John Constable Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 20 Mawrth 2014 Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 John Constable (1776 – 1837) Ffotograff © Tate, Llundain 2013Prynwyd gan Tate gyda chymorth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Manton a'r Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson) ac Aelodau Tate, mewn partneriaeeth gydag Amgueddfa Cymru-Museum Wales, Gwasanaeth Amgueddfaol Caer Colun ac Ipswich, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban; ac Amgueddfa Caersallon a De Wiltshire. Pan gafodd y paentiad hwn ei arddangos yn yr Academi Frenhinol, fe wnaeth Constable gynnwys dyfyniad naw llinell o’r gerdd The Four Seasons: Summer (1727) gan James Thompson, bardd o’r Alban, i ategu’r ystyr.As from the face of heaven the scatter’d clouds Tumultous rove, th’interminable sky Sublimer swells, and o’er the world expands A purer azure. Through the lightened air A higher lustre and a clearer calm Diffusive tremble; while, as if in sign Of danger past, a glittering robe of joy, Set off abundant by the yellow ray, Invests the fields, and nature smiles reviv’dJames Thompson, The Seasons: Summer (1727)Mae’r gerdd yn portreadu’r chwedl am y cariadon ifanc Celadon ac Amelia. Wrth iddynt gerdded drwy’r goedwig yng nghanol storm, mae Amelia druan yn cael ei tharo gan fellten, ac yn marw ym mreichiau ei chariad. Mae gan y gerdd neges grefyddol: mae’n archwilio grym Duw, ac anallu dyn i reoli ei dynged ei hun. Mae hefyd yn gerdd am obaith ac achubiaeth. Daw’r enfys yn arwydd o berygl a fu.Mae’n bwnc sy’n atseinio galar personol Constable. Bu farw Maria ei wraig o’r diciâu ym 1828, wedi deuddeg mlynedd o briodas. Mae’n debyg bod y gerdd yn hynod arwyddocaol i’r cwpl ifanc. Pan oedd Maria yn gwegian ac yn ansicr a ddylai briodi Constable neu beidio, byddai’n aralleirio llinellau o’r gerdd er mwyn ceisio lleddfu’i hofnau. Archwiliwch y llun Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun Eglwys Gadeiriol Cymylau Stormus Enfys Leadenhall Pompren Eglwys St Thomas Trol a Chert Eglwys Gadeiriol Pan beintiodd Constable lun o Eglwys Gadeiriol Caersallog, roedd dyfodol yr Eglwys Anglicanaidd yn y fantol. Mae’n dangos yr Eglwys dan gwmwl du, a mellten yn taro’r to – a fydd yn llwyddo i oroesi’r storm? Mae’r meindwr – a ddisgrifiwyd gan Constable fel ‘darting up into the sky like a needle’ – yn trywanu’r tywyllwch i lygedyn o oleuni. Awgrym o’i obaith ar gyfer dyfodol yr Eglwys, o bosibl. Cymylau Stormus ‘The sky is in a state of utter derangement’ - dyna oedd cwyn The Morning Herald pan gafodd y darlun hwn ei arddangos am y tro cyntaf. Roedd eraill yn ei ddisgrifio fel anhrefn llwyr. Ond mae’n rhan allweddol o ystyr y darn. Nid cefnlen yn unig oedd yr awyr i Constable. Mae’n gallu cyfleu naws a chyflyrau emosiynol gwahanol. Mae’r awyr yma’n cael ei ystyried fel mynegiant o alar a phoen meddwl a deimlai ar y pryd. Mae’r ôl brwsio chwim yn ychwanegu at y wefr emosiynol hon. Enfys Dywedodd Constable ‘nature… exhibits no feature more lovely nor any that awaken a more soothing reaction than the rainbow’. Mae’r enfys yn cynrychioli llygedyn o obaith mewn dyddiau cythryblus, yn arwydd bod y storm ar fin mynd heibio. Leadenhall Mae pen draw’r enfys i’w gweld yn Leadenhall, cartref yr Archddiacon John Fisher, cyfaill agos Constable. Nid cydddigwyddiad mo hyn: roedd Fisher wedi cynnig cysur a chymorth emosiynol i Constable ar ôl colli’i wraig. Fisher oedd y cyntaf i annog Constable i beintio llun o Eglwys Gadeiriol Caersallog. Bu farw prin flwyddyn ar ôl i’r paentiad gael ei arddangos am y tro cyntaf. Pompren Roedd Constable wedi dotio gyda manylion bach syml y bywyd gwledig. ‘Old rotten planks, slimy posts, and brickwork, I love such things’ ysgrifennodd mewn llythyr at ei gyfaill John Fisher. Mae’r paent yma’n drwchus a garw, ac yn awgrymu gwedd a graen naturiol y bompren – manylyn syml na fyddai’r rhan fwyaf o arlunwyr y dydd wedi ystyried ei gynnwys. Eglwys St Thomas Mae eglwys blwyf St Thomas bron ynghudd yn y coed. Does dim modd gweld yr eglwys o’r llecyn hwn mewn gwirionedd, felly pam mae Constable wedi tynnu’n sylw ati? Ai ar gyfer cyfansoddiad y llun yn unig, neu oes yna esboniad arall? Ni wyddom naill ffordd neu’r llall. Trol a Chert I Constable, nid oedd yr un tirlun yn gyflawn heb olion bywyd bob dydd. Byddai’n llenwi ei lyfrau braslunio â manylion bach, ac yn eu hychwanegu at ei baentiadau wedyn. Yma, mae ceffyl a throl yn croesi afon Nadder. Mae’r portread bychan o’r drol wedi’i gymharu’n aml â’r Hay Wain (1821), un o’i baentiadau enwocaf. Mae’r ci defaid yn ymddangos yng ngweithiau eraill gan Constable, fel The Cornfield (1826). Mae’r ddau paentiad yng nghasgliad yr Oriel Genedlaethol, Llundain. Lawrlwythwch y tudalen fel PDF yma.
Portread o Teddy Evans o'r Antarctig, Evans y Broke (1880-1957) 14 Mehefin 2013 Yr Is-swyddogion William Lashly (chwith) a Tom Crean ar fwrdd y Terra Nova wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd, 14 Mehefin 1913 Evans of the Broke> (1880-1957) Pan gafodd y llun hwn ei beintio ym 1937, roedd y Llyngesydd Syr Edward Ratcliffe Garth Russell Evans yn 57 mlwydd oed ac yn Gadbennaeth, The Nore, gorsaf reoli'r Llynges Frenhinol yn Chatham, Caint. Roedd wedi cael gyrfa nodedig ar y môr, yn enwedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan arweiniodd long HMS Broke i hyrddio yn erbyn distrywlong Almaenig mewn brwydr ger arfordir Dover ym 1917. Ond roedd yn adnabyddus hefyd fel Ail Gomander yn ystod alldaith olaf Capten Scott i'r Antarctig rhwng 1910 a 1913. Mae'r paentiad hwn yn rhan o gyfres o ugain portread o Gymry amlwg a gomisiynodd Syr Leonard Twiston Davies ym 1937 ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol, gan yr arlunydd Sydney Morse-Brown (1903-2001), Prifathro Ysgol Gelf Caerfyrddin ac Arolygydd Celf Ysgolion Cymru. Cafodd eraill eu dethol o feysydd amrywiol dros ben; gan gynnwys y dramodydd a'r actor Emlyn Williams (1905-1987), Dr Thomas Jones (1870-1955) cyn-ysgrifennydd i'r Cabinet, David Davies, Arglwydd Davies y Cyntaf o Landinam (1880-1944), y pensaer Clough Williams-Ellis (1883-1978), y nofelwyr Richard Hughes (1900-1976), Charles Morgan (1894-1958) a Hilda Vaughan (1892-1985) a Jimmy Wilde, paffiwr a phencampwr pwysau pryf y byd (1892-1969). Roedd Evans yn honni bod ganddo waed Cymreig, er mai braidd yn annelwig yw'r cefndir hwnnw mewn gwirionedd. Cafodd ei eni ar 28 Hydref 1880 ym Marylebone Llundain; yn fab i frodor o Oldham, Swydd Gaerhirfryn lle'r oedd ei dad yntau, Henry Edwin Evans, yn cadw siop. Wedi plentyndod digon cythryblus, ymunodd Evans â'r Llynges Frenhinol ym 1896. Ym 1902, fel is-gapten, gwasanaethodd Evans fel ail swyddog ar long y Morning, un o ddwy a anfonwyd gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i helpu i ryddhau'r Discovery, llong alldaith gyntaf Scott, o'r rhew yn McMurdo Sound yn yr Antarctig. Ym 1909, manteisiodd Evans ar ei dras Gymreig niwlog er mwyn denu cefnogaeth yng Nghaerdydd ar gyfer Alldaith Genedlaethol Gymreig i'r Antarctig. Ond ymhen ychydig fisoedd, clywodd am gynlluniau Capten Scott i ddychwelyd i'r Antarctig a chafodd wahoddiad i ymuno ag ef fel yr ail gomander. Llwyddodd i ddenu cymaint o nawdd o Gaerdydd a gweddill Cymru, nes Scott benderfynu defnyddio Caerdydd fel cartref y Terra Nova, llong yr alldaith. Yn ystod ail alldaith Scott (a'r olaf), ymunodd Evans â William Lashly a Tom Crean, fel aelod o'r criw sled wrth gefn a deithiodd gyda Scott o fewn 150 milltir i Begwn y De, cyn troi'n ôl ar 4 Ionawr 1912, a gadael Scott, Lawrence Oates, Edward Wilson, Henry Bowers ac Edgar Evans i barhau tua'r Pegwn. Teddy Evans, Lashly a Crean oedd y rhai olaf i weld Scott a'i griw yn fyw. Bu bron i Evans farw wrth ddychwelyd i gaban cychwynnol y daith. Ac yntau'n dioddef o'r llwg, bu'n rhaid i Lashly a Crean ei lusgo ar y sled. Ar 18 Chwefror 1912, straffaglodd Crean ar ei ben ei hun am y 35 milltir olaf i chwilio am gymorth, gan adael Lashly i ofalu am Evans a oedd bellach yn ddifrifol wael. Cyflwynwyd Medal Albert i Crean a Lashly yn ddiweddarach, am achub bywyd Evans. Wedi cyfnod o adferiad yn Lloegr, dychwelodd Evans i'r Antarctig yn feistr ar y Terra Nova er mwyn casglu aelodau'r alldaith a chriw'r pegwn. Ar ôl cyrraedd caban cychwynnol y daith, a'r llong wedi'i haddurno yn barod i ddathlu'r gamp o gyrraedd Pegwn y De, clywodd y newyddion trist fod Scott a'i gymdeithion wedi marw ar y ffordd yn ôl. Roedd Evans bellach yn gyfrifol am arwain yr alldaith, a dychwelodd y Terra Nova yn ôl i Ddoc y Rhath, Caerdydd, ar 14 Mehefin 1913. Penllanw gyrfa Evans oedd cael ei urddo'n Farwn cyntaf Mountevans ym 1945. Bu farw yn Norwy ar 20 Awst 1957.
Graham Sutherland: Adnabod yr Artist 14 Mai 2012 Graham Sutherland c.1940 © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Pastoral, 1930 (NWM A 4042) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Welsh Landscape, 1936 (NWM A 4403) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Feeding a Furnace, 1942 (NWM A 4628) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Di-deitl, Ffurf fel Ton, 1976 (NMW A 2271) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Study of a Palm Frond, 1947(NWM A 4101) Disgrifiwyd Graham Sutherland fel 'arlunydd gorau ei genhedlaeth'. Cafodd y llefydd lle bu Sutherland yn gweithio ddylanwad mawr ar ei waith: o dirwedd wledig Caint i fryniau a chymoedd gorllewin Cymru a gwres a golau de-ddwyrain Ffrainc. Sutherland fel printiwr yn Goldsmiths yng nghanol y 1920au. Mae coed a choedwigoedd yn thema gyson yng ngwaith Sutherland, o'r golygfeydd cefn gwlad hiraethus yn ei waith cynnar, i'r coed moel ac afluniaidd yn ei luniau diweddarach. Mae coed yn ymdebygu i greaduriaid yn aml, a gallant fynegi emosiwn a theimlad corfforol. Sutherland yn Sir Benfro Ymwelodd â Sir Benfro am y tro cyntaf ym 1934, gan ddweud wedyn mai yno 'y dechreuodd ddysgu paentio'. Roedd yn cofio cael ei gyfareddu gan 'eithin cam ar ymyl clogwyn... y blodau a'r pantiau llaith... y cymoedd gwyrdd dwfn a'r bryniau crwn a'r holl ffurfiant syml a chymhleth'. Yn Sir Benfro, darganfu Sutherland dirwedd yn llawn 'hynodrwydd bendigedig' ond teimlai hefyd ei fod ef yn 'rhan annatod o'r ddaear' fel yr oedd ei nodweddion yn rhan ohono ef. Ymwelodd Sutherland â gweithiau dur yng Nghaerdydd ac Abertawe ym 1941 a 1942. Fel sy'n wir am ei luniau cynharach o goed a thirluniau, roedd Sutherland yn cyffelybu gwaith y ffowndri i greaduriaid byw. Ysgrifennodd: 'fel y mae'r llaw yn bwydo'r geg, felly plymiai rhofiau hir i mewn i agoriad y ffwrnais i'w bwydo, ac wrth dywallt haearn tawdd i mewn i'r lletwadau mawr, roedd y cynhwysyddion metel yn ymddangos fel petai ganddynt gegau mawr cramennog.' Wrth ddisgrifio ei brofiad cyntaf o dde Ffrainc ym 1947, dywedodd Sutherland: 'Fe ddes i adnabod Cézanne go iawn ar ôl gweld Provence am y tro cyntaf, ac yn sydyn iawn roedd paentiad van Gogh yn fy nghyffroi o'r newydd'. Cafodd ei annog i ymweld â'r ardal yn wreiddiol gan ffrindiau fel Francis Bacon . Roedd Sutherland wrth ei fodd ar unwaith gyda'r hinsawdd heulog a phlanhigion ac anifeiliaid diddorol yr ardal. Ym 1956 prynodd ef a'i wraig villa modernaidd a gynlluniwyd gan y pensaer o Iwerddon, Eileen Gray. Treuliodd Sutherland lawer o'r flwyddyn yn byw yn y tŷ hwn, ar ochr bryn ger tref arfordirol Menton, weddill ei oes. Yn Ffrainc, darganfu Sutherland amrywiaeth o ffurfiau newydd i'w ysbrydoli. Aeth ati i astudio, dadansoddi ac aildrefnu ffurfiau palmwydd, gowrd, indrawn a gwreiddiau. Câi'r pethau hyn eu portreadu fwyfwy fel creaduriaid neu ffigyrau wedi'u dal mewn proses o fetamorffosis. Mae dail palmwydd yn awgrymu haul, gwres a natur estron de Ffrainc. Ar ôl caledi a thristwch blynyddoedd y rhyfel, mae'n rhaid eu bod wedi ymddangos yn egsotig. Fodd bynnag, y mae mwy iddynt na dim ond cyrchfan gwyliau. Mae ymylon llym iawn y dail yn atgoffa rhywun o natur bigog astudiaethau drain cynharach Sutherland. Maent yn awgrymu'r posibilrwydd bod pleser a phoen yn cyd-fodoli. Ym 1967 dychwelodd Sutherland i orllewin Cymru am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd. Ddegawd bron yn ddiweddarach, ac yntau wedi bod yn gweithio'n rheolaidd yn yr ardal unwaith eto, eglurodd ei fod wedi gwneud 'camgymeriad mawr' am iddo gredu na allai'r lle gynnig rhagor o ysbrydoliaeth iddo. Yn groes i'w ddisgwyliadau roedd eto wedi ymgolli yn yr awyrgylch rhyfeddol — sy'n dawel ac eto'n llawn cyffro hefyd. Roedd Sutherland yn awyddus i adael casgliad i Gymru am iddo 'dderbyn cymaint gan y wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl'. Ym 1976 sefydlodd Oriel Graham Sutherland yng Nghastell Picton a oedd yn gartref i'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn nes iddo gael ei drosglwyddo Amgueddfa Cymru ym 1995. Trefnwyd yr erthygl hon gan Rachel Flynn fel rhan o Ddyfarniad Doethuriaeth ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Bryste a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Gweld rhestr o weithiau Graham Sutherland ar Celf Arlein. Cysylltiadau Oriel y Parc
John Piper: Taith drwy Eryri Melissa Munro, 27 Ebrill 2012 John PiperJagged rocks under Tryfan Copyright John Piper Estate John PiperRock formations Copyright John Piper Estate Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau. John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz. Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru. Ysbrydoliaeth Turner a Wilson Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851). Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW). Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru. Piper yng ngogledd Cymru Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi. Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd. Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd. I felt then that I was seeing the mountains for the first time and seeing them as nobody had seen them before. John Piper quoted in Richard Ingrams and John Piper, Piper's Places, London, 1986 John PiperThe Rise of the Dovey Copyright John Piper Estate Stormydd a gaeafau Eryri Bu trafferthion a chaledi byw yno, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn sbardun i'r teulu Piper symud i dy rhent arall o'r enw Bodesi tua 1947. Mae Bodesi wedi'i leoli ar draws y ffordd i Tryfan yn wynebu'r mynydd a Llyn Ogwen. Hwn oedd hafod, neu dŷ haf y perchennog, felly gallai'r teulu Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Dyma pam fod y rhan fwyaf o baentiadau Piper o Eryri yn stormus a gaeafol. Roedd Bodesi yn leoliad da a cynhyrchwyd llu o baentiadau a darluniau o Tryfan. Mae Creigiau Garw dan fynydd Tryfan, 1949-50, yn esiampl wych o fanylder Piper yn dewis ffurfiau creigiau penodol ar Tryfan ac yn y cyffiniau. Tryfan Bach a welir yma, sydd wrth droed y mynydd ac i'r gorllewin ac mae ei ffurf ddanheddog yn debyg i'r Tryfan mwy. Mwy na thebyg taw patrymau wedi'u gadael ar y cerrig gan gen sydd wedi hen ddiflannu yw'r ffurfiau cylchog gwyn mewn gouache. Gwelir fflachiadau coch a melyn yn y blaendir ar waelod y paentiad. Weithiau maent yn pwysleisio ffurfiau'r creigiau ac weithiau yn dynodi'r cen 'melyn crôm ac oren crôm' fel y disgrifiodd Piper hwy yn ei nodiadau. Bu dylanwad y llyfrau canllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sbardun i Piper ysgrifennu ei ganllaw ei hun i'r ardal, ond yn anffodus wnaeth y syniad fyth adael ei lyfr nodiadau, a gellir ei weld bellach yn archifau Tate Britain. Er na lwyddodd Piper i wireddu'i freuddwyd o gyhoeddi canllaw i Eryri, mae'n deg dweud iddo adael canllaw hudolus i ni yn ei baentiadau a'i ddarluniau. Caiff y gyfres hon ei hystyried ymysg goreuon ei holl waith. Yn y 1960au prynodd y teulu Piper dŷ o'r enw Garn Fawr yn Sir Benfro, ac mae ei waith Cymreig wedi hynny yn canolbwyntio ar Sir Benfro a de Cymru. Ni chafodd gyfnod mor ddwys o weithio yng ngogledd Cymru wedi hyn. Cysylltiadau Tate Britain Barc Cenedlaethol Eryri
Breuddwydion Chwyldroadol: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste 22 Mawrth 2012 Cerbyd Trydydd-dosbarth Honore Daumier (1808 - 1879) Gweithwyr ar y Stryd, 1838-40 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Chwa o Wynt Jean-François Millet (1814 - 1875) Yr Enciliad Louis Eugène Benassit (1833 - 1904) Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU. Yma gwelwn golwg or newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau'r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.Canrif y ChwyldroPenderfynodd arlunwyr gofnodi hanes cymdeithasol a gwleidyddol cythryblus Ffrainc ar gynfas, yn enwedig y newidiadau mewn bywyd bob dydd ac yn nisgwyliadau pobl. Esgorodd Chwyldro 1789, pan sefydlwyd y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, ar ganrif o wrthdaro ac ansicrwydd i'r boblogaeth. Er bod ambell artist yn ceisio portreadu digwyddiadau'r dydd, roedd eraill yn ceisio ail-gyfl eu'r hen draddodiadau coll.Chwyldro a RealaiddAcademi Celfyddyd Gain y wladwriaeth a'i harddangosfa swyddogol, y Salon, oedd yn llywio cyfeiriad celf Ffrengig o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, dechreuodd llawer o arlunwyr herio'r Academi a'r Salon. Mae llawer o'r paentiadau yn dangos eu bod yn torri'r traddodiad ac yn dechrau mabwysiadu arddull fodern newydd. Dechreuodd mwy a mwy o arlunwyr gefnu ar y ffi gyrau Beiblaidd a'r arwyr Rhufeinig a oedd yn rhemp ar waliau'r Salon.Yn Cerbyd Trydydd-dosbarth, mae Honoré Daumier yn cyfeirio at ddyfais allweddol y ganrif, sef trên stêm. Ar y llaw arall, mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cyfl wyno portread o ffermwyr a delfryd o gefn gwlad Ffrainc. Er eu bod nhw'n baentiadau tra gwahanol, mae thema gyffredin iddynt, sef portreadu bywyd cyfoes a dirodres bob dydd.Dyma pryd y dechreuodd artistiaid Ffrengig beintio fel hyn; dull y cyfeirir ato'n aml fel peintio 'Realaidd'. Y newidiadau yng nghynnwys lluniau fraenarodd y tir ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn Gelf Fodern heddiw.Ansicrwydd GwleidyddolAr ôl i'r Brenin Siarl X gael ei ddiorseddu gan Chwyldro Gorffennaf 1830, daeth Louis-Phillippe yn frenin tan iddo yntau gael ei ddisodli gan Chwyldro mis Chwefror 1848. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Ail Weriniaeth gan roi'r hawl i ddynion bleidleisio ac addewid o ddemocratiaeth. Er hynny, mae'r modd y ffrwynwyd gwrthryfel y gweithwyr yn chwyrn ym mis Mehefi n y fl wyddyn honno, les journées de Juin, yn dangos fod yr hen rwystredigaeth yno o hyd. Mae Gweithwyr ar y Stryd Daumier yn cyfl eu'r tensiynau hyn ac fel petai'n rhagweld y digwyddiadau hyn. Roedd ei luniau'n beirniadu'r gwahaniaethau parhaus rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.Mae llun diweddarach Millet, Yr Heuwr, yn pwysleisio'r bywyd gwerinol a llafurio ar y tir. Roedd amaethyddiaeth yn rhan ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol Ffrengig, ac roedd Millet yn tristau'n fawr o weld cymaint yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.Ym 1870, dechreuodd Ffrainc ryfela yn erbyn Prwsia gyda goblygiadau trychinebus. Ffodd llawer o arlunwyr i ddiogelwch cefn gwlad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Millet a adawodd Barbizon i chwilio am loches ar arfordir Normandi. Ar ôl dychwelyd, aeth ati i beintio Y Chwa o Wynt; portread o nerth a grym dychrynllyd y storm sy'n cyfl eu newid a dinistr rhyfel. Mae Yr Enciliad gan Louis Eugene Benassit yn dangos ymateb mwy uniongyrchol. Y Teulu Gwerinol (1871-2) Jean-François Millet (1814 - 1875) Olew ar gynfas Casgliad y Chwiorydd Davies Yr Heuwr, 1847-8 MILLET, Jean-François (1814 - 1875) Cinio yn y Wlad, 1868 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Traeth yn Trouville, 1890 Louis Eugéne Boudin (1824 - 1898) Y Baich Trwm Honore Daumier (1808 - 1879) HamddenYn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y dosbarth canol neu'r bourgeoisie yn gyfoethocach diolch i'r newidiadau yn strwythur y dosbarthiadau cymdeithasol yn Ffrainc.Dechreuasant awchu am nwyddau moeth amrywiol, o'r rhad i'r technolegol. Yn fwy na dim, roeddynt yn hoffi paentiadau a oedd yn eu dangos yn hamddena ac yn pwysleisio'u statws newydd mewn cymdeithas. Dechreuodd arlunwyr ymateb trwy wneud paentiadau a oedd at ddant y gynulleidfa gynyddol newydd hon.Dyfeisiwyd y trên stêm ym 1804, ac o fewn hanner can mlynedd, roedd rheilffyrdd yn cael eu gosod ar hyd a lled Ffrainc. Mae Cinio yn y Wlad gan Daumier ac Y Traeth yn Trouville gan Boudin yn portreadu'r ymwelwyr dosbarth canol.Yn ogystal ag adlewyrchu'r datblygiadau chwyldroadol ym myd trafnidiaeth a thwristiaeth, dechreuodd arlunwyr frwsio'n rhydd gyda lliwiau llachar i gyfl eu awyrgylch o fwyniant a phleser pur. Cafodd y defnydd chwyldroadol hwn o olau a brwsio rhydd ddylanwad aruthrol ar arddull newydd maes o law — Argraffi adaeth.Mewnod a'r AelwydMae golygfeydd o fenywod yn rhan amlwg iawn o'n casgliad o baentiadau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny, mae'n ddiddorol nodi mai artistiaid gwrywaidd beintiodd yr holl luniau hyn, felly rydym yn edrych arnynt o safbwynt dynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, gallwn ddechrau deall rôl y fenyw mewn cymdeithas.Mae Y Baich Trwm gan Daumier yn dangos gweithgareddau'r ferch dosbarth gweithiol, tra bod paentiadau eraill yn portreadu merched hardd a ffasiynol o ddosbarth uwch. Dengys hyn bod rhaniadau rhwng y rhywiau a dosbarth cymdeithasol yn dal mewn grym ar ôl y Chwyldro.Boed yn brysur wrth eu gwaith neu ar eu heistedd yn oddefol, gellir dehongli'r lluniau hyn fel drych o'u sefyllfa mewn cymdeithas.Research and RevealHere we present four essays, giving a fresh look at the Museum's collection of pre-Impressionist French paintings, researched and interpreted by postgraduate students from the University of Bristol:Personalities in Paintings, by Matthew Howles Landscape Fakes, by Jessica Hoare The Landscapes of Millet, by Jessica Hoare The Paintings of Charles Bargue, by Rhian Addison CysylltiadauBrifysgol BrysteGymdeithas yr Haneswyr Celf