Cofnodion Tywydd Penny Dacey, 1 Tachwedd 2023 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar ddiwrnod plannu. Cafodd 11,183 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad a welais o’r lluniau bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 1 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw a'ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau, fel medrwch gymryd eich cofnodion yn hawdd pob diwrnod yr ydych yn yr ysgol. Mae ‘na adnoddau addysg ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch y rhain i’r wefan Amgueddfa Cymru i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf.Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud a rhannwch eich lluniau trwy X/Twitter ac e-bost.Cadwch ymlaen hefo'r gwaith caled Gyfeillion y Gwanwyn,Athro’r Ardd
Diwrnod Plannu 2023 Penny Dacey, 19 Hydref 2023 Mae'n Ddiwrnod Plannu!Bydd 176 o ysgolion o bob rhan o'r DU yn ymuno â'i gilydd i blannu 11,183 o fylbiau ar gyfer y prosiect gwych hwn. Rydym yn cynnal cystadleuaeth Diwrnod Plannu bob blwyddyn, sy'n annog ysgolion i arddangos diwrnod plannu yn eu hysgol. Gwyliwch yma i weld yr enillwyr ym mis Tachwedd!Yn y cyfamser, byddwn yn dilyn pob cam o'r ymchwiliad ar y Blog hwn. Byddwn yn clywed gan ddisgyblion yn uniongyrchol, wrth iddynt rannu eu sylwadau hefo eu data tywydd. Byddwn yn clywed am unrhyw dywydd eithafol yn eu hardaloedd ac unrhyw faterion a allai effeithio ar eu gorsafoedd tywydd neu ardal plannu (yn y gorffennol mae hyn wedi cynnwys gwiwerod llwglyd!) Byddwn yn gwylio gyda'r disgyblion am arwyddion cyntaf y gwanwyn ac yn rhannu eu hapusrwydd wrth i'r twf cyntaf ac yna'r blodau cyntaf ymddangos.Byddwn yn adolygu'r data tywydd a blodau ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2023-Mawrth 2024, ac yn ei gymharu â data a gasglwyd ers 2005 i weld a allwn weld unrhyw dueddiadau.Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar y daith hwyliog hon wrth i ni archwilio effeithiau'r tywydd a'r newid yn yr hinsawdd ar fylbiau'r gwanwyn.Athro'r Ardd
Enillwyr Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Penny Dacey, 10 Gorffennaf 2023 Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model o Gaerfyrddin oedd enillwyr Cymru ar gyfer Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Gwnaeth yr ysgolion oedd yn cymryd rhan yn y project blannu eu bylbiau ym mis Hydref, cadw cofnodion tywydd rhwng Tachwedd a Mawrth, monitro eu planhigion a chofnodi dyddiadau blodeuo a thaldra'r planhigion, ac uwchlwytho'r holl ddata hwn i wefan Amgueddfa Cymru.Y wobr ar gyfer yr ysgol sy'n ennill yng Nghymru bob blwyddyn yw trip i un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru, gyda bws am ddim a gweithgareddau. Eleni, dewisodd Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Roedd y diwrnod yn cynnwys Llwybr Cynaliadwyedd yn edrych ar rai o adeiladu hanesyddol yr amgueddfa a Helfa Drychfilod Feddylgar, lle buom yn chwilota yn rhai o erddi hardd yr amgueddfa.Roedden ni'n lwcus iawn ar ein Helfa Drychfilod Feddylgar, a oedd yn cynnwys bod yn ymwybodol o'r ardal o'n cwmpas ac edrych yn graff, gwrando'n astud ac arogli'n ddwfn. Gwelsom fursennod emrallt a saffir yn dawnsio uwchben y dŵr yn y pyllau pysgod, a llawer o bysgod bach yn nofio'n chwim o dan y dŵr. Roedd rhai yn ddigon ffodus i gael cip ar neidr y gwair wrth iddo lithro i'r dŵr ac i ffwrdd.Gwelsom wenyn prysur a gloÿnnod byw lliwgar yn peillio planhigion ag aroglau pêr arnynt fel lafant. Gwelsom a chlywsom sioncod y gwair ym mhrysgwydd y gwelyau blodau, yn ogystal â buchod coch cwta, pryfed gleision, morgrug, chwilod, nadroedd cantroed, malwod, chwilod clust, a phryfed lludw. Roedd rhaid i ni blygu i osgoi gwas y neidr a oedd yn bwydo ar bryfed uwch ein pennau, yn plymio tuag atom sawl gwaith.Buom yn gwylio a gwrando wrth i wenyn suo o amgylch twmpath yn y lawnt, gan dyrchu cartrefi newydd yn y pridd. Gwelsom gannoedd o bryfed cop ifanc yn byrstio allan o'u coden ac yn gwasgaru dros wrych.Gwylion ni gychwyr yn nofio'n hamddenol heibio'r bont garreg, a malwod dŵr oddi tani yn bwydo'n araf ar algâu. Gwylion ni'r hwyaid gwyllt cyfarwydd, gwyddau Canada urddasol a'u holl gywion ifanc wrth iddynt barhau â'u diwrnod ar hyd glan y dŵr.Gwnaethom adnabod gwahanol blanhigion a choed a gweld faint ohonom oedd ei angen i amgylchynu’r dderwen 400 oed. Roedden ni gyd wedi ymgolli'n llwyr yno.Mae Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model wedi rhannu'r lluniau canlynol gyda ni i ddarlunio eu diwrnod yn yr amgueddfa. Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Gwaith Gwych Cyfeillion y Gwanwyn Penny Dacey, 30 Mehefin 2023 Llongyfarchiadau i'r holl ysgolion a gwblhaodd yr Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion. Mae'r ysgolion a restrir isod wedi ennill tystysgrifau a phensiliau Gwyddonwyr Gwych. Roedd y safon yn eithriadol o uchel eto eleni.Ddiolch i'r holl ysgolion a gyfrannodd at wneud yr ymchwiliad 2022-23 yn llwyddiannus.Enillwyr / Winners:Cymru / Wales: Model Church in Wales Primary SchoolLloegr / England: Roseacre Primary AcademyYr Alban / Scotland: St John Ogilvie Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Mary's Primary School (Maguiresbridge)Yn Ail / Runners up:Cymru / Wales: Peterston Super Ely Church in Wales PrimaryLloegr / England: Kidgate Primary AcademyYr Alban / Scotland: Gavinburn Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Grange Primary School KilkeelClod Uchel / Highly CommendedCymru / Wales: Ysgol Gynradd Gymraeg TonyrefailPil Primary SchoolYGG AberystwythYsgol LlandegfanSt Julian's PrimaryYr Alban / Scotland: Kingcase Primary SchoolDedridge Primary SchoolKincaidston Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Patrick's Primary School, EskraCydnabyddiaeth Arbennig / Special Recognition:Cymru / Wales: Forden CiW SchoolYsgol Gymraeg Dewi SantYsgol San SiorSt Joseph's RC Primary School (North Road)Alaw PrimaryYsgol Glan ConwyLloegr / England: St Anne's Catholic Primary SchoolStanford in the Vale Primary SchoolAnchorsholme AcademyFleet Wood Lane Primary SchoolSylvester Primary AcademySt Kentigern's Primary SchoolYr Alban / Scotland: Leslie Primary SchoolLivingston Village Primary SchoolSt Anthony's Primary (Saltcoats)Kirkhill Primary SchoolBlacklands Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Clonalig Primary SchoolIrvinestown Primary SchoolSacred Heart Primary - CO. DownSt Mary's Primary School (Newry)St Paul's Primary School (Co Fermanagh)Lisbellaw Primary SchoolGwyddonwyr Gwych / Super ScientistsCymru / Wales: Oystermouth Primary SchoolAbernant PrimaryHigh Cross Primary (Newport)Ysgol Capel GarmonAlbert Primary SchoolLlanbedr Church in WalesNPTC Newtown CollegeGlyncoed Primary SchoolSpittal VC SchoolSt Mary's Church in Wales Primary School St Paul’s CiW PrimaryLloegr / England: Cambridge Park AcademyDevonshire Primary AcademyRowley Hall Primary SchoolSt John's CE Primary SchoolSt Bernadette's Catholic Primary SchoolYr Alban / Scotland: Milton Primary SchoolDarvel Primary SchoolMeldrum Primary SchoolOur Lady of Peace PrimaryUnderbank Primary SchoolMaidens Primary SchoolLogan Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Newtownbutler Primary SchoolSacred Heart Primary School - OmaghGlasswater Primary SchoolCortamlet Primary SchoolNewtownhamilton Primary SchoolTystysgrifau / Certificates:Cymru / Wales: Ysgol Bro Sannan Ysgol BethelBrynford PrimaryMinera Aided Primary SchoolSt Joseph’s Cathedral (Swansea)Ysgol y WernYsgol Cwm BrombilAdamsdown Primary SchoolFranksbridge CP SchoolGors Community SchoolMontgomeryPenrhiwceibr PrimaryRhydri Primary SchoolSt Athan Primary School St. Michael's RC Primary SchoolTrellech Primary School Twyn SchoolYsgol Gymraeg MornantYsgol LlanilarYsgol PontrobertLloegr / England: St Teresa's Catholic Primary SchoolHamstead Junior SchoolHarvills Hawthorn Primary SchoolGrange Primary SchoolMarton Primary Academy and NurseryYr Alban / Scotland: Forehill Primary SchoolGartcosh Primary SchoolNewton Primary SchoolSt Joseph's RC Primary School (Kelty)Whitdale Primary SchoolWindyknowe Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Patrick's LegamaddyEnniskillen Integrated Primary SchoolSt Mary's Primary School (Killesher)Hardgate Primary SchoolDiolch eto Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion - cyrraedd 175 o ysgolion! Penny Dacey, 17 Mai 2023 Mae Penny Dacey, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn, wedi bod yn brysur yn helpu gwyddonwyr ifanc i fynd allan ac ymchwilio i effaith y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd ddifyr a chreadigol!Efallai bod llawer ohonoch chi wedi clywed am broject Bylbiau’r Gwanwyn, sydd ar waith ers 2005. Os nad ydych chi’n yn gyfarwydd â’r hanes, dyma sy’n digwydd, yn fras. Bydd disgyblion ysgol yn helpu Athro’r Ardd, gwyddonydd cartŵn cyfeillgar, i archwilio effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn astudiaeth flynyddol gan gofnodi a chyflwyno data am y tywydd a blodau.Sut y dechreuodd a sut mae’n mynd...Dechreuodd y project yng Nghymru gan Danielle Cowell, Rheolwr Rhaglen Dysgu Digidol , ond drwy gyllid gan Ymddiriedolaeth Edina mae wedi ehangu ledled gwledydd Prydain. Mae Amgueddfa Cymrubellach mewn cysylltiad â 175 o ysgolion bob blwyddyn drwy Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion! Dipyn go lew o fylbiau felly!Yr ochr wyddonolBydd ysgolion sy’n cyfrannu at yr ymchwiliad yn cymryd rhan am flwyddyn academaidd lawn. Cânt eu pecynnau adnoddau tua diwedd Medi er mwyn plannu eu bylbiau ar 20 Hydref a gwneud cofnodion tywydd o 1 Tachwedd hyd at 31 Mawrth. Gofynnir i ysgolion wneud cofnodion tywydd (darlleniadau tymheredd a glaw) am bob diwrnod ysgol, ac uwchlwytho’r data hyn i wefan Amgueddfa Cymru ar ddiwedd pob wythnos. Gofynnir hefyd iddyn nhw fonitro’u planhigion a chofnodi dyddiad blodeuo ac uchder eu planhigion ar y dyddiad hwnnw i’r wefan. Y canlyniad yw y gallwn ni bellach gymharu dyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon â rhai blynyddoedd blaenorol a gweld sut y gallai patrymau tywydd newidiol fod wedi effeithio ar y dyddiadau hyn. Gwych, ynde? Gwneud gwahaniaeth! Dysgu sgiliau gwyddonol a hybu llesMae’r ymchwiliad yn cefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau gwyddonol, gan gynnwys deall twf planhigion, effaith newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd, a chasglu a dadansoddi data. Gall disgyblion gymhwyso dulliau a chysyniadau gwyddonol i sefyllfa go iawn, sy’n eu helpu i ddeall pwysigrwydd a pherthnasedd gwyddoniaeth yn eu bywydau. Mae’r broses o ofalu am eu planhigion, bod allan yn yr awyr agored (ym mhob tywydd) a gweithio gyda’i gilydd i gasglu’r data yn rhoi nifer o fanteision, o ran eu lles ac o ran datblygu cysylltiadau gydol oes â byd natur.Ydych chi’n gwybod am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan?Bydd ceisiadau’n agor i ysgolion yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill, ar sail y cyntaf i’rfelin. Os gwyddoch chi am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan, gofynnwchiddyn nhw edrych ar y tudalennau isod am fwy o wybodaeth:Gwefan Bylbiau’r GwanwynBlog Bylbiau’r GwanwynBylbiau’r Gwanwyn ar Twitter