Digwyddiad:Cynrhon Cariadus!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Beth yn union yw therapi cynrhon, y driniaeth ryfeddol hon sydd ar gael ar bresgripsiwn gan y GIG ar gyfer clwyfau cronig heintiedig?
Mae ein grŵp ymchwil cynrhon ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud darganfyddiadau gwyddonol sy'n gallu esbonio sut yn union mae cynrhon yn helpu i iacháu clwyfau megis troed diabetig ac wlserau gwythiennol y goes yn gyflym ac yn hynod effeithiol. Yn ogystal, byddwn yn rhannu sut mae cynrhon yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i drin ac iacháu heintiau cas sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau yng nghlustiau cŵn wedi'u hachub. Rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn newid yr ymateb 'ych-a-fi' a'r atgasedd at y creaduriaid rhyfeddol hyn! Gyda'r Athro Yamni Nigam, y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe.
 
Hyd 30 munud
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

30 Hydref 2026, 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oed 6 - 99
ssf

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
30 Hydref 2026 15:30 Gweld Tocynnau

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau