Blodau Gwyllt Sain Ffagan
7 Ebrill 2025
,Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae gerddi a dolydd Sain Ffagan yn llenwi â lliw wrth i flodau gwyllt flodeuo ar draws y dirwedd. Mae’r blodau hyn nid yn unig yn hardd, ond maent wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwledig Cymru ers canrifoedd. O’r dolydd gwyllt yn yr amgueddfa i’r perlysiau a dyfwyd mewn gerddi bwthyn, mae’r planhigion hyn yn ein cysylltu â’r tir a hanes Cymru.
Mae Sain Ffagan yn gartref i sawl dôl flodau gwyllt, pob un yn cael ei edrych ar ôl yn ofalus i gefnogi bioamrywiaeth. Ar flaen yr amgueddfa, mae dôl yn croesawu ymwelwyr gyda chymysgedd o flodau brodorol, yn llawn pryfed peillio yn ystod yr haf. Dôl arbennig arall yw’r Dôl Coroni, sydd wedi’i lleoli yn y berllan afalau ger y castell, rhan o fenter ar draws y DU i adfer dolydd traddodiadol. Rhai o’r blodau gwyllt sy’n tyfu yma yw cribell felen (yellow rattle), planhigyn a elwir yn "wneuthurwr dôl" am ei allu i wanhau glaswellt a helpu blodau eraill flodeuo, a dant y llew (dandelion), gyda'u dail wedi eu siapio fel dannedd llew. Llygad y dydd (daisy), mae’r blodau yn agor gyda’r haul ac yn cau gyda’r nos. O dan y coed, mae clychau’r gog (Blue bell) yn gorchuddio’r llawr mewn carped glas, gyda’u henw’n gysylltiedig ag galwad y gog yn y gwanwyn.
Mae blodau gwyllt wedi bod yn rhan o erddi Cymru ers cenedlaethau hefyd. Mae sawl tŷ hanesyddol yn Sain Ffagan, gan gynnwys Nantwallter, Abernodwydd a Hendre’r-ywydd Uchaf yn cynnwys gerddi perlysiau, lle byddai teuluoedd yn tyfu planhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth. Mae’r gerddi hyn wedi’u hail-greu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a phlanhigion addas i ddangos ffordd o fyw trigolion gwreiddiol y tai.
Mae gardd Nantwallter wedi’i dylunio i adlewyrchu gardd gwas fferm yn Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd y 18fed ganrif, pan oedd teuluoedd yn dibynnu ar eu gerddi ar gyfer bwyd, meddyginiaeth ac anghenion dyddiol. Buasai'r teulu gan mwyaf yn hunangynhaliol gan dyfu llysiau a pherlysiau. Yn ogystal â thyfu llysiau, byddent wedi casglu planhigion gwyllt ar gyfer eu defnydd ymarferol a meddyginiaethol. Roedd planhigyn Craith Unnos (Self heal) yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin i drin clwyfau. Byddai Tanclys (Tansy), sydd ag arogl aromatig, yn cael ei ddefnyddio i gadw pryfed mas o’r tŷ, a Chribau San Ffraid (Betony) a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer cur pen a phryder.
Defnyddiwyd llawer o’r planhigion meddyginiaethol hyn gan Feddygon Myddfai, grŵp o feddygon chwedlonol o Sir Gaerfyrddin y cofnodwyd eu gwybodaeth am berlysiau mewn llawysgrifau canoloesol. Mae’r ardd perlysiau yn Nantwallter yn cynnwys planhigion traddodiadol sy’n gysylltiedig â Meddygon Myddfai, gan gynnwys Fenigl (Fennel), Wermwd Lwyd (wormwood) a Briallu Mair (Cowslip). Roedd y perlysiau hyn yn trin llawer o bethau gwahanol, ac mae eu defnydd wedi cael ei drosglwyddo drwy’r cenedlaethau.
Nid yw blodau gwyllt yn unig yn gyswllt a’r gorffennol, maent hefyd yn bwysig i gefnogi bywyd gwyllt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mentrau fel Mai Di Dor wedi annog pobl i beidio â thorri’r lawnt am fis gan roi lloches a bwyd i bryfed fel gwenyn, pili-palod ac anifeiliaid bach.
Yn ystod yr haf, gallwch weld blodau gwyllt yn blodeuo yn Sain Ffagan. Roeddent yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y gorffennol, yn cael eu gwerthfawrogi am eu defnyddiau ymarferol. Heddiw, maent yr un mor bwysig gan gynnal bywyd gwyllt ac yn atgoffa ni o’r cysylltiad rhwng pobl a natur drwy’r oesoedd.