Digwyddiad:Cyffesion Bradwr: Seicoleg Ymddiriedaeth a Thwyll

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymunwch â ni ar nos Galan Gaeaf am noson lawn cyffro wrth i ni ddatgelu dwy o gystadleuwyr mwyaf dieflig The Traitors – y ddwy Gymraes Fiona ac Amanda!

Byddwch barod i gwestiynu popeth rydych chi’n meddwl eich bod chi’n ei wybod am onestrwydd, ymddiriedaeth ac ymddygiad dynol, wrth i ni archwilio’r seicoleg ddifyr y tu ôl i dwyllo. Sut wnaethon nhw dwyllo’u cyd-chwaraewyr? Pa strategaethau a ddefnyddion nhw i aros yn gudd yng ngolwg pawb? A beth all eu profiadau ei ddatgelu am y ffordd rydyn ni’n barnu gwirionedd a chelwyddau mewn bywyd bob dydd?
Bydd seicolegydd o Brifysgol Abertawe, Dr Alex Jones, yn ymuno â’r Bradwyr ar gyfer trafodaeth fydd yn mynd â ni y tu ôl i’r llen i ddatgelu’r wyddoniaeth y tu ôl i’r penderfyniadau, yr emosiynau a’r ymddygiadau sy’n caniatáu twyllo mor effeithiol. Cawn ddarganfod y cyfrinachau a gedwir wrth adeiladu ymddiriedaeth, creu stori bersonol sy’n argyhoeddi a darllen cymhellion eraill dan bwysau. Gan dynnu ar brofiadau bywyd go iawn o’r sioe ac ymchwil seicolegol, bydd y digwyddiad hwn yn datgelu pam mae’n llawer anoddach adnabod celwyddgi nag y bydden ni’n feddwl...
 
Dyma rai cwestiynau y byddwn ni’n eu harchwilio:
• Sut mae pobl yn ennill ymddiriedaeth ac yn dylanwadu ar eraill?
• Pa strategaethau a thactegau helpodd y Bradwyr i lwyddo?
• Oes modd dweud mewn gwirionedd pan fydd rhywun yn dweud celwydd?
• Beth sy’n digwydd i’n cyrff pan fyddwn ni’n twyllo pobl eraill?
• Pam mae bodau dynol yn aml mor wael am ganfod twyll?
• Beth yw rôl emosiwn, greddf a rhagfarn wrth inni farnu eraill?
 
Allwch chi adnabod bradwr? Neu allech chi gael eich twyllo hefyd?
 
Dr Alex Jones
Mae Alex yn Athro Cyswllt Gwyddor Data Seicolegol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n astudio’r modd y byddwn ni’n ffurfio argraffiadau o bobl eraill ar sail eu hwynebau — a pham mae’r argraffiadau hynny mor aml yn anghywir.
Mae ei ymchwil yn modelu data ac ystadegau ar raddfa fawr i ofyn pam mae rhai wynebau’n edrych yn onest, pam rydyn ni i gyd yn cytuno ar bwy sy’n edrych yn onest, a pham nad yw’r cytuno hwnnw’n dweud fawr ddim wrthym am bwy sy’n onest mewn gwirionedd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar ganfyddiad wynebau, argraffiadau cyntaf, a mesur gwahaniaethau unigol yn y modd y mae pobl yn adnabod ac yn darllen wynebau.
 
Hyd 90 munud
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

 

Gwybodaeth

30 Hydref 2026, 7pm
Pris £10yp
Addasrwydd Oedolion, pobl ifanc a phlant hŷn
ssf

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
30 Hydref 2026 19:00 Gweld Tocynnau

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau