Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
41 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymuno â dwsinau o sefydliadu eraill ledled y byd mewn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o’r angen i warchod yr amgylchfyd naturiol, a hynny cyn digwyddiad allweddol Cynhadledd y Partion (CyP) 15 y Confensiwn ar Amrwyiaeth Fiolegol yn 2021.
Heddiw (3 Chwefror 2021), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth £3.95m i Amgueddfa Cymru i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd, gan roi sefydlogrwydd i sefydliad diwylliannol cenedlaethol blaenllaw Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Oherwydd yr heriau parhaus a achosir gan COVID-19, bydd gwobr gelfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU Artes Mundi 9 bellach yn agor yn rhithwir Ddydd Llun 15 Mawrth 2021.
Bydd ôl troed deinosor a ganfuwyd ar draeth ger y Barri yn helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am sut oedd deinosoriaid yn cerdded.
Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer pedwerydd rhifyn Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru. Y thema yw QUEER LOOKING | GOLWG QUEER ac rydyn ni am glywed gan leisiau queer a trans o bob cwr o Gymru, yn Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.