Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2010 Danielle Cowell, 27 Ebrill 2010 Enillwyr 2009-10Gofynnwyd i'r disgyblion dynnu llun cennyn pedr a'u labelu. Cawson ni lwyth o luniau gwych!Rhoddodd Athro'r Ardd wobrau i'r bobl a gyflwynodd y darluniau gorau. Oed:12 Alexandra Jones - Home educated Oed:10 Tabitha Jones - Home educated Oed:9 Huw Butterworth - Home educated Leon Queely - Cwmfelin Primary Oed:8 Thomas Minen - Cwmfelin Primary Oed:7 Tom Butterworth - Home educated. Goreuon y Gweddill: Morgan Lawrence - Cwmfelin Primary. Francesca Rees - Cwmfelin Primary Thomas Minen - Cwmfelin Primary
Gwyrth y Gwanwyn Gareth Bonello, 27 Ebrill 2010 Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Ŵyn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!
Tystysgrifau a gwobrau i Wyddonwyr Gwych! Danielle Cowell, 21 Ebrill 2010 Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni! Bu’r plant yn cwblhau heriau ac yn cadw cofnodion o’r tywydd i ennill tystysgrifau a gwobrau Gwyddonwyr Gwych. Diolch yn fawr i’r Really Welsh Company am gyflenwi cennin pedr a’r wobr 1af – diwrnod yn casglu cennin pedr ar eu fferm ger Pen-y-bont ar Ogwr – a diolch yn fawr iawn hefyd i staff Gwarchodfa Natur Cynffig.Roedd y safon yn uchel iawn eleni ac fe hoffai Athro’r Ardd ddiolch i’r holl ysgolion sydd wedi sicrhau llwyddiant yr ymchwiliad hwn! Dyma’r ysgolion a’r plant sy’n cael eu haddysgu gartref a ddaeth i’r brig.1af: Ysgol Iau Pentrepoeth, Treforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Kay Mills. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. 2il: Ysgol Gynradd Glyncollen hefyd o Dreforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Ann Richards. Gwobr: Ysbienddrych digidol.Buddugwyr plant sy’n derbyn addysg yn y cartref: Mae’r teulu Jones o Landrindod a’r teulu Butterworth o Sir Gaerfyrddin wedi dangos llawer o ymroddiad gyda’u gwaith cofnodi. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. Ysgolion a gafodd ganmoliaeth uchel: Ysgol Nant Y Coed, Ysgol Talhaiarn, Ysgol Howells Llandaf, Ysgol y Ffridd, Ysgol Porth y Felin, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Penycae (Ystradgynlais) Gwobrau: Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.Ysgolion a gafodd ganmoliaeth am eu hymroddiad a’u cofnodion da: Ysgol Gynradd Deganwy, Ysgol Iau Aberdaugleddau, Ysgol Gatholig Joseff Sant, Coleg Powys, Glan Conwy, Ysgol Iau Hen Golwyn, Ysgol Pen y Garth, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs, Ysgol Iau Murch, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Windsor Clive, Ysgol Gynradd Brynconin, Ysgol Gynradd Deganwy. Gwobrau: Pob disgybl i dderbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.Blodau hwyr = adroddiad hwyr: Fel arfer, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn gallu dyddiadau blodeuo eleni gyda’r rhai a gofnodwyd yn y blynyddoedd blaenorol, ond gan fod y tywydd wedi bod mor oer, rydym yn dal i dderbyn rhai cofnodion. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Athro’r Ardd yn gweithio ar yr adroddiad hwn a’i gyhoeddi ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Gardd Llechi 20 Ebrill 2010 Dechreuodd y gwaith cynllunio a pharatoi ar gyfer yr Ardd Lechi cyn y Nadolig, ond cychwynodd y gwaith caled ar yr ardd ei hun yn ôl ym mis Chwefror. Bûm yn cydweithio gyda Gwasanaethau Preswyl a Dydd Cyngor Gwynedd er mwyn creu yr ardd, a dyma i chi rai o luniau'r gweithwyr wrthi'n ddyfal trwy gydol y broses o greu ein gardd.Mae'r lluniau isod yn dangos y broses gyfan o greu yr ardd, o'r dechrau i'r diwedd.Rydym wrth ein boddau gyda'n Gardd Llechi ac yn gobeithio y cewch chithau gyfle i ddod am dro i Lanberis i fwynhau'r ardd hefyd!
Llwch Folcanig yn disgyn ar Gymru 16 Ebrill 2010 Sbesimen o fasalt o Wlad yr Ia o’r casgliadau Daeareg Gronyn folcanig gwydrog, miniog (500 microns) Pyrocsen (500 microns) Olifin Delweddau o’r lludw a grëwyd gan ddefnyddio microsgop cryf (1μm = 1/1000 mm). Darn tenau o fasalt Staff yr Adran Ddaeareg yn dadansoddi llwch o Wlad yr Ia: Aeth staff o Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru ati i gasglu a dadansoddi llwch folcanig oddi ar doeon ceir yn ardal Caerdydd ar ddydd Gwener 16 Ebrill 2010. Crëwyd y llwch gan echdoriad y llosgfynydd Eyjafjallajökull, sy’n gorwedd o dan rewlif yn ne Gwlad yr Ia. Ar ôl bod yn fud am bron i 200 mlynedd, mae’r llosgfynydd wedi bod yn fyw ers Mawrth 2010. Ar ddydd Mercher 14 Ebrill, echdorrodd y llosgfynydd yn ffyrnig, gan chwythu llawer iawn o lwch folcanig i mewn i’r atmosffer. Roedd y ffrwydrad yn arbennig o ffyrnig am i’r echdoriadau ddigwydd wrth i’r magma poeth ddod i gysylltiad â dŵr o’r rhewlif oedd dros ei ben yn toddi. Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, roedd y llosgfynydd yn dal i echdorri. Mae’r llwch, a gludwyd tua Phrydain a gogledd Ewrop ar y gwynt, wedi tarfu’n ddifrifol ar awyrennau masnachol. Mae hyn am fod injans awyrennau yn gallu sugno’r llwch i mewn gan leihau faint o aer sy’n llifo drwyddynt. Mae hyn yn ei dro yn gallu peri iddynt fethu. Am fod y llwch mor fân, bu rhaid defnyddio camera ar ficrosgop cryf i greu’r delweddau. O fewn y lludw roedd darnau o lafa caled, gronynnau main o wydr folcanig a’r mwynau ffelsbar, olifin a pyrocsen. Mae’r mwynau hyn yn gyfansoddion cyffredin mewn craig folcanig o’r enw basalt, sy’n gyson â’r math o echdoriad folcanig sy’n digwydd yng Ngwlad yr Ia. Mae Gwlad yr Ia yn rhanbarth fyw iawn yn ddaearegol am ei fod yn eistedd ar Gefnen Canolbarth yr Iwerydd. Gwlad yr Ia yw’r unig fan lle gellir gweld Cefnen Canolbarth yr Iwerydd ar y tir. Darn o graig basalt sy’n ddigon tenau i adael i’r golau lifo drwyddi sy’n galluogi’r daearegwyr i astudio’r mwynau yn y graig trwy ficrosgop. Delweddau o’r lludw a grëwyd gan ddefnyddio microsgop cryf (1μm = 1/1000 mm).