Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig arbenigedd mewn treftadaeth archaeolegol ddiwydiannol, amgylcheddol ac arteffactau, gan ein tîm o 14 curadur a staff cadwraeth, gyda chefnogaeth ychwanegol ein Cymrodyr Ymchwil Anrhydeddus. At ei gilydd mae gennym dros 250 mlynedd o brofiad yn ogystal â mynediad parod at gasgliadau cymharol sy’n cynnwys miliynau o arteffactau.
Mae’r tîm wedi arfer ymwneud â’r sector archaeolegol fasnachol ac mae gennym brofiad o gynhyrchu adroddiadau o safon uchel am brisiau cystadleuol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Lithig
Deunydd cynhanesyddol yn cynnwys fflint ac offer cerrig, mosaig, arteffactau carreg eraill, cerrig adeiladu
Metelwaith
Gwaith aur, haearn, plwm ac aloi copr o bob cyfnod hyd heddiw
Niwmismateg
Ceiniogau o bob cyfnod, a medalau o’r DU
Crochenwaith
Cynhanesyddol, canoloesol, ôl-ganoloesol
Darganfyddiadau bychan eraill
Asgwrn, gwydr, cerameg a gwrthrychau cerrig wedi’u gweithio o bob cyfnod hyd heddiw
Dadansoddi petrolegol
Cerameg, cerrig
Archaeoleg amgylcheddol
Molysgiaid (morol ac anforol), dadansoddi paill
Archaeoleg ddiwydiannol
Adnabod safleoedd a dehongli, adnabod darganfyddiadau
Arddangos a dehongli
Arwyddion safle-benodol, marcwyr tirlun, arddangosfeydd, ail-greu adeiladau
Ymgynghori ar dreftadaeth
Cefnogaeth i elfennau treftadaeth ac amgueddfaol projectau trydydd parti a ariennir gan grantiau
Caiff gwasanaethau palaeoamgylcheddol, arteffact a safleoedd archaeolegol Amgueddfa Cymru eu darparu gan: