Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

68 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Cefnogaeth I'r Amgueddfa Gan Brif Weinidog Cymru

27 Mai 2005
Ar ymweliad ag Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, heddiw (27 Mai 2005), soniodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, am ei falchder wrth glywed am lwyddiant Pwll Mawr

Y Pwll Mawr yn ennill y wobr fawr

27 Mai 2005
Heno (26 Mai), mae'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru yn dathlu llwyddiant wrth drechu cystadleuaeth gadarn i ennill gwobr fawr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn — gwobr gwerth £100,000.

Codi gwallt eich pen — Salon o'r 1950au yn Symud i Sain Ffagan

23 Mai 2005
Yr wythnos nesaf bydd y gwaith o symud salon trin gwallt pinc a glas a'r siop farbwr y drws nesaf o Aberdâr yn ne Cymru i Amgueddfa Werin Cymru yn cychwyn. Yn ddarlun cryno o fywyd merched, eu steil a'u hannibyniaeth cynyddol ar ddechrau'r 1960au, bu'r salon yn wag ers degawdau ar stryd a fu unwaith yn llawn ffrwst; bellach caiff ei chadw a'i hail-godi ochr yn ochr ag adeiladau byd-enwog Sain Ffagan.

Pwll Mawr yn galw ar Fois Bevin i gysylltu

5 Mai 2005
Bydd y Pwll Mawr yn dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) trwy lansio apêl i Fois Bevin gysylltu â ni. Oeddech chi, neu aelod o'ch teulu'n un o Fois Bevin? Neu efallai i chi gwympo mewn cariad ag un o Fois Bevin? Os felly, byddai'n dda cael clywed gennych chi.

Beth oedd swm a sylwedd llechi i'n cyndeidiau?

3 Mai 2005
Bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnal cyfres arbennig o sgyrsiau yn ystod mis Mai yn canolbwyntio ar y rhan y chwaraeodd y diwydiant llechi ym mywydau dyddiol pobl. Mae'r pynciau yn amrywio o'r berthynas rhwng y diwydiant a morio i'r fath o lysieuau a oedd chwarelwyr yn eu tyfu yn eu gerddi. Felly'r bwriad yw i apelio at gynulleidfa eang o ymwelwyr i'r Amgueddfa.

Monet — Y Garddwr A'r Artist

21 Ebrill 2005
Amgueddfa Ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
23 Ebrill 2005

Roedd gan Claude Monet (1840-1926), un o arweinwyr y garfan Argraffiadol, ddiddordeb mawr mewn garddio, fel mae rhai o'i weithiau diweddarach yn dangos. Cafodd ei ardd hardd yn Giverny ei hedmygu gan y rheini sy'n mwynhau celf yn ogystal â garddwyr, a daeth ei luniau ysgafn o lilïau'r dwr yn rhai o'r lluniau enwocaf yn y byd.