Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth - Rhan 3 16 Mawrth 2018 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma'r casgliad olaf y ffilmiau o'r arddangosfa: Philip Jones Griffiths "Mae’r llun hwn gan Philip Jones Griffiths, Cymro Cymraeg o’r gogledd. O safbwynt addysg, mae’n un arall a hyfforddodd ei hun fel ffotograffydd. Rwy’n ei weld yn ddiddorol fod y rhan fwyaf o’r bobl rwy’n eu hedmygu fel ffotograffwyr, wedi hyfforddi eu hunain. Mae’n un o'r lluniau mwyaf dirdynnol welais i erioed. Mae fel arfer ar wal y grisiau yn fy nhŷ fel ei fod yn eich wynebu wrth i chi fynd i’r tŷ bach. Yn eitha aml, daw pobl i lawr â dagrau yn eu llygaid. Dyna beth ddylai llun ei wneud, yn fy marn i. Dyna un o rinweddau mawr ffotograffiaeth. Does dim angen esboniad. Rwy’n credu bod y cyhoedd yn gwybod digon am ryfeloedd ac ati, felly nid oes ots os mai Fietnam neu Biaffra neu lle bynnag sydd yno. Mae’n dweud rhywbeth am y cyflwr dynol, ac mae gan bawb ddigon o wybodaeth reddfol am hynny i allu ymateb yn emosiynol i’r llun. Rwy’n credu ei fod yn un o’r lluniau cryfaf a welais gan unrhyw un. Person go arbennig, ac mae colled fawr ar ei ôl." Clémentine Schneidermann "Fe welais i waith y fenyw ifanc hon – wyddwn i ddim byd amdani – mewn oriel fach yn Abertyleri ac roedd yn drewi o safon. Roedd yna ‘awduraeth’ i’r gwaith. Roedd yn edrych i fi fod potensial yma am ffotograffydd o fri. Yn ddiweddarach, fe wnaeth hi bamffled bach ac roedd hwnnw’r un peth – roedd teimlad o gyfanrwydd iddo, ac roeddech chi’n synhwyro ei bod hi’n deall yr hyn roedd hi’n ei ddarlunio. Mae’r math hwn o ffotograffiaeth yn boblogaidd iawn ar y funud – rhyw edrychiad penodol, math penodol o bortreadu. Y cyfan alla i ddweud yw ei bod yn gwneud hynny’n well na’r rhan fwyaf o bobl. Dyna fy marn i. Dyna pam y gofynnais iddi a gawn i gyfnewid cwpwl o brintiau gyda hi. Rwy’n meddwl ei bod hi eisoes yn ffotograffydd eithaf rhagorol ac rwy’n amau y bydd hi’n dal i dynnu lluniau mewn hanner can mlynedd." Bruce Davidson "Y ffotograffydd arall y cwrddais i ag ef yr adeg honno oedd Bruce Davidson... fe deithiais i dipyn gydag ef, yn enwedig pan oedd yn Llundain a phan gyflwynais ef i dipyn o lefydd ‘tanddaearol’ na fyddai wedi eu cyrraedd fel arall. Mae’r llun hwn yn rhyfeddol, o set o luniau a dynnodd o gang yn Efrog Newydd. Set anhygoel o luniau. Roedd Bruce yn hyfryd, roedden ni’n arfer teithio o gwmpas yn un o’r ceir Mini bach cyntaf ac rwy’n cofio’i fod arfer bwyta nifer syfrdanol o fananas. Am ryw reswm roedden ni’n byw ar fananas. Mae’n ffotograffydd gwych ac yn berson gwych. Fe wnaeth waith syfrdanol ar orymdeithiau Selma a phethau felly. Person da gyda chydwybod cymdeithasol. Fe gafodd effaith fawr arnaf a rhoddodd lawer o brintiau i mi. Doedd dim orielau pryd hynny, ac roedd print yn costio 50c i’w wneud. Dywedodd rhywun, “o, dwi eisiau hwnna” – doedd pobl ddim yn tueddu i wneud hynny – ac fe ddywedodd Bruce “iawn”. Rwy’n credu fod tua wyth neu naw llun gan Bruce Davidson yn y casgliad ac mae pob un yn hyfryd. Bydden i wedi hoffi tynnu’r llun hwn, mae’n llun arbennig." John Davies "Roedd John Davies yn byw yn ne Cymru, ac mae’n ffotograffydd tirluniau eithriadol o dda, o natur ddogfennol bur iawn. Lluniau syml o’r dirwedd ydyn nhw, dim triciau, lluniau golygfa go iawn. Fe wnaethon ni gyfnewid llu o luniau, dros ryw ugain mlynedd mae’n debyg, ond ar ffurf cardiau Nadolig. Rydyn ni’n dau’n gwneud cardiau â llaw. Yn fy achos i, byddaf yn gwneud hanner cant bob blwyddyn a’u hanfon allan fel argraffiad cyfyngedig. Dwi ddim yn siŵr beth yw ei argraffiad ef, ond mae’n gwneud yr un fath. Doedd dim rheswm dros geisio cael print mwy o faint. Maen nhw mor brydferth yn y maint hwn. Maen nhw mor gain a hardd." Llun ar pen y tudalen gan Clémentine Schneidermann. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Philip Jones Griffiths yn Magnum Clémentine Schneidermann Bruce Davidson yn Magnum John Davies
Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth - Rhan 2 15 Ionawr 2018 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa: Josef Koudelka "Roedd gen i fflat enfawr yn Bayswater a phan fyddai pobl yn dod i Loegr o dramor fe fydden nhw i gyd yn diweddu’n cysgu ar fy llawr i. A dweud y gwir roedd gen i un ystafell fawr yn y ffrynt oedd â phedwar matres ar y llawr. Ond ta waeth, beth ddigwyddodd oedd bod Josef Koudelka, yn dilyn y gwrthryfel yn Tsiecoslofacia, o bosibl mewn trafferth yn ei wlad, felly fe ddarganfu Elliott Erwitt, oedd yn llywydd Magnum ar y pryd, ffordd o gael Josef allan o Tsiecoslofacia drwy ddyfarnu gwobr iddo ddod i dynnu lluniau." "Un diwrnod dyma gloch y drws ffrynt yn canu, ac wrth y drws roedd Elliott a’r ffotograffydd yma – Josef Koudelka – nad oeddwn i’n gwybod llawer amdano. Dyma Elliott yn gofyn a gâi Josef aros gyda mi tra roedd yn datblygu ei ffilm. “Siŵr iawn,” meddwn i, “sawl rholyn sydd gen ti?” Fy nghof i yw iddo ateb “800”!" "Felly fe arhosodd yn y fflat...pwy â ŵyr, tua wyth mlynedd, roedd yn amser hir iawn, ac yn y diwedd fe ddaethon ni mor agos nes ’mod i’n arfer ei gyflwyno fel brawd imi. Roedd e’n gwneud yr un peth. Rwy’n ei garu’n fawr, mae’n esiampl wych, achos dw i erioed wedi nabod neb sy’n gweithio mor galed, sydd mor ynghlwm wrth ffotograffiaeth, nac sydd mor fanwl gywir ynghylch yr hyn mae’n ei wneud." Tish Murtha "Mae hwn gan Tish Murtha. Roedd Tish yn enigma; hi gafodd y cyfweliad byrraf, mor fyr nes fy mod yn ei gofio, o unrhyw un a gafodd gyfweliad gennym i ddod i mewn i Gasnewydd. Doeddwn i byth yn arfer edrych ar bortffolios; doedd gen i ddim diddordeb gwybod a oedd pobl yn meddwl eu bod nhw’n ffotograffwyr. Fy niddordeb i oedd canfod pobl oedd â thân yn eu bol dros rywbeth, boed yn fotanegydd neu’n bensaer." "Beth bynnag, daeth Tish i mewn ac rwy’n cofio gofyn iddi beth roedd hi eisiau’i wneud ac fe ddywedodd hi rywbeth fel “Dwi eisiau tynnu llun plismyn yn cicio cryts”. Dyna’r oll ddywedodd hi, ac fe ddywedais i “iawn, fe ddysgwn ni hynny i ti”." "Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n iawn achos fe siaradodd hi am ei chefndir yn yr un frawddeg fach yna gyda chymaint o angerdd a chymaint o wybodaeth amlwg. Fe dyfodd hi’n ffotograffydd bendigedig. Mae’r llun hwn yn anhygoel. Ennyd mor gariadus rhwng dau sy’n byw ar y stryd. Mae cymaint o agosrwydd yma, allwch chi ddim tynnu’r math yna o lun oni bai’ch bod chi ynghlwm go iawn â’r bobl rydych chi’n tynnu eu llun." Sergio Larraín "Mae’r llun penodol hwn gan Sergio Larrain yn bwysig i mi gan ei fod, mewn ffordd, wedi rhoi caniatâd i mi wneud rhai pethau. Roeddwn i yn Trafalgar Square yn tynnu llun y colomennod, ac roedd ffotograffydd arall wrthi’n tynnu lluniau’r adar hefyd. Sergio Larrain oedd e." "Fe ddaethom yn ffrindiau. Edrychodd Sergio ar fy lluniau a dweud wrthyf nad trwy gystadlu ym myd materion cyfoes yr oeddwn i’n cynhyrchu fy ffotograffiaeth orau, ac awgrymodd fy mod i’n well am gofnodi pethau llawer mwy personol. Roedd hynny’n beth eithriadol i mi, achos fe sylweddolais yn sydyn fod yma ffotograffydd a dynnai luniau roeddwn i wir yn eu caru yn dweud “mae’n iawn i wneud yr hyn rwyt ti wir wrth dy fodd yn ei wneud”. Trwy lwc, dechreuodd yr atodiadau lliw yn y 1960au, ac roedd hynny’n wych achos roedd yna wastad slot bychan yn yr atodiadau ar gyfer rhyw stori ddinod, oedd yn golygu mai’r unig berson i lenwi’r slot hwnnw oedd fi! Felly, mewn ffordd, roedd gen i law rydd, ac mae’n berson pwysig iawn, iawn yn fy mywyd." Llun ar pen y tudalen gan Tish Murtha. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Josef Koudelka yn Magnum Sergio Larrain yn Magnum Tish Murtha
Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth 29 Medi 2017 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa: Y Casgliad "Wnaeth y casgliad ddim dechrau tan 1958, am wn i. Fe ddechreuais i dynnu lluniau ym 1955, ac ym 1958 roeddwn i’n tynnu lluniau yn Trafalgar Square, ac roedd ffotograffydd arall yno. Daeth ata i a dweud rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd, “rwy’n meddwl y gallet ti fod yn ffotograffydd da iawn”. Beth bynnag, Sergio Larrain oedd e. Roeddwn i’n edrych ar luniau Sergio ac fe roddodd gwpl i mi. Ac fe sylweddolais fy mod yn trysori, nid yn unig y lluniau, ond mae yna rywbeth (annisgrifiadwy yn fy marn i) am y cysylltiad rhwng cael print sydd wedi cael sêl bendith y ffotograffydd ei hun. Felly fe ddechreuais i gasglu ac yna cefais y syniad o gyfnewid printiau. Ac felly dyna ddechreuais i wneud, ac roedd gen i’r hyder i fynd at ffotograffwyr fel Dorothea Lange a phobl felly. Wedyn roeddwn i’n ddigon haerllug i gwrdd â hi a dweud faint oeddwn i’n hoffi ei lluniau, ac y byddwn wrth fy modd yn cyfnewid print. Yna fe sylwais fod pobl yn hoffi cyfnewid. Rwy’n credu ei fod yn gasgliad personol iawn. Rwy’n meddwl am y ffotograffwyr sydd yna; allech chi ddim cael gwell casgliad." Dorothea Lange White Angel Breadline, San Francisco, 1933. "Mae Dorothea Lange yn un o ffotograffwyr mawr hanes. Roedd hi’n bwysig iawn, yn benodol achos ei gwaith cyn y rhyfel yn y basn llwch. Fe wyddwn i am Dorothea Lange, roeddwn i’n digwydd bod yn Chicago ac yn gwybod ei bod hithau’n byw yno, felly fe es i... roeddwn i’n dechrau dod yn adnabyddus fel ffotograffydd, felly fe es i’w gweld hi. Doeddwn i heb feddwl am gael print, roedd hyn cyn i mi ddechrau cyfnewid lluniau hyd yn oed. Roedd hi’n dangos rhai printiau i mi, ac fe ddywedais, “Rwy wrth fy modd â hwn”, ac fe roddodd hi’r llun i mi. Fe gyhoeddodd hi lyfr gwych, gyda’i gŵr, ac mae’n un o’r llyfrau mwyaf cyflawn. Mae’n tynnu sylw at broblem gymdeithasol. Mae’n hardd iawn, yn dangos sut gall llyfr gael ei osod, a sut gall y capsiynau cywir a'r testun cywir a’r lluniau cywir, gyda’i gilydd, greu dadl gref dros rywbeth. Rwy’n credu ei fod yn llyfr pwysig iawn." Henri Cartier-Bresson French painter Henri Matisse at his home, villa 'Le Rêve'. Vence, France, 1944. "Roedd Henri Cartier-Bresson yn briod â ffotograffydd gwych o’r enw Martine Franck. Roedd Martine wedi tynnu lluniau ar Ynys Toraí, ynys fach oddi ar arfordir Iwerddon, ac wedi tynnu llun James Dixon y paentiwr naïf. Fel mae’n digwydd, mae un arall o’r casgliadau sydd gennyf – edrychwch o gwmpas – gan arlunwyr naïf, ac roedd gen i dri phaentiad gan James Dixon achos roeddwn i hefyd wedi bod ar Ynys Toraí yn tynnu lluniau. Dywedais, “Iawn te, beth am imi gyfnewid y paentiad am lun gan Bresson a llun gennyt ti?” Felly cefais ddau ffotograff am y paentiad. Felly, fe gyrhaeddodd y lluniau ac mae’r ddau lun gen i – llun hyfryd iawn gan Martine Franck. Ac yna fe apeliodd hwn ataf am ei fod yn llun o fy hoff baentiwr o bosibl, gan un o fy hoff ffotograffwyr. Mae portread Bresson o Matisse yn un o fy hoff ffotograffau erioed. Wedi i Henri farw cefais amlen drwy’r post oddi wrth Martine yn cynnwys copi arall o’r un llun, ond fod plygiad yn y gornel. Mae gen i nodyn hefyd sy’n fwy hyfryd fyth, ac mae’n dweud: “Cefais hyd i’r llun hwn. Sylweddolodd Henri fod y print gwreiddiol wedi’i niweidio a gwnaeth ail brint”, achos doedd e byth yn gwneud ei brintiau ei hun, yr un bobl oedd wastad yn eu gwneud, “felly meddyliais efallai yr hoffet ti gael hwn hefyd.” Mae’n bortread hyfryd. I mi, mae’n bopeth y dylai portread fod." Llun ar pen y tudalen gan John Davies. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Henri Cartier-Bresson yn Magnum Sergio Larrain yn Magnum Martine Franck yn Magnum Dorothea Lange yn y History Place
Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood Rhodri Viney, 10 Tachwedd 2016 'Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood' oedd arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru rhwng 23 Tachwedd 2013 - 16 Mawrth 2014. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys portreadau mewn pensil du a gwyn ar bapur arlliwiedig, lluniau dyfrlliw o olygfeydd breuddwydiol y ddrama, darluniau ‘naratif a lleoliadol’ mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys collage, a ffotograffau a dynnwyd gan Blake ei hun yn Nhalacharn yn y 1970au. Dyma Syr Peter Blake yn trafod ei ddulliau, ei dechneg a’i berthynas ag Under Milk Wood yn y ffilmiau hyn a wnaed yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. Maent i’w gweld ar YouTube, gydag isdeitlau Cymraeg: Under Milk Wood | Portraeadau | Collage | Breddwydion Under Milk Wood yn Entiharmon Editions Peter Blake ar Wicipedia (Saesneg) Peter Blake yn y Tate (Saesneg) Under Milk Wood ar Wicipedia Dylan Thomas ar Wicipedia 'Dylan' yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru
The Great War: Britain’s Efforts and Ideals 2 Awst 2014 Y project print mwyaf uchelgeisiol y Rhyfel Byd Cyntaf.Cyfres lawn o brintiau The Great War: Britain’s Efforts and Ideals a gyflwynir yn yr arddangosfa hon. Cynhyrchwyd chwe deg chwech o brintiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech.Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith Augustus John, George Clausen a Frank Brangwyn.Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’. Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’. Mae’n llawn delweddau dramatig a symbolaidd, fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’ fyddai’n helpu Prydain i wireddu ei ‘Delfrydau’. Mae’r portffolio ‘Ymdrechion’ wedi’i rannu’n naw adran, pob un yn portreadu gweithgaredd neu thema wahanol.Cynhyrchu ac ArddangosComisiynwyd y printiau gan Wellington House, adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn gyfrinachol i gynhyrchu propaganda. Rheolwr y prosiect oedd yr artist Thomas Derrick (1885-1954), a chyfarwyddwyd y broses argraffu gan yr artist a’r cyfrannwr F. Ernest Jackson (1872-1945). Avenue Press, Llundain, argraffodd y cyfan.Talwyd yr artistiaid yn hael, gyda phob un yn derbyn £210 (tua £10,000 heddiw) a phosibilrwydd o freindaliadau ychwanegol o’r gwerthiant. Printiau cyfyngedig o ddau gant oedden nhw. Gwerthwyd y printiau ‘Ymdrechion’ am £2 2s 0d (£100) yr un, a phrintiau ‘Delfrydau’ am £10 10s 0d (£500).Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf gan y Gymdeithas Celfyddyd Gain, Llundain, ym mis Gorffennaf 1917, cyn crwydro orielau celf rhanbarthol ledled Prydain. Aeth ar daith i Ffrainc ac America hefyd, lle cafodd y rhan fwyaf o’r portffolios eu harddangos a’u gwerthu.Ymateb y Cyfnod i’r Printiau“The very soul of the war is to be read in the set of sixty-six brilliant lithographs.”(The Illustrated London News, 1917)Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol.Mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus oedd y printiau fel arf propaganda. Cawsant eu cyhoeddi’n eang wedi’r arddangosfa gyntaf ym 1917. Roedd rhai newyddiadurwyr yn cefnogi’r achos, “To see these lithographs is a patriotic as well as an artistic duty” (Burton Daily Mail, 15 Chwefror 1918. Ond doedd ymateb pawb ddim mor bositif; “their efforts are in almost every instance sincere; yet the result is, on the whole, meagre and unsatisfying.” (The Daily Telegraph, 20 Gorffennaf 1917). Roedd yr ymateb cychwynnol yn America yn gadarnhaol ‘they have been a revelation to American Fifth Avenue art patrons, dealer, critics…They put up British prestige’. Llai na’r disgwyl, fodd bynnag, fu gwerthiant y printiau yno a gwnaeth y prosiect golled yn gyffredinol.Lithograffi a Chlwb Senefelder‘The most brilliant of the younger men are all now making remarkable lithographs…there is a genuine renaissance of the art’ (Joseph Pennell, 1914)Techneg brintio sy’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw olew a dŵr yn cymysgu yw lithograffi. Bydd yr artist yn defnyddio defnydd seimllyd i dynnu llun ar arwyneb llyfn – calchfaen fel arfer. Caiff inc ei rolio dros yr wyneb, fydd yn glynu at y darlun a ond nid at y rhannau llaith di-lun. Gosodir papur ar ben y garreg a’i roi drwy’r wasg. Gellir creu effeithiau gwahanol trwy ddefnyddio deunyddiau seimllyd amrywiol i ddarlunio, gan efelychu darlun sialc, pensil neu lun dyfrlliw. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o’r printiau hyn yn y dull ‘trosglwyddo’, gyda darlun ar bapur arbennig yn cael ei drosglwyddo i garreg, yn hytrach na gweithio arni’n uniongyrchol. Gyda lithograff lliw, bydd yr artist yn cychwyn gyda chynllun un lliw ar faen clo. I ychwanegu lliwiau eraill, rhaid defnyddio carreg wahanol ag arni’r inc newydd, ac argraffu un ar ben y llall.Roedd llawer o’r artistiaid hyn yn aelodau o glwb Senefelder, clwb bychan a sefydlwyd ym 1908 er mwyn annog ac adfywio lithograffi fel cyfrwng artistig. Enwyd y clwb ar ôl yr Almaenwr a ddyfeisiodd y broses yn y ddeunawfed ganrif. Cynhyrchwyd y portffolio hwn mewn cyfnod pan oedd chwa newydd o ddiddordeb ym mhotensial artistig lithograffi. Ideals Rhyddid y Moroedd - Frank Brangwyn Teyrnasiad Cyfiawnder - Edmund J. Sullivan Aileni’r Celfyddydau - Charles Shannon Buddugoliaeth Democratiaeth - William Rothenstein Italia Redenta - Charles Ricketts Diwedd Rhyfel - Sir William Nicholson Adfer Serbia - Gerald Moira Safiad Unedig Rhag Ymosodiad (Lloegr a Ffrainc – 1914) - F. Ernest Jackson Adfer Alsace-Lorraine i Ffrainc - Maurice Greiffenhagen Gwlad Pwyl, Cenedl - Edmund Dulac Ail-greu Gwlad Belg - George Clausen Y Wawr - Augustus John “To lose sight of Britain's ultimate ideals of freedom and democratic justice is to reduce the present war to nothing less than a carnival of carnage” (Burton Daily Mail, Feb 15, 1918)Aeth deuddeg artist ati i greu lithograff lliw llawn ar gyfer yr adran hon. Roedd rhai, gan gynnwys Brangwyn ac F. Ernest Jackson yn feistri ar y grefft tra bod eraill, fel Clausen a Grieffenhagen, yn defnyddio’r dechneg am y tro cyntaf.Trwy gyfrwng alegorïau a symbolaeth, mae portffolio Delfrydau yn cyfleu nod ac amcan y rhyfel. Yn draddodiadol, mae alegori wedi bod yn dechneg gyffredin yn y byd celf gyda ffigyrau chwedlonol neu hanesyddol yn cyfleu syniadau a chysyniadau ehangach. Mae ffigyrau a ffurfiau yn cynrychioli gwledydd a chysyniadau a theitl pob darn yn cyfeirio at neges ac ystyr y gwaith. Er nad oedd portreadau alegorïaidd yn ffasiynol yn y byd celf pan gynhyrchwyd y printiau yma, defnyddiwyd y dechneg fel arf propaganda i bwysleisio pwysigrwydd yr amcanion. Drwy wneud cysylltiadau mawreddog, nod y printiau oedd cyfiawnhau dulliau a gwirioneddau rhyfel i bobl gyffredin.Er i lawer ganmol y project, roedd eraill yn beirniadu ‘Delfrydau’ am ei bortread rhamantaidd o’r rhyfel. Making Soldiers Arwain Carcharorion - Eric Kennington Dros yr Ymyl - Eric Kennington I’r Ffosydd - Eric Kennington Barod i Wasanaethu - Eric Kennington Y Mwgwd Nwy - Eric Kennington Ymarfer Bidogau - Eric Kennington Darluniau ‘sy’n cyfleu ysbryd ein byddin newydd ifanc’ – dyna ddisgrifiad un newyddiadurwr o’r printiau hyn, sy’n dangos milwyr yn hyfforddi ac ar faes y gad. Mae’n debyg y dewiswyd Kennington i fynd i’r afael â’r pwnc hwn gan ei fod yntau wedi listio gyda 13eg Bataliwn (Kensington) Catrawd Llundain ac wedi ymladd ar Ffrynt y Gorllewin, Ffrainc, rhwng 1914 a 1915. Cafodd ei glwyfo a’i ryddhau am resymau meddygol ym 1915. Fel y rhan fwyaf o waith celf yn ystod cyfnod y rhyfel, nid portreadu’r gyflafan a’r drasiedi fawr oedd y nod. Yn hytrach, mae Kennington yn clodfori’r milwr cyffredin.Ganed Kennington yn Chelsea, Llundain, yn fab i arlunydd portreadau amlwg. Astudiodd yn Ysgol Gelf Sant Paul, Ysgol Gelf Lambeth ac Ysgol City and Guilds. Cafodd ei benodi’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1917 a 1919 a rhwng 1940 a 1943, lle bu’n portreadu morwyr ac awyrenwyr. Making Sailors Uchelgais yr Ifanc - Frank Brangwyn Y Gwn - Frank Brangwyn Y Gwyliwr - Frank Brangwyn Mynd Dramor - Frank Brangwyn Ymarfer ar Long - Frank Brangwyn Duff - Frank Brangwyn Mae lluniau Brangwyn yn adlewyrchu ei ddiddordeb yn y môr. Yn llawer o’i brintiau, mae wedi manteisio ar nodweddon lithograffi er mwyn creu printiau tebyg i frasluniau a darluniau. Cafodd Brangwyn ei ysgwyd i’r byw gan ddifodiant a dinistr rhyfel, yn enwedig yn Fflandrys, lle cafodd ei eni. Er na chafodd erioed ei benodi’n artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd lu o lithograffau ar gyfer achosion da.Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys. Roedd ei dad o dras Eingl-Gymreig a’i fam yn hanu o Aberhonddu. Dychwelodd y teulu i fyw ym Mhrydain, ac erbyn iddo droi’n bymtheg, roedd Brangwyn yn astudio dan adain William Morris, y cynllunydd a’r sosialydd. Wrth iddo ennill ei blwyf fel paentiwr, ysgythrwr a lithograffydd, dechreuodd Brangwyn grwydro’r byd. Roedd eisoes yn adnabyddus dramor pan dderbyniodd y comisiwn hwn, ac yn aelod o Glwb Senefelder a hyrwyddai lithograffi fel cyfrwng. Making Guns Codi a Thiwb Mewnol - George Clausen Y Craen Rheiddiol - George Clausen Turnio Gwn Mawr - George Clausen Y Morthwyl Mawr - George Clausen Y Ffwrnais - George Clausen Lle Gwneir y Gynnau - George Clausen Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri’n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu’n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i’r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna’r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1927. Building Ships Barod i forio - Muirhead Bone Basn arfogi llong - Muirhead Bone Gweithdy - Muirhead Bone Iard longau o graen mawr - Muirhead Bone Ar y blociau - Muirhead Bone Iard Longau - Muirhead Bone Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi’r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau’r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai’n clymu llyfr nodiadau i’w law er mwyn braslunio. Mae’r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o’r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ‘delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances’. Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, The Western Front, cyfrol II, 1917.Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno. Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1937. Building Aircraft Plymio ar awyren Taube - Christopher Richard Wynne Nevinson Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi - Christopher Richard Wynne Nevinson Yn yr awyr - Christopher Richard Wynne Nevinson Weldiwr Asetylen - Christopher Richard Wynne Nevinson Cydosod darnau - Christopher Richard Wynne Nevinson Creu’r Injan - Christopher Richard Wynne Nevinson Dyma printiau Nevinson yn ennyn cryn edmygedd pan gawsant eu harddangos am y tro cyntaf. Yn ôl un beirniad, ‘he contrives to make the visitor almost giddy’, a dywedodd un arall bod ganddo rym arbennig, ‘the power of expressing sensations rather than visual facts’.Astudiodd Nevinson lithograffi ym 1912 dan law Ernest Jackson. Ar ddechrau’r rhyfel, aeth ati i wirfoddoli fel gyrrwr ambiwlans, profiad a gafodd effaith ddirdynnol arno. Fe’i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae’r printiau hyn yn dilyn y broses o adeiladu awyren, o greu a chydosod y darnau i’r hedfan yn y pen draw, ac yn Weldiwr Asetylen a Cydosod darnau gwelwn gyfraniad cynyddol menywod i’r diwydiant.Ganed Nevinson yn Llundain, yn fab i’r newyddiadurwr a’r gohebydd rhyfel Henry Nevinson. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ac ym Mharis. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid rhyfel enwoca’r cyfnod. Er cymaint oedd dylanwad mudiadau avant-garde celfyddyd Ewrop megis Ciwbiaeth a Dyfodoliaeth arno, mabwysiadodd arddull mwyfwy realistig wrth iddo geisio cyfleu’r gwrthdaro. Work on the Land Dyrnu - William Rothenstein Llusgo coed - William Rothenstein Plannu tatws - William Rothenstein Llosgi marchwellt - William Rothenstein Drilio - William Rothenstein Aredig - William Rothenstein Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, ‘I hope to have the 5th drawing finished early this week and the last next week. I will then come up to town and do what is needful to the stones’. Nid oedd yn hapus gyda rhai o’i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau’n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae’r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae’r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle’r oedd Rothenstein yn byw.Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a’r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi’n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu’n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe’i urddwyd yn farchog ym 1931. Tending the Wounded Ysbyty Glirio yn Ffrainc - Claude Shepperson Ymadfer yn Lloegr - Claude Shepperson Mewn Ysbyty yn Lloegr - Claude Shepperson Gadael y trên yn Lloegr - Claude Shepperson Ar Fwrdd Llong Ysbyty - Claude Shepperson Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc - Claude Shepperson Mae’r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o’r Ffrynt, trwy’i driniaeth a’i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i’r artist a’r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i’r afael â’r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi’r gorau i astudio’r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae’n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn Punch rhwng 1905 a 1920. Women's work Gydag Arfau: Gwaith medrus - A. S. Hartrick Ffatri Arfau: Gwaith Trwm (Drilio castin) - A. S. Hartrick Gydag Arfau: gwaith peryglus (pacio T.N.T) - A. S. Hartrick Ar y Lein: Glanhawyr injans a cherbydau - A. S. Hartrick Yn y Trefi: Tocynwraig bysiau - A. S. Hartrick Ar y Tir: Aredig - A. S. Hartrick Mae’r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i’r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â’r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo’r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a’r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai’n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono’n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a’u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a’r lle, ac mae llawer o’r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a’u hosgo – yn lluniau ‘gwneud’. Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o’r caledi a’r peryglon a wynebai’r menywod o ddydd i ddydd.Ganwyd yr artist a’r darlunydd Hartrick yn India a’i fagu yn yr Alban cyn mynd ati’n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi’r gyfrol ganllaw Lithography As A Fine Art ym 1932. Transport by Sea Yr Harbwr Diogel - Charles Pears Cynnal y Lluoedd Dramor - Charles Pears Cludo’r Milwyr - Charles Pears Cyflenwi’r Llynges - Charles Pears Cynnal y Fasnach Allforio - Charles Pears Cynnal Cyflenwadau Bwyd - Charles Pears Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau’r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder.Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae’n bennaf enwog am ei forluniau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda’r Morlu Brenhinol, a bu’n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.CadwraethCafodd holl brintiau eu trin yn Stiwdio Cadwraeth Papur Amgueddfa Cymru. Cadwyd y printiau yn eu mowntiau a’u ffolderi gwreiddiol ers eu cyflwyno i’r Amgueddfa ym 1919.Roedd llawer o’r printiau wedi brychu (yn cynnwys smotiau browngoch) ac yn fudr. Mae hyn yn arwydd o bapur mewn cyflwr gwael. Byddai’n parhau i ddirywio heb ei drin.Gwnaed cais am gyllid i benodi cadwraethydd papur dan hyfforddiant i weithio ar y prosiect hwn am bum mis. Mae’r holl brintiau wedi’u golchi, eu gwasgu, eu trwsio a’u hailfowntio. Bellach, mae pob un yn y cyflwr gorau posibl a bydd y mowntiau newydd yn darparu amodau storio rhagorol. Bydd y gwaith cadwraeth hwn yn sicrhau y byddant ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol.Cynhaliwyd ymchwil i’r math o bapur a ddefnyddiwyd ar gyfer y printiau hefyd. O’r dyfrnod ‘HOLBEIN’, gwelsom taw cwmni Spalding a Hodge, gwerthwyr a chynhyrchwyr papur â melinau papur yng Nghaint, oedd yn gyfrifol amdano.