Diwydiant a Thrafnidiaeth

Mae gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus fel gwlad ddiwydiannol. Mae cyfrifiad 1851 yn cofnodi mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd a chanddi gyfran uwch o’r gweithlu yn gweithio ym myd diwydiant yn hytrach nag amaethyddiaeth.

Felly, gall Cymru hawlio mai hi yw’r ‘wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd’. Amrywiol y bu ei diwydiannau ar hyd y canrifoedd a hyd yn oed heddiw, wrth i ddiwydiannau mawrion y blynyddoedd a fu ddiflannu, daw rhai newydd yn eu lle.

Nid oes yn unman well detholiad o wrthrychau a darluniau sy’n adlewyrchu’r newidiadau hynny na’r rheini ymhlith ein casgliadau, ac rydym yn eich gwahodd i fwrw golwg hamddenol ar ein gwefan ac i ddarganfod mwy am dreftadaeth ddiwydiannol un o’r gwledydd mwyaf diddorol ar wyneb Daear.

Erthyglau Diweddaraf

Erthygl
30 Hydref 2019
Erthygl
15 Hydref 2019

Cofnodion Blog

Jennifer Protheroe-Jones Prif Guradur - Diwydiant
16 Mai 2020
Jennifer Protheroe-Jones –Prif Guradur Diwydiant
15 Mai 2020
Carwyn Rhys Jones
14 Ebrill 2020
gan Rhodri Viney
6 Rhagfyr 2019