Digwyddiad:How Does It Work? gyda Maddie Moate

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn syth o dudalennau ei llyfr i’r llwyfan byw, dyma wahoddiad gan Maddie Moate (seren YouTube a Maddie’s Do You Know? ar CBeebies) ichi ddod ar antur ryngweithiol i weld sut mae peiriannau bob dydd yn gweithio!

 
O oergelloedd ac injans tân i ffyrnau micro-don a rowndabowts, bydd digon o sbort i’w gael wrth i Maddie ddatgelu sut mae pethau’n gweithio, gyda gemau, cwisiau a llawer o ryngweithio â’r gynulleidfa! Peidiwch â cholli’ch cyfle i gwrdd â Maddie ac ymuno yn y sbri.
 
Hyd 45 - 60 munud
 
Sylwer: bydd angen tocyn ar oedolion a phlant ar gyfer y sioe hon.
 

Bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y sioe hanner dydd

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

30 Hydref 2026, 12pm (+ BSL) a 2.30pm
Pris £7.50yp
Addasrwydd Oed: 0 - 99
ssf

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
30 Hydref 2026 12:00BSL Gweld Tocynnau
30 Hydref 2026 14:30 Gweld Tocynnau

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau