Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
41 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
Mae naw canfyddiad yn dyddio o’r canoloesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol heddiw (29 Mawrth 2021) wedi eu cyhoeddi’n drysor gan Grwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Mr Thomas Atherton. Canfuwyd pob gwrthrych gan ddefnyddwyr datgelyddion metel ac yn eu plith mae celciau ceiniogau aur ac arian, modrwyau ac eitemau personol oedd yn eiddo i gyfoethogion Cymru rhwng y 9fed a’r 17eg ganrif OC.
Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer pumed rhifyn Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru. Y thema yw Cynefin ac rydyn ni’n galw ar artistiaid, awduron, a phobl greadigol o bob cwr o Gymru i gynnig testunau Cymraeg, Saesneg a Dwyieithog.
Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi'r Rural Office for Architecture i arwain y gwaith o ddatblygu uwchgynllun cysyniadol fydd yn llywio datblygiad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yng nghanol y brifddinas, yn ganolfan diwylliannol a chreadigol i’r genedl.
Amgueddfa Cymru i gyflwyno gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein i ddathlu celf gan artistiaid Du o Gymru
Mae Amgueddfa Cymru yn rhan o grŵp o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus o bob rhan o Gymru sy'n rhan o 'Bartneriaeth Cydraddoldeb Corff Cyhoeddus Cymru' (WPBEP) sydd heddiw wedi cadarnhau eu hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020 - 2024.
Bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal arddangosfa i ddangos y rôl hanfodol y mae’r BBC wedi chwarae ym mywydau bob dydd pobl Cymru dros y 100 mlynedd diwethaf.