Datblygu Sgiliau ac Addysg Gymunedol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Loveday Williams , 4 Chwefror 2020 Yn ystod 2019, treuliom amser yn datblygu rhaglen sgiliau San Ffagan gan gydweithio â phartneriaid a chymunedau i greu cyfleoedd ar gyfer addysg oedolion a datblygu sgiliau, fel rhan o waith menter Cyfuno a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. I nodi lansiad adran newydd ar ein gwefan addysg ar gyfer Addysg Gymunedol dyma ddiweddariad ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn, a beth sydd i ddod yn 2020.Addysg Gymunedol a Datblygu Sgiliau: Rydyn ni wedi cydweithio â sefydliadau megis The Wallich, Hafal, Crisis ac Oasis Cardiff i greu sesiynau blas ar sgiliau. Mae gweithdai trin lledr a chopr wedi ysgogi pobl i ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliadau'r Amgueddfa, a'i blethu â'u profiadau diwylliannol eu hunain ym mhob sesiwn. Dyma nhw'n rhannu eu profiadau gyda ni, gan gynnwys y detholiad canlynol o uchafbwyntiau:"Cyfareddol, diddorol, gwerth chweil.""Doeddwn i byth wedi trin lledr o'r blaen, felly roedd e'n ddiddorol ac ymlaciol."Hyd yn hyn mae 243 o bobl wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019, ac mae rhagor ar y gweill ar gyfer 2020.Partneriaethau Widening Access: Rydyn ni wedi cydweithio â sefydliadau megis adran Widening Access Prifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn dod â rhaglenni addysg hygyrch i'r Amgueddfa, gan ddefnyddio ein casgliadau i ehangu ac ychwanegu gwerth i'r potensial dysgu. Yn 2019, cynhaliwyd dau gwrs ysgrifennu creadigol a chwrs therapi ategol yn Sain Ffagan. Mae cwrs therapi ategol arall yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae cyrsiau pellach ar y gweill eleni.Detholiad o adborth dysgwyr:"Mae'r cwrs wedi cynyddu fy hyder a dangos i fi lle ydw i am wella.""Wedi mwynhau'r cwrs yn fawr, tiwtora da ac awyrgylch cefnogol."Sgiliau iaith: Mae creu cyfleon i bobl ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith yn rhan bwysig o'r rhaglen datblygu sgiliau. Yn 2019, adeiladodd Sain Ffagan ar ei phartneriaeth ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a ddarparodd gwrs Mynediad 1 20 wythnos (Ionawr i Orffennaf 2019). Aeth nifer o'r dysgwyr ymlaen i gofrestru ar gyfer y Cwrs Mynediad 2 a ddechreuodd ym mis Medi 2019. Dechreuodd cwrs Mynediad 1 newydd ym mis Ionawr.Mae dysgwyr ESOL yn elwa o adnoddau dysgu ESOL Sain Ffagan, a ddatblygwyd ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro (CAVC), gan gynnig yr Amgueddfa fel lleoliad croesawgar i ddysgu, rhannu diwylliant a datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae grwpiau wedi ymweld o golegau megis CAVC a’r adnoddau yn cael eu lawrlwytho yn rheolaidd o wefan yr Amgueddfa - cyfanswm o 174 weithiau rhwng Mai a Rhagfyr 2019.Eleni rydym yn dathlu'r llwyddiant hwn ac yn gobeithio ei ddatblygu ymhellach drwy lansio ardal newydd ar ein gwefan ar gyfer Addysg Gymunedol. Ewch i'n gwefan i ddysgu rhagor am sut i gymryd rhan a threfnu ymweliad.Diolch i bob cyfrannwr, y sefydliadau partner a'r tîm yn Sain Ffagan am bob llwyddiant hyd yn hyn.
Cadw Cofnodion Tywydd 2020 Penny Dacey, 3 Chwefror 2020 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Rwyf wedi clywed bod llawer ohonoch yn disgwyl i’ch planhigion i flodeuo yn fuan! Da iawn am edrych ar ôl eich planhigion yn mor dda. Rwyf yn edrych ymlaen at weld lluniau o eich blodau, plîs rhannwch nhw hefo fi.Beth am greu darlun botanegol o eich planhigion? Mae enghreifftiau da o lunia hyn ar gael ar wefan Amgueddfa Cymru os ydych yn edrych am syniadau. Rwyf wedi atodi llun o enghraifft o ddarlun botanegol o Gennin Pedr o gasgliad yr Amgueddfa. Yw hyn yn edrych fel planhigyn ti?Fedri ti enwa'r rhannau gwahanol o’ch planhigion? Wyt ti’n gwybod beth yw anther a sepal? Bysa arlunio a labelu eich planhigion yn ffordd dda o edrych arnyn nhw mewn ffordd wahanol. Os ydych yn wneud hyn, plîs rannwch eich gwaith celf hefo fi.Cofiwch edrych ar yr adnodd ‘Cadw Cofnodion Tywydd’ ar y wefan. Mae hyn yn dangos sut i wybod pryd mae eich blodyn wedi agor yn llawn a sut i gofnodi taldra eich planhigyn. Mae’r cofnodion yma yn bwysig i ein hastudiaeth, oherwydd bydd y wybodaeth hon yn rhoi’r rhif cyfartaledd i gymharu hefo blynyddoedd blaenorol.Bydd o’n ddiddorol i weld os yw ein planhigion yn blodeuo yn gynnar blwyddyn yma. Mae’r Swyddfa MET wedi cofnodi mis Ionawr 2020 fel yr 6ed gynhesaf ers 1884. Wyt ti’n meddwl bydd hyn yn effeithio ar ddatblygiad ein planhigion?Cofiwch i rannu eich syniadau ac adborth yn y bwlch sylwadau wrth gofnodi eich data tywydd.Cadwch ati hefo’r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn.Athro’r Ardd
Beth yw enw go iawn Dippy? Trevor Bailey, 24 Ionawr 2020 Dippy yw ein henw ni ar y sgerbwd deinosor hoff, ac rydyn ni’n gwybod fod ganddo hanes diddorol. Ond ai Diplodocus fu’r enw ar y ffosilau yma erioed? Wel, na, mae hynny'n annhebygol...Rydyn ni wedi clywed sut y daeth 'Dippy' i Lundain ym 1905 yn gast plastr o'r esgyrn ffosil gwreiddiol yn Amgueddfa Carnegie, Pittsburgh. A, diolch i balaentolegwyr, gallwn ei ddychmygu'n anifail byw yn pori coedwigoedd Jwrasig, 145-150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn diogelu ei hun rhag ysglyfaethwyr gyda'i gynffon chwip. Ond beth am weddill y stori? O ble ddaeth y ffosilau hyn? Ym 1898, diolch i'r diwydiant dur, Andrew Carnegie oedd un o'r dynion mwyaf cyfoethog yn y byd. Roedd yn brysur yn rhoi ei arian i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Pan glywodd am y deinosoriaid anferth oedd yn cael eu darganfod yng ngorllewin America, dywedodd rywbeth fel “Dwi eisiau un o rheina!” ac anfonodd dîm o Amgueddfa Carnegie i chwilio am yr “anifail mwyaf anferth yma”.Felly, ym 1899, yn nyddiau olaf Hen Orllewin America, cafodd sgerbwd Diplodocus ei ddarganfod yn Sheep Creek, Albany County, ar wastadeddau Wyoming. Y dyddiad, fel mae'n digwydd, oedd 4 Gorffennaf, Diwrnod Annibyniaeth America. Ac felly y cafodd y ffosil ei lysenw cyntaf gan dîm Carnegie, 'The Star Spangled Dinosaur'. Ond, ymhen hir a hwyr, cafodd y rhywogaeth newydd hon ei chyhoeddi yn swyddogol fel Diplodocus Carnegii.Byddai safle'r cloddio wedi edrych yn debyg iawn i'r safle tebyg yma gerllaw yn Bone Cabin Quarry, yn yr un flwyddyn. Mae'r lluniau yma o ddiwedd y 1800au o rannau eraill o Albany County, Wyoming, yn ein helpu i greu darlun (o Wikimedia Commons). Enw cyntaf Dippy, 'Unkche ghila'Ond beth am frodorion y gwastadeddau? Oni fyddai'r brodorion wedi darganfod ffosilau deinosor cyn y gwladychwyr Ewropeaidd? Yn ei llyfr, Fossil Legends of the First Americans, mae Adrienne Mayor yn dangos y gwnaethon nhw. Dychmygodd y brodorion ffurfiau gwreiddiol y ffosilau fel Madfallod Anferth, Adar y Taranau a Bwystfilod Dŵr, ac roedd sawl un o'r casglwyr deinosoriaid enwog yn dewis brodorion yn dywyswyr. Mae'r llyfr yma'n dangos fod y brodorion wedi sylwi ar y prosesau daearegol fel difodiant, llosgfynyddoedd a newid yn lefel y môr a’u bod yn sail i’w credoau am ffosilau. ( “Clear”, Pobl Lakota, 1900. Heyn & Matzen )Y Lakota Sioux oedd brodorion y gwastadeddau lle cafwyd hyd i ffosilau Diplodocus. Ganwyd James LaPointe, pobl Lakota, ym 1893. Dyma hanes a glywodd pan yn fachgen:“Roedd y Sioux yn galw'r creaduriaid hyn, sy'n cymharu'n fras â deinosoriaid, yn 'Unkche ghila'. Roedd y creaduriaid siâp rhyfedd yn crwydro'r tir mewn grwpiau mawr, ac yna'n diflannu. Mae esgyrn anferth y creaduriaid hyn, sydd bellach wedi diflannu, yn nhiroedd garw de a dwyrain y Bryniau Du. Dyw e ddim yn glir os wnaeth yr unkche ghila ddiflannu, ond mae daeareg y Sioux yn nodi eu bod yn dal i fod o gwmpas pan gododd y Bryniau Du o'r ddaear."O lyfr James R. Walker, 1983, Lakota Myth.Felly, trwy law Adrienne Mayor, dyma roi'r gair olaf i Wasanaeth Parciau Cenedlaethol yr UDA:"Mae straeon a chwedlau'r brodorion yn cynnig persbectif unigryw i arwyddocâd ysbrydol traddodiadol ffosilau ac yn gyfle heb ei ail i ddangos y cysylltiad anhepgor rhwng pobl a natur." Jason Kenworthy a Vincent Santucci, A Preliminary Inventory of National Park Service Paleontological Resources in Cultural Resource Contexts.
Philanthropy by Roger Lewis, 21 Ionawr 2020 We are about to say a fond farewell to Dippy the Dinosaur who will be taking a triumphant bow from National Museum Cardiff on 26 January.Over the course of the past three months, 188,710 people have had the inspiring experience of witnessing, up close and personal, something truly unique - a diplodocus that walked our earth over 155 million years ago. To witness the look on the tens of thousands of children who set their eyes on Dippy as they entered our great hall, free of charge, has been deeply touching.Dippy is with us today due to the vision of an extraordinary Scottish-American businessman, Andrew Carnegie, yes he of the New York concert hall fame, and who led the expansion of the American steel industry in the late nineteenth century. Carnegie was, and still is, through his Foundation, one of the world’s great philanthropists and benefactors, supporting museums, libraries, education, the arts and science across the globe.In 1902, over dinner at Carnegie’s Skibo Castle, King Edward VII heard about a dinosaur, which was housed in the Carnegie Pittsburgh Museum. The King persuaded Carnegie to donate a cast of the diplodocus to the Natural History Museum in London as a gift, which was mounted there in 1907, the same year as we opened the doors of Amgueddfa Cymru here in Cardiff.And now today, Dippy, made possible by Carnegie’s extraordinary lifelong commitment to philanthropy, is touring the UK, capturing the hearts and minds of millions of people, creating a sense of wonder and amazement wherever this dinosaur goes.This is what Amgueddfa Cymru aims to do - inspire people and change lives for the greater good. This is what makes a partnership with our museums so special for private patrons as well as for businesses. We create relationships with people which transcend the mundane. We create experiences that are visceral, meaningful and long lasting and which are truly transformational. All of us can play a part, great or small, in supporting this noble ambition.I encourage you all to join us in supporting not only the curation of the past, but the present as well, and with the vision of Carnegie, help shape the future. For more information on how we can work together with you please contact our Development team.
Our Friend Dippy Pip Diment, 21 Ionawr 2020 Where do I start when talking about the experience that has been Dippy?! Well he’s certainly been a phenomenon for us here at Amgueddfa Cymru. Right from when we first started installing him back in October last year, people were standing on the balcony watching the very efficient team from the Natural History Museum putting him together piece by piece. Of course we saved the head going on until last! I was fortunate to be permitted into the enclosure and up close to some of the replicated bones, which was very exciting for me. In the first half term in October we had 53,898 visitors to the museum, an increase of 258% on the previous year. On the Wednesday we had over 10,000 visitors, which is a first for us! What we had been prepared for by a previous venue, Kelvingrove Art Gallery and Museum, but that might not instantly occur to you, is that we needed more toilet rolls! Not a very glamorous aspect of Exhibitions & Displays, but a very important one for our visitors! In my last blog I talked a lot about Snake poo, so I’m moving on swiftly from toilet rolls now before I gain a reputation for obsessing about poo! Our front of house staff had their work cut out for them; ensuring visitors could access the whole museum, answering questions on Dippy and keeping them safe. I spent some time in the Main Hall and these amazing people worked so hard. But it wasn’t just in the Main Hall. The galleries were full, especially our Natural History galleries, which was great as we had additional visitors to the museum to see Dippy, but they stayed to explore more of what we have to offer. We have a special Dippy shop which has been equally full and busy, with staff rushed off their feet – my favourite item is the glittery dinosaur. There may have been debate about what dinosaurs looked like, but I’m pretty sure no one has found evidence for sequins as yet! Our colleagues in the restaurant and cafe made special menus to account for the increase in visitor footfall, as well as the opportunity to make dinosaur cakes! In our Temporary Exhibitions Gallery, which was open to the public during holidays and weekends, our colleagues from the Youth Forum worked with artist Megan Broadmeadow to create a strong message about Fast Fashion from recycled clothes. I’m trying to work out where we can keep the pterosaur, which is brilliant. Our messages about the climate emergency within the exhibition and also when Extinction Rebellion Cardiff came and held a ‘die in’ are, for me, highlights of what a museum can achieve when we work with people from outside our organization and be led by their inspiration and creativity. I’ve spoken with staff from across the museum and everyone seems to have enjoyed having Dippy here, it’s going to seem very empty when he goes at the end of this month – you have until 26 January to see him.