#DiolchynFawr

Chris Kelly, Swyddog Codi Arian a Datblygu, 26 Tachwedd 2018

Mae mis Rhagfyr yn gyfle gwych i ni fel sefydliad ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eich cyfraniadau hael, sy'n ein helpu'n fawr gyda'n gwaith bob dydd.

Bydd yr 20 chwaraewr Loteri Genedlaethol cyntaf i ymweld ag un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 yn cael anrheg am ddim!

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis i gyd yn cymryd rhan.

Cyflwynwch eich tocyn yn siop yr Amgueddfa os gwelwch yn dda.

Cyn gynted ag y bydd yr 20 anrheg wedi mynd ym mhob lleoliad, byddwn yn gwneud cyhoeddiad drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sain Ffagan wedi elwa'n ddiweddar o gyllid y Loteri Genedlaethol. Dyfarnwyd £11.5m i ni yn 2012 i ddechrau ailddatblygu'r Amgueddfa, y grant mwyaf erioed i gael ei ddyfarnu yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Diolch i gyfraniadau hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cyfrannodd dros 3,000 o wirfoddolwyr a 120 o fudiadau cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob rhan o Gymru at y gwaith ailddatblygu gwerth £30m.

Mae cymryd rhan yn y fenter #DiolchynFawr yn un ffordd y gallwn ni ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'r Loteri Genedlaethol.

Telerau ac amodau:

● Cyflwynwch un tocyn Loteri Genedlaethol i hawlio eich anrheg am ddim yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; neu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

● Mae pob un o gemau'r Loteri Genedlaethol yn gymwys am yr anrheg am ddim. Gallwch chi brofi eich bod yn chwarae’r Loteri drwy docyn copi caled neu docyn digidol.

● Mae'r cynnig yn ddilys rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 hyd nes y bydd yr 20 rhodd am ddim ym mhob amgueddfa wedi cael eu rhoi allan.

● Os bydd ymholiadau ar y diwrnod, bydd penderfyniad y rheolwr yn derfynol.

Parhad a diwedd "Rhyfeddodau ein harchif sain"

Pascal Lafargue, 20 Tachwedd 2018

YR IAITH GYFRIN

Doeddwn i erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn, ond rwy’n deall nawr bod y ffenomenon yn bodoli yn Lloegr a gweledydd Ewropeaidd eraill fel Denmarc, yr Iseldiroedd a Ffrainc.

 

 

Mae Gwenllian M. Awbery, Is geidwad yng ngofal yr archif sain ac astudiaethau tafodieithol yn Sain Ffagan  yn y 70au a’r 80au, wedi recordio 9 person arall yng Ngogledd Cymru yn trafod yr iaith gyfrin. Gallwch chi ddarllen ei gwaith diddorol ar http://www.draenog.co.uk/VLibrary.htm

Rhyfeddodau ein harchif sain

Pascal Lafargue, 20 Tachwedd 2018

Dechreuodd staff Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru recordio hanesion pobl ym 1958, gan deithio Cymru gyda Land Rover a charafán. Ers hynny, mae haneswyr, cerddorion, ieithyddion ac ymchwilwyr wedi bod yn darganfod trysorau ymhlith y 13,000 o recordiadau sain sydd yn y casgliadau heddiw. Yma clywir lleisiau o bob math; o ffermwyr, glowyr a chwarelwyr i botswyr, meddygon esgyrn, carcharorion rhyfel o’r Eidal ac Iddewon Cymreig, mae rhywbeth yma i ddiddori pawb.

Wrth darllen manylion y siaradwyr cyntaf yng nghronfa ddata’r casgliad sain, sylweddolais bod nifer wedi eu geni yn y 19eg ganrif, ac un ddynes oedd wedi’i geni ym 1865! Oherwydd hyn, gallwn ni ddarganfod byd gwahanol yn y recordiau, lle oedd bywyd yn anodd iawn ond hefyd yn llawn brawdoliaeth. Byd llawn ofergoelion, ysbrydion a chreaduriaid o bob math...

Felly pan ddechreuais i ddigideiddio ein casgliad, roeddwn i’n gwrando gyda chyfaredd ar yr hyn oedd y tapiau yn eu dadorchuddio, roedd yn fêl i’r glust. Roedd y tapiau cyntaf yn hynod ddiddorol gan fod nifer yn fy atgoffa i o acen ein ffermwyr ni yn Llydaw – roedd hynna’n deimlad rhyfedd a rhyfeddol.

Ond rhaid cyfaddef, ar ôl digideiddio miloedd ar filoedd o recordiadau stopiodd fy meddwl dalu sylw bob yn dipyn. Fel rhyw mantra cyfrin Cymreig, roedd y lleisiau yn mynd i mewn drwy un glust ac allan drwy’r llall, a’r sain analog yn troi’n ddigidau a rhifau ym mhob ystyr y gair! Ond weithiau, fodd bynnag, roedd pytiau o sain fel larwm yn tynnu fy sylw. Perlau soniarus ar goll yn y mor o sŵn yn codi i’r wyneb...

Dyma isod tri enghraifft ohonynt fy mod yn cynnig i chi wrando ar:

 

YR HWYL

Fy nheimlad cyntaf wrth glywed y recordiad hwn oedd bod gan y dyn yma broblem go iawn. Roeddwn ni hefyd yn dechrau amau bod fy hen nain yn iawn pan fyddai hi’n dweud bod y Protestaniaid wedi damnio! Mae rhywbeth bygythiol a dychrynllyd yn y ffordd mae’n cyfathrebu, fel petai’r llais yn dod o fyd gwahanol.

 

 

Y GWAEDDWR

Dw i’n hoffi y ffordd y mae’r gwerthwr yma yn hanner canu, hanner gweiddi. O’i gymharu â’r enghraifft gyntaf, mae’n fodd tangnefeddus a difyr o gyfathrebu.

 

(I'w barhau yn y blog nesaf).

Museum Advent

Katie Mortimer-Jones, 19 Tachwedd 2018

We are busy preparing our Natural History #MuseumAdvent calendar and we couldn't resist sharing with you a sneak preview! This year the backdrop for the calendar is a snowy National Museum Cardiff. Each of our 24 natural science curators and scientists have selected one of their favourite objects from the collections to showcase each day. The advent calendar will feature on the @CardiffCurator Twitter account, so why not tune in each day and see what natural science specimen or object is behind each door. The calendar will feature plants, insects, sea worms, shells, fossils, minerals, seaweed and diatoms to name but a few. Once we have opened all of the doors, we will reveal the curators behind the favourite objects.

Cofiwch gymryd cofnodion tywydd

Penny Dacey, 7 Tachwedd 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!

Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd dros 17,000 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!

Wnaeth Cofnodion Tywydd cychwyn ar 5 Tachwedd. Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd