Y project print mwyaf uchelgeisiol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfres lawn o brintiau The Great War: Britain’s Efforts and Ideals a gyflwynir yn yr arddangosfa hon. Cynhyrchwyd chwe deg chwech o brintiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech.
Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith Augustus John, George Clausen a Frank Brangwyn.
Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.
Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’. Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’. Mae’n llawn delweddau dramatig a symbolaidd, fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’ fyddai’n helpu Prydain i wireddu ei ‘Delfrydau’. Mae’r portffolio ‘Ymdrechion’ wedi’i rannu’n naw adran, pob un yn portreadu gweithgaredd neu thema wahanol.
Cynhyrchu ac Arddangos
Comisiynwyd y printiau gan Wellington House, adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn gyfrinachol i gynhyrchu propaganda. Rheolwr y prosiect oedd yr artist Thomas Derrick (1885-1954), a chyfarwyddwyd y broses argraffu gan yr artist a’r cyfrannwr F. Ernest Jackson (1872-1945). Avenue Press, Llundain, argraffodd y cyfan.
Talwyd yr artistiaid yn hael, gyda phob un yn derbyn £210 (tua £10,000 heddiw) a phosibilrwydd o freindaliadau ychwanegol o’r gwerthiant. Printiau cyfyngedig o ddau gant oedden nhw. Gwerthwyd y printiau ‘Ymdrechion’ am £2 2s 0d (£100) yr un, a phrintiau ‘Delfrydau’ am £10 10s 0d (£500).
Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.
Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf gan y Gymdeithas Celfyddyd Gain, Llundain, ym mis Gorffennaf 1917, cyn crwydro orielau celf rhanbarthol ledled Prydain. Aeth ar daith i Ffrainc ac America hefyd, lle cafodd y rhan fwyaf o’r portffolios eu harddangos a’u gwerthu.
Ymateb y Cyfnod i’r Printiau
“The very soul of the war is to be read in the set of sixty-six brilliant lithographs.”
(The Illustrated London News, 1917)
Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol.
Mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus oedd y printiau fel arf propaganda. Cawsant eu cyhoeddi’n eang wedi’r arddangosfa gyntaf ym 1917. Roedd rhai newyddiadurwyr yn cefnogi’r achos, “To see these lithographs is a patriotic as well as an artistic duty” (Burton Daily Mail, 15 Chwefror 1918. Ond doedd ymateb pawb ddim mor bositif; “their efforts are in almost every instance sincere; yet the result is, on the whole, meagre and unsatisfying.” (The Daily Telegraph, 20 Gorffennaf 1917). Roedd yr ymateb cychwynnol yn America yn gadarnhaol ‘they have been a revelation to American Fifth Avenue art patrons, dealer, critics…They put up British prestige’. Llai na’r disgwyl, fodd bynnag, fu gwerthiant y printiau yno a gwnaeth y prosiect golled yn gyffredinol.
Lithograffi a Chlwb Senefelder
‘The most brilliant of the younger men are all now making remarkable lithographs…there is a genuine renaissance of the art’ (Joseph Pennell, 1914)
Techneg brintio sy’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw olew a dŵr yn cymysgu yw lithograffi. Bydd yr artist yn defnyddio defnydd seimllyd i dynnu llun ar arwyneb llyfn – calchfaen fel arfer. Caiff inc ei rolio dros yr wyneb, fydd yn glynu at y darlun a ond nid at y rhannau llaith di-lun. Gosodir papur ar ben y garreg a’i roi drwy’r wasg. Gellir creu effeithiau gwahanol trwy ddefnyddio deunyddiau seimllyd amrywiol i ddarlunio, gan efelychu darlun sialc, pensil neu lun dyfrlliw. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o’r printiau hyn yn y dull ‘trosglwyddo’, gyda darlun ar bapur arbennig yn cael ei drosglwyddo i garreg, yn hytrach na gweithio arni’n uniongyrchol. Gyda lithograff lliw, bydd yr artist yn cychwyn gyda chynllun un lliw ar faen clo. I ychwanegu lliwiau eraill, rhaid defnyddio carreg wahanol ag arni’r inc newydd, ac argraffu un ar ben y llall.
Roedd llawer o’r artistiaid hyn yn aelodau o glwb Senefelder, clwb bychan a sefydlwyd ym 1908 er mwyn annog ac adfywio lithograffi fel cyfrwng artistig. Enwyd y clwb ar ôl yr Almaenwr a ddyfeisiodd y broses yn y ddeunawfed ganrif. Cynhyrchwyd y portffolio hwn mewn cyfnod pan oedd chwa newydd o ddiddordeb ym mhotensial artistig lithograffi.