Polisi Preifatrwydd
Mae Amgueddfa Cymru (yr Amgueddfa) yn casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag un o wasanaethau, swyddogaethau neu weithgareddau’r Amgueddfa.
Mae’r Amgueddfa yn cadw’r wybodaeth hon yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth bresennol y DU. Mae’r Amgueddfa’n casglu eich gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol:
- Gweinyddu a Rheoli’r Amgueddfa: er enghraifft, recriwtio, cyflogres, pensiynau, casglu ystadegau am ymwelwyr, contractau neu sicrhau bod catalogau a chyfeiriaduron yn gywir.
- Ymchwil: er enghraifft, canfod ffyrdd o wella ein gwasanaethau, pa adrannau ar ein gwefan y bydd pobl yn ymweld â nhw, neu ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa a sefydliadau eraill.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith ar fonitro'r wefan, darllenwch ein polisi cwcis yma.
- Curadurol: er enghraifft, ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa.
- Hyrwyddo: cysylltu â chi i rannu gwybodaeth am arddangosfeydd, digwyddiadau neu weithgareddau eraill yr Amgueddfa.
Fyddwn ni ond yn anfon gwybodaeth atoch chi am ein harddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau os ydych chi wedi rhoi caniatâd penodol 'optio i mewn' i ni wneud hynny.
Os fyddwch chi'n newid eich meddwl ar unrhyw adeg a ddim am dderbyn e-byst gennym ragor, cliciwch 'dad-danysgrifio' ar unrhyw e-bost gennym neu mewngofnodwch i'ch cyfrif i newid eich dewisiadau yn uniongyrchol.
- Adborth a holiaduron: er enghraifft, os fyddwch chi'n cysylltu â ni ar ôl eich ymweliad, mae'n bosibl y byddwn yn cadw copi o'r ohebiaeth honno neu os fyddwch chi'n llenwi holiadur ôl-ymweliad dienw
- Diogelwch: er enghraifft, sicrhau diogelwch ymwelwyr, eiddo, personél, seilwaith a chasgliadau’r Amgueddfa
- Codi arian: er enghraifft, cysylltu â’n cefnogwyr a’n cymwynaswyr i weinyddu eich aelodaeth neu gyfraniad
Gall yr wybodaeth hon gynnwys eich enw, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a rhifau cardiau credyd a/neu ddebyd er mwyn diwallu eich contract aelodaeth â ni. Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd. Os fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth wrth ein cefnogi, mae'n ofyniad cyfreithiol i ni gadw eich enw llawn a chyfeiriad postio.
- Tocynnu: er enghraifft er mwyn cyflenwi unrhyw archebion am wasanaethau yr ydych yn dymuno eu defnyddio neu gysylltu â nhw, gan gynnwys gwerthiant ar-lein neu wyneb yn wyneb yn unrhyw un o'n hamgueddfeydd, ac er mwyn darparu gwybodaeth ychwanegol fydd yn hwyluso eich ymweliad
Gall yr wybodaeth hon gynnwys eich enw, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a rhifau cardiau credyd a/neu ddebyd er mwyn diwallu eich contract tocynnu â ni. Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn gofyn i chi ateb amryw gwestiynau cyffredinol amdanoch gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau all fod o ddiddordeb i chi er mwyn i ni allu teilwra gwybodaeth a chynigion arbennig ar eich cyfer yn y dyfodol.
Fyddwn ni ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom. Pan fyddwn ni'n gofyn i chi ddarparu eich gwybodaeth bersonol, byddwn ni'n dweud pam ein bod yn gofyn amdani ac yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio eich data trwy eich cyfeirio at yr hysbysiad hwn. Mae eich data personol ac achosion o ryngweithio â ni yn cael eu cadw yn ein system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid diogel a ble bynnag posibl ein nod fydd cadw un cofnod ar gyfer pob cwsmer.
Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth marchnata, ni fyddwn yn defnyddio'r data at ddibenion dadansoddi na marchnata ar ôl 7 mlynedd o ddiffyg gweithgarwch yn eich cyfrif. Byddwn yn cadw cofnodion ar ein system am hyd at 15 mlynedd o ddyddiad diwethaf gweithgarwch yn y cyfrif, at ddibenion sy'n rhan o fuddiant dilys ein busnes.
Efallai y byddwn ar adegau yn contractio trydydd parti i ddarparu'r gwasanaethau hyn ond ni fyddwn fyth yn gadael i unrhyw drydydd parti ddefnyddio eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd heblaw'r hyn a gontractiwyd gennym.
Diogelwch eich data personol
Mae'r Amgueddfa wedi ymrwymo i gadw eich data yn ddiogel.
Mae gofyniad cyfreithiol ar bob prosesydd data a chanddo fynediad at ddata personol neu sy'n gysylltiedig â phrosesu data personol i barchu cyfrinachedd y data personol a gedwir gennym. Byddwn yn cymryd pob cam sy'n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.
Eich hawliau
Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Gallwch:
- weld eich data a chael copi ohono drwy wneud cais;
- ofyn i ni newid data anghyflawn neu anghywir
- ofyn i ni ddileu neu stopio prosesu eich data, er enghraifft pan nad yw’r data yn angenrheidiol at ddibenion prosesu bellach
- wrthwynebu i ni brosesu eich data lle byddwn yn dibynnu ar ein buddiannau dilys yn sail gyfreithiol ar gyfer ei brosesu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a sut y byddwn yn ei ddefnyddio, neu os hoffech weld ein Polisi Diogelwch Rhyngrwyd llawn, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data trwy e-bostio: swyddogdiogeludata@amgueddfacymru.ac.uk.