Cynhadledd ExArc 2013 Sara Huws, 10 Ionawr 2013 Ma sbel ers i fi flogio o Sain Ffagan - yn anffodus ma coblyn yn y cyfrifiadur, a 'dyn ni heb ddod o hyd iddo fe eto. Dyna fy ymddiheuriad, gyda llaw, nad oes lluniau yn y cofnod hwn. Gobeithio 'dwi y byddan nhw'n ail-ymddangos yn fuan! Ta waeth - ymlaen at y pwnc o dan sylw:Yr wythnos hon, bydd Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd 'ExArc' 2013. 'ExArc' yw'r enw cyffredinol am faes archaeoleg arbrofol, sy'n defnyddio technegau ymarferol i brofi damcaniaethau am fywyd yn y gorffennol. Maent yn edrych ar 'sut?' yn ogystal â phryd, y digwyddodd rhywbethMa' gwaith archaeolegyddion arbrofol i'w ganfod yn y deunyddiau crai, y manylion lleiaf, a'r broses o ddysgu yn sgîl methiant, yn ogystal â llwyddiant. Gall eu hymchwil gwmpasu pynciau fel smeltio haearn yn defnyddio cyfarpar cyn-oesol; archwilio ac ail-greu dillad isaf hanesyddol; neu ddarganfod manylion ymarferol am fywyd bob-dydd yn y gorffennol.Dwi'n lwcus iawn, am i mi gael dysgu llawer gan archaeolegyddion arbrofol dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n falch, felly, eu bod am ddod yma i Sain Ffagan, fel rhan o'u hymweliad â Chaerdydd. Dy'n ni'n licio torchi'n llewys ac arbrofi gyda gweithgareddau hanesyddol yma yn Sain Ffagan - boed yn wneud clocsie i ddawnsio ynddyn nhw ar Galan Mai - felly dwi'n siwr y bydd llawer mwy i'w ddysgu gan ExArch.Mae'r gynhadledd ei hun 'nawr yn llawn, ond bydd modd dilyn y drafodaeth ar hashnod #eauk2013. Wrth imi sgrifennu hwn, mae'r ffrwd twitter yn llenwi â phobl sy'n teithio i Gaerdydd o bob cyfeiriad. Os ydych chi'n mynychu, cofiwch ddod draw i ddweud helo. Bydd dim rhosyn gwyn yn fy ngwallt, ond fe fyddwch chi'n gallu fy adnabod, gobeithio, am fy mod yn gwisgo bathodyn enw...
Rhywogaeth sy'n newydd i wyddoniaeth: Mwydod Rhawben o ben draw'r byd Katie Mortimer-Jones, 8 Ionawr 2013 Rhywogaeth Mwydyn Rhawben Prydeinig (Magelona johnstoni). Delwedd: Andy Mackie. Rhywogaeth Mwydyn Rhawben o Portiwgeaidd (Magelona lusitanica) Pen Magelona montera o'r Môr Coch, wedi'i staenio â gwyrdd methyl. Delwedd: James Turner Magelona obockensis o Gwlff Aden Pen Magelona sinbadi o Gwlff Persia, wedi'i staenio â gwyrdd methyl. Delwedd: James Turner Esiampl o god magelonid Mae mwydod gwrychog y môr (Polycetau) yn perthyn i fwydod a gelenod – esiamplau cyffredin yw'r abwyd du a'r abwyd melys y bydd pysgotwyr môr yn eu defnyddio i ddal pysgod. Teulu bychan o bolycetau yw Magelonidae sydd â phen gwastad unigryw a gaiff ei ddefnyddio i gloddio, a dyna lle daw'r enw cyffredin – mwydod rhawben. Mae dros 70 o rywogaethau mwydod rhawben, a darganfuwyd 11 ohonynt gan fiolegwyr morol o Amgueddfa Cymru. Mae polycetau i'w gweld ym mhob un cynefin morol bron ac yn aml mae canran uchel o'r anifeiliaid sy'n byw yn ac ar wely'r môr yn bolycetau. Gall fod 9000 o rywogaethau ar draws y byd, er bod amrywiaeth mawr rhwng amcangyfrifon a rhywogaethau newydd yn cael eu canfod yn gyson (hyd yn oed yn nyfroedd Prydain). Gwelir amrywiaeth mawr ym maint a ffurf polycetau, faint y byddant yn symud a sut y byddant yn bwydo. Beth yw Mwydod Rhawben (Polycetau: Magelonidae)? Teulu bychan o bolycetau sydd i'w gweld ym mhob cwr o'r byd yw Magelonidae. Yn fwydod tenau, prydferth, llai na 10cm o hyd fel arfer, maent yn twrio drwy fwd a thywod ac i'w canfod fel arfer mewn dyfroedd llai na 100m o ddyfnder. Daw eu henw cyffredin – mwydod rhawben – o'r pen siâp gwastad unigryw a gaiff ei ddefnyddio i gloddio drwy waddod. Mae ganddynt ddau dentacl bwydo hir (palpiau) sydd wedi'u gorchuddio gan lympiau bach (papilau). Gwyddom am dros 70 o rywogaethau ar draws y byd, a darganfuwyd 11 ohonynt am y tro cyntaf gan fiolegwyr morol o Amgueddfa Cymru, gan gynnwys un rhywogaeth Brydeinig (Magelona johnstoni Fiege, Licher & Mackie, 2000). Mae biolegwyr morol yn Amgueddfa Cymru wedi astudio'r mwydod rhawben yn y moroedd o amgylch Penrhyn Arabia ac wedi cadarnhau bod Magelona cornuta, Magelona obockensis, Magelona pulchella, Magelona crenulifrons yn bresennol yno ynghyd â rhywogaeth heb ei disgrifio o'r Môr Coch (Mortimer, 2010). Mwydyn corniog Gwelwyd y rhywogaeth hon, sydd heb ei disgrifio, am y tro cyntaf yng nghasgliadau'r Muséum National d'Histoire Naturelle ym Mharis. Arweiniodd yr ymchwil hwn at waith ar y cyd â gwyddonwyr o'r Centre d'Estudis Avançats de Blanes (CEAB) yn Sbaen a roddodd fynediad i sbesimenau o'r rhywogaeth newydd o dros 100 o leoliadau yn yr un ardal. Mae'n rhywogaeth hynod ddiddorol oherwydd y cyrn unigryw ar ei ben sy'n gwneud iddo edrych fel petai'n gwisgo het matador! Mae bellach wedi cael ei enwi'n Magelona montera, ar ôl yr enw Sbaeneg am het matador (Mortimer et al., 2012). Mae chwe rhywogaeth Magelona arall wedi cael eu hadnabod bellach o'r moroedd o amgylch Penrhyn Arabia, gan gynnwys rhywogaeth arall o Iran a enwyd ar ôl y morwr ffuglennol Sinbad ( M. sinbadi, M. cf. agoensis, M. conversa, M. cf. falcifera, M. symmetrica, ac M. cf. cincta). Cyfyd hyn gyfanswm y rhywogaethau hysbys o ranbarth y Môr Coch/Y Gwlff i unarddeg, gyda tri o'r rhain wedi'u disgrifio'n wreiddiol o ynysoedd Seychelles gan staff yr Amgueddfa (Mortimer & Mackie, 2003; 2006). Mae'r bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a CEAB wedi bod yn un llwyddiannus ac wedi arwain hefyd at adolygu mwydod rhawben o Bortiwgal, gan gynnwys disgrifio rhywogaeth newydd, Magelona lusitanica. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn nhrafodion y 10fed Gynhadledd Bolycetau Ryngwladol, a gynhaliwyd yn yr Eidal, ym Mehefin 2010 (Mortimer, Gil & Fiege, 2011). Bellach mae tacsonomyddion Amgueddfa Cymru wedi astudio 30% o bob rhywogaeth Magelona hysbys. Nid yw'r gwaith ar ben fodd bynnag gan ein bod yn paratoi i ddechrau ar rywogaethau Prydain fel rhan o adolygiad yr Amgueddfa o Ffawna Polycetau Prydeinig. Byddwn ni hefyd yn gwneud ymchwil ar y codau nodedig yn abdomen rhai rhywogaethau magelonaidd, gan fod eu swyddogaeth yn dal yn anhysbys. Llyfryddiaeth: Fiege, D., Licher, F.&Mackie, A.S.Y. 2000. Adolygiad rhannol o Fagelonidae Ewropeaidd (Annelida: Polychaeta): Ailddiffinio Magelona mirabilis ac adnabod M. johnstoni sp. nov. Journal of the Marine Biological Association of the United Kingdom, 80, 215–234. Mortimer, K. 2010. Magelonidae (Polychaeta) o Benrhyn Arabia: adolygiad o rywogaethau hysbys gyda nodiadau ar Magelona tinae o Wlad Thai. Zootaxa, 2628, 1–26. Mortimer, K., Cassà, S., Martin, D. & Gil, J. 2012. Cofnodion a rhywogaethau Magelonidae (Polychaeta) newydd o Benrhyn arabia, gydag ail-ddisgrifiad o Magelona pacifica a thrafodaeth o geudod genau magelonidae. Zootaxa, 3331, 1–43. Mortimer, K., Gil, J. & Fiege, D. 2011. Magelona Portiwgal (Annelida: Magelonidae) gyda disgrifiad o rywogaethau newydd, ail-ddisgrifiad o Magelona wilsoni Glémarec, 1966 ac allwedd i Fagelonidae llawn dŵf o ddyfroedd Ewropeaidd. Italian Journal of Zoology, 78(S1), 124–139. Mortimer, K. & Mackie, A.S.Y. 2003. Y Magelonidae (Annelida: Polychaeta) o'r Seychelles, gyda disgrifiad tair rhywogaeth newydd. In: Sigvaldadóttir, E., Mackie, A.S.Y., Helgason, G.V., Reish, D.J., Svavarsson, J., Steingrímsson, S.A. & Gudmundsson, G. (eds). Datblygiadau ymchwil polycetau. Hydrobiologia, 496(1–3), 163–173. Mortimer, K. & Mackie, A.S.Y. 2006. Y Magelonidae (Annelida: Polychaeta) o'r Seychelles. 2. Disgrifiad o bedair rhywogaeth ychwanegol, tair sy'n newydd i wyddoniaeth. In: Sardá, R,. San Martín, G., López, E., Martin, D. & George, D. (eds). Datblygiadau gwyddonol mewn ymchwil polycetau. Scientia Marina, 70(S3), 125–137.
Penblwydd hapus to Alfred Russel Wallace! Julian Carter, 8 Ionawr 2013 Today, 8 January, marks the 190th birthday of the intrepid explorer and brilliant naturalist Alfred Russel Wallace. Born in 1823 in the village of Llanbadoc near Usk, Wallace went on to be one of the most celebrated scientists of his era.Wallace spent much of his early working years as a civil engineer in the south Wales area, particularly in the Vale of Neath. This involved spending a great deal of time working outdoors, which allowed him to indulge in his growing passion for natural history.Soon, inspired by the writings of traveling naturalists such as Alexander von Humboldt and Charles Darwin, Wallace set out on his own intrepid travels. These adventures started in the Amazon Basin and were followed later by his explorations of the Malay Archipelgo.During these trips Wallace collected many thousands of birds, butterflies and beetles, many of which were new to science. The biological diversity he encountered inspired his thinking in many areas of biology such as the distribution and evolution of species. His brilliance did not go un-noticed and in 1858 he famously co-published the theory of evolution by natural selection with Charles Darwin.During 2013 Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, along with other museums and institutions across the world, will be marking the centenary of the death of A R Wallace in a celebration of his life and legacy. Keep an eye on our web site and blog for further information as we finalise details and dates. You will also be able to follow other events and exhibitions on the Wallace100 website.
Oriel 1: the final days.... Sian Lile-Pastore, 18 Rhagfyr 2012 Hello!Just in case you don't know - Oriel 1 will be closing on 31 December, so make sure you visit us before then, there's not much time!The gallery is full of such great objects - my favourites are the good luck charms, the (previously) concealed shoe and the Victorian brooches and jewellery made with woven human hair.I've pretty much finished my duties for the year! This month we've been busy making Christmas decorations - tissue paper pom poms, paperchains and christmas tree decorations made out of felt - it's been lots of fun.Next year I'll be starting up two new things - a craft group for adults and a reading group for adults, and we'll also be carrying on with our old favourites - quilt club, craftivism, art cart... it's going to be great!Wishing you a happy Christmas and wonderful new year!best wishes, sian.
Ffosil hynafol yng ngolau technoleg fodern Christian Baars, 17 Rhagfyr 2012 Rhan o garreg yn cynnwys cwrel ffosil, prin y gellir ei weld. Mae'r rhan fwyaf o'r ffosil y tu mewn i'r garreg. Er bod y ffosilau'n fach mae'r peiriannau'n fawr: adeiladau syncrotron Diamond Light Source yn Didcot, Swydd Rydychen. Cyn i ffosilau gael eu hadnabod gan balaeontolegwyr, yn aml mae'n rhaid eu paratoi yn ofalus a gall technegau traddodiadol achosi niwed trychinebus i sbesimenau. Mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru yn arbrofi â thechnolegau newydd er mwyn astudio ffosilau hynafol mewn manylder heb niweidio'r sbesimen o gwbl. Yn aml er mwyn paratoi ffosil i'w adnabod a'i astudio rhaid gwaredu'r garreg o'i amgylch drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol, fel pinnau niwmatig yn defnyddio aer wedi'i gywasgu a pheiriannau ffrithiant aer sy'n gweithio fel sgwrwyr tywod bach. Mewn rhai achosion, gall y garreg gael ei doddi drwy ddefnyddio asid. Technegau dinistriol Bydd y technegau paratoi yma yn dadorchuddio arwyneb y ffosil, ond rhaid i ni edrych y tu mewn i'r sbesimenau er mwyn eu hadnabod. Defnyddir technegau dinistriol yn gyson i archwilio rhai grwpiau ffosil. Er mwyn astudio strwythurau mewnol cwrel, bryosoaid a braciopodau er enghraifft, caiff y sbesimenau eu torri (eu trychu) yn dafellau tenau er mwyn i ni allu sgleinio golau drwyddynt a'u harchwilio dan ficrosgopau. 'Trychiadau tenau' yw'r enw ar y tafellau yma. Weithiau, mae'n well peidio â thynnu'r garreg neu dorri'r sbesimen. Os yw'r ffosil yn fregus iawn gall dorri wrth gael ei baratoi. Ar y llaw arall, os yw'r ffosil yn un prin iawn, ni fyddem am ddefnyddio technegau dinistriol gan y byddai'n anodd, neu'n amhosibl cael ffosil arall yn ei le. Tomograffeg Pelydr-X — osgoi dinistrio Bellach, gallwn ddefnyddio pelydr-X i adeiladu delwedd 3D rhithwir o ffosilau bregus diolch i dechneg o'r enw tomograffeg pelydr-X. Gan fod carreg yn dipyn mwy dwys na meinwe'r corff, mae tomograffeg pelydr-X yn defnyddio ffynhonnell ymbelydredd mwy pwerus o lawer na pheiriant mwn ysbyty. Yr unig leoliad o'r fath yn y DU yw syncrotron Diamond Light Source yn Didcot, Swydd Rydychen. Mae'r peiriant siâp toesen anferth yma'n 300 metr o ddiamedr ac yn cyflymu gronynnau wedi'u gwefru (electronau) drwy gyfres o fagnetau nes eu bod yn cyrraedd cyflymdra golau, gan gynhyrchu pelydrau-X. Defnyddiodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru y dechneg hon yn ddiweddar i ymchwilio i ffosil bychan a ganfuwyd mewn cerrig Ordoficaidd 462 miliwn o flynyddoedd oed yn Iran. Roedd wedi'i hanner claddu yn y garreg ac yn ymddangos fel un cwrel crychlyd. Penderfynwyd peidio â defnyddio'r dechneg arferol o adnabod cwrel crychlyd – sef ei drychu yn dafellau tenau – oherwydd ei faint bach a'i brinder. Aed a'r sbesimen yn hytrach i Didcot i gynnal arbrawf tomograffeg pelydr-X. Bu'r dechneg newydd yn llwyddiannus iawn, gan greu delweddau 3D gwych a thrychiadau rhithwir hafal heb niweidio'r ffosil ei hun. Defnyddiwyd y delweddau i archwilio strwythur mewnol y ffosil a dod i'r casgliad taw cwrel oedd y sbesimen – rhywogaeth o genws Lambelasma mwy na thebyg. Mae'r sbesimen tua 5 miliwn o flynyddoedd yn hŷn na'r cwrel crychlyd cynharaf a ddisgrifiwyd cyn hyn, ac felly'n gaffaeliad gwerthfawr i'n dealltwriaeth o fywyd cynnar ar ein planed. See Also: Read the latest news from Diamond Light Sourse website: Researchers discover earliest record of rugose coral