangori yn Lyttleton, Seland Newydd, rhoddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y cymdeithasau Cymreig yno i dorri darnau o'r faner a'u cadw fel cofroddion o'r alldaith.'Mewn cinio yn y Royal Hotel ar 16 Mehefin 1913 i ddathlu dychweliad yr alldaith i Gaerdydd, cyhoeddodd Teddy Evans y byddai'r faner yn cael ei rhoi i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn y dathlu fodd bynnag, doedd neb yn siŵr iawn beth wnaeth Evans â'r faner. Roedd yn credu ei fod wedi ei rhoi i'r Arglwydd Faer, ond cafodd ei chanfod yn y Royal Hotel bedwar mis yn ddiweddarach!
Cyfrif i lawr i'r crocws... Danielle Cowell, 23 Chwefror 2012 Yn ôl ar y 23ain o Ionawr wnes i ddweud y gallai'r blodau Crocws fod ar y ffordd, yna trodd y tywydd oer ac rydym yn dal i aros.Os bydd y tywydd yn aros rhesymol gynhesu eu dylid blodeuo'r wythnos nesaf. Fel arfer, fel arfer, erbyn hyn bydd rhai ysgolion wedi cael blodau crocws, ond mae ein tywydd y gaeaf rhyfedd wedi arafu twf.Ar dir yr amgueddfa, mae rhai o fy nghrocws eisoes wedi agor! Tra yn fy ngardd, dwi'n dal i aros ar gyfer blodau, er bod un genhinen Pedr yr wyf blannwyd yn ystod Hydref 2010 wedi trowch ei ben i lawr. Mae hyn yn arwydd sicr ei fod yn barod i flodeuo.Mae Ysgol Fulwood a Cadley wedi anfon mewn llun o'u bwlb talaf - yn mesur 9.5cm - gweler y llun atodeg.Byddwch yn amyneddgar a dylai'r blodau crocws agor yn fuan.Eich Sylwadau:Stanford in the Vale. Another strange week...Looking at the rainfall for Monday, I think this maybe because of the snow and rain we had over the weekend? We also observed 3mm of snow fall today. We really haven't had any rain for what seem's like in a long time?The bulbs we planted in the ground are slowly coming through, We wonded if this is because we may have planted them to deep? As the pot bulbs look as they are growing much faster? Ans: This is probably the case, if they are planted a too deep they can takke a little longer. They will come though - were they planted in more or less the same spot?Glyncollen Primary School. Our thermometer broke this week. Can you send us a new one please? Our plants are growing well and we can't wait to take them home. Yr.4 Glyncollen. Ans: Glad your plants are growing well and I've put a thermometer in the post for you.Woodplumpton Primary School. We have been listening to the weather warnings on the news. It feels really cold outside and yet the temperature has not dropped below freezing. We are surprised! We are learning a lot about temperature and getting really good at guessing what it is. Ans: This is great news glad you are getting really involved in the project. I know what you mean about it feeling really cold some days.Ysgol Porth Y Felin. The plants have almost sprouted and has been a lot of rain. All of the plants have sprouted some leaves by now and we have seen a mystery bulb. Ans: How exciting not long now!Earlston Primary School. Snow Monday & Tuesday. Ans: Well done for recording in the snow!
Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri Richard Bevins, 21 Chwefror 2012 Pont Saeson, Mehefin 2011. Pont Saeson, Mehefin 2011. Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri? Côr y Cewri Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina. Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri. Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir. Y Cerrig Gleision Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir. Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn. Cynllun o Gôr y Cewri Cynllun o Gôr y Cewri Tirlyn Gôr y Cewri Canfyddiadau diweddar Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg. Anweddu'r Cerrig Gleision I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth. Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol. Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol. Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science. Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw. Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011. External links Prifysgol Caerlŷr UNESCO: Côr y Cewri Safle Treftadaeth y Byd Prifysgol Aberystwyth Journal of Archaeological Science Archaeology in Wales Journal
Your comments & snow pics Danielle Cowell, 10 Chwefror 2012 The snow didn't last very long in Cardiff but I did manage to get a quick pic of my bulbs. Across the country there has been much more snow. Please send me any pictures you have.Your questions:Stanford in the Vale Primary School. What a cold spell we have had, the ground has been rock hard all week! I hope it will not stunt our growth for the bulbs we planted into the ground? Do you think the bulbs we planted into pots should be moved into the greenhouse? Kind Regards. Gardening Club Members.Ans: Hi Stanford. Great question. Normally, a gardener may put plants into a green house to protect the shoots from the frost, but in this experiment we are recording how the bulbs react to the weather, so please don't put them in the green house as it will affect the final result. Also, these bulbs have evolved to withstand cold winters - so don't worry they should be fine. Prof. PWoodplumpton Primary School. We have noticed a lot of daffodils flowering but none in our school grounds. Our bulbs are a long way behind other daffodil bulbs we have in our school garden. We wonder if this is because they are older and have flowered many times before. Our mystery bulbs are growing really fast now.Ans: Hi Woodplumpton. Great observation, I too have noticed that bulbs I planted in previous years have grown a lot more - see my pictures. I agree with what you say, I think the bulbs that were already planted from previous years are taller because they have had more time in the ground to grow. With the mild Autumn and winter they would have began to grow under the ground before we planted this years bulbs on the 20th of October. Hope that makes sence! Prof. PFulwood and Cadley. It has been extremely cold this week and the ground is frozen. All our bulbs have shoots now and are growing taller, the tallest being 7cm. Prof. P: Excellent news! my tallest is about that height too!Ysgol Porth Y Felin. It has been a cold and frosty week.Sorry this is late. It has reached negative numbers in the evening. Prof. P: Very cold, well done for keeping at the recording in the cold!Woodplumpton Primary School. We think the mystery bulbs are tulips! Prof.P: Only time will tell...www.museumwales.ac.uk/scan/bulbsFollow me on Twitter http://twitter.com/Professor_PlantFollow Professor Plant Facebook
Ffasau glo a chopr W.E. Logan a'r map daearegol 7 Chwefror 2012 William Logan, 1856 Gwaith y Forest ger Abertawe 1792 gan John 'Warwick' Smith (1749-1831). Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) gan Syr George Hayter (1792-1871). Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig. Roedd William Edmond Logan un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif, ac yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed. Yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.Abertawe: Tref GoprRoedd tua hanner copr y byd yn cael ei gynhyrchu yn Abertawe erbyn canol y 19eg ganrif. Byddai mwynau yn dod o Gernyw, Iwerddon, Cuba a Chile i gael eu mwyndoddi gyda glo de Cymru.Yn Abertawe cai prisiau copr ar draws y byd eu pennu a chai'r dref ei hadnabod fel 'Copperopolis'.Roedd pedwar ar ddeg o weithfeydd copr yn ardal Abertawe yn y 1830au, ac un o'r rhain oedd Gwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, agorodd ym 1752. Yma y dechreuodd William Edmond Logan (1798-1875) ar ei yrfa fel un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif.W.E. Logan (1798-1875)Ganwyd William Edmond Logan ym Montreal ym 1798 i rieni a ymfudodd o'r Alban. Pan oedd yn 16, anfonwyd Logan i ysgol yng Nghaeredin a bu'n mynychu dosbarthiadau yn y brifysgol yna am gyfnod wedi hynny. Symudodd i Lundain ymhen blwyddyn ym 1817 i weithio ym musnes cyfrifo ei ewythr.Rywbryd yn y 1820au, magodd Logan ddiddordeb mewn daeareg ganl gasglu cregyn ffosil ar ystad ei ewythr yn Suffolk, ac yn ddiweddarach, ar Ynys Sheppey yng Nghaint. Ym 1831, prynodd ewythr Logan gyfranddaliadau yng Ngwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, ac anfonodd ei nai I Abertawe i reoli cyfrifon y cwmni.Abertawe: canolfan wyddoniaethFfynnodd gwyddoniaeth yn Abertawe yn y 1830au a'r 1840au, yn bennaf o ganlyniad i arweiniad y naturiaethwr ac AS lleol, Lewis Weston Dillwyn (1778–1855). Ef oedd Llywydd cyntaf Sefydliad Athronyddol Abertawe a dyfodd ymhen ychydig flynyddoedd yn Sefydliad Brenhinol De Cymru. Roedd Logan hefyd yn un o'r sylfaenwyr a bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus a Churadur Daeareg Anrhydeddus y Sefydliad o 1836.Glo a ChoprYm 1833, daeth Logan yn gyd reolwr Gwaith Copr Upper Forest. Oherwydd ei ddiddordeb mewn daeareg, ei waith pennaf oedd gofalu am y cyflenwad o fwyn copr a glo i'r gwaith. Y flwyddyn ganlynol, treuliodd sawl mis yn Ffrainc a Sbaen yn chwilio am ffynonellau mwyn copr newydd. Roedd yn frwd hefyd dros sefydlu cyflenwad dibynadwy o lo lleol, ac ym 1835 dechreuodd astudio'r ffasau glo lleol o amgylch Abertawe drwy gofnodi mannau brigo ar fapiau a thrawsluniau.Yr arolwg daearegol yn dod i AbertaweYm 1835, derbyniodd Henry De la Beche (1796-1855), daearegwr o Lyme Regis yn Dorset, nawdd gan y llywodraeth i wneud arolwg daearegol o Gernyw. Dyma oedd man cychwyn yr Arolwg Daearegol Prydeinig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1837, symudodd De la Beche i Abertawe I ddechrau mapio creigiau Maes Glo De Cymru.Daeth De la Beche i ymwneud â Sefydliad Athronyddol Abertawe drwy ei gyfaill Lewis Weston Dillwyn. Cyfarfu â Logan, a gwnaeth y mapiau o ffasau glo Abertawe gyrn argraff arno a nododd fod map Logan yn "gyflawniad pryd ferth [ac] o safon sydd ymhell uwchlaw'r hyn a welir gan ddaearegwyr fel arfer". Defnyddiodd De la Beche waith Logan ar fap swyddogol yr Arolwg Daearegol. Parhaodd Logan i fapio gyda'r Arolwg Daearegol yn ne Cymru hyd 1841.Map daearegol o AbertaweCyhoeddwyd map cyntaf yr Arolwg Daearegol o ardal Abertawe ym 1844, wedi'i seilio ar fap topograffig yr Arolwg Ordnans o 1830 ar raddfa o un fodfedd i un filltir. Mae'n dangos yr ardal o Cynffig yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Cydnabyddir taw W.E.Logan a Sir Henry De la Beche gyflawnodd y mapio daearegol.Argraffiad cyntaf a fap cyntaf y Geological Survey o ardal Abertawe, a fapiwyd gan W.E. Logan a Henry De la Beche, wedi'i liwio â llaw, cyhoeddwyd ym 1844"Gweithiais fel caethwas drwy'r haf ar wlff Sant Lawrence, gan fyw bywyd dyn anwar mewn pabell agored, gan gysgu ar y traeth mewn blanced a sach gyda'm traed ger y tân, prin y byddwn yn tynnu fy nillad, byddwn yn bwyta porc hallt a bisgeti llong gan gael fy mhoenydio weithiau gan fosgitos".Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844. Logan yng NghanadaWedi meithrin ei sgiliau daearegol ar greigiau glo Abertawe, ymgeisiodd Logan ym 1841 am swydd Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol cyntaf Canada. Cefnogodd nifer o ddaearegwyr blaenllaw Prydain ei gais, yn cynnwys Henry De la Beche, a cafodd ei benodi yn Ebrill 1842.Erbyn 1849 roedd Logan, a phedwar gweithiwr wedi mapio'r ardal rhwng Afon Sant Lawrence a'r Llynnoedd Mawr, wedi gweithio ar ddyddodion glo Nova Scotia ac wedi can rod mwyn copr i'r dwyrain a Montreal.Ym 1863, cyhoeddodd Logan a'i staff yr astudiaeth fawr gyntaf o ddaeareg Canada. Mae'n cael ei hystyried yn binacl cyhoeddi gwyddonol Canada'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd mapiau ym 1865 a 1869 yn dilyn y gwaith hwn.Logan yn dychwelyd i GymruByddai Logan yn teithio ar draws yr Iwerydd yn ami; fe wnaeth y daith dros 30 o weithiau i gyd.Cafodd ei urddo'n farchog ym 1856, y person cyntaf i gael ei eni yng Nghanada i dderbyn yr anrhydedd. Cafodd ei anrhydeddu hefyd gall Ffrainc, y Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ddaearegol, Prifysgol Bishop yn Quebec a Prifysgol McGill ym Montreal, yn ogystal â dinasyddion Toronto a Montreal.Er i Logan ymddeol yn swyddogol ym 1869, fe barhaodd i wneud gwaith maes yn yr haf o amgylch Montreal a byddai'n treulio ei aeafau yn nhŷ ei chwaer yng ngorllewin Cymru.Bu farw yno ym Mehefin 1875 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yn Sir Benfro.Heddiw, mae William Edmond Logan yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed, ac yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.CysylltiadauAmgueddfa Abertawe