O dan yr paent yn yr ail ganrif ar pymtheg 16 Awst 2010 Peintio ag olew ar gynfas yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg O dan yr haenau o baent: yr ail ganrif ar bymtheg Mae'r cynfas hwn yn dangos y deunyddiau a'r technegau cyffredin a ddatblygodd artistiaid yn yr Eidal yn ystod y Dadeni. Mae rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy 1. Cynfas estynedig 2. Seis glud wedi'i baratoi 3. Paent preimio olew a thanbeintio 4. Haenau o baent olew 5. Peintio â farnais 1. Cynfas estynedig Dyma gynfas garw o liain. Caiff ei ymestyn yn dynn dros ffrâm bren a'i gadw yn ei le gyda hoelion metel. Drwy ddefnyddio cynfas, gallai arlunwyr greu peintiadau mwy. Mae'n rhatach, yn ysgafnach ac yn haws ei symud na phanel pren. 2. Seis glud wedi'i baratoi Caiff haen denau o seis glud wedi'i wneud o groen anifeiliaid a d?r ei beintio ar y wyneb. Mae'n atal y cynfas rhag amsugno olew, a fyddai’n gwneud i'r paent preimio sychu a throi'n fregus. 3. Paent preimio olew a thanbeintio Gwnaed y paent preimio tenau a hyblyg hwn o bigment coch wedi'i gymysgu ag olew. Mae'r paent preimio'n atal y cynfas rhag amsugno'r paent. Yma, mae'r arlunydd wedi tynnu braslun o'r dyluniad ar ben y paent preimio a thanbeintio rhai rhannau, fel yr awyr. 4. Haenau o baent olew Gwnaed y darlun hwn drwy ddefnyddio paent olew. Fe welwch fod hyn yn caniatáu i arlunwyr ddefnyddio strociau brwsh mwy a chyfuno lliwiau. Mae'r goleubwyntio yn drwchus a di-draidd. Edrychwch sut mae'r paent preimio'n effeithio ar naws y peintiad, yn arbennig yn y cysgodion. 5. Peintio â farnais Gadewir i'r paent olew sychu am o leiaf blwyddyn cyn brwsio haen denau o farnais clir arno. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd arlunwyr wneud farnais o resin coed wedi toddi mewn tyrpant. Mae'n amddiffyn arwynebedd y paent ac yn gwneud y lliwiau'n haws eu gweld.
Caerdydd, 1678 12 Awst 2010 Dyma un o’r delweddau cynharaf o Gymru i gael ei darlunio ‘yn y fan a’r lle’. Cafodd ei braslunio gan Francis Place ym 1678 fel dwy olygfa wahanol, ac mae Amgueddfa Cymru wedi sganio’r ddau fraslun yn ddigidol a’u glynu at ei gilydd fel y gallwn weld am y tro cyntaf yr olygfa unigryw hon o Caerdydd fel ag yr oedd ym 1678. Archwiliwch y ddinas mewn manlyder Cliciwch ar y dolenni isod i archwilio lleoliadau nodedig y ddinas ym 1678 - mae disgrifiad o bob un ar waelod y dudalen. 3. Mur y castell 4. T?r Beauchamp 1. Castell Caerdydd 2. Eglwys Sant Ioan 5. Yr cei 6. Caerdydd ganoloesol 7. Eglwys Santes Fair 3. Mur y castell 4. T?r Beauchamp 1. Castell Caerdydd 2. Eglwys Sant Ioan 5. Yr cei 6. Caerdydd ganoloesol 7. Eglwys Santes Fair Disgrifiadau lleoliadau: Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma. Castell Caerdydd Tua dechrau'r 15fed ganrif, cafodd y castell, y dref a'r maestrefi eu dinistrio gan fyddin Owain Glyndŵr. Roedd y castell yn adfail nes iddo ddod i feddiant Richard Beauchamp, Iarll Warwick, ym 1423. Adnewyddodd Beauchamp yr amddiffynfeydd ac adeiladau'r castell, ac adeiladu'r ystafelloedd gorllewinol a'r tŵr wythochrog, sef tŵr Beauchamp. Eglwys Sant Ioan Mae Eglwys Sant Ioan yn sefyll yng nghanol Caerdydd. Daw gwreiddiau'r eglwys o gyfnod cyn y 13eg ganrif. Mae'r gwaith maen cynharaf sy'n dal i sefyll yn dyddio o'r 13eg ganrif, ac ychwanegwyd y tŵr tua'r 1470au. Cafodd rhan helaeth o'r eglwys y gwelwn ni heddiw ei ailadeiladu yn ystod y 18fed ganrif. Mur y castell Caerdydd Castell pren oedd ar y safle tan y 12fed ganrif pan adeiladodd Robert Consol, Dug Caerloyw, y castell carreg. Robert adeiladodd waliau gorllewinol a deheuol y Castell hefyd, gan adeiladu ar ben olion muriau'r gaer Rufeinig. Tŵr Beauchamp Adeiladodd y tŵr yn y 15fed ganrif i amddiffyn porth y gorllewin. Roedd y tyllau ar ben y tŵr yn gadael i'r milwyr ollwng cerrig neu dân ar ben unrhyw ymosodwyr. Ychwanegwyd y meindwr anghyffredin yn y 19eg ganrif. Yr cei Bu'r afon Taf yn ddylanwad mawr ar siâp Caerdydd ganoloesol. Tan y 1840au, roedd yr afon yn ystumio'n araf tua'r de, o gyfeiriad muriau'r castell. Erbyn 1610, roedd yr afon wedi cyrraedd Hummanbye [Womanby] Street. Caerdydd ganoloesol Roedd y dref ganoloesol yn ymledu allan o Borth Ddeheuol y castell ar hyd y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair. Mae'n ddiddorol nodi bod y Stryd Fawr yn cyd-redeg â'r porth deheuol Rhufeinig yn hytrach na'r un canoloesol, sy'n awgrymu ei fod yn dyddio o gyfnod cynharach. Mae'n debyg i'r dref ganoloesol ddatblygu mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf mewn llecyn cymharol fach rhwng Working Street a Womanby (Hummanbye) Street a daw'r ddau enw o'r hen Norseg. Credir bod 'Hummanbye' yn dod o'r hen air Norseg 'Hundemanby' sy'n golygu 'ardal y bobl estron. Yn ystod ail ran ei datblygiad ehangodd Caerdydd tua'r de eto. Wedyn cafodd ei chau i mewn a'i hamddiffyn gan lan a ffos, wedyn porth garreg yn y dwyrain. Afon Taf oedd yn amddiffyn y dref o'r gorllewin. Eglwys Santes Fair Ar ben deheuol y dref ganoloesol roedd eglwys y Santes Fair. Erbyn 1610, roedd roedd yr afon yn ystumio'n araf ac roedd yn dechrau tarfu ar eglwys y Santes Fair. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd yr eglwys wedi cael ei dinistrio'n llwyr, a heddiw dim ond enw'r eglwys sydd ar ôl fel enw stryd.
Wales for Africa (Aug-10) Mari Gordon, 2 Awst 2010 I'm taking a huge step both personally and professionally and I'm off to Africa - Zambia, to be precise. This October and November I'll be in Lusaka, working with a forum of housing and land rights charities.I'm one of about 15 (lucky) people from all over Wales going to Africa as part of the Assembly's International Learning Opportunities (ILO) scheme. The scheme provides development opportunites for managers from the Welsh public sector and helps Wales fulfill the UN's Millennium Development Goals as part of the Wales for Africa initiative.At a presentation last week for people who went to Africa last year Carwyn Jones, the First Minister, talked about Wales's contribution to development in Africa. For instance Wales makes up about a quarter of all the UK's links with hospitals in Africa - we really punch above our weight when it comes to international development. I've felt many things since I found out I had a place on the scheme (excited, mostly anxious...) but listening to that speech I felt really proud.More details will follow very soon.
Wales for Africa aug-10 Mari Gordon, 2 Awst 2010 I've now got all the information on my assignement and it sounds excellent - when i read it it made me smile. I'm excited but of course it's a bit daunting too, and there's certainly a lot for me to do in eight weeks, but it would be a bit pointless otherwise. The people that run the ILO programme have done a good job on the 'matching' process (I'll describe the whole application process later).I'll be working with the Civic Forum for Housing, an umbrella organization that supports various charities working on housing and land rights issues. The Forum wants to build its profile in order to recruit more member-charities and improve its fundraising. So I'll be developing a brand with them and producing brand/profile policies and documentation - I absolutely can't wait to get stuck in.I'll be based in Lusaka but will travel to visit the various charities, one of which is in Livingstone, which I hope (or should I say, presume) means I'll get to visit Victoria Falls. The African name for the Falls is Mosi-oa-Tunya, which means 'smoke that thunders' - name sort of says it all, really. According to my research transport across the country is neither quick nor comfortable. On my return to Wales, I think I'll be complaining a lot less about the A470.
Bywyd newydd i'r tŷ crwn Chris Owen, 30 Gorffennaf 2010 Pwy sy'n gwenu heddiw ar y t? crwn newydd? Mae Dafydd a'r tim adeiladu yn mwynhau ffrwyth eu llafur wedi misoedd o waith caled. Wrth ddathlu agoriad Moel y Gaer mae pawb wedi bod yn eu llongyfarch am eu gwaith. Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni ar yr achlysur arbennig hwn. Rwyf wedi mwynhau'n fawr trafod y gwaith gyda chi i gyd.