Adeiladu tŷ crwn - y gwaith yn parhau Ian Daniel, 5 Mai 2010 Dechreuodd y gwaith ar y trawstiau ddoe. Mae 36 o rai onnen gennym ni i'w gosod. Byddwn yn dechrau creu trawstiau cadwynog ac yn defnyddio gwiail cyll ar gyfer y tulathau. Dewch draw i'n gweld ni wrthi.Diolch i bawb ohonoch alwodd heibio ar y penwythnos - ges i dipyn o hwyl!
Art Cart - Passports Sian Lile-Pastore, 5 Mai 2010 Thank you to everyone who came to the art cart over the bank holiday weekend to make passports. There was some fantastic work and i'll be putting up some more pictures as soon as possible!
Adeiladu tŷ crwn Ian Daniel, 29 Ebrill 2010 Ers rhai wythnosau rydym wedi bod wrthi'n adeiladu t? crwn yma. Dewch i ymuno gyda ni dros yr wythnosau nesaf i weld y gwaith yn mynd rhagddo. Dafydd Wiliam sydd wrthi’n adeiladu ac fe fyddaf fi o gwmpas i esbonio’r hyn sy’n digwydd i chi. Gallwch ddilyn yr hanes yn ddyddiol ar http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htmAr ddydd Sadwrn a dydd Llun (1af a'r 3ydd o Fai) dewch draw i brofi technegau cynnau tân a choginio. Tybed sut fyddai pobl yn ystod yr Oes Haearn wedi gwneud y pethau hyn?
First hatchlings for 2 years! Ciara Hand, 29 Ebrill 2010 It's official - the Peregrines on the Clock Tower have successfully produced young - the first since 2008. On Thursday 22 April at 2.40pm the female bird Stacey was seen at the nest with a fresh kill, carefully distributing pieces of it in the nest - but annoyingly we couldn't actually see any chicks. However, our suspicions were confirmed over the next few days as we saw a white fluffy head appear in the nest....then another on Tuesday 27 April, then finally one more today! Today the male seemed to be doing a good job of bringing lots of food for the chicks, before taking a well earned rest right on the top of the tower - the rain wasn't going to spoil his kip!The chicks are expected to fledge in late May, but will remain at the nest for several months, relying on their parents for food while they learn how to fly and hunt. As the parents teach their young the awesome flying and hunting skills that peregrines are renowned for, it will mean fantastic aerial displays and some amazing views for us down on the ground.
Gweithgareddau i Oedolion yn Eglwys Teilo Sant Sara Huws, 28 Ebrill 2010 Reit, o'n i angen hynna! Ar ôl treulio'r Pasg yn Eglwys Teilo Sant, roedd cael treulio deuddydd yn yr haul ym Mharis yn siwtio i'r dim. Mi dreuliais i'r rhan fwyaf o'n amser yno mewn amgueddfeydd, am ryw reswm, yn arbennig y Musée Cluny. Ro'n i'n hapus iawn i ail-ymweld â'r lle - mae'r casgliad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ers blynyddoedd a roeddwn ar ben fy nigon. Mae gan y Cluny (nid y Clooney, sydd yn amgueddfa ddychmygol wahanol iawn) gasgliad heb-ei-ail o wrthrychau canoloesol. Cerfluniau wedi'w dinistrio yn y Diwygiad; gwydr lliw llawn storïau fwy lliwgar fyth; coronnau cywrain; llawysgrifau gwerthfawr: dyma'r math o le sy'n rhoi ias lawr cefn gîcs fel fi.Roedd awyrgylch debyg yn Eglwys Teilo Sant adeg y Pasg, gydag ymwelwyr yn ymweld (ac ail-ymweld) i brofi'r "teimlad 'na" ac i siarad am bob math o bethe eglwysig. Ro'n i'n rhedeg teithiau tywys ar thema'r Pasg ym 1520: beth fyddai wedi bod yn digwydd yn yr Eglwys, pwy fyddai yno, a sut y byddai'r murluniau a'r cerfluniau yn chwarae rhan bwysig yn yr holl weithgarwch. Daeth dros 800 o bobl i ymuno â'r teithiau - fe ges i'r teimlad eleni mod i wedi gwneud rhywbeth i haeddu'n wy Pasg, am unwaith!Yn hwyrach yn y gwyliau, dyma droi asgell ddeheuol yr Eglwys yn weithdy bychan, i artistiaid o bob oed gael tro ar beintio'n defnyddio deunyddiau naturiol. Daeth dros 300 egin-Holbein atom i ddefnyddio stensiliau, ocr, pownswyr a phaent wy i greu portread Tuduraidd, gan ddefnyddio'r un technegau ac y gwnaethom ni wrth ail-addurno'r adeilad. Fel y gwelwch ar flog Oriel 1 Sian isod, roedd cyfle i greu ffrâm Duduraidd i arddangos y portread yn ei lawn ogoniant. Dwi'n credu y galla i fentro a dweud bod y weithgaredd wedi bod yn un hwylus iawn, er i mi gael fy ngorchuddio mewn ocr. Erbyn diwedd yr wythnos, ro'n i'n edrych fel petawn i 'di cael anffawd gyda photel o liw-haul ffug.A finne wedi sgrwbio tu ôl i fy nghlustiau, ac wedi rhoi fy nhrwyn yn ôl ar y maen, mae'r cylch yn troi eto: amgyffred â'r gweithgareddau, ymchwilio, gwerthuso, paratoi ac yna aros, aros, aros i chi bobl hyfryd i'n ffonio i archebu lle! A chan fy mod i'n arfer cloi bob post gyda hysbyseb bach digywilydd: dyma grynodeb o'r gweithgareddau i oedolion y gwelwch chi o gwmpas yr Eglwys yn ystod y misoedd nesaf.Diwrnod o Gelf i Oedolion dros 50, 6 Mai, sy'n cynnwys gweithdy pigmentau naturiol, cinio a deunyddiau am ddima llawer mwy! Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly cofiwch alw o flaen llawn i osgoi cael eich siomi.Gwyddoniaeth a'r Eglwys yn y Canol Oesoedd, 29-31 Mai: sgwrs i bryfocio'r meddwl yn Eglwys Teilo Sant.Y Gwr Kadarn, 26 Mehefin. Y cyfle cyntaf ers 1640 i weld y chwip o ddrama Gymraeg hon yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored.