Data Tywydd ar gyfer Tachwedd

Megan Naish, 5 Rhagfyr 2025

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion sydd wedi uwchlwytho eu data tywydd i'r wefan hyd yn hyn. Mae wedi bod yn dywydd cymysg iawn ym mis Tachwedd, felly mae'n ddiddorol gweld beth rydych chi i gyd wedi'i gofnodi!

Mae'r MET Office wedi nodi bod Tachwedd 2025 wedi dod â thywydd amrywiol iawn ledled y DU, gyda glawiad uwch na'r cyfartaledd. Y mis hwn roedd glawiad y DU 31% yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer mis Tachwedd, sydd yn ei wneud y mis mwyaf gwlyb o 2025 hyd yn hyn!

Daeth Storm Claudia ym mis Tachwedd â glaw trwm, yn enwedig i Loegr a Chymru, gyda'r MET Office yn adrodd bod Canolbarth Lloegr, Swydd Lincoln, a Swydd Efrog wedi gweld mwy na dwbl eu glawiad cyfartalog ym mis Tachwedd. Arweiniodd y glaw hwn at lifogydd ac aflonyddwch mewn rhai ardaloedd, sy'n cael ei adlewyrchu yn eich sylwadau!

Roedd y tymheredd ym mis Tachwedd hwn yn amrywiol hefyd, lle dechreuodd y mis yn gynhesach nag arfer ond gostyngodd y tymheredd yn gyflym iawn yn ystod ail hanner y mis. Mae llawer o ysgolion wedi sôn am y newid hwn yn eu sylwadau, gyda rhai yn gweld rhew a chyfnodau byr o eira!

Gadewch inni edrych ar eich sylwadau i weld sut mae'r prosiect yn mynd mewn ysgolion ledled y DU.

-

Mae llawer o Gyfeillion y Gwanwyn wedi gwneud arsylwadau tywydd gwych:

Church Cowley St James CE Primary

Bitter cold week but glorious sunshine on Friday.

Church Cowley St James CE Primary

14/11/25 - Storm Claudia yn cychwyn

Cornist Park C.P

The start of the week began really mild. As the week has gone on the rain has become more persistent resulting in 12mm of rainfall while we were in school on Friday.

Mary Immaculate R.C. School

On Tuesday 4th November we had really heavy rain. Resulting in our playground flooding and lots of children and staff struggling to get home after school One of our teachers in Tenby had no water in her house for the evening.

Pil Primary School

There has been a lot of rain this week.

Athro’r Ardd:

Mae'n wych gweld cymaint o fanylion yn eich sylwadau, gan nodi faint mae'r tywydd wedi newid mewn un wythnos yn unig. Mae'r glawiad dros fis Tachwedd wedi bod yn wych ar gyfer helpu eich bylbiau i dyfu!

Fodd bynnag, gall stormydd fod yn aflonyddgar iawn, felly diolch i chi am rannu'r effaith a gafodd y storm ar eich ysgolion ac yn y cartref.

-

Rydych chi hefyd wedi bod yn gwneud sylwadau ar newidiadau yn y tymheredd:

Pil Primary School

It has been very cold this week, and we have had hardly any rainfall.

St John's Primary School

Light snow and frost on Wednesday Thursday

Irvinestown Primary School

We had lots of ice this week and it was very cold There was even a little bit of snow

Gavinburn Primary School

Very cold week

St Peter's CE Primary School

A flurry of snow fell for 10 minutes today

Ysgol Pentreuchaf

Y tywydd wedi oeri lot wythnos yma.

Athro’r Ardd:

Mae mor ddiddorol darllen am y newidiadau mewn tymheredd rydych chi wedi'u gweld dros fis Tachwedd, gyda rhai ohonoch chi hyd yn oed yn gweld rhywfaint o eira! Daliwch ati i gofnodi'r manylion hyn, gan y bydd yn gyffrous gweld pa dymheredd y bydd mis Rhagfyr yn ei gynnig.

 

-

Rydyn ni hyd yn oed wedi cael rhai Cyfeillion y Gwanwyn yn adrodd ar dwf planhigion yn barod:

Rhayader Primary

Our mystery bulbs have started growing, as have some of our other pots.

St Patrick's RC Primary - Newport

The temperature dropped immensely over the weekend. We also have begun to see early growth in our crocus plants.

Athro’r Ardd:

Mae'n gyffrous iawn clywed bod rhai ysgolion wedi dechrau gweld rhywfaint o dwf planhigion yn barod! Da iawn am gofnodi hyn a chadwch lygad ar eich planhigion i weld beth sy'n digwydd nesaf.

-

Rwyf wedi bod wrth fy modd yn darllen eich sylwadau a'ch arsylwadau a gweld eich holl ddata yn cael ei uwchlwytho. Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel Cyfeillion y Gwanwyn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth sy'n digwydd nesaf ym mis Rhagfyr!

Athro’r Ardd

Cynhesrwydd y Gaeaf yn Amgueddfa Wlân Cymru: Lapiwch Eich Hun yn Hud y Gwlân

Dafydd Newton-Evans, 26 Tachwedd 2025

Mae tawelwch cyfarwydd y gaeaf yn llenwi’r awyr – distawyrwydd medal sy’n nodi cychwyn ein hoff dymor yma yn Amgueddfa Wlân Cymru. Efallai bod y tymheredd yn disgyn y tu allan, ond y tu mewn mae popeth yn gynnes ac yn groesawgar. 

Dewch i mewn i’r amgueddfa i galon dathliad o etifeddiaeth, crefft a chysur. Mae’r amgueddaf wedi’i haddurno â chrefftau Nadoligaidd wedi’u gweu â llaw gan ein crefftwyr dawnus, O sannau blewog, I gasgliad o anifeiliaid gwalnog, mae pob addurn yn cario cynhesrwydd crefftus. 

Mae ein crefftwyr wedi bod yn brysur yn gwehyddu blancedi Nadolig trawiadol yn y Sied Weu, sydd newydd ei hadnewyddu – a credwch ni, maent mor gynnes ac y maent yn brydferth. Mae pob blanced yn gyfuniad o dechnegau traddodiadol, dyluniad ac ysbryd yr ŵyl. Mae’n nhw’n gwerthu’n gyflum, felly os ydych yn chwilio am anrheg sy’n teimlo fel cwtsh, yna dewch draw i’r siop cyn iddyn nhw gyd fynd!

A sôn am anrhegion… mae rhywbeth arbennig i bob crefftwr gwlanog yn ein siop. Dewiswch o sgarffiau medal hyfryd, wedi’u cynhyrchu yma ar ein gwŷdd Hattrsley, sanau trwchus gwlanog ac amrywiaeth o anrhegion tectsiliau a gwlân prydferth. Beth am brynnu tocyn i fynychu un o’n cyrsiau Dysgu Nyddu i’r crefftwr yn eich bywyd – mae’r cyrsiau yn boblogaidd ac yn anrheg perffaith i rhywun sy’n awyddus I greu rhywbeth unigryw. 

Eleni, rydym yn falch iawn o gynnig hyd yn oed mwy o hwyl Nadoligaidd i’r teulu cyfan! Bydd y rhai bach (a’r rhai mawr) wrth eu boddau yn cyfarfod Blwi, sy’n dod draw am ymweliad Nadoligaidd arbennig, ac amser stori. Dewch â’ch gwên orau a tynnwch lun neu ddau gyda hoff gymeriad pawb. 

Ac i’r rhai sy’n hoff o bethau melys, peidiwch a cholli’r cyfle I addurno eich Bisged Nadolige ich hun – ffordd hyfryd o danio creadigrwydd a llawenydd yr ŵyl gyda’ch plant. Mae’r weithgaredd ymarferol yma ar gael am gost ychwanegol, ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i greu eich campwaith blasus eich hun. 

Unwaith bydd eich bisgedi wedi’u haddurno, a’ch bagiau siopa wedi’u llenwi, cymerwch eiliad i ymlacio yn ein caffi clyd. Cynheswch eich hun gyda diod o siocled poeth, a mwynhewch ddarn o gacen blasus yng nghwmni ffrindiau a theulu wrth I wyntoedd y gaeafa chwythu y tu allan. 

Felly, dewch i mewn o’r oerfel a lapiwch eich hun mewn gwlân. Gyda addurniadau hudolus, crefftau calonogol, hwyl i’r teulu a danteithion blasus, mae gan Amgueddfa Wlân Cymru rhywbeth i bawb y Nadolig yma. 

Allwn ni ddim aros i’ch croesawu – wedi’ch laipo mewn cynhesrwydd, hwyl a hud gwlanog. 

Blwyddyn eithriadol! Blwyddyn ers cau drysau'r Amgueddfa Lechi dros-dro ar gyfer ailddatblygu!

Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, 3 Tachwedd 2025

Mae wedi bod yn ddeuddeg mis eithriadol i broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 

Ers i ni gau ein drysau am y tro ym mis Tachwedd 2024, mae'r tîm wedi ymgymryd â'r gamp anhygoel o baratoi'r amgueddfa ar gyfer y gwaith ailddatblygu. 

Rydyn ni wedi llwyddo i gael grant hynod uchelgeisiol gwerth £12m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae hyn, ynghyd â'r buddsoddiad gan ein cefnogwyr eraill, wedi ein galluogi o'r diwedd i wireddu uchelgais lawn y prosiect.   

Rydym wedi pacio a chludo ein casgliadau'n ddiogel i'w cartref dros dro yng Nghanolfan Gasgliadau Llandygai a wedi penodi MPH Ltd yn brif gontractwr i ddechrau ar y gwaith cadwraeth ac atgyweirio arbenigol iawn ar y safle, sy’n gyffrous dros ben. 

Yn ystod y gwaith galluogi, mae hen adeiladau’r siop a’r caffi wedi cael eu dymchwel yn barod ar gyfer y datblygiadau newydd ar y safle. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y rhannau hyn o'r safle'n dychwelyd i sut roedden nhw'n edrych pan oedd y gweithdai'n weithredol, am y tro. 

Rydyn ni wedi mynd â'n staff a'n casgliadau ar y lôn, gan fynd â’r profiad amgueddfa y tu hwnt i waliau'r – i leoliadau partner ar hyd a lled ardal Safle Treftadaeth y Byd. Mae rhai o'n staff blaen ty ni wedi ymgartrefu yn Ysbyty'r Chwarel ac yn fan hyn rydym wedi cyflwyno cymeriad newydd sef Maragaret y Metron, dynes anhygoel go iawn oedd yn gweithio yno. Mae ein chwarelwyr llechi wedi ymgartrefu yn eu lleoliad dros dro yng Nghastell Penrhyn, moment bwerus a symbolaidd i hanes llechi a'u lle yn hanes ein cymunedau lleol yma yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae ein Gof draw yn Crefft Migldi Magldi yng nghei llechi Caernarfon gyda Gof ifanc yno.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n galed ar be fydd yn mynd i mewn i'r Amgueddfa yn y pen draw - yn dylunio a paratoi ar gyfer y gofodau dehongli newydd. 

Mae'n teimlo fel amser da i oedi, i bwyso a mesur, ac i ddathlu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.  Dyma rhai o'r pethau sydd wedi eu cyflawni yn ystod yr amser yma diolch i'n staff eithriadol a'n partneriaid ehangach. 

Mae’r prosiect yn mynd ar wib a does dim arwydd ei fod am arafu! Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu’r profiad i ymwelwyr ar y safle, gan gynnwys yr arddangosfeydd o’r radd flaenaf yn yr amgueddfa, sy’n gyflwyniad gwirioneddol wych i safle treftadaeth y byd ‘Tirweddau Llechi Gogledd-orllewin Cymru’ – ochr yn ochr â'n partneriaid ar draws yr ardal hynod hon.  Gwyliwch y gofod yma am fwy o fanylion! 

Lleisiau’r Amgueddfa: Penny Dacey – Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn

31 Hydref 2025

Mae person gyda gwallt hyd ysgwydd a chrys glas yn sefyll o flaen cefndir gwyrdd deiliog, yn edrych at y camera.

Helo Penny, dwed ychydig wrthym amdanat ti dy hun a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Helo, mae gen i swydd hyfryd yn Gydlynydd Prosiect Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Danielle Cowell yw fy rheolwr llinell, a hi sefydlodd y prosiect yn 2005. Mae’r prosiect yn rhoi addysg awyr agored i ysgolion cynradd trwy gynnal ymchwiliad gwyddonol i’r hinsawdd. Fy rôl i yw bod yn brif gyswllt i’r ysgolion, a’u helpu nhw i ymgysylltu â’r ymchwiliad.

Mae’r ymchwiliad ar waith trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd ysgolion yn derbyn pecynnau adnoddau ddiwedd Medi, yn mabwysiadu a phlannu eu bylbiau ym mis Hydref, ac yn cymryd darlleniadau tywydd bob diwrnod ysgol o fis Tachwedd tan ddiwedd Mawrth. O fis Ionawr, byddan nhw’n monitro eu blodau, gan gofnodi’r dyddiad blodeuo a thaldra eu planhigion ar y dyddiad hwnnw. Caiff y data i gyd ei rannu ar ein gwefan.

Ym Mai, byddwn ni’n anfon gwobrau i’r ysgolion am eu cyfraniadau. Bydd yr ysgol fuddugol drwy Gymru’n cael taith i’w hamgueddfa agosaf (Amgueddfa Cymru), yn cynnwys y gost o logi bws a gweithdai gyda hwylusydd. Mae ’na gystadleuaeth Tynnu Llun y Diwrnod Plannu a chystadleuaeth fideo Bylbcast, gyda gwobrau ychwanegol i ysgolion. Ym mis Gorffennaf byddwn ni’n rhannu adroddiad diwedd blwyddyn sy’n archwilio data’r flwyddyn a chanfyddiadau cyffredinol y prosiect.

Plentyn gyda sbectol a dwylo mwdlyd yn gwenu wrth ymyl pot o bridd, gyda phlant eraill i'w gweld yn y cefndir.

Mae gweithio ar y prosiect yn rhoi boddhad mawr, ac mae’r sylwadau sy’n cael eu rhannu gan ddisgyblion am y tywydd a’u planhigion yn aml yn cynhesu’r galon.

Eleni rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, dwed ragor wrthon ni am hynny!

Iawn. Mi ddechreuodd Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn 2005 gyda llond llaw o ysgolion yn ardal Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mi dyfodd yn raddol i gwmpasu Cymru gyfan, gan gynnig prosiect ymgysylltu digidol oedd yn caniatáu i ysgolion ledled Cymru gysylltu â ni. Diolch i gyllid allanol gan yr Edina Trust, ehangodd yr ymchwiliad ymhellach. Ers 2011, mae’r prosiect wedi cynnwys ysgolion yn Lloegr a’r Alban, ac ers 2017, ysgolion yng Ngogledd Iwerddon.

I ddathlu’r garreg filltir 20 mlynedd, rydyn ni’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r ymchwiliad a’i effaith, yn ogystal â thynnu sylw at dreftadaeth Amgueddfa Cymru ym maes addysg hinsawdd a chynaliadwyedd. Er i’r sefydliad ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2018, mae ganddo hanes llawer hirach o weithio yn y maes yma, fel mae hirhoedledd a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn tystio.

Dwylo pump o blant yn dal bylbiau blodau dros arwyneb glas gyda phridd o gwmpas.

Mae’r Edina Trust wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer dathliadau eleni, gan gynnwys recriwtio Swyddog Dathliadau i gefnogi ein gweithgareddau ychwanegol. Bydd y dathliadau’n cynnwys cynnal gweithdai rhithwir newydd i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, creu ac enwi amrywiad newydd o gennin Pedr, a sefydlu gweithdy natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (yn ddi-dâl i’r 20 ysgol gyntaf i ymuno). Rydyn ni’n cydweithio hefyd gyda’n tîm mentrau i ddatblygu arddangosfeydd ar themâu’r prosiect yn siopau’r amgueddfeydd. Caiff yr amrywiad cennin Pedr newydd ei blannu fel rhan o arddangosfeydd yn Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd gennym weithgareddau i’r teulu yn gysylltiedig â’r prosiect dros hanner tymor yr hydref ar y ddau safle.

Mae’n gyfnod prysur i’n tîm bach, ond yn llawn cyffro wrth ystyried yr hyn sydd o’n blaenau.

Allet ti ein cyflwyno ni i Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan, ein hoff aelodau answyddogol o dîm Amgueddfa Cymru?

Wrth gwrs! Athro’r Ardd yw masgot y prosiect, a’r Bwlb Bychan yw ei gynorthwyydd parod wrth ei ochr. Byddwn ni’n cysylltu â’r ysgolion drwy Athro’r Ardd, sy’n ysgrifennu’r cyfarwyddiadau a’r blog ar gyfer y prosiect. Pedwar Cydlynydd Prosiect sydd wedi bod dros y blynyddoedd, gyda phumed yn ymuno cyn hir, sy’n help i gadw cysondeb. Mae’n ffordd ddifyr hefyd o ennyn diddordeb disgyblion iau, gan fod llawer o sylwadau a chwestiynau gan ysgolion yn cael eu cyfeirio at yr Athro.

Beth allwn ni ei ddysgu am newid hinsawdd o’r data gawn ni gan yr ysgolion?

Mae llaw yn defnyddio pren mesur i fesur blodau crocws porffor sy’n tyfu mewn potiau du, gyda glaswellt yn y cefndir.

Mae’r data sy’n dod o’r ysgolion yn bwydo i mewn i’n hadroddiadau diwedd blwyddyn. Bob blwyddyn academaidd, byddwn ni’n cynhyrchu adroddiad sy’n cymharu data tywydd y Swyddfa Dywydd ers dechrau’r ymchwiliad gyda’r data blodau a gesglir gan ysgolion. Mae’r adroddiad yn arf defnyddiol ar gyfer dysgu mathemateg a rhifedd, gan ei fod yn cyflwyno gwahanol dablau a graffiau ac yn tynnu sylw at dueddiadau a phatrymau. Yn aml mae’n ystyried pam efallai fod planhigion wedi blodeuo’n gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl, a sut y gallai tywydd y flwyddyn honno fod wedi effeithio ar hynny.

Mae’r Edina Trust yn cynhyrchu adroddiad hefyd sy’n defnyddio data tywydd a gasglwyd gan ysgolion ac yn cymharu dyddiadau blodeuo planhigion gafodd eu plannu yn y ddaear â rhai gafodd eu plannu mewn potiau. Mae’r adroddiadau hyn yn hyrwyddo dysgu trwy gyflwyno cysyniadau ffurfio rhagdybiaeth, arbrofi teg, a dadansoddi data. Byddwn ni’n creu cwisiau digidol hefyd i sicrhau bod archwilio’r data yn ddifyr ac yn hwyl.

Ein nod yw annog disgyblion i gysylltu â natur, datblygu sgiliau dehongli data, dyfnhau eu dealltwriaeth o faterion hinsawdd, a meithrin yr hyder i siarad ar y pynciau hyn. Er bod llawer i’w archwilio yn y data o hyd, y prif fewnwelediad rydw i wedi’i gasglu o weithio ar yr ymchwiliad yw gweld pa mor werthfawr yw rhoi perchnogaeth i’r plant a chreu profiadau trochol sy’n eu cysylltu â natur; mae hyn yn meithrin cariad gwirioneddol at eu planhigion ac yn eu hannog nhw i edrych yn fwy craff ar fyd natur. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod hwn yn ddull sy’n gwella ymgysylltiad, datblygiad personol, lles meddyliol, a stiwardiaeth amgylcheddol hirdymor disgyblion yn sylweddol.

Sawl pot gyda chennin Pedr melyn a chrocws porffor yn blodeuo wedi’u trefnu ar wyneb carreg, wedi’u gweld o’r brig.

Pa mor bwysig yw gwaith gwyddonol fel hyn i Amgueddfa Cymru, ac i ddyfodol Cymru?

Mae ymchwil wyddonol a phrosiectau addysgol yn sylfaenol i’n cenhadaeth a’n gweledigaeth ni fel sefydliad cenedlaethol a’i fryd ar ysbrydoli pobl a newid bywydau. Elfen ganolog i flaenoriaethau’r amgueddfa yw gweithredu fel stiward dros dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol Cymru er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae Strategaeth 2030 yr amgueddfa yn amlygu ffocws cryf ar gynaliadwyedd a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion amgylcheddol, gan anelu at ddatblygu dysgu gydol oes a hyrwyddo lles trwy gysylltiad â natur. Mae prosiectau fel hyn yn galluogi Amgueddfa Cymru i gyflawni ei dyletswydd i hyrwyddo addysg gyhoeddus, cyfrannu at wybodaeth am fioamrywiaeth a hinsawdd Cymru, a chefnogi cymunedau i gymryd rhan weithredol yn y broses o lunio dyfodol cynaliadwy.

Trwy gefnogi gwyddoniaeth dinasyddion ac annog disgyblion i berchnogi’r dasg o gasglu a dadansoddi data, mae Amgueddfa Cymru nid yn unig yn dysgu sgiliau gwyddonol ond yn ysbrydoli cysylltiad emosiynol dyfnach â natur, gan feithrin cysylltiad parhaol ac ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd a fydd yn profi’n bwysig i ddyfodol Cymru.

Sut allwn ni gymryd rhan yr hydref hwn?

Llun lliwgar o genhinen Bedr gan blentyn gyda labeli yn enwi'r stigma, yr utgorn, y coesyn, y ddeilen, y bylbiau a'r gwreiddiau.

Rydyn ni’n gwahodd pobl i blannu gyda ni. Bydd ysgolion yn plannu eu bylbiau ar 20 Hydref, a gall unrhyw un sydd â diddordeb blannu bylbiau bryd hynny a monitro’u twf ochr yn ochr â’n Gwyddonwyr Gwych.

Fel rhan o hyn, byddwn ni’n cynnal gweithgareddau Plannu i Deuluoedd yn Amgueddfa Sain Ffagan ar 27 a 28 Hydref, ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 30 a 31 Hydref. Bydd pecynnau bylbiau ar gael i’w prynu yn y siopau ar y ddau safle, ynghyd â gwybodaeth am y prosiect a sut i’w ddilyn ar-lein.

Bob blwyddyn, bydd ysgolion sydd heb lwyddo i gael lle yn dal i ddilyn y prosiect trwy’r Blog Blodau a thudalennau cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at wefan WOW y Swyddfa Dywydd, lle gall gwyddonwyr lleyg uwchlwytho data tywydd y maen nhw wedi’i gasglu. Gall unrhyw un gyfrannu fel hyn ac wedyn gymharu eu canlyniadau â chanlyniadau ysgolion o bob cwr o Brydain a’r canfyddiadau yn yr adroddiadau diwedd blwyddyn.

Felly, i gymryd rhan... ewch ati i blannu! Ewch i wefan y prosiect i gael gweithgareddau difyr, adnoddau a diweddariadau gan ysgolion ledled y wlad.

A’n cwestiwn olaf, sydd bob amser yn ddifyr – beth yw dy hoff ddarn di yn y casgliad?

Dyna un anodd! Dwi’n credu bod rhaid imi ddewis y môr-grwban cefn lledr sydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cafodd y sbesimen hardd hwn ei ddarganfod ar draeth fy nhref enedigol, Harlech, ac mae ei stori’n rhoi darlun pwerus o effaith dyn ar fyd natur a’r camau bach y gallwn ni i gyd eu cymryd i wneud gwahaniaeth.

Darganfuwyd y môr-grwban ym 1988, 23 blynedd cyn cyflwyno’r tâl bagiau plastig a 35 mlynedd cyn deddfwriaeth sy’n cyfyngu ar blastigau untro. Symudodd Amgueddfa Cymru y môr-grwban i arddangosfa ‘Dyn a’r Amgylchedd’ yn 2006, gan adrodd hanes y crwban enfawr 100 mlwydd oed hwn a fu farw ar ôl mynd ynghlwm mewn leins pysgota. Darganfuwyd bod ei stumog yn llawn bagiau plastig. Mae’n stori ddirdynnol ond grymus.

Agwedd arall o’r casgliadau sy’n annwyl i mi yw’r amgylchedd naturiol yn Sain Ffagan. Mae’r coed a’r gerddi’n hardd ac yn gartref i rywogaethau gwarchodedig fel yr ystlum pedol a’r fadfall ddŵr gribog, ynghyd â glas y dorlan, cnocell y coed, gwas y neidr ac ambell ddyfrgi. Bûm yn ffodus i gynorthwyo gyda theithiau cerdded i deuluoedd i weld ystlumod a gweithgareddau i ysgolion yn cynnwys rhwydo a hela pryfed. Dwi wrth fy modd yn tynnu sylw grwpiau at agweddau rhyfeddol a chyfareddol y safle, ac mae mor braf gweithio i sefydliad sy’n rhoi blaenoriaeth weithredol i gadwraeth.