: Ymchwilio ein Coedwigoedd

Gwyrth y Gwanwyn

Gareth Bonello, 27 Ebrill 2010

Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.

Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Ŵyn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.

Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!

Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.

Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!

Plannu coeden gyda Tree o'clock

Chris Owen, 23 Tachwedd 2009

Gyda dyfodiad y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm wythnos diwethaf dwi'n ymbaratoi at ddiwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf. Mae'n drueni gorfod ffarwelio â'r tywydd mwyn a bydd colled ar ôl lliwiau cynnes y dail yn Sain Ffagan. Ond mae'r tywydd garw wedi llarpio'r coed o'u dail sy'n gorwedd yn swp ar lawr.

Er nad ydynt ar eu prydferthaf, ar goed byddaf yn canolbwyntio wrth ddathlu Wythnos Genedlaethol y Goeden. Dros benwythnos olaf Tachwedd edrychwn ar y gwahanol fathau o goed yn Sain Ffagan a'u hadnabod wrth graffu ar y dail, yr hadau, y rhisgl a'r blagur. Bydd yr RSPB yma hefyd yn cynnal gweithgareddau sy'n ystyried pwysigrwydd y coed i'n hadar brodorol. Gan son am adar mae'r bwydo adar-gam yn brysyr iawn ar y foment, ac fe allwch dilyn y datblygiadau diweddaraf trwy'r tudalen Twitter yma

.

Dewch i ymuno â ni ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr pan fyddwn yn ceisio gosod record newydd y byd yn Llyfr Guinness ar gyfer plannu'r nifer uchaf o goed mewn awr. Mae'r ymdrech ar y cyd â llefydd i natur y BBC. Gallwch aros wedyn i greu addurniadau Nadolig cynaliadwy o'r perthi yn y T? Gwyrdd.

Nadolig cynaliadwy hefyd fydd thema fy ngweithgareddau yn y

Autumn adventure

Gareth Bonello, 17 Medi 2009

Firstly, apologies for my extended absence from these pages. I don’t have an excuse other than the summer activities kept me very busy this year! However, I find myself in a bit of a calm period at the moment so I thought I’d update you on what’s coming up over the next few months.

The autumn is fast approaching and the evidence is all around St Fagans. A quick walk about the site reveals bursts of bright red berries on hawthorn bushes and rowan trees and delicate highlights of yellow and orange edging into the green leaves of the beech woodland. A walk in the woods is accompanied by the steady sound of beech mast dropping with the breeze. The horse chestnuts have already begun to fall too, and the acorns and sweet chestnuts look like they won’t be long to follow.

In October activities will focus on this season of change. For Seed Gathering Sunday we will be looking at the variety of tactics trees use to disperse their seed during an enjoyable walk about the grounds.

On October the 24th there’s a real treat in store as the Ty Gwyrdd kitchen will be in action for the first time in years to demonstrate some traditional apple recipes.

The apple theme continues in the Ty Gwyrdd on the 25th of October where you can take part in Feed the Birds Day with the RSPB, and learn how to use apples to make great bird feeders.

During October half term we will be running Autumn Feast activities looking at traditional foods grown in the autumn as well as the wild food that grows in our woods, fields and hedges.

And right at the end of November I will be running activities alongside the RSPB that look at ways of telling trees apart and the importance of trees for wildlife. If that appeals to you why not join us on the 5th of December when we'll be working with the BBC to try and break the world record for the most amount of trees planted in one hour!

So I hope to see you at an event this autumn, and in the meantime get out there and enjoy the sunshine!

Pengliniau bawlyd, cacwn a blodau'r gwynt!

Gareth Bonello, 9 Ebrill 2009

Bladau'r gwynt yn Sain Ffagan

Ar ôl gaeaf hir ac oer dwi'n siŵr bod llawer ohonom ni'n falch iawn bod y gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd! Er ei bod hi erbyn hyn yn ddechrau Ebrill mae arwyddion cynnar y gwanwyn wedi bod gyda ni ers sbel. Roedd y mis Mawrth hwn ymhlith y rhai sychaf yng Nghymru er 2002 ac roedd bron pobman ym Mhrydain wedi cael lefelau uwch nac arfer o heulwen. Roedd hyn wedi esgor ar ffrwydriad o liw yn ein coedwigoedd gyda blodau'n ymagor, y filfyw, blodyn y gwynt a'r friallen. Mae cacwn hefyd wedi dihuno o'u gaeafgwsg ac wedi cripian o'u tyllau yn y ddaear i ddechrau casglu paill a neithdar i fwydo'r nythfa.

Drwy gydol mis Mawrth cynhaliom ni weithgareddau yn Sain Ffagan gan eich annog i fynd yn weithgar mewn gwarchodaeth gwenyn. Plannodd dros 400 o ymwelwyr flodau gwyllt sy'n gynhenid i Brydain i ddenu gwenyn a phili-palaod. Dwi'n falch dweud eu bod yn ffynnu! Os hoffech chi wybod mwy am warchodaeth gwenyn beth am ymweld â wefan Gwarchod ein Gwenyn?

Byddai tro bach yn y parc neu'r goedwig leol yn ddigon i chi ddeall bod yr adar yn brysur iawn ar hyn o bryd. Mae ein hadar cân yn paru a nythu ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf wedi ymlafnio drwy'r gaeaf llym yma ym Mhrydain ond nid pob un. Mae'r Siff Saff cyntaf yn cyrraedd Prydain yn gynnar ym mis Mawrth o dde Ewrop a gogledd Affrica. Gallwch chi glywed eu cri dau nodyn ‘siff-saff’ nodweddiadol yn ein coedwigoedd, parciau a gerddi wrth fod y gwrywod yn cystadlu am fenywod a thiriogaeth. Beth am foeli clust am eu cri arbennig y tro nesaf rydych chi allan, neu pam na ddewch i ddigwyddiadd Côr y bore bach ar y 3ydd o Fai?

 

Mae gyda ni lawer o weithgareddau ar gyfer y gwanwyn gydag Wythnos Genedlaethol Compost yn digwydd yn gynnar ym mis Mai ac arwyddion y gwanwyn yn ystod hanner tymor mis Mai. Ewch i'r tudalen digwyddiadau am fwy o fanylion. Yn y cyfamser rhowch wybod i mi am ryfeddodau'r gwanwyn rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar yn y blwch sylwadau isod - unrhyw fwtsias y gog eto?

Eira!

Gareth Bonello, 5 Chwefror 2009

Yn debyg i gweddill y wlad, rydym ni wedi bod ymysg tywydd oer ac eiraidd yr wythnos yma. O ganlyniad mae'r adar wedi bod yn mynd trwy'r bwyd yn hynod o gyflym wrth iddynt ceisio adeiladu storfa o fraster i'w helpu trwy'r nosweithiau oer.

Edrychwch ar y lluniau o ein

bwydydd adar

isod, a pham na wnewch gacen adar i helpu ein gyfeillion bach pluog?