Digwyddiad:Ai dim ond ceffyl clyfar iawn yw Deallusrwydd Artiffisial?

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dim lle ar ôl

Ymunwch â’r cyfrifiaduregydd Dr Megan Venn-Wycherley i fynd ar garlam trwy fethiannau mwyaf doniol a llwybrau byr mwyaf slei deallusrwydd artiffisial – gan gynnwys y ceffyl a heriodd fathemateg, y dryswch rhwng chihuahua a myffin, a’r cyfle i ddod yn sgwrsfot dynol. Erbyn y diwedd byddwch chi’n gwybod yn union beth sydd gan eich ffôn yn gyffredin â cheffyl o oes Fictoria. Hwyl a sbri i bob oedran.

Ym 1904, cafodd y byd ei syfrdanu gan geffyl o’r enw Clever Hans oedd yn gwneud symiau gyda’i garn – nes i wyddonydd ddarganfod ei dric go iawn, oedd hyd yn oed yn rhyfeddach na mathemateg! Dros ganrif yn ddiweddarach, rydyn ni wedi’n hamgylchynu gan beiriannau sydd fel petaen nhw’n meddwl: maen nhw’n sgwrsio, yn tynnu llun, yn gorffen ein brawddegau. Ond faint o hyn sy’n ddeallusrwydd go iawn, a faint sy’n fersiwn ffansi iawn o garnau’r ceffyl gynt? 
 
Hyd 30 munud
 
Sylwer: bydd angen tocyn ar oedolion a phlant ar gyfer y sioe hon.
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

30 Hydref 2026, 1.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oed: 8 - 99
Sold Out
v
SSF

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
30 Hydref 2026 Sold Out  

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau