Atgynhyrchu Pennau Saethau Rhufeinig Evan Chapman, 14 Medi 2010 Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru Copïau o bennau saethau Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell. Defnyddiai'r Rhufeiniaid sawl math gwahanol o bennau saethau. Roedd gan y rhai mwyaf nodweddiadol gyfres o esgyll: tair asgell oedd gan rai cynnar, ond mae enghreifftiau o rai â phedair asgell wedi'u canfod sy'n perthyn i'r drydedd ganrif OC. Un rheswm posibl am y newid hyn yw ei bod hi'n haws cynhyrchu'r fersiwn â phedair asgell. Yn 2008 cynhaliwyd Pencampwriaeth Saethyddiaeth Maes y Byd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a cynhaliodd yr Amgueddfa sawl arddangosfa fach ar saethyddiaeth. Cynhyrchwyd nifer o bennau saethau Rhufeinig yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa saethyddiaeth Rufeinig i ddangos sut fyddai pennau saethau Rhufeinig newydd sbon yn edrych. Yn sgil gwaith cadwraeth gofalus ar rai o bennau saethau Rhufeinig yr Amgueddfa, gwelwyd digon o fanylion gwreiddiol i ddatgelu'r broses gynhyrchu a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid. Roedd gof Amgueddfa Sain Ffagan am greu copïau yn yr un modd a bu'n arbrofi nes ei fod yn medru creu copïau oedd yn debyg iawn i'r gwreiddiol. Dangosodd y gwaith arbrofol hyn ei bod yn haws ac yn gynt cynhyrchu'r math â phedair asgell oherwydd bod modd creu'r esgyll mewn jig. Gan fod mwy o ofod rhwng yr esgyll ar y fersiwn tair asgell roedd yn rhaid taro'r esgyll i siâp yn unigol, ac roedd un asgell yn y ffordd wrth geisio gweithio ar un arall. Ai dyma pam y dechreuwyd cynhyrchu fersiynau pedair asgell? Os yw hyn yn wir, pam oedd y Rhufeiniaid yn cynhyrchu pennau saethau â thair asgell yn y lle cyntaf? Seiliwyd offer saethyddiaeth Rhufeinig ar dechnoleg y Dwyrain Agos. Yno, cai'r pennau saethau metel gwreiddiol eu castio mewn efydd. Copïo ffurf tair asgell y pennau saethau efydd yma wnaeth y Rhufeiniaid yn syml iawn. Andrew Murphy, gof Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig Darllen Pellach Bishop, M.C.&Coulston, J.C.N. 2006 Roman Military Equipment, from the Punic Wars to the Fall of Rome (Rhydychen: Oxbow Books) Chapman, E.M. 2005 A Catalogue of Roman Military Equipment in the National Museum of Wales, BAR British Series 388 (Rhydychen)
Wales for Africa (Sept-10) Mari Gordon, 6 Medi 2010 I've just found out the dates I'll be working in Zambia - I'm off on 2 October, and all of a sudden it feels very, very real!I've got more jabs I need, I've got to sort my visa out, not to mention all the jobs I've been muttering to myself that 'I must do before I go...'. There are some things I really must do, like taking the cat to the vet and the car for its MOT (musn't get them mixed up). But I think painting the kitchen's off the list.I've also got to publish our financial report, a 56-page discussion document and two books. All in two editions, Welsh and English. And carry on production of the 176-page book on our archaeology collections, and development of the brand new companion guide to the art collections. And recruit a new translator. And a few other things...
keepsakes Mari Gordon, 3 Medi 2010 The Keepsakes exhibition opens on 11 September so we are busy getting the gallery ready. So far the walls have been freshly painted and we are waiting for the delivery of our lovely information panels.The exhibition is in collaboration with Women's Arts Association (for some of the background have a look at my previous keepsakes blog!) who employed artists Becky Adams and Prue Thimbleby to work with community groups in and around Cardiff. The groups looked at objects from the collections in St Fagans: National History Museum and made their own art works inspired by what they saw.We will be showing the women’s art work alongside the museum’s objects, and here’s a sneak preview of some of the objects that the women have made.
Wales for Africa sep-10 Mari Gordon, 2 Medi 2010 Came in this morning to a very interesting email from John, who's already in Zambia working with one of the Forum's member charities. The email said that someone in Lusaka had asked after me. Now, initially I had the usual moment of 'oh, wonder who that is' that most people from Wales - even more so from Bethesda - get all the time. Then of course remembered that the message is from Lusaka and to my knowledge there isn't anyone even from Bethesda there at the moment (though I could be wrong). Reading on, it was just that the Forum already have my name, and so John was very kindly passing on the message that I'm expected and they're looking forward to meeting me. How amazing, to make someone feel welcome and we're not even on the same continent yet!I'm still waiting for the specific date when I start work there. Frustrating. Although, it is becoming more and more tangible, partly perhaps because I went for my first jabs this week. Typhoid in my left arm, as that's the one that will hurt most they breezily informed me while wielding the needle, and combined Hep A&B in the other. Not too painful at all at the time, it seemed to me. To be honest I was more concerned with how I looked as I left the surgery with the fluffy ball of cotton wool taped to each arm (ridiculous, is how I looked). However, woke next morning with shoulders and upper arms stiff as a board. Followed by very mild sniffles, probably because of the typhoid jab.I've also been filling in a questionnaire in preparation for a coaching session next week. The support for the personal development aspect of the ILO scheme is really thorough. The questions included some highly sensible ones about objectives and commitments, as well as a couple I didn't entirely understand if I'm honest. But I know I'll get help and support, which is what matters really I suppose.
Blwmiau Algaidd Katherine Slade, 23 Awst 2010 Gwymon Gwyrdd o rywogaeth Ulva yn tyfu ar arfordir creigiog Bae Gorllewinol Dale, Sir Benfro. Blwm algaidd a ffurfiwyd gan phytoplankton oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon. Gellir ei weld fel rhuban glas golau ar hyd ochr chwith y ddelwedd. © Nasa. Sbesimen wedi'i gadw o Dorgoch neu Arctic Charr (Salvelinus alpinus). Casglwyd o Lyn Peris yn 1978. Mae lliw Bara Mawr yn amrywio o wyrdd pan yn ifanc i borffor a brown Gwelir Porphyra yma, y gwymon a ddefnyddir mewn Bara Lawr, yn tyfu ar arfordir creigiog... ...ac fel sbesimen mewn llysieufa yn Amgueddfa Cymru. Mae blwmiau algaidd yn datblygu wrth i nifer anferth o algâu neu facteria gronni yn y môr neu mewn dŵr ffres. Gall blwmiau algaidd dyfu mor fawr nes y gellir eu gweld o'r gofod. Beth yw Blwmiau Algaidd? Dyma beth a geir wrth i nifer anferth o algâu neu facteria gronni yn y môr neu mewn dŵr ffres. Gall blwmiau algaidd dyfu mor fawr nes y gellir eu gweld o'r gofod. Gall nifer o wahanol fathau o algâu a bacteria ffurfio blwmiau. Dau grŵp pwysig yw gwymon gwyrdd a bacteria gwyrddlas (cyanobacteria). Beth sy'n eu hachosi? Mae blwmiau algaidd yn ffurfio dan amgylchiadau ffafriol, fel arfer ble mae lefelau maeth a thymheredd uchel, a cheryntau dŵr gwan. Gall llygredd o'n cartrefi, gweithiau carthffosiaeth, gwrtaith a thail o ffermydd achosi lefelau maeth uchel mewn llynnoedd ac yn y môr. Os bydd hinsawdd y byd yn cynhesu, bydd tymheredd dŵr yn codi hefyd. Golyga hyn y gall blwmiau algaidd ffurfio'n amlach. Maent wedi dod yn fwy cyffredin o amgylch y DU yn barod yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Beth yw'r effeithiau? Wrth i'r blwm algaidd dyfu mae'n atal golau rhag cyrraedd planhigion yn y dŵr, gan achosi iddynt farw a phydru. Mae pydredd bacteriol yn lleihau lefelau ocsigen yn y dŵr sydd yn ei dro yn achosi i anifeiliaid y dŵr farw. Wrth i'r blwm bydru, mae'r algae yn rhyddhau nwy hydrogen sylffid gwenwynig. Mae rhai algâu a cyanobacteria yn creu tocsinau sy'n medru lladd anifeiliaid eraill yn y dŵr. Mewn rhai achosion gall y tocsinau yma gronni mewn pysgod cragen fel cocos, a'u gwneud yn wenwynig i bobl eu bwyta. Allwn ni ei atal rhag digwydd eto? Er bod blwmiau algaidd yn ffenomena naturiol, gall ein gweithredoedd ni beri iddynt ddigwydd yn amlach. Gall rheolau llymach ar ddefnyddio gwrtaith wrth ffermio a thrin dŵr gwastraff yn well fod o gymorth i'w lleihau. Yr unig ffordd o warchod pobl wedi i flwm algaidd ffurfio yw i'w cadw draw o'r dŵr. Nid yw gwarchod bywyd gwyllt yn dasg mor hawdd. Blwmiau Gwymon Gwymon gwyrdd yw Letys y Môr (rhywogaeth Ulva) sy'n gallu ffurfio blwmiau algaidd. Yn haf 2009 cafwyd adroddiadau o flwmiau gwymon gwyrdd anferth yn ne'r DU a gogledd Ffrainc. Yn yr achos yma nid y gwymon ei hun sy'n wenwynig i bobl ar y traeth ond y nwyon hydrogen sylffid. Yr unig ddioddefwr yn 2009 oedd ceffyl anffodus a dorrodd drwy'r gramen ar bentwr dwfn o wymon a chael ei wenwyno gan yr hydrogen sylffid a ryddhawyd. Yn ffodus, nid yw Letys y Môr yn tyfu mor fawr â hynny fel arfer. Mae'n nhw'n gyffredin ar arfordir creigiog y DU ac, fel mae'r enw'n awgrymu, yn edrych fel letys tenau, lliw gwyrdd llachar. Cyanobacteria Tocsig Yn haf 2009 ffurfiodd cyanobacteria (Anabaena spiroides) flwm algaidd allai fod wedi bod yn wenwynig yn Llyn Padarn, ger Llanberis. Dyma un o dri llyn lle mae Torgoch, neu Arctic Charr (Salvelinus alpinus), yn tyfu yng Nghymru. Daeth diffyg ocsigen yn fygythiad i'r pysgodyn prin hwn. Cafwyd effaith ar yr economi leol hefyd gyda phobl yn cael eu hatal rhag ymweld â'r llyn. Beth allwch chi wneud Gallwn ni i gyd helpu i leihau'r siawns o flwmiau algaidd yn ffurfio yr haf hwn drwy ddefnyddio llai o hylif a phowdwr golchi gartref. Mae'r ffosffadau yn y cynhyrchion yma yn cael eu golchi drwy'r draeniau i'r llynnoedd ac i'r môr lle maent yn dod yn faeth i algae. Gallant gyfrannu hyd at 25% o'r maethion a ryddheir mewn carthffosiaeth. Edrychwch am gynhyrchion sy'n well i'r amgylchedd am eu bod yn cynnwys llai o ffosffad. Oeddech chi'n gwybod? Mae'r bwyd Cymreig Bara Lawr wedi ei wneud o fath o wymon coch. Gelwir y gwymon yma yn Porphyra, ond lafwr yw'r enw cyffredin. Gelwir gwymon Porphyra yn nori yn Asia ac maent yn cael eu prosesu mewn modd gwahanol i wneud y gwymon a ddefnyddir ar ffurf llenni mewn sushi. Gwymon a'r Amgueddfa Mae tri prif grŵp o wymon: gwymon gwyrdd, gwymon coch a gwymon brown. Mae Letys y Môr sy'n galli achosi problemau yn y DU a Ffrainc yn wymon gwyrdd, ac mae tacsonomegwyr yn eu dosbarthu i rywogaeth Ulva. Gwyddonwyr yw tacsonomegwyr sy'n astudio dosbarthiad ac esblygiad organebau. Mae'r tacsonomegwyr yn Amgueddfa Cymru yn astudio nifer o wahanol grwpiau. Maent yn defnyddio casgliadau gwyddonol helaeth yr Amgueddfa o anifeiliaid a phlanhigion er mwyn gwneud hyn. Mae'r casgliadau yn adnodd amhrisiadwy o wybodaeth fanwl gywir a sylfaen dacsonomig gref. Mae tua 5,000 sbesimen algae yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac mae'n dal i dyfu. Mae gwymon yn rhan o grŵp eang a elwir yn algae. Ein casgliad algâu hynaf a phwysicaf o bosibl yw casgliad Lewis Weston Dillwyn, oedd yn ffigwr pwysig yn hanes Cymru. Roedd nifer o'r sbesimenau a gasglodd yn dod o Abertawe a'r ardal, ei gartref. Mae'r casgliad yn cynnwys algâu sy'n 200 mlwydd oed. Maent yn rhan o'r deunydd gwreiddiol a ddefnyddiodd Dillwyn wrth baratoi ei waith arloesol ym 1809, British Confervae. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys lluniau lliw prydferth o algae ac roedd yn gam pwysig ymlaen i algoleg. Cyn ei gyhoeddi, dim ond 34 rhywogaeth algae oedd wedi eu disgrifio; cododd hyn i 177 gyda chyhoeddi'r British Confervae. Asiantaeth yr Amgylchedd: Os ydych chi'n gweld blwm algaidd, rhowch wybod i ni drwy ffonio rhif rhadffôn 0800 80 70 60.