Profiad Gwaith yn Amgueddfa Lechi Cymru 2026

Lloer a Becca, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2026

Yn ystod wythnos profiad gwaith eleni yn Amgueddfa Lechi Cymru, gofynnwyd i'r myfyrwyr gwneud cofnod o'u profiad nhw trwy'r wythnos er mwyn ysgrifennu blog. Dyma'r fformat wnaeth y myfyrwyr dewis! Cliciwch ar y lluniau ar y dde, neu darllenwch isod am brofiadau Becca a Lloer!

Diwrnod 1

Cawsom gyflwyniad gan Chloe, a chawsom hefyd laniard i ddangos ein bod ar brofiad gwaith yma. Aethom i Ysbyty'r Chwarel i helpu ac i greu fideo yn dangos sut i gyrraedd y chwarel er mwyn annog mwy o bobl i ymweld â'r ardal. Er na wnaethom llawer iawn heddiw, roedd yn ffordd dda o ymgartrefu yn yr amgylchedd gwaith. Dysgom fod amgueddfeydd yn gymhleth iawn y tu ôl i'r llenni, a bod llawer o wahanol swyddi yn cyfrannu at eu gweithrediad. Roedd yn dawel iawn ac nid oedd llawer o ymwelwyr yn Ysbyty'r Chwarel, felly rydym yn gobeithio y bydd y fideo yn annog mwy o bobl i fynd yno. Sylweddolon ni fod mwyafrif yr ymwelwyr heddiw yn bobl o Loegr, sy'n beth da gan eu bod eisiau dysgu am yr hanes. Fodd bynnag, yn rhyfeddol, nid oedd llawer o bobl Cymru eu hunain yn awyddus i fynd i ddysgu am eu hanes eu hunain. Ar ddiwedd y dydd, gwnaethom edrych ar y golygfeydd hardd y mae Ysbyty'r Chwarel yn edrych drostynt a chael cyfle i ddod i adnabod ein gilydd, gan nad oeddem yn adnabod ein gilydd cyn heddiw.

Diwrnod 2

Ar ddiwrnod 2, dechreuon ni gyda thasg weinyddol lle gwnaethom ddysgu mwy am ddefnyddio Excel i gadw a rheoli ystadegau ffigyrau. Gwnaethom ddefnyddio Excel i deipio ystadegau o hen ymweliadau, er enghraifft o 1967. Dysgom fod manylion fel hyn yn ddefnyddiol iawn wrth adnabod patrymau a gweld beth sydd angen ei wella mewn digwyddiad neu dasg. Gwnaethom hefyd helpu Lowri i greu gweithgaredd ar gyfer plant ifanc, a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi gan fy mod wedi dysgu bod llawer o wahanol swyddi o fewn un sefydliad nad fyddech chi byth yn eu disgwyl. Yn ddiweddarach, gwnaethom helpu Mari, sy’n gweithio yn yr adran addysg ochr yn ochr â Lowri, i fynd i lawr i’r storfa. Mae hi’n gweithio’n rhan-amser, ac roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn yn gwybod y gellid ei wneud pan fyddwch yn oedolyn sy’n gweithio. Roedd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol dysgu bod swydd neu gyfle gwaith sy’n gallu addas i bawb bob amser, sy’n beth gwych i’w wybod wrth ddechrau eich gyrfa. Yn ddiweddarach, cawsom gyfle i gael cyfarfod gydag Amgueddfa Cymru am bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Roedd hyn yn ddiddorol iawn oherwydd dysgom fod bod yn ddwyieithog yn wirioneddol fuddiol gan ei fod yn darparu mwy o gyfleoedd gwaith.

Diwrnod 3

Roedd hwn yn un o ddiwrnodau mwyaf cyffrous yr wythnos, gan ein bod wedi cael y cyfle i fynd i mewn i’r Amgueddfa Lechi tra oedd ar gau. Ond ar ddechrau’r dydd, gwnaethom helpu Lois drwy greu cynllun ar sut i wneud plant a rhieni yn fwy ymwybodol o’r llwybr natur y mae Amgueddfa Cymru yn ei gynnig. Buom yn trafod syniadau gyda’n gilydd cyn cael cinio cynnar. Yna aethom i lawr i’r safle adeiladu i gael offer diogelwch fel bod pawb yn ddiogel yn ystod y daith. Roedd yn rhaid i ni hefyd gymryd rhagofalon diogelwch eraill, fel gwisgo trowsus ac esgidiau cerdded. Roedd y daith yn hwyl iawn, ac fe wnaethon ni helpu i gadw pawb gyda’i gilydd drwy gydol y daith. Fodd bynnag, roedd hi’n hynod boeth y diwrnod hwnnw, felly roedd yn eithaf anodd canolbwyntio ar adegau. Ar ôl y daith, prynodd Chloe hufen iâ i’r ddau ohonom. Dewisom flas 'cookie dough', ac roedd hynny’n hyfryd iawn ac yn help mawr gyda’r gwres. Wedyn cerddom yn ôl i fyny at y chwarel a ffilmio TikTok am y llwybr natur cyn gorfod gadael. Dysgom am waith cadwraeth a pha mor bwysig ydyw, yn ogystal â faint o waith sy’n mynd i mewn i warchod amgueddfeydd. Roedd yn dangos y gwaith gofalus a manwl sydd ei angen i sicrhau bod popeth yn gywir er mwyn adrodd stori’r amgueddfa yn effeithiol.

Diwrnod 4

Ar ddiwrnod pedwar aethom i Gastell Penrhyn. Cawsom daith o amgylch y castell, ond yn ddiweddarach dysgom fwy am hanes y castell a hanes teulu Penrhyn. Dysgom fod hyn yn rhan bwysig iawn o redeg amgueddfa neu safle hanesyddol oherwydd, er bod pobl yn mwynhau ymweld â Chastell Penrhyn, mae’r rhan fwyaf yn ei weld fel taith o amgylch tŷ hardd yn hytrach nag edrych ar rannau da a drwg hanes y castell. Er enghraifft, buom yn dysgu am y cysylltiadau â chaethwasiaeth yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig iawn i ymwelwyr wybod beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn y gorffennol, yn hytrach na gweld y castell fel tŷ mawr yn unig. Yna gwnaethom wylio arddangosiad llechi, cyn helpu pobl i gwblhau arolwg am eu profiad ac am eu hymweliadau blaenorol ag Amgueddfa Lechi Llanberis. Roedd hyn yn brofiad da iawn gan ei fod yn dangos pa mor ddefnyddiol y gall arolygon fod wrth redeg sefydliad neu gwmni. Mae arolygon yn caniatáu i’r sefydliad ddeall barn a safbwyntiau ymwelwyr am yr hyn y maent yn ei gynnig. Maent hefyd yn helpu i nodi’r hyn sydd angen ei hyrwyddo’n well neu’r meysydd y mae angen eu gwella.

Diwrnod 5

Ar ein diwrnod olaf yma gydag Amgueddfa Cymru, dechreuon ni’r diwrnod drwy grynhoi sut roedd yr wythnos wedi mynd a beth roeddem wedi’i wneud a’i ddysgu. Gwnaethom ysgrifennu’r blog hwn ac wedyn byddwn yn creu blog arall am bwysigrwydd hanes y diwydiant llechi yng Nghastell Penrhyn. Wedi hynny, byddwn yn gwneud ychydig o fideos hyrwyddo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol cyn gorffen yn gynnar. Mae’r profiad gwaith hwn wedi dangos llawer i ni ac wedi ein helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw amgueddfeydd a sut maent yn gweithio y tu ôl i’r llenni. Mae hefyd wedi rhoi sgiliau newydd i ni, megis siarad â phobl newydd, gweithio fel rhan o dîm a helpu eraill. Nid oeddem wedi ein synnu’n arbennig gan y ffordd mae amgueddfeydd yn gweithredu, gan ei bod yn debyg iawn i’r hyn yr oeddem wedi’i ddychmygu y byddai gweithio mewn amgueddfa yn ei olygu.

Logo yn llawn logos ariannwyr

Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, 4 Gorffennaf 2026

Hannah Jenkins, 8 Gorffennaf 2026

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, rydyn ni’n rhannu stori’r Ddôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n 13 oed eleni!

Mae dolydd yn gynefinoedd sy’n gyforiog o laswelltau a blodau brodorol, sy’n cael eu rheoli’n draddodiadol gan un toriad gwair blynyddol a’u pori gan anifeiliaid yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Ond er eu bod nhw’n gynefinoedd amrywiol sy’n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau, mae cyfanswm y tir sy’n cael ei reoli yn y modd hwn wedi gostwng yn sylweddol. Yng Nghymru, mae dolydd yn enghraifft o gynefin â blaenoriaeth o bwysigrwydd pennaf gan eu bod nhw dan fygythiad gan newidiadau i’r ffordd mae tir yn cael ei reoli, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau goresgynnol.

Cafodd y ddôl drefol wrth ymyl Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei chreu yn 2013. Mae’r clwt o laswellt hwn wedi cael ei drawsnewid o ardal a ddisgrifiwyd unwaith fel un prin o rywogaethau i un sy’n gyforiog o wahanol rywogaethau o laswelltau a blodau gwyllt brodorol. Mae’n cynnig hafan i fywyd gwyllt, yn cyfoethogi’r fioamrywiaeth o amgylch ein safle ac, o fewn y ddinas, mae hefyd yn helpu i greu coridor gwyrdd ar gyfer natur, gan gysylltu mannau gwyrdd eraill ledled Caerdydd a thu hwnt.

Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl

Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl

Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl

Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl

Mae’r ddôl bellach yn enghraifft hyfryd o laswelltir niwtral wedi’i led-wella yng nghanol Caerdydd. Mae briallu Mair (Primula veris), cennin Pedr (Narcissus) a blodau llefrith (Cardamine pratensis) yn y gwanwyn yn rhagflaenu rhywogaethau dolydd cyfarwydd fel llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare), meillion (Trifolium spp.), blodau ymenyn (Ranunculus acris) a’r bengaled (Centaurea) ynghyd â gweiriau fel perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum), rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus) a maswellt penwyn (Holcus lanatus). Y llynedd, cofnodwyd cegiden Mynwy (Oenanthe pimpinelloides), rhywogaeth newydd yn y Ddôl Drefol, ac un sy’n anghyffredin yng Nghymru.

Y Ddôl Drefol yn yr haf

Y Ddôl Drefol yn yr haf

Pryf hofran ar flodyn ymenyn

Pryf hofran ar flodyn ymenyn

Mae angen rhywfaint o waith cynnal a chadw blynyddol ar unrhyw ddôl er mwyn ei chadw mewn cyflwr da, ac er ein bod wedi dilyn y drefn draddodiadol o dorri’r gwair unwaith y flwyddyn, mae rhai gweiriau trech wedi dechrau sefydlu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, gan gynnwys ceirchwellt tal (Arrhenatherum elatius).

Yn ystod hydref 2024, ychwanegwyd hadau cribell felen (Rhinanthus minor) gyda chymorth cyllid ganbrosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r planhigyn blynyddol hwn yn lled-barasitig, ac mae’n gallu chwarae rhan bwysig o ran cynnal cydbwysedd iach rhwng gweiriau a blodau gwyllt.

Wrth iddo dyfu, mae’n cymryd maetholion o wreiddiau gweiriau cyfagos, gan wanhau a lleihau eu goruchafiaeth a gadael lle i rywogaethau blodau gwyllt ledaenu.

Eginblanhigyn cribell felen ym mis Mai 2025

Eginblanhigyn cribell felen ym mis Mai 2025

Blodau cribell felen ym mis Mehefin 2025

Blodau cribell felen ym mis Mehefin 2025

Mae’r blodau gwyllt brodorol ar y ddôl yn ffynhonnell bwysig o baill a neithdar i bryfed a gloÿnnod byw, ond mae’r cyfuniad o weiriau a blodau amrywiol yn sicrhau ei bod yn cynnig bwyd, lloches a chynefin i lawer o rywogaethau eraill hefyd! Gall y dail, y coesynnau a’r gwreiddiau fod yr un mor bwysig.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cofnodi pob math o bryfed peillio, gan gynnwys pryfed hofran, gwenyn unigol, gwenyn mêl a chacwn, gwenyn meirch, gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod. Rydyn ni hefyd wedi gweld pryfed cop, ceiliogod rhedyn, lindys, gweision y neidr, pryfed lludw, gwlithod a malwod... i enwi dim ond rhai!

Chwilen goesdew wrywaidd.

Chwilen goesdew wrywaidd

llygad llo mawr

Maen nhw'n bryfed peillio da, ac yn ymweld â blodau wyneb agored amrywiol, gan gynnwys y llygad llo mawr

Mae rhai cofnodion diweddar yn cynnwys y chwilen goesdew (Oedemera nobilis), lindys teigr y benfelen (Tyria jacobaeae) sy’n bwydo’n bennaf ar ddail llysiau’r gingroen (Jacobaea vulgaris) a’r gwibiwr bach cornddu (Thymelicus lineola). Mae gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd wedi ymweld hefyd, yn cynnwys y bwrned chwe smotyn (Zygaena filipendulae), ac ar fwy nag un achlysur y llynedd, gwelwyd y gwalch-wyfyn hofrol (Macroglossum stellatarum), sy’n ymweld â Chymru o dde Ewrop yn ystod yr haf.

Lindys teigr y benfelen

Lindys teigr y benfelen

Gwibiwr bach cornddu

Gwibiwr bach cornddu

Bwrned chwe smotyn

Bwrned chwe smotyn

Mae nifer o wahanol gynefinoedd wedi’u creu hefyd er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i fywyd gwyllt o amgylch y ddôl.

Lluniau y Ddôl 1
Lluniau y Ddôl 2

Nid dim ond pryfed sy’n ymweld â’r ddôl. Mae heidiau drudwy (Sturnus vulgaris) i’w gweld yn aml yn crwydro drwy’r ddôl yn chwilio am bryfed, ac un min nos yn ddiweddar, gwelwyd draenog (Erinaceus europaeus) wrth ymyl y ddôl.

Mae ein Curaduron Gwyddorau Naturiol wedi creu adnoddau i’ch helpu i adnabod planhigion, anifeiliaid, creigiau a ffosiliau ar garreg eich drws. Mae’r rhestr ar gael ar ein gwefan: Taflen Sylwi | Museum Wales

Gardd Llawn Rhosod a Hanes

Elin Barker, Cadwraethydd Gardd , 22 Mehefin 2026

Yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, mae’r ardd rosod, neu’r Roseri, yn llawn lliw ac arogl yn ystod yr haf. Ond y tu ôl i’r harddwch, mae llawer o waith caled a hanes hir a diddorol.

Cynlluniwyd y Roseri gyntaf yn 1898 gan Hugh Pettigrew, prif arddwr ar y pryd. Roedd llwybrau gwair yn troelli drwyddo, trellysau gyda rhosod dringo, a chamlas wedi’i phlannu a lili’r dŵr a physgod addurnol. Plannwyd dros 100 math o rhosod.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, doedd y Roseri ddim yn derbyn gofal. Llenwyd y gamlas, a chafodd y trellysau a’r pergolas eu tynnu i lawr. Yn y 1940au, ar ôl i deulu Plymouth roi tiroedd Sain Ffagan i’r Amgueddfa, crewyd gardd rosod symlach gyda gwelyau trionglog.

Yn 1998, penderfynodd yr Amgueddfa adfer cynllun gwreiddiol Pettigrew. Cloddiwyd y gamlas hen ac ailblannwyd hi gyda lili’r dŵr. Tynnwyd y gwelyau trionglog, ac ailosodwyd gwelyau crwm o amgylch y gamlas, yn ôl cynllun gwreiddiol Pettigrew. Dewiswyd rosod yn ofalus yn seiliedig ar restr ysgrifennwyd Pettigrew yn 1904.

Fodd bynnag, dros amser, daeth llawer o’r hen rhosod yn aniach. Cafodd y planhigion eu heffeithio’n wael gan glefyd o’r enw ‘black spot,’ sy’n gwneud i’r dail droi’n felyn a datblygu smotiau du ac yna syrthio. Cyn Deddf yr Awyr Lân yn 1956, roedd ‘black spot’ yn brin oherwydd bod llawer o sylffwr yn yr aer o lygredd. Ond pan wnaeth yr awyr lanhau, ‘black spot’ yn broblem fwy.

Yn 2017, ailblannwyd y Roseri unwaith eto. Y tro hwn, defnyddiwyd llawer o rosod modern, planhigion cryf a iach sy’n blodeuo am amser hir, ond sydd dal yn cadw harddwch ac arogl y rhosod traddodiadol. Mae llawer o'r rhosod  yn yr ardd wedi dod o David Austin, tyfwr enwog o rosod hardd. Enw un o'r rhosod arbennig hyn yw 'Roald Dahl,' a enwyd ar ôl yr awdur enwog a aned yng Nghaerdydd.

Rydyn ni’n parhau i arddio yn ysbryd y cyfnod Edwardaidd, oherwydd mae’r rhan fwyaf o’r gerddi addurniadol yn Sain Ffagan yn dyddio’n ôl o’r cyfnod hwnnw. Roedd yr Edwardiaid wrth eu boddau gyda rhosod, ac ninnau hefyd! Ond nid yw’r gwaith bob amser yn llawn ‘glamour’. Bob mis Ionawr, caiff y rhosod eu tocio’n galed i’w cadw’n iach. Wedyn, caiff y gwelyau eu gorchuddio a tail organig. Rydyn ni’n ychwanegu tail i'r pridd i’w fwydo. Mae pridd iach yn helpu’r rhosod i dyfu’n gryf ac yn iach.

Yn ystod yr haf, mae’r garddwyr yn torri’r hen flodau i ffwrdd i annog y planhigion i greu flodau newydd. Maent yn gadael rhai blodau i ddatblygu’n hips rhosod, a ddefnyddir i addurno’r tai hanesyddol yn y gaeaf. O amgylch y rhosod yn y Roseri, mae blodau fel lafant a fiolas wedi cael eu plannu i helpu peillwyr fel gwenyn a phili-palod.

Mae rhai rhosod, a elwir yn rhosod sengl, sydd a llai o betalau ac yn caniatau i wenyn gyrraedd y neithdar a’r paill yn hawdd. Rhai o'n ffefrynnau yw rhosod ‘Tottering-by- Gently’ a ‘Starlight Symphony’.

Heddiw, mae’r Roseri yn llawn lliw ac arogl. Mae’r rhosod newydd yn edrych ac yn teimlo fel yr hen rhosod, ond maent yn blodeuo dro ar ôl tro drwy’r haf. Maent yn ein hatgoffa o’r holl gariad, gofal a gwaith caled sydd ei angen i gadw gardd yn llawn bywyd.

Ann Francis

Alastair Willis, 18 Mehefin 2026

Mae'r trysor hyn yn cael ei arddangos nawr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe nes Mehefin 2027

Beth oedd llongddrylliad yr Ann Francis?

Ar noson stormus, ffyrnig ar 28 Rhagfyr 1583, chwalwyd cwch masnach ar arfordir de Cymru. Doedd dim goroeswyr, ond mae’r cofnodion am longddrylliad yr Ann Francis ymhlith y mwyaf manwl o’r cyfnod, ac mae ei thrysorau ymhlith y mwyaf rhyfeddol i’w canfod yng Nghymru.

Beth gafodd ei ddarganfod yn llongddrylliad yr Ann Francis?

Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael casgliad rhyfeddol o ddarnau arian ac arteffactau gafodd eu canfod gan Peter Hughes, datgelydd metel, rhwng 1996 a 2017. Maen nhw’n cynnwys tua 870 o ddarnau arian ac aur, ynghyd ag eiddo personol; offer llong; offer coginio, bwyta ac yfed, oll yn dyddio nôl i ddiwedd y 15 fed ganrif hyd at yr 16eg ganrif.

Mae’r rhain yn ychwanegol i’r eitemau eraill sydd gennym a ganfuwyd ar yr un traeth nôl yn y 1970au, megis cwmpawdau mordwyo, rhagor o ddarnau arian a chwiban bosn, sydd oll yn awgrymu gwaddol drylliad o’r 16 eg ganrif. Mae ymchwil gan haneswyr, archaeolegwyr a churaduron lleol yn y 1970au hyd at y 1990au wedi datgelu mai llong o’r enw Ann Francis gafodd ei dryllio.

I ba le yr oedd yr Ann Francis yn hwylio?

Honnodd Francis Shaxton, y perchennog, fod yr Ann Francis wedi hwylio i Hartlepool o King’s Lynn, ond mewn gwirionedd, roedd yr Ann Francis wedi hwylio at y Penrhyn Iberaidd ym mis Hydref gyda llwyth o wenith. Ar y pryd, roedd Sbaen yn dibynnu ar fewnforio grawn yn ogystal â nwyddau eraill. Talwyd am y llwythi hyn gyda bwliwn aur ac arian, a gafodd eu cludo mewn llong o safleoedd buddugoliaethau diweddar Sbaen yn Ne a Chanolbarth America. Roedd yr Ann Francis yn dychwelyd adref i Kings Lynn o Sbaen gyda thaliad am y grawn ynghyd â nwyddau eraill y gellid eu masnachu pan gafodd ei hyrddio tua’r lan gan storm a’i dryllio’n llwyr. Mae’n bosib fod camgymeriad wrth fordwyo neu wyntoedd cryfion i’r de wedi arwain y capten at Fôr Hafren yn hytrach na’r Sianel.

Map

Felly, pam fod Francis Shaxton wedi dweud celwydd am leoliad y llong?

Mae’n debyg fod Francis Shaxton a’i dad, Francis Shaxton yr hynaf, yn fasnachwyr yn King’s Lynn ac yn smyglwyr drwgenwog. Roedd smyglo’n rhemp ar y pryd ac roedd sawl cymuned arfordiol yn rhan o’r gweithgarwch. Cafodd Francis Shaxton yr hynaf ei ethol yn faer King’s Lynn ddwywaith! Yn amlwg, doedd dim ots gan bobl King’s Lynn fod Shaxton yn smyglwr hysbys. Cymerodd y Francis Shaxton iau reolaeth o’r busnes ym 1552, erbyn hynny roedd y teulu wedi meddiannu fflyd o 8 llong fasnach.

Oes cofnodion ynglŷn â’r llongddrylliad wedi goroesi o’r cyfnod?

Oes! Mae adroddiadau o Lys Siambr y Seren [https://libguides.bodleian.ox.ac.uk/law-histcom/starch] yn datgelu fod llong wedi ei dryllio ar lannau Morgannwg ar 28 Rhagfyr 1583 (yn ôl y Calendr Iŵl, felly 7 Ionawr yn ôl y Calendr Gregori a ddefnyddiwn heddiw). Yn y llys, hawliodd yr arglwydd lleol Syr Edward Mansell ei hawl gyfreithiol dros y llongddrylliad. Cyhuddwyd Stiward Afan, George Williams, ynghyd â 100 o bobl eraill, o arfogi eu hunain ac anrheithio’r drylliad. Roedd Williams yn gwadu hyn, gan ddweud fod y llongddrylliad ar dir a oedd yn eiddo i Iarll Penfro, a’i fod wedi cymryd rheolaeth dros y drylliad ar ran ei arglwydd. Aeth y ddwy ochr ati i gorlannu nwyddau a rhannau o’r llong a dal gafael arnynt tra bod yr achos yn parhau.

Henry Herbert

Pa nwyddau gafodd eu hachub o’r llongddrylliad ar y pryd?

Lluniodd Mansell restr i nodi’r holl eitemau y bu’n eu casglu: sawl canon a dryll, angorau, rhaff, hwyl, darnau o’r mast, bad y llong, tair cist â’u cloeon wedi torri, clofs, marmalêd, tecstilau, chwiban a 12 punt 6 swllt o arian Sbaen. Mae cofnodion Siambr y Seren yn dangos fod Williams wedi cymryd nifer o eitemau oddi ar ysbeiliwr, gan gannwys sbeisys, ynghyd â llwy a chwpan piwter. Cafodd chwech unigolyn eu harestio gydag ysbail o’r llongddrylliad yn eu meddiant.

Enillodd Williams a Pembroke yr achos, ond erbyn mis Mawrth 1584, roedd Francis Shaxton, perchennog y llong, wedi camu ymlaen i hawlio’r drylliad. Cytunwyd y byddai Mansell yn dychwelyd rhywfaint o’r nwyddau ysbeiliedig, yn benodol, dwy o’r angorau gorau, dau o’r ceblau gorau, chwe chanon a’u cerbydau, a hanner yr arian a feddiannwyd gan chwech ysbeiliwr.

Pwy oedd ar fwrdd yr Ann Francis pan aeth i drafferthion?

Mae’n bosib fod cofrestr y plwyf yn un o borthladdoedd cyfagos King’s Lynn yn gofnod o enwau’r hwylwyr ar fwrdd yr Ann Francis. Mae cofrestr plwyf Wells-next-the-Sea yn cofnodi marwolaeth 14 hwyliwr ar arfordir y gorllewin ym mis Rhagfyr 1583. Dyma’r un cyfnod â drylliad yr Ann Francis. Mae’n dweud:

“Perished upon the west coast coming from Spain: Richard Waller, Christopher Dodd, John Bunting, William Craven, George Page, Gregory Baxter, Christopher Baxter, Thomas Ayre, Henry Gouldsmith, Walter Marshall, Robert Archer, Oliver Cobb, William Barret and Richard Dye, whose deaths were brought to pass by the detestable working of an execrable witch of King’s Lynn whose name was Mother Gabley, by boiling or rather labouring of certain eggs in a pail full of cold water. Afterwards approved sufficiently at the arraignment of the said witch”

Ni wyddys beth a ddigwyddodd i Mother Gabley. Yn ôl y sôn, hi oedd y person cyntaf i gael ei chondemnio yn Norfolk o dan Ddeddf 1562 yn erbyn Consuriaeth, Hudoliaeth a Swyngyfaredd (Conjurations, Enchantments and Witchcrafts). Gan fod ei throsedd honedig yn crybwyll llofruddiaeth, mae’n bosib mai cael ei chrogi fu ei ffawd.

Pa arian cafodd ei darganfod ar draeth Margam?

Darnau arian

Darn Aur São Vicente o Bortiwgal, a enwyd ar ôl y portread o San Vincent o Saragossa, nawddsant yr hwylwyr a dinas Lisboa, ar ochr arall (cynffon) y darn arian hwn. Cafodd ei fathu ym 1555-1557 yn ystod teyrnasiad Ioan y trydydd.

Darn aur doble excelente Sbaenaidd sy’n portreadu Ferdinand ac Isabella, y Brenhinoedd Catholig fel y’i galwyd, fu’n gyfrifol am uno dwy dalaith fwyaf Sbaen, Aragon a Castille, yn ogystal â noddi taith Christopher Columbus i’r Byd Newydd. Buon nhw’n teyrnasu ar y cyd o 1474 tan i Isabella farw ym 1504. Parhaodd teyrnasiad Ferdinand tan 1516. Roedd eu darnau arian yn llwyddiannus iawn ac felly gwelwn fod nifer o’r darnau arian sydd wedi eu hysgythru ag enwau Ferdinand ac Isabella wedi eu bathu ar ôl marwolaeth Ferdinand ac Isabella.

Darnau arian

Darn arian wyth reales Sbaenaidd, un o’r darnau wyth enwog, gaiff ei adnabod hefyd fel doler Sbaenaidd. Cafodd mwyafrif y darnau arian eu bathu yn enw Ferdinand ac Isabella. Maen nhw’n amrywio o’r 8 reales lawr at yr hanner real, er mai 4 reales yw’r mwyafrif. Mae cefn pob un o’r darnau arian hyn yn dangos symbolau Aragon a Castille, iau i gynrychioli Aragon a bwndel o saethau i gynrychioli Castille.

Darn arian prin tri reales Sbaenaidd. Cafodd ei fathu yn ystod teyrnasiad Siarl a Joanna, yn y bathfa yn Ninas Mecsico fyddai wedi bod yn newydd sbon ar y pryd ym 1536-7. Dyma felly un o’r darnau arian cyntaf erioed i gael ei fathu unrhyw le yn yr Amerig. Ar y cefn mae ysgythriad o Golofnau Ercwlff yng Nghulfor Gibraltar. Mae dros 120 o ddarnau arian Mecsico wedi eu canfod ar y traeth.

Thaler o Etholydd Meurig Sacsoni. Dyma un o amrywiaeth o thaleri a gafodd eu bathu yn nhaleithiau a siroedd Almeinig yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd yng nghanol yr 16eg ganrif, sydd wedi cael eu canfod ar y traeth. Esblygodd eu enw yn “doler”, ddaeth i fod yn llaw fer ar gyfer pob darn arian o’r maint hwnnw gan gynnwys y darn wyth Sbaenaidd.

Arian a masnach ryngwladol

Darn chwe cheiniog arian yn portreadu Elisabeth y Cyntaf, sy’n dyddio o 1580. Mae’n bosib fod un o’r ysbeilwyr wedi gollwng hwn neu efallai ei fod yn bres poced oedd yn perthyn i un o’r criw. Mae’n bosib fod y darnau arian a chopr o enwadau bach eraill yn Sbaen, Portiwgal a’r Almaen a gafodd eu canfod ar y traeth wedi cael eu casglu mewn porthladdoedd ar y cyfandir fel newid mân.

Byddai’r darnau arian ac aur yn rhan o’r taliad ar gyfer gwenith. Yn ddiddorol ddigon, roedd mwyafrif y darnau arian wedi bod o gwmpas ers sawl canrif erbyn cyfnod mordaith olaf yr Ann Francis, ac eto mae nifer ohonynt mewn cyflwr gwych o hyd ar ôl cael eu storio am nifer o flynyddoedd. Efallai fod rhai ohonynt wedi cael eu cludo mewn symiau mawr fel taliadau blaenorol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Byddai hyn yn egluro pam fod thaleri Almaenaidd, darnau arian o Sbaen a Mecsico, ac aur Portiwgeaidd oll yn rhan o’r un llongddrylliad.

Beth arall sydd wedi ei ganfod?

Clo cyfunrhif pres. Cafodd ei ganfod ymysg y gawod o ddarnau arian. Mae’n debygol mai dyma’r clo ar gyfer un o’r cistiau sy’n cynnwys y darnau arian neu ddogfennaeth bwysig yn ymwneud â’r llong, efallai un o’r coffrau a gofnodir ar restr Mansell. Mae cod y clo dal heb ei datrys. Mae’n ymddangos fod un clo cyfunrhif cyfoes Elisabethaidd wedi defnyddio’r cod “open”, yn debyg i ddefnyddio 1234 fel eich cod pin neu’r gair “cyfrinair” fel cyfrinair eich cyfrifiadur, ond mae’r un yma’n ymddangos yn fwy cymhleth.

Dau bwys ar gyfer darnau arian, fyddai’n cael eu defnyddio er mwyn gwirio pwysau darnau aur o gyfnod teyrnasiad Harri’r pedwerydd, oedd yn dal i fod mewn cylchrediad rhyngwladol. Byddai’n bwysig i fasnachwyr feddu ar amrywiaeth o’r pwysi yma er mwyn gallu gwirio’r gwahanol fathau o arian rhyngwladol a fyddai’n cael eu defnyddio i’w talu.

Offer mordwyo

Plymenni, pwysau plwm fyddai’n cael eu gollwng dros ochr y llong ar raffau er mwyn pennu dyfnder y dŵr. Mae ganddynt waelodion ceugrwm fyddai’n cael eu llenwi gyda gwêr, er mwyn amcangyfrif sut siâp fyddai wedi bod ar wely’r môr, drwy’r tywod fyddai’n mynd yn sownd yn y gwêr neu’r argraffiad oddi ar y cerrig neu’r cwrel.

Cwmpasau mesur, fyddai’n cael eu defnyddio gyda siartiau er mwyn pennu lleolaid y llong yn seiliedig ar bwynt cychwyn gwybyddus, proses o amcangyfrif a elwir bellach yn ‘dead reckoning’.

Chwiban badfeistr neu bosn. Byddai’n cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud gorchmynion ar fwrdd y llong – gellid clywed ei sŵn uwchlaw sŵn y môr.

Rhannau o’r llong

Mae’n bosib fod hoelion copr, rhybedi a darnau o blwm dalennog wedi dal y llong at ei gilydd, neu wedi helpu i atgyweirio’r llong.

Amddiffyn

Pelenni canon gyda thyllau siâp ciwb oddi mewn iddynt, yn awgrymu eu bod mwy na thebyg yn defnyddio peli siâp deis. Roedd pob pêl yn dal deis haearn, mae’n bosib mai’r bwriad fyddai i achosi mwy o niwed neu alluogi’r arf i droelli.

Cafodd pelen o blwm ei ganfod ar y traeth, a allai fod wedi cael ei ddefnyddio fel arfogaeth ar gyfer gynnau llai.

Mae rhestr Mansell yn dweud wrthym fod y llong wedi ei arfogi gydag ystod o wahanol ynnau, cam synhwyrol o ystyried perygl lladron a herwlongwyr ar y môr.

Bwydo’r criw

Pestl pres a phedair llwy piwter, gan gynnwys un wedi ei hysgythru â marciau adnabod.

Dolen a chaead tancer piwter.

Spigodau a thapiau, fyddai’n cael eu morthwylio i gasgenni cwrw neu win.

Sawl dernyn crochan.

Mae’n ymddangos fod darnau o blwm rholiedig wedi gweithredu fel pwysau rhwydi ar gyfer pysgota.

Eitemau personol ac amrywiol

Canhwyllbren pres, eitemau personol amrywiol ac ategolion ffrociau, gan gynnwys gwniadur, byclau, botwm a sbardun. Mae’n bosib mai eiddo’r criw oedd y rhain neu eitemau a aeth ar goll yn ystod ysbeiliad y llongddrylliad.

Beth ddylwn i wneud os ydw i’n dod o hyd i eitemau o longddrylliad?

Am eu bod yn rhan o ddrylliad hanesyddol, caiff y darganfyddiadau eu gwarchod o dan gyfraith y DU. O dan Ddeddf Llongau Masnach 1995 (Merchant Shipping Act), mae rheidrwydd cyfreithiol i ganfyddwyr drylliad i adrodd am ddeunydd drylliad wrth Dderbyniwr y Drylliad. Ceir gwahanol ddiffiniadau a chategorïau pan ddaw hi at ddrylliadau, ond mae’r canfyddiadau o long yr Ann Francis yn cyfri fel “deunydd drylliad wedi ei olchi i’r lan mewn dyfroedd llanwol”. Yn gyfreithiol, eiddo’r goron yw’r canfyddiadau ac mae’r sawl sy’n dod o hyd i’r deunydd yn gallu hawlio tâl am achub. Cyfrifoldeb Derbyniwr y Drylliad yw dod o hyd i amgueddfa priodol i gymryd yr hyn gaiff ei ganfod. I gael mwy o wybodaeth ewch i Wreck and salvage law - GOV.UK.

Dewch i weld yr eitemau mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe hyd at Mehefin 2027.

Darllen Pellach

  • Blundell, J. 1994, ‘A Tudor wreck near Aberavon in Glamorgan’, Cardiff Naturalists’ Society Newsletter 22, 1-3.
  • Redknap, M. and Besly, E. 1997 ‘Wreck de mer and dispersed wreck sites: the case of the Ann Francis (1583)’ in M Redknap (ed.), Artefacts from Wrecks. Dated assemblages from the Late Middle Ages to the Industrial Revolution, Oxbow Monograph 84 (Oxbow Books, Oxford), 191-207.
  • Redknap, M. 2019, 'The Ann Francis', in Redknap, M., Rees, S. and Aberg, A (ed), Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, (RCAHMW/Y Lolfa, Talybont), 240.

Planhigion Goresgynnol

Sophie Hocking, 15 Mehefin 2026

Mae cadw golwg ar blanhigion sy’n cael eu cyflwyno a lledaeniad planhigion goresgynnol, a gwybod sut i adnabod y rhywogaethau hyn, yn bwysig er mwyn gwarchod ein hecosystemau – ac mae hyn yn rhan o waith Llysieufa Genedlaethol Cymru... 

Ydych chi wedi clywed y term rhywogaeth “oresgynnol”?

Wrth i deithio rhyngwladol ddod yn haws ac yn fwy hygyrch dros amser, rydym wedi gallu symud planhigion, anifeiliaid, ffyngau ac algâu yn haws o amgylch y byd. Weithiau mae hyn yn digwydd yn fwriadol – er enghraifft, mewnforio planhigion tlws i’w tyfu mewn gerddi – ac weithiau’n ddamweiniol, fel rhywogaethau morol sy’n cael eu codi yn nŵr balast llongau cargo. Gallwch ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol a goresgynwyr morol yma.

Rhywogaethau estron neu rywogaethau goresgynnol...

Mae nifer y rhywogaethau sydd wedi cael eu cyflwyno o’u hamgylchedd brodorol (lle roedden nhw’n bodoli’n wreiddiol) i leoliadau newydd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd. Gelwir rhywogaethau sydd wedi cael eu cludo i ardal na allent fod wedi’i gwladychu ar eu pennau eu hunain yn “rhywogaethau estron”.

Er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddiniwed, mae 10-15% o rywogaethau estron yn ffynnu yn y cynefinoedd lle cawsant eu cyflwyno – maen nhw’n lledaenu ac yn achosi effeithiau negyddol ar ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau brodorol. Gelwir y rhain yn “rhywogaethau goresgynnol”, a gallant gael sgil-effeithiau difrifol ar ein hiechyd, yr hinsawdd a’n heconomi.

Pam mae planhigion yn bwysig?

Rydym yn aml yn anghofio ein bod yn rhyngweithio â phlanhigion bob dydd. Mae’r gwahanol gynefinoedd sydd i’w cael yng ngwledydd Prydain yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau sydd wedi addasu’n benodol ar eu cyfer, ac mae planhigion yn sail i lawer o’r cynefinoedd hyn. Mae planhigion yn ffynonellau bwyd i amrywiaeth enfawr o organebau (gan gynnwys ni!); maen nhw hefyd yn dylanwadu ar ein hamgylchedd ffisegol, er enghraifft lleihau’r risg o lifogydd drwy sefydlogi glannau afonydd a storio dŵr. Mae rhai rhywogaethau o blanhigion yn arbennig am eu bod yn brin ac ond yn tyfu ar Ynysoedd Prydain. Fodd bynnag, mae ein fflora yn newid; mae gennym fwy o rywogaethau estron na rhywogaethau brodorol o blanhigion ym Mhrydain erbyn hyn!

Planhigion goresgynnol – sut maen nhw’n cyrraedd yma a beth yw’r broblem?

Yng ngwledydd Prydain, mae 36 o rywogaethau planhigion sy’n destun pryder arbennig, ond mae yna fwy o rywogaethau sy’n cael eu hystyried yn rhai goresgynnol ac mae deddfwriaeth arbennig ynghylch sut y gellir eu trin er mwyn rheoli eu lledaeniad. Yn bennaf, mae’r rhywogaethau hyn wedi cyrraedd gwledydd Prydain drwy arddwriaeth, ond yn llai cyffredin, mae planhigion goresgynnol yn cyrraedd drwy gael eu cario mewn deunyddiau sydd wedi’u mewnforio neu ym malast llongau.

Garddwriaeth

Mae llawer o rywogaethau wedi cael eu mewnforio fel planhigion addurnol oherwydd eu bod yn brydferth ac yn cael eu hystyried fel planhigion da mewn gardd – roedd hyn yn arbennig o gyffredin yn y cyfnod Fictoraidd, cyn i ni wybod llawer am risgiau cyflwyno rhywogaethau estron i diroedd newydd!

Mae Clymog Japan yn enghraifft berffaith. Cafodd y rhywogaeth hon ei chyflwyno i Brydain yn y 1800au, cyn cael ei lluosogi a dod yn blanhigyn gardd egsotig poblogaidd. Fodd bynnag, mae cofnodion o’r planhigyn yn dianc o erddi mor gynnar â 1907 ym Morgannwg, a hyd heddiw, mae Clymog Japan yn blanhigyn sy’n peri llawer o broblemau yn y de. Mae tystiolaeth yn dangos bod pob planhigyn Clymog Japan (Reynoutria japonica amr. japonica) sy’n tyfu ym Mhrydain wedi tarddu o un planhigyn benywaidd a gyflwynwyd flynyddoedd lawer yn ôl! Mae’r planhigyn hwn yn tyfu ar hyd ochrau ffyrdd, glannau afonydd, rheilffyrdd, coetiroedd a glaswelltiroedd, lle mae’n lledaenu drwy risomau tanddaearol dwfn (coesynnau tanddaearol sy’n cynhyrchu egin newydd) ac yn lleihau bioamrywiaeth yn ddifrifol. Mae tua £1.7 miliwn yn cael ei wario yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn er mwyn ceisio rheoli Clymog Japan a lliniaru difrod y planhigyn!

Clymog Japan yn tyfu yn De Cymru.

Clymog Japan yn tyfu yn De Cymru.

Sbesimen o glymog Japan yn Llysieufa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru)

Sbesimen o glymog Japan yn Llysieufa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru), a gasglwyd o Sain Ffagan.

Cafodd Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) hefyd ei gyflwyno fel planhigyn addurnol o’r Himalayas ym 1839. Heddiw, mae’n tyfu ar hyd glannau afonydd, mewn coetiroedd ac ar hyd ffyrdd. Mae ganddo godennau hadau ffrwydrol sy’n caniatáu iddo ledaenu dros bellteroedd mawr. Er bod y blodau’n brydferth, mae’n cystadlu â rhywogaethau brodorol, gan leihau bioamrywiaeth. Mae ganddo hefyd systemau gwreiddiau bas sy’n gallu gwaethygu erydiad glannau afonydd, sydd yn ei dro yn lleihau ansawdd dŵr ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd. Yn ôl astudiaeth gan fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Amy Wyatt, ers 1865 mae planhigyn Jac y Neidiwr wedi esblygu i addasu’n well i’w amgylchedd newydd.

Sbesimen o Jac y Neidiwr.

Sbesimen o Jac y Neidiwr.

Deunyddiau halogedig sydd wedi’u mewnforio

Llwyddodd y planhigyn Pirri-pirri (Acaena novae-zelandiae) i gyrraedd Prydain o dde-ddwyrain Awstralia a Seland Newydd wrth gael ei gludo ar wlân a gafodd ei fewnforio. Mae ganddo hadau bachog sy’n gallu glynu’n hawdd wrth ffwr a dillad. Fel llawer o blanhigion goresgynnol, gall y rhywogaeth hon gystadlu â’n planhigion brodorol a ffurfio clystyrau trwchus sy’n lleihau bioamrywiaeth.

Enghraifft o flodyn burr Pirri-pirri, yn dangos bachau/pigau sy'n caniatáu i hadau ledaenu trwy lynu wrth ffwr a dillad.

Enghraifft o flodyn burr Pirri-pirri, yn dangos bachau/pigau sy'n caniatáu i hadau ledaenu trwy lynu wrth ffwr a dillad.

Sbesimen o blanhigyn Pirri-pirri.

Sbesimen o blanhigyn Pirri-pirri.

Mae’r planhigyn Ambrosia (Ambrosia artemisifolia) yn frodorol i Ogledd America a chredir iddo gyrraedd Prydain mewn hadau adar, pridd garddwriaethol a phridd a ddefnyddir i sadio llongau. Mae ei baill yn alergenig iawn a gall achosi clefyd y gwair.

Mwsogl goresgynnol yw Serennog y Waun (Campylopus introflexus) a chredir iddo darddu yn hemisffer y De ac iddo gael ei gyflwyno gyda chynnyrch a gludwyd gan longau. Mae hefyd yn cael ei alw’n Fwsogl y Tanciau, oherwydd credir iddo gael ei ledaenu gan danciau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n wladychwr arbenigol ar dir noeth asidig, fel tir tomenni glo, ac mae bellach yn gyffredin yng Nghymru lle mae’n bygwth y cynefinoedd cyfoethog hyn o fywyd gwyllt.

Serennog y Waun yn tyfu yn Pendyrus.

Serennog y Waun yn tyfu yn Pendyrus.

Yn ddiweddar, mae ffwng newydd (Bryoscyphus granulosus) wedi’i ddarganfod sy’n heintio Serennog y Waun a mwsoglau tebyg. Mae’r ffwng yn achosi i’r mwsogl farw a ffurfio clytiau marw sy’n ehangu allan, fel cylch tylwyth teg. Mae sbesimenau o’r ffwng hwn wedi cael eu rhoi i’r amgueddfa yn ddiweddar gan y cyn-guradur George Greiff. Mae’r rhain yn cynnwys yr ‘holoteip’, y sbesimen gwreiddiol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r ffwng fel un newydd i wyddoniaeth. Mae gan y parasit ffwngaidd hwn bwysigrwydd ecolegol sylweddol, ac o bosib mae ganddo’r potensial i reoli mwsogl goresgynnol a all achosi niwed sylweddol.

Sut rydym yn gweithio ar blanhigion goresgynnol yn Amgueddfa Cymru

Mae Llysieufa Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys dros dri chwarter miliwn o sbesimenau planhigion, sy’n cynrychioli tua 300 mlynedd o waith yn casglu a chwmpasu bron pob rhywogaeth yng Nghymru. Mae’r llysieufa yn drysorfa o wybodaeth sy’n gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer adnabod planhigion, gwybod ble mae rhywogaethau i’w cael, a sut mae planhigion estron a goresgynnol yn lledaenu ar draws Ynysoedd Prydain. Gallwch ddysgu mwy am beth yw llysieufa a sut rydym yn cadw sbesimenau planhigion yma. Mae’r tîm Botaneg yn gweithio’n galed i ofalu am y casgliadau hyn o sbesimenau a’u datblygu er budd pawb, ac i gefnogi ymchwil barhaus i amrywiaeth newidiol ein hecosystemau. Rydym yn rhan fach o dîm Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys curaduron sy’n gofalu am y casgliadau hanes natur. Mae rhai ohonom yn arbenigo mewn tacsonomeg rhywogaethau (enwi a dosbarthu rhywogaethau) ac ecoleg; mae rhai ohonom yn ymchwilio i rywogaethau estron a goresgynnol er mwyn i ni allu deall eu lledaeniad a’u heffaith.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Mae yna lawer o ffyrdd o helpu i atal lledaeniad planhigion goresgynnol. Mae rhagor o wybodaeth yma. Gallwch chi helpu i atal goresgynwyr yn y dyfodol drwy gadw llygad ar y planhigion yn eich gardd a rhybuddio eraill am rywogaethau a allai neidio dros wal yr ardd. Mae yna hefyd ffyrdd o atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol mewn dŵr ac o amgylch dŵr – dysgwch fwy yma.