Cerfiadau carreg arbennig Dazu yn gadael Tsieina am y tro cyntaf

John Rowlands, 19 Ionawr 2011

Mae Ionawr 26 yn ddiwrnod arbennig iawn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gydag agoriad swyddogol arddangosfa unigryw.

Mae O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina yn gasgliad o gerfluniau crefyddol Tsieineaidd prin o Safle Treftadaeth y Byd yn Dazu.

Mae’r cerflun cynharaf oll ar y safle yn dyddio o ganol y 7fed ganrif: cerfluniau prydferth sy’n dangos elfennau o gredoau Bwdhaidd, Taoaidd a Confuciaidd ac a ddaeth dan ddylanwad y tair crefydd.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cerfluniau o’r 10fed a’r 13eg ganrif yn bennaf. Wrth gyfuno’r crefyddau eclectig yma, crëir ymdeimlad o harmoni ysbrydol hynod wreiddiol a daw hanes Tsieina’r cyfnod yn fyw.

Cafodd ymwelwyr eu gwahardd am flynyddoedd lawer tan 1961 a bu’n rhaid i ymwelwyr tramor aros tan 1980. Oherwydd hyn, maent mewn cyflwr arbennig er iddynt gael eu creu ganrifoedd yn ôl.

Tra bod nifer o’r cerfluniau mwyaf yn dal yn eu lle yng nghlogwyni a mynyddoedd Dazu, dyma’r tro cyntaf i’r cerfluniau haws eu trin adael tir Tsieina am y Gorllewin.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd yr unig amgueddfa y tu allan i Tsieina i gynnal yr arddangosfa hynod hon sy’n rhoi golwg i bob ymwelydd ar gelfyddyd carreg hynafol a diwylliant Tsieineaidd.

 

Gwelwch mwy o luniau Dazu ar Flickr, cewch y newyddion diweddaraf am Dazu ar Facebook a dilynwch @museum_cardiff ar Twitter  #dazucymru

Dazu mewn Manylder: Pum Cerddor

17 Ionawr 2011

Mae'r darn hwn yn dangos pum cerddor ar falconi yn chwarae (o'r chwith i'r dde) yaogu (drwm am y canol), xiao (ffliwt a chwaraeir o'i ben), di (ffliwt a chwaraeir o'i ochr), zhuban (clapiwr bambŵ) a changgu (drwm hir siâp awrwydr).

Cafodd y grŵp yma o gerddorion yn chwarae ar falconi ei ddatgloddio mewn bedd yn Moerpo yn sir Dazu. Roedd i fod i ddiddanu perchennog cyfoethog y feddrod yn y bywyd nesaf. Llinach y Song [OC960-1279]

Dazu mewn Manylder: Bwdha Sakyamuni

17 Ionawr 2011

Dazu

Sakyamuni ['Gŵr doeth llwyth y Sakya'] yw'r enw a roddir ar y Bwdha hanesyddol. Ei enw bedydd oedd Siddhartha Gautama, a ganwyd ef yn yr ardal a elwir heddiw yn Nepal. Roedd yn byw rhwng 563 a 483CC mwy na thebyg.

Gallwn ni weld sawl elfen wahanol o'r ddelwedd nodweddiadol o Bwdha Sakyamuni Buddha yma — steil ei wallt, yr 'urna' ('y drydedd lygad'), ei glustiau, ystum ei ddwylo (mudra) a'r gwaelod o flodyn lotws.

Yw hi'n wanwyn eto?

Danielle Cowell, 14 Ionawr 2011

Wedi’r holl rew ac eira, mae hi’n teimlo’n gynnes yma yng Nghaerdydd heddiw er taw dim ond 10 gradd Celsius yw hi. Mae’n rhaid bob y bylbiau wedi sylwi hefyd – maen nhw wedi dechrau tyfu’n barod! Roedd gweld yr ardd yn dod yn fyw eto yn codi nghalon i!

Adroddodd Ysgol Porth Y Felin: "Wedi i’r eira glirio gallwn ni weld bod y planhigion yn tyfu. Mae’n cynhesu!" Newyddion gwych! Cofiwch roi gwybod i mi os yw’r bylbiau yn eich ysgol wedi dechrau tyfu neu os oes unrhyw arwyddion eraill bod y gwanwyn ar ei ffordd. Anfonwch ffotograffau os oes rhai ar gael.

Ar hyn o bryd dylai ysgolion sy’n rhan o ymchwil bylbiau’r gwanwyn fod wrthi’n brysur yn casglu cofnodion tywydd er mwyn cael cyfle i ennill trip, ac yn cadw llygad am unrhyw olwg o’r bylbiau’n tyfu bob dydd. Defnyddiwch yr adnoddau canlynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod am beth i chwilio a sut i gofnodi’n gywir.

Daw fy hoff gwestiwn yr wythnos hon gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs. Gofynnon nhw: "Os ydych chi’n plannu’ch bwlb yr un pryd â’ch partner fyddan nhw’n blodeuo yr un pryd?” Rhowch gynnig ar ateb y cwestiwn a bydda i’n rhoi ateb cywir yr wythnos nesaf... 

Llawer o law a llifogydd. Yn anffodus, mae sawl ardal o Gymru wedi dioddef llifogydd, yn cynnwys ein hamgueddfa ni yn Sain Ffagan. Adroddodd Ysgol Gynradd Maesycwmer eu bod nhw wedi profi "Wythnos wlyb iawn!" gyda dros 100mm o law mewn un diwrnod. Edrychwch ar y cofnodion tywydd diweddaraf o’r ysgolion i weld faint o law mae’n nhw’n ei weld.

Mae nifer o wledydd ar draws y byd, yn dioddef llifogydd mawr. Mae llifogydd ym Mrasil, Awstralia a Sri Lanka wedi effeithio ar fywydau nifer o bobl. Er nad ydyn ni’n gallu gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y llifogydd diweddar a newid hinsawdd, maen nhw’n rybudd at y dyfodol: mae gwyddonwyr yn rhagweld bydd cynnydd mewn dwyster ac achosion o dywydd eithafol wrth i’r blaned gynhesu.

Dyma pam mae gwaith pob ysgol bylbiau’r gwanwyn yn bwysig – felly daliwch ati!

Athro’r Ardd