Amgueddfa'r Lleuad

Digwyddiad:Amgueddfa’r Lleuad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gwybodaeth

Glanio 10 Mawrth 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Wnaethoch chi fyth freuddwydio am sefyll dan y Lleuad a rhyfeddu ar bob crater a chyfuchlin? Wel, gallwch chi roi’r gorau i freuddwydio... a fydd dim angen roced na siwt ofod arnoch chi!

Y gwanwyn hwn, bydd Amgueddfa'r Lleuad gan artist y DU Luke Jerram, yn trawsnewid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda cherflun saith metr disglair sy'n cynnwys delweddau manwl o NASA ynghyd â thrac sain hudolus.

I ddathlu, bydd yr Amgueddfa yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau lloerig i wneud eich ymweliad hyd yn oed yn fwy arbennig.

Felly archebwch docyn am ddim i'r amgueddfa, a gadewch i'ch dychymyg hedfan!

Archebwch eich tocyn am ddim 

Digwyddiadau perthnasol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
28 Mawrth 2026, 6yp (Digwyddiad Teuluol); 9yn (Oedolion yn Unig)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
1 Ebrill 2026, 5yp ac 6.30yp
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
18 Mawrth 2026, 6yp

Mwy o gynnwys

Ymweld

Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Oriau Agor

Oriau Agor y Gaeaf: O ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau