Oriel Cymru...
Yn yr oriel hon gallwch edrych ar hanes Cymru o sawl safbwynt, gan rannu eich teimladau a’ch profiadau chi. Cewch gamu i’r gorffennol trwy eitemau gwych o’n casgliadau, a lleisiau’r bobl oedd yn ymwneud â nhw.
Gallwch weld gweddillion bachgen ifanc Neanderthalaidd oedd yn byw yng Nghymru 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Sut olwg oedd arno? Pa mor wahanol oedd e i fachgen deg oed heddiw? Dewch i ddarganfod sut y bu dyn ifanc a bachgen farw ar Ynys Môn yng nghyfnod y Llychlynwyr. A beth oedd y Rhufeiniaid yn ei wneud yn eich ardal chi?Cewch glywed hefyd beth mae milwyr heddiw yn ei feddwl o’r eitemau a wnaed gan filwyr wedi’u hanafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a beth yw barn pobl ifanc ar bleidlais datganoli 1997.
Dyna rai yn unig o’r straeon gaiff eu trafod er mwyn edrych ar y profiad o fyw yng Nghymru drwy’r canrifoedd.