Digwyddiad:Techniquest yn cyflwyno: Bomiau Bath

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dim lle ar ôl

Dere i wneud sblash gyda’n gweithdy bomiau bath lliwgar. Cei ddysgu popeth am y wyddoniaeth y tu ôl i fomiau bath, gan gynnwys beth sy’n gwneud iddyn nhw hisian, sut mae gwahanol arogleuon yn gallu effeithio ar ein hwyliau a pham maen nhw’n edrych ac yn arogli mooor dda.

Byddwn ni’n ymchwilio i’r cynhwysion, y persawrau a’r lliwiau sy’n perthyn i’r rhyfeddodau bach byrlymog hyn – ac mi gei di hyd yn oed wneud dy fom bath dy hun i fynd adre gyda ti!
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

31 Hydref 2026, 11am
Pris £5yp (mae oedolion yn archebu eu tocyn cyfeilliant am ddim)
Addasrwydd Oed: 0 - 99
Sold Out
ssf
SSF

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
31 Hydref 2026 Sold Out  

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau