Data Tywydd ar gyfer Ionawr Megan Naish, 6 Chwefror 2026 Helo Cyfeillion y Gwanwyn!Gobeithio eich bod chi gyd wedi mwynhau mis cyntaf 2026 ac wedi parhau i gasglu eich data tywydd ers dychwelyd i'r ysgol! Digwyddodd llawer o bethau cyffrous ym mis Ionawr, fel ein Cystadleuaeth ‘Enwi Cennin Pedr’, a dau o’n Gweithdai Rhithwir newydd. Diolch i bob ysgol a gymerodd ran yn unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ein dau Weithdy Rhithwir olaf, gallwch chi dal archebu lle yma: Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion | Museum Wales. Mae ein Cystadleuaeth ‘Enwi Cennin Pedr’ bellach wedi cau’n swyddogol, felly cadwch lygad allan am y dewisiad enw yn fuan!Beth am i ni edrych ar ba fath o dywydd a ddaeth i ni ym mis Ionawr?Dechreuodd mis Ionawr fel mis oer iawn gyda llawer yn profi rhew, iâ ac eira ar draws rhannau o'r DU, gyda'r Alban yn gweld eira 'helaeth' yn cael ei adrodd gan y Met Office.Yna daeth Storm Goretti â gwyntoedd niweidiol yn enwedig yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili, gan achosi'r rhybudd gwynt coch cyntaf ar gyfer 2026! Daeth hefyd ag eira ar draws ardaloedd yng Nghymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De'r Pennines.Yn ddiweddarach yn y mis, daeth y tywydd yn wlyb ac yn wyntog oherwydd stormydd pellach a gofnodwyd, Storm Ingrid a Storm Chandra, gan ddod â glaw trwm a gwyntoedd cryfion.Mae rhai ardaloedd o Somerset a Devon wedi profi llifogydd hefyd. Cyrhaeddodd y glaw hwn i Ogledd Iwerddon, lle soniodd y Met Office fod rhai o'r cyfansymiau glawiad misol trymaf wedi'u cofnodi.Cafodd llawer o'r arsylwadau tymheredd a thywydd hyn eu cofnodi yn eich sylwadau a'ch uwchlwythiadau data, felly gadewch i ni edrych ar beth rydych chi wedi profi!Sylwadau Tywydd a Thymheredd:Ysgol Pentreychaf:Pentreuchaf wedi cael ychydig o eira dydd Llun wythnos ymaHenllys Church in Wales SchoolSnow, ice wind, rain , storms and sunshine A mixture of weather this week .Langbank Primary SchoolIt snowed here on Thursday. Our rain gauge was frozen so we had to melt the ice to find the volume of waterSt John's Primary SchoolWe were just back to school from the Christmas break. The water in the jug was quite a lot but we think it was because the snow had melted. It was very icy and cold this week coming to school.Henllys Church in Wales SchoolLess rain means more playtimeLammack Primary SchoolSnow and ice on Monday and Tuesday of this week. Some of our pots were vandalised during the Christmas holidays but we have collected most of the bulbs and will replant them as soon as we can.Greenburn ASN SchoolAt start of week, we were on an Amber alert for severe weather so not safe for the children to go out to take measurementsHenllys Church in Wales Schoolit is not as cold as it has beenPil Primary SchoolIt was very cold this week.St John's Primary SchoolThere was lots of rain this week. Some schools were closed on Tuesday as there was a storm, but our school was open.Pil Primary SchoolIt has been very wet this week.Athro’r Ardd:Diolch yn fawr iawn am uwchlwytho eich sylwadau gwych a chynnwys manylion a all ein helpu i ddysgu mwy am sut mae gwahanol rannau o'r DU wedi cael eu heffeithio gan y tywydd! Mae'n edrych fel bod llawer ohonoch chi wedi profi'r tywydd oer ac eiraog, gydag Ysgol Gynradd Langbank yn gorfod aros i'w mesurydd glaw toddi cyn cymryd darlleniad!Mae'r tywydd wedi bod yn arbennig o niweidiol y mis hwn, Ysgol ASN Greenburn, felly rydym yn cytuno'n llwyr mai diogelwch sy'n dod yn gyntaf! Diolch i chi am gymryd yr amser o hyd i ychwanegu hyn at eich sylwadau!Diweddariadau Bylbiau:Llanmartin Primary SchoolBulb growth now 8.5cmMountain Lane SchooLots of shoots appearing for the bulbs A miserable drizzly week.Langbank Primary SchoolMost of the bulbs that we planted in the ground are coming through nowWe can see shoots from most of the daffodil bulbs in our pots now. Nearly all the bulbs in the ground ar growing and are about 6cm tall. There are no signs of the mystery bulbs and the crocus bulbs yetYsgol Gynradd LlandegfanMae ein bylbiau dirgel wedi dechrau tyfu.Athro’r Ardd:Mae'n anhygoel clywed bod mwy o ysgolion wedi dechrau gweld twf yn eu bylbiau. Daliwch ati i wirio i weld sut maen nhw'n newid dros fis Chwefror, efallai y byddwch chi'n dechrau gweld rhywfaint o flodeuo!Mae gwybodaeth am sut i adnabod a yw eich planhigion wedi blodeuo ar gael ar y wefan yma: Cam 5: Cadw cofnodion blodau (Ionawr - Mawrth) | Museum Wales, gan y gall fod yn anodd gwybod pryd yw'r amser cywir i ddogfennu'r dyddiad blodeuo.Efallai y byddwch yn gweld nad yw rhai o'ch planhigion yn barod i flodeuo eto, felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych ddata i'w uwchlwytho hyd yn hyn! Y peth gorau i'w wneud yw parhau i fonitro'ch planhigion yn y cyfamser i weld unrhyw newidiadau.Ysgolion yn cau!Mountain Lane SchoolNo results from Monday due to school being closed because of the snow. Lots of snow and on Thursday evening and rain night - we thought we’d be closed but it was just slushy because of the temperatureRhayader PrimaryNo records on Monday, Tuesday, Friday, due to INSET and 2 days of snow, so no school.Ysgol Gymraeg MorswynYsgol ar gau oherwydd rhai staff methu cael i mewn oherwydd eira ochr arall ir ynys. Dim eira yng Nghaergybi.Plasnewydd PrimarySchool was closed on Monday and Tuesday because of snow.Ysgol Gynradd LlandegfanOherwydd eira nid oedd yr ysgol yn agored ar y 5ed ar 6ed. Roedd wedi toddi erbyn y 7fed.Athro’r Ardd:Peidiwch â phoeni os oedd eich ysgol wedi cau ac nad oedd modd casglu unrhyw ddata; eich diogelwch chi sy'n dod yn gyntaf! Gobeithio eich bod chi i gyd wedi dychwelyd i'r ysgol erbyn hyn, ac yn setlo'n ôl i mewn.Diolch am eich gwaith caled yn uwchlwytho'r sylwadau hyn er gwaethaf y tywydd!Da iawn eto Cyfeillion y Gwanwyn am eich gwaith caled dros y misoedd diwethaf, dylech chi fod yn falch iawn ohonoch chi'ch hunain! Daliwch ati, a chawn ni weld beth ddaw nesaf ym mis Chwefror!Hwyl,Athro’r Ardd
Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 5 Chwefror 2026 I ddathlu 20 mlynedd o Broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, rydyn ni'n cynnal pedwar gweithdy rhithwir fydd yn edrych ar baentio, newid hinsawdd, y Chwyldro Diwydiannol a llawer mwy!
Cydweithio i drwsio Una Chloe Ward, 26 Ionawr 2026 Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith! Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel. "Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr" - David, gwirfoddolwrDiolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:Tanysgrifiwch i'r rhestr bostioAriennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Blwyddyn Newydd yn Sain Ffagan Ellen Davies, 19 Ionawr 2026 Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod tawel. Mae cyffro’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydyn ni i gyd yn aros yn eiddgar am ddiwedd y gaeaf, ond mae hefyd yn adeg i ddechrau o’r newydd. Yma yn Sain Ffagan, rydyn ni wedi dechrau'r flwyddyn ar garlam! Dros y misoedd nesaf, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau wrth i ni gyflawni projectau i wella profiad ymwelwyr, gan gynnwys: Diweddaru'r ardal chwarae Rhoi to newydd ar Gastell Sain Ffagan Ailwampio'r Siop Losin a chyflwyno llond siop o gynnyrch newydd Ailddylunio'r siop yn y prif adeilad Datblygu siop goffi newydd yn Gweithdy Adnewyddu'r bloc toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car Bydd ymweld yn ystod y cyfnod hwn yn wahanol a bydd rhai mannau ar gau. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd. Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn – rydyn ni'n addo y bydd yn werth chweil! Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf, gallwch chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr neu ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Data Tywydd ar gyfer Rhagfyr Megan Naish, 14 Ionawr 2026 Helo Cyfeillion y Gwanwyn– 2026 Hapus!Da iawn am barhau i gofnodi eich data fis diwethaf cyn eich gwyliau, mae wedi bod yn wych darllen eich sylwadau am y math o dywydd a gawsoch chi yn fis Rhagfyr. Rydw i hefyd wedi darllen llawer o sylwadau yn nodi eich bod chi'n dechrau gweld eich bylbiau'n tyfu – anhygoel!Ar y cyfan, roedd mis Rhagfyr yn wlyb ac yn wyntog, ond yn fwyn ar y cyfan am dywydd arferol yn y DU, gyda'r tymereddau'n oeri ar ddiwedd y mis.Cawson ni Storm Bram yn pasio’n agos tua’r 8fed o Ragfyr, gan ddod â gwyntoedd cryf a glaw trwm i ogledd yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhannau o Gymru. Arweiniodd hyn at lifogydd, toriadau pŵer a chau ffyrdd mewn sawl ardal, fel yr adroddwyd gan y Met Office. Unwaith i Storm Bram fynd heibio, dechreuodd y tywydd newid am y 10 diwrnod olaf neu fwy o fis Rhagfyr, pan ddaeth yn sychach, ond yn oerach. Mae'r tymereddau oerach wedi parhau i mewn i 2026, gyda rhai rhybuddion eira a rhew, a rhai ysgolion ar gau! Mae gen i ddiddordeb mewn darllen eich sylwadau ar y tymereddau oerach hyn wrth i fis Ionawr barhau.Dyma rai o’ch sylwadau o’r mis diwethaf!-Sylwadau Tymheredd a Thywydd:Henllys Church in Wales School:This week was a rainy and cold weekIrvinestown Primary School:We had so much heavy rain on Friday that we didn’t get outside to play and we were very sadYsgol Pentreuchaf:Mae wedi bwrw glaw mawr yma wythnos yma ond tydi hi ddim yn oer yma.Athro’r Ardd:Da iawn am ychwanegu'r manylion hyn at eich data – hyd yn oed pan nad oeddech chi'n gallu mynd allan i chwarae! Mae'n bwysig sylwi ar y newidiadau yn y tywydd a'r tymheredd, ac ystyried sut y gallai hyn effeithio ar eich bylbiau. Gallai'r glaw a'r tywydd mwyn olygu y gallai'r bylbiau flodeuo ychydig yn gynharach na'r disgwyl!--Twf Planhigion!Gavinburn Primary School:We have attached a photo of our bulbs which are beginning to peek through the soil. We've seen lots of roots underneath too!Cornist Park C.P:It has been very cold this week. We had lots of rain in the middle of the week. We are beginning to get very excited because our first spring bulbs have started to come through the soil.Mountain Lane School:Green growth noticed in our bulb planters.Pil Primary School:-It has been cold this week. Our spring bulbs are shotting up.-It has been raining a lot this week. We like checking the rainfall and temperature.Llanmartin Primary School:Our bulbs are starting to grow, approximately 1.5cm of growth.Athro’r Ardd:Wow! Mor gyffrous eich bod chi'n adrodd eich bod chi'n gweld eich bylbiau'n tyfu! Da iawn am gofnodi hyn a chadw llygad ar eich planhigion. Dros y misoedd nesaf, efallai y byddwch chi'n gallu dechrau cofnodi eich data blodeuo, os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw flodau'n agor!-Sut mae'r prosiect yn mynd?Pinehurst Primary School:We love going and checking our data every day.Athro’r Ardd:Rwyf mor falch o glywed eich bod chi'n mwynhau casglu data! Mae eich arsylwadau'n werthfawr iawn, felly daliwch ati gyda'r gwaith gwych. Da iawn!-Rwyf wedi bod wrth fy modd yn darllen drwy eich data a'ch arsylwadau dros fis Rhagfyr. Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel Cyfeillion y Gwanwyn, rwy'n edrych ymlaen at weld beth sy'n digwydd nesaf ym mis Ionawr! Athro’r Ardd