Eira a'r Alban
2 Rhagfyr 2010
,Penwythnos diwethaf, fe ymwelodd fy ngwraig Josie, fy merch Isobel a fy mab Desmond a Chaerdydd. Rydym yn dal i chwilio am gartef parhaol i'r teulu yma felly roeddwn eisiau cymeryd y cyfle i ddangos Caerdydd iddyn nhw. Prynhawn Sadwrn, fe aethom i Sain Ffagan. Deuthom ar draw staff oedd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i glirio'r eira fel bod y safle yn medru agor i ymwelwyr ar y dydd Sul. Roedd yn parhau i fod yn rhy beryglus i ni fedru fynd o'i gwmpas, ond wrth lwc, roedd digon i'w weld yn Oriel 1. Roedd yn gyfle gwych i ni dreulio amser yn yr orielau ac i mi weld beth sydd yn digwydd i'r safle pan mae eira'n disgyn!
Yna dydd Llun, fe es i fyny i'r Alban ar gyfer nifer o gyfarfodydd. Roedd Caeredin yn edrych yn eithaf llwm ond hefyd yn eithaf rhamantus yn yr eira, er doedd hi ddim yn hawdd teithio o gwmpas oherwydd y tywydd. Roeddwn i fod i gyfrafod Gordon Rintoul, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, ond yn anffodus roedd o'n sal gyda'r ffliw. Serch hynny, fe wnes i gyfarfod nifer o'i staff a chael trafodaethau difyr ynglyn ag addysg, ymgysulltu ac ymgynghori a'r cyhoedd a'r ffordd y mae casgliadau yn cael eu trefnu, ynghyd a hefyd y bygythiad gan lywodraeth San Steffan o ran cyllid y 'portable antiquities scheme'. Rwyf yn fawr obeithio y bydd trafodaethau pellach yn medru sicrhau ein bod yn achub y cynllun pwysig hwn.