Digwyddiad:Bioleg Forol Roc Trwm

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Tom “The Blowfish” Hird, yr unig fiolegydd morol roc trwm yn y byd, sy’n rhestru ei siart “Top of The Rocks” o greaduriaid morol! Dyma sioe anifeiliaid cyflymaf, drycaf, hyllaf a rhyfeddaf y cefnfor! Gallwch ddisgwyl ffeithiau ffantastig, cynefinoedd cyfoglyd, galluoedd gwallgo a digonedd o sŵn!!

 
... Ynglŷn â Tom “The Blowfish” Hird
Dysgodd y Blowfish am werth a harddwch anifeiliaid yn ifanc iawn ac erbyn hyn mae’n treulio’i fywyd yn addysgu eraill am ryfeddod bywyd gwyllt a phwysigrwydd cadwraeth. Y pwnc agosaf at ei galon, wrth gwrs, yw’r môr.
Trwy gydol ei holl flynyddoedd yn gweithio’n uniongyrchol gydag anifeiliaid peryglus o bob math, a hynny mewn lleoliadau dan reolaeth ac yn y gwyllt, mae’r Blowfish wedi cronni peth wmbredd o brofiad nes ei fod bellach yn gallu plymio’n rhydd gyda siarcod, ymgodymu gyda nadroedd a dawnsio gyda sgorpionau. Gan ddangos y parch mwyaf bob amser at y creadur, ond hefyd archwilio ac esbonio ei nodweddion mwyaf anhygoel, mae’r Blowfish yn gallu cael mynediad at ochr o natur sydd y tu hwnt i gyrraedd pawb arall.
 
Teledu a chyhoeddi
All The Sharks - Netflix
Ocean Wonders - Earth X TV
Blowfish’s Oceanopedia - Atlantic Books Publishing
Shark Week - Discovery
Fishing Impossible - BBC Worldwide
Sunday Brunch - Channel 4
Blue Peter - BBC
Absolute Genius with Dick and Dom. How To Be Epic At Everything.
 
Hyd 45 - 60 munud
 
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

31 Hydref 2026, 3pm
Pris £5pp
Addasrwydd Oed: 6 - 99
ssf
Tom Hird
Tom Hird

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
31 Hydref 2026 15:00 Gweld Tocynnau

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau