Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
39 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
I nodi canmlwyddiant y BBC, bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, BBC 100 yng Nghymru, yn adrodd hanes y gorfforaeth yng Nghymru. O’r darllediadau cyntaf yn y 1920au i’n hoes ddigidol ni heddiw, mae’r arddangosfa yn archwilio sut mae Cymru wedi cyfrannu at greu a datblygu’r BBC, a sut mae’r BBC wedi dylanwadu ar Gymru.
Mae’n bosib taw dau ffosil a ganfuwyd ger Llandrindod yw'r cyntaf o'u bath i gael eu canfod tu allan i Ogledd America. Cafodd y ffosilau eu canfod gan ymchwilwyr Amgueddfa Cymru mewn creigiau a ddyddodwyd dan y môr dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd canolbarth Cymru dan ddŵr. Credir taw dyma'r rhywogaeth opabinid cyntaf i gael ei ganfod yn Ewrop.
I ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, bydd arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn rhoi sylw i rai o bobl a chymunedau’r Wal Goch.
Mae casgliad o eitemau sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan nawr i’w gweld yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 5 Hydref, mae “Brenhinoedd Tanddaearol” yn arddangosfa hynod ddiddorol sy’n cynnwys glowyr sydd wedi goroesi a’u perthnasau y tynnwyd llun ohonynt gan ddefnyddio proses o’r enw ffotogrametreg, sy’n trosi delweddau dau ddimensiwn yn bortreadau tri dimensiwn.
Mae’r canlyniadau yn bortreadau digidol 3D unigryw ynghyd â straeon yn eu lleisiau eu hunain o’r glowyr a’u perthnasau.
Bydd dathliadau lansio Hanes Pobl Dduon Cymru yn cael eu cynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Sadwrn 1 Hydref 2022 rhwng 11.15am a 5pm.
I ddathlu'r achlysur, bydd Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Race Council Cymru yn cynnal diwrnod o ddigwyddiadau ar y thema 'Bobl Ifanc, Nawr yw'r Amser!'