Digwyddiad:Gwyddoniaeth Gyflym

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dim lle ar ôl

Syniadau mawr. Tair munud. Un her!

Bob dydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae ymchwilwyr yn darganfod pethau sydd â'r potensial i newid y byd. Mae eu gwaith yn gymhleth a gall gymryd blynyddoedd i'w gwblhau, ond a allan nhw esbonio'r wyddoniaeth a'i heffaith mewn tair munud yn unig?
Ymunwch â ni am gyfres o sgyrsiau cyflym lle bydd ymchwilwyr gyrfa gynnar o feysydd gwyddoniaeth, meddygaeth a pheirianneg yn ymgymryd â’r her o wneud ymchwil arloesol yn ddiddorol ac yn hygyrch.
Gallwch ddarganfod syniadau diddorol, clywed am sut mae gwyddonwyr Abertawe'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, a gofyn eich cwestiynau ar ôl y sgyrsiau.
 
Hyd 40 munud
 
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

31 Hydref 2026, 2.45pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oed: 8 - 99
Sold Out
ssf
SSF

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
31 Hydref 2026 Sold Out  

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau