Digwyddiad:Taclau Gwyrdd Grace

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Grace yn dwlu ar beiriannau, moduron, taclau, gizmos ac unrhyw beth gydag olwynion!
Efallai eich bod chi wedi’i gweld hi ar ei rhaglen lwyddiannus ar CBeebies, ‘Grace’s Amazing Machines’ lle mae hi’n archwilio rhai o’r peiriannau mwyaf, cyflymaf a mwyaf anhygoel yn y byd.

Yn y sioe hon, bydd Grace yn gwahodd teuluoedd i gamu i mewn i’w gweithdy trydanol, lle bydd hi’n archwilio taclau cŵl iawn – mae ganddyn nhw olwynion, maen nhw’n lot o hwyl ac yn cael eu pweru gan ddull sy’n well i’r amgylchedd. Allwch chi ddyfalu beth ydyn nhw?

Dewch draw i ddarganfod gyda Grace sut mae ei Thaclau Gwyrdd yn gweithio, sut maen nhw’n symud a beth sy’n eu gwneud nhw’n wirioneddol anhygoel!
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe 

Gwybodaeth

31 Hydref 2026, 10.30am a 12.30pm
Pris £5yp
Addasrwydd Oed: 6 - 99
ssf

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
31 Hydref 2026 10:30 Gweld Tocynnau
31 Hydref 2026 12:30 Gweld Tocynnau

Digwyddiadau perthnasol

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau