Straeon Covid: “Os yw wedi dod unwaith, oni all ddod eto, neu ryw bandemic arall?”

Delwyn, Caerdydd, 28 Mai 2020

Cyfraniad Delwyn i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Rwy’n byw mewn fflat i'r henoed ac yn gwbl annibynnol yn fy fflat fy hunan. Mae 33 o fflatiau cyffelyb yn y bloc. Nid cartref gofal mohono. 'Does gen i ddim teulu agos yma yng Nghaerdydd, felly 'dyw'r sefyllfa honno ddim wedi newid.

'Dydw i ddim wedi gweld fy ffrindiau ers deufis. 'Dydw i ddim hyd yn oed yn gweld fy nghymdogion yn y bloc oni bai fy mod i'n digwydd taro ar eu traws yn y coridorau, neu wrth gerdded yn yr ardd. 'Dydw i ddim wedi mynd trwy glwyd y bloc fflatiau ers 21 Mawrth. Os bydda' i'n mynd allan o'r fflat, mi fydda' i'n golchi fy nwylo wedi dod nôl. 'Dydw i ddim wedi gwisgo masg o gwbl hyd yn hyn, ond efallai y gwna' i pan fydda' i'n dechrau mynd allan.

Rwy’ fwy neu lai yr un pethau ag o'r blaen, ac eithrio pethau sy'n golygu mynd allan, ond gan fod mwy o amser 'rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud pethau yn fwy araf. Derbyn ac anfon ebyst, edrych ar y teledu, chwarae 'Patience' ar fy ffôn.

Mi fyddwn i fel rheol yn siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos, a phrynu rhai pethau arbennig mewn siopau ynghanol y ddinas. Ond nawr 'rwy'n dibynnu ar garedigrwydd gwraig o'r capel sy'n prynu popeth drosta' i yn yr archfarchnad leol.

Mae'r pryder am y posibilrwydd o ddal y clefyd yn lleihau fel mae'r amser yn mynd heibio. Ond os yw wedi dod unwaith, oni all ddod eto, neu ryw bandemic arall? Mae hyn yn destun pryder. Ond 'rwy'n teimlo'n ddiolchgar na fu dim tebyg o'r blaen yn ystod fy mywyd.

Prosiect Ysgol Tanygrisiau

28 Mai 2020

Prosiect Ysgol Tanygrisiau - Mae disgyblion Ysgol Tanygrisiau wedi bod wrthi'n brysur yn dysgu mwy am hanes tai Fron Haul a'r pentref yn ddiweddar. Dyma ffilm fer wedi'i chreu ar y cyd efo Gai Toms i ddangos ffrwyth eu llafur.

 

Ffilm Straeon yn y Meini

28 Mai 2020

Ffilm Straeon yn y Meini - Crewyd y ffilm arbennig yma ar gyfer agoriad swyddogol tai Fron Haul, ac mae wedi bod ar ddangos yn y tai ers hynny. Dyma'r cyfle cyntaf i fwynhau'r ffilm yn ddigidol, 21 mlynedd yn ddiweddarach.

Atgofion Melys

27 Mai 2020

Atgofion Melys - Be dach chi'n fwynhau efo'ch paned brynhawn? Dewch efo ni draw i dai Fron Haul i ddysgu mwy am be oedd gwragedd y chwarelwyr yn ei goginio ar droad yr ugeinfed ganrif ... ac i glywed am y newydd sydd wedi corddi merched yr ardal!

 

Ydi'r fideo wedi'ch ysbrydoli chi i fynd ati i goginio? Dyma'r rysait cacenni cri os ydych chi am roi cynnig arni!

Rysait Cacen Gri

Fy Hoff Grair: Cadi Iolen

Cadi Iolen, 24 Mai 2020

Mae ein curadur Cadi Iolen yn gyfrifol am ofal a chadwraeth miloedd o wrthrychau. Yma mae hi’n dweud mwy am ei hoff wrthrych yn y casgliad, ty 1861 Tanygrisiau.