Hanes Byr Sain Ffagan
“[Bydd Sain Ffagan] yn ddarlun byw o’r gorffennol, yn ddrych o elfennau ein Cymreictod presennol, ac yn ysbrydoliaeth i ddyfodol ein gwlad.”
(Iorwerth C. Peate, 1948).
Prin yw’r llefydd sy’n llwyddo i adlewyrchu hunaniaeth y Cymry i’r fath raddau â Sain Ffagan. Agorodd ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Orffennaf 1af, 1948. Dyma oedd amgueddfa awyr agored cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig. Roedd yn arloesol am ei bod yn rhoi bywydau’r werin bobl wrth wraidd ein hanes: o’r cychwyn cyntaf, roedd yn torri cwys newydd. Erbyn hyn, hi yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Pennaeth Sain Ffagan o 1948-1971 oedd Dr Iorwerth C. Peate. Ei ysbrydoliaeth oedd amgueddfeydd awyr agored Sgandinafia, a’i fagwraeth yn Llanbryn-Mair.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Rhodd hael i’r genedl gan Iarll Plymouth oedd safle’r amgueddfa newydd yn Sain Ffagan.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Hyd at y 1940au : Gosod Seiliau
Gwreiddyn casgliadau Sain Ffagan yw’r hen gegin Gymreig oedd ar un adeg i’w gweld yn yr Amgueddfa ym Mharc Cathays. Fe’i agorwyd ym 1926.
Cefnogwyd Iorwerth Peate i ddatblygu Amgueddfa Werin gan Syr Cyril Fox. Archeolegydd oedd Fox, a Chyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru o 1926 i 1948.
1950au : Adeiladu
Tirlun llawer gwacach nag ydyw heddiw. Cliriwyd y coed o ran helaeth o’r parc er mwyn ailgodi adeiladau hanesyddol. Agorwyd Ffermdy Cilewent ym 1959.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Un o dîm ailgodi’r Amgueddfa yn adeiladu melin wlân Esgair Moel ym 1951. Ffocws y blynyddoedd cynnar oedd datblygu’r amgueddfa awyr agored. Cododd pobl Cymru £50,000 i ariannu’r gwaith.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Iorwerth Peate, ben ac ysgwydd uwchben eraill, yn mynychu agoriad Capel Pen-rhiw ym 1956. Yr adeilad cyntaf i’w hailgodi yn yr amgueddfa oedd ysgubor Stryd Lydan, ym 1951.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Plethu matiau ar gyfer to ffermdy Kennixton, adeilad sydd yn ffefryn i genedlaethau o ymwelwyr. Fe’i agorwyd ym 1955.
1960au : Cofnodi
Bûm i fy hun yn sgwrsio â’r Cymro Cymraeg olaf mewn llawer pentref ym Morgannwg – profiad trist iawn. Wedi ei farw, wele gladdu holl olud gorffennol y pentre hwnnw.
Rhan o apêl radio yr Athro G J Williams ar gyfer yr Amgueddfa Werin, 1958.
Disgynnodd nifer y Cymry Cymraeg wedi’r rhyfel. Yn dilyn apêl radio am arian i brynu offer recordio ym 1958, dechreuodd yr Amgueddfa gofnodi tafodieithoedd a thraddodiadau llafar Cymru.
Penodwyd staff i recordio tafodieithoedd, llên gwerin, canu gwerin yn ogystal ag arferion traddodiadol. Teithiwyd hyd a lled Cymru yn y Land Rover a'r carafan hwn.
Ochr yn ochr â chofnodi tystiolaeth lafar, roedd y gwaith o symud adeiladau hanesyddol yn parhau. Dyma fwthyn Llainfadyn, un o bedwar adeilad a agorwyd yn Sain Ffagan yn y 60au.
Llun: © Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
1970au : Datblygu
Darlun pensaer o Brif Adeilad newydd arfaethedig ar gyfer yr Amgueddfa Werin.
Erbyn yr 1970au, roedd gan yr Amgueddfa orielau, swyddfeydd a gweithdai newydd sbon. Dyma staff yr Amgueddfa Werin o flaen yr Adeilad Gweinyddol newydd ym 1971.
Agorwyd tair oriel newydd: yr Oriel Diwylliant Materol ym 1970; yr Oriel Amaethyddol ym 1974; a’r Oriel Wisgoedd ym 1976.
Roedd yr Amgueddfa hefyd wedi dechrau cofnodi bwydydd traddodiadol. Dyma arddangos gwneud bwydydd yn ffermdy Kennixton ym 1972.
Turnio coed yn Sain Ffagan yn 1977. Un o amcanion yr Amgueddfa o’r cychwyn cyntaf oedd cofnodi a hyrwyddo crefftau traddodiadol.
1980au : Newid Cyfeiriad
Erbyn yr 1980au, roedd cymunedau diwydiannol Cymru o dan gymaint o fygythiad â chymunedau cefn gwlad yr 1940au. Roedd angen newid cyfeiriad. Ym 1987, ailgodwyd tai Rhyd-y-car o Ferthyr Tudful yn Sain Ffagan.
Rhai o drigolion gwreiddiol y bythynnod yn siarad â chyfarwyddwyr yr Amgueddfa adeg yr agoriad. Am y tro cyntaf, roedd bywyd o fewn cof i ymwelwyr yn cael ei arddangos.
Agorwyd adeilad hanesyddol bron bob blwyddyn yn yr 1980au – cyfnod prysur! Yn eu plith roedd Popty’r Dderwen, o Aberystwyth.
Ym 1984, agorwyd Ysgol Maestir – adeilad sydd wedi rhoi cyfle i genedlaethau o blant i ddysgu am y gorffennol mewn ffordd uniongyrchol a difyr.
1990au : Ehangu, Dysgu
Agor y Pentre Celtaidd yn Sain Ffagan ym 1992. Dyma’r tro cyntaf i’r Amgueddfa ail-greu adeiladau o dystiolaeth archeolegol.
Tan 1993, doedd gan Sain Ffagan ddim enghraifft o gartref pobl dlotaf cefn gwlad. Roedd tŷ clom Nantwallter yn gartref i was ffarm a’i deulu.
Yn sgil Rhyd-y-car, ailgodwyd adeiladau eraill o ardaloedd diwydiannol yn Sain Ffagan. Agorwyd Siop y Gwalia, a fu’n gwasanaethu cymuned lofaol Cwm Ogwr, ym 1991.
Institiwt y Gweithwyr Oakdale yn ei safle gwreiddiol. Agorwyd yr adeilad yn Sain Ffagan ym 1995. Y flwyddyn honno, newidwyd enw Saesneg yr Amgueddfa i gyfleu’r newid pwyslais yn ei gwaith.
2000au : Arbrofi
Gwlad wahanol iawn oedd Cymru’r 2000au i Gymru cyfnod Dr Peate. Cyfnod o arbrofi ydoedd i’r Amgueddfa. Roedd creu Oriel 1 yn caniatau adlewyrchu darlun mwy cynhwysol o Gymru.
Yn Oriel 1, dechreuwyd cydweithio gyda chymunedau i greu arddangosfeydd. Dyma staff gyda chymuned a weithiodd gyda ni ar y thema Credoau.
Ym 2007, fe agorodd un o brosiectau ailadeiladu mwyaf uchelgeisiol yr Amgueddfa. Ailgrewyd Eglwys Sant Teilo fel yr edrychai cyn i Harri VIII dorri’r cysylltiad â’r ffydd Gatholig ym 1532.
Fe ddysgodd yr Amgueddfa wers bwysig iawn wrth ail-adeiladu Eglwys Sant Teilo. Roedd gan ymwelwyr ddiddordeb brwd yn y broses o greu, yn ogystal â’r cynnyrch gorffenedig.
2010au : Creu Hanes
Rydym bellach mewn cyfnod o drawsnewid mawr yn hanes Sain Ffagan. Bydd Sain Ffagan o hyn allan yn adrodd hanes pobl yng Nghymru dros 240,000 o flynyddoedd. Rydym wedi cyfuno casgliadau hanes ac archeoleg Amgueddfa Cymru i greu orielau newydd a chyffrous.
Yr Orielau