Adeiladu tŷ crwn - creu to Ian Daniel, 13 Mai 2010 Rwy'n dechrau teimlo'n gyffrous nawr a'r adeilad yn magu to. Gallwch chi ddychmygu sut siap fydd arno pan fydd Dafydd a'r criw wedi gorffen y gwaith.Roedd digon i Dafydd feddwl amdano. Aeth y chwech traws cyntaf i fyny yn eithaf di ffwdan ond wedyn roedd yn rhaid ystyried y lle gorau i osod y trawstiau cadwynog. Penderfynodd Dafydd eu gosod y tu allan i'r prif drawstiau. I wybod pam darllenwch ei ddyddiadurAeth y llwyth nesaf o drawstiau i fyny'n eithaf cyflym. Roedden nhw wedi cael eu rhicio fel bod modd iddynt fachu'r gadwyn. Llinyn wedi ei dario sy'n eu rhwymo ynghyd. Gosododd Dafydd ail gyfers o drawstiau cadwynog tua gwaelod y to. Cyn hir fe fyddwn yn gosod y to gwellt.Darllenwch ddyddiadur Dafydd http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm
Cywion yn Sain Ffagan! Danielle Cowell, 13 Mai 2010 Dilynwch ein camera nyth i weld y Titw Mawr yn Sain Ffagan!http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2736/Cafodd wyth wy eu dodwy ar 27 Ebrill, ac fe ddeoron nhw ddoe o’r diwedd. Mae’r cywion mor fach nid oes modd eu gweld ond pan maent yn agor eu cegau. Mae Mr a Mrs Titw Mawr yn brysur yn bwydo eu teulu yn y goedwig yn Sain Ffagan.
Feeding time for the Peregrine chicks Peter Howlett, 11 Mai 2010 Some superb views of the adults feeding the 4 chicks today. After last year's disappointment having 4 chicks this year is fantastic and they all look very healthy. They are growing rapidly so keep watching to see how they are doing.
Traddodiadau'r Nadolig: Bwyd 10 Mai 2010 Dathlwch y Nadolig hwn drwy archwilio ryseitiau sydd wedi dod â chenedlaethau o deuluoedd a chymunedau ynghyd. Bydd ein dewis yn llenwi'ch tymor â chynhesrwydd traddodiad, un rysáit ar y tro.Yr Ŵydd Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen Bu'r ŵydd yn ganolog i'r wledd Nadolig yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn. Ers yr Oesoedd Canol 'roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i Ginio Nadolig. 'Roedd gwyddau yn hawdd i'w magu a chawsent bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Bu'n arfer gan y ffermwyr i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond gofalent am gadw nifer dda i'w tewhau ar gyfer y farchnad Nadolig. Yn gyffredinol, ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y Cymro tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.Cacen Waed GwyddauYng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n arfer i wneud cacen waed gwyddau pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer Nadolig. Mae cof am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a'r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn-Mair a Llangurig. Fe'i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â'r Nadolig yn unig. Byddent yn tywallt gwaed tua tair o wyddau mewn basin pridd, a'i roi mewn sosbennaid o ddŵr a'i ferwi. Yna byddent yn gadael i'r gwaed oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Yna byddent yn rhoi'r 'gwaed' mewn dysgl bridd ac yn ei gymysgu â chyrens, blawd gwyn, siwet mâl, halen, sbeis a thriogl melyn. Cymysgu'r cyfan yn dda â llwy bren. Byddai'r cymysgedd yn cael ei grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty. Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y mincemeat a geir mewn mins peis yn cynnwys cig yn wreiddiol! Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn Y Rysáit Pwdin Berwi Y mae'r pwdin berwi, yn llawn ffrwythau a sbeis, wedi ei gysylltu â'r Nadolig ers y ddeunawfed ganrif. Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain - yr arfer a roddodd iddo'r enwau pwdin lwmp, pwdin clwt neu pwdin cŵd. Byddid yn rhwymo gwddf y cŵd a llinyn a'i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan fel bod y pwdin yn hongian i mewn yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig byddid yn gwneud 'menyn melys' i dywallt drosto.Byddai pob aelod o'r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu'r pwdin ac yn gwneud dymuniad 'cudd' ar yr un pryd. Yr oedd hi'n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin - yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog - a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.Noson Gyflaith Rhoi siwgr ar y darnau cyflaith i'w rhwystro rhag glynu wrth ei gilydd ‘Roedd cynnal ‘Noson Gyflaith’ gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i’w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gŵydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai’r cwmni’n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith. Ar ôl berwi’r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi’i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a’i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu tra byddai’n gynnes. ‘Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu’r cyflaith hyd nes y deuai’n rhaffau melyngoch. Byddai’r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond ‘roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. ‘Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond ‘roedd yn arfer gan wragedd i’w werthu o’u cartrefi neu yn y farchnad leol. ‘Roedd ‘dant’ a ‘ffani’ ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw’r gwneuthurwr arno, er enghraifft, ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.Y Rysáit Teisen Dorth Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru Gwneid teisen dorth yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol i'w crasu.'Roedd hi'n arfer i'r cymdogion 'brofi' teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau'r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai'n siŵr o ennill gŵr cyn y Nadolig canlynol!Y Rysáit Cerdyn Nadolig o'r casgliad
Art cart Passports Sian Lile-Pastore, 6 Mai 2010 The idea of making passports came from the Italians in Wales exhibition (which has just finished in Oriel 1). The exhibition contained lots of personal stories and we therefore decided to create passports on the artcart so that the children taking part could think about where they and their family have come from, where they have visited and where they woudl like to go. Once finished, the passports were stamped with a St Fagans: National History Museum stamp for offical reasons.....I hope you enjoy the pictures below, apologies for the poor quality of my photography but the lighting is quite subdued in the gallery!