Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
39 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
250+ o grefftwyr, 29 gwlad, 1 wisg.
Mae gwisg drawiadol wedi'i chreu gan bwythwyr o bob cwr o'r byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf, a bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r mis hwn.
19 -27 Chwefror 2022
Dyfarnwyd Cronfa Her Amgueddfa Cymru i Sugar Creative i ymchwilio a datblygu ffyrdd arloesol o brofi a rhyngweithio â chasgliadau'r amgueddfa ar raddfa leol a byd-eang.
Mae'r gronfa yn deillio o bartneriaeth Clwstwr ac Amgueddfa Cymru i sbarduno arloesedd creadigol a thechnolegol yn y sector treftadaeth.
Mae Clwstwr yn rhan o Raglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol. Caiff ei hariannu gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’i chyflwyno gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar ran UKRI.
Canfod gwrthrychau Oes Efydd, canoloesol ac ôl-ganoloesol yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam
Mae gwrthrych pwysig yn ymwneud a thrychineb Aberfan heddiw (Dydd Iau 3 Chwefror 2022) wedi ei roi yn swyddogol i gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r cloc bach a stopiodd am 9.13am, yr union amser y tarodd y domen y pentref, nawr yn rhan o’r casgliadau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a bydd i’w weld yn oriel ‘Cymru’ o 16 Chwefror 2022.
Heddiw (1 Chwefror 2022) mae Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn rhannu cynlluniau fydd yn helpu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu bywydau pob unigolyn a phob cymuned. Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad wrth ymateb i dri adroddiad am ehangu ymgysylltiad a gomisiynwyd yn ystod haf 2020 ac a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021.