Catrin o Ferain 10 Hydref 2011 Mae bywyd Catrin o Ferain yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr aeres gyfoethog hon o Sir Ddinbych waed Tuduraidd, ac roedd yn perthyn o bell i'r Frenhines Elisabeth I. Ei hanes hi a'i gŵyr niferus oedd un o brif straeon rhamant y gogledd. Cafodd chwech o blant a thros dri deg o wyrion ac wyresau oedd i gyd yn rhan o deuluoedd cyfoethocaf y wlad. Yn sgil hyn cafodd y teitl 'Mam Cymru'. Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel aeres gyfoethog o dras frenhinol, ystyriwyd Catrin yn dipyn o fachiad! Priododd bedair gwaith gyda Chymry enwog, ac roedd yn perthyn i deuluoedd cyfoethocaf, pwysicaf y gogledd. Byddai pobl gyfoethog yn aml yn cael rhywun i beintio eu portreadau er mwyn gwneud sioe fawr o'u cyfoeth a'u statws cymdeithasol. Ond yn yr oes grefyddol hon, roedd hi'r un mor bwysig ymddangos yn ddiymhongar o flaen Duw. Priodolwyd y portread hwn i'r artist a swyddog llywodraethol Iseldiraidd Adriaen van Cronenburgh, a beintiodd sawl portread o uchelwyr Ffrisaidd. Mae ei waith yn dangos y dechneg peintio olew Iseldiraidd soffistigedig. Archwiliwch y Llun Cyffyrddwch ran o’r portread i ganfod yr hyn y mae portread Catrin yn ei ddatgelu amdani, ffasiynau’r oes, a thraddodiad portreadu’r unfed ganrif ar bymtheg. Phenwisg Croen gwelw Jlysau Cefndir Arysgrif Ffrog felfed Llyfr gweddi Gwregys gadwyn Benglogau Phenwisg Yn draddodiadol, roedd menywod priod yn gorchuddio'u gwallt â phenwisg. Yn aml roedd y rhain wedi'u haddurno â gemau i dynnu sylw at y talcen, a ystyriwyd yn fan prydferth. Croen gwelw Ystyriwyd bod croen gwelw Catrin yn arwydd o bendefigaeth a thynerwch – dim ond y tlodion oedd yn gweithio yn yr haul drwy'r dydd oedd â lliw haul. Cysylltwyd gwenu â ffyliaid, sy'n egluro wyneb diemosiwn Catrin. Jlysau Gwisgwyd tlysau fel addurn, fel heddiw, ond roedd hefyd yn arwydd o gyfoeth, ac roedd rhai yn arwyddion o deyrngarwch a chariad. Cefndir Drwy ddefnyddio man gwastad du fel cefndir, mae'r artist wedi sicrhau nad oes unrhyw beth yn tynnu ein sylw oddi ar Catrin. Arni hi y dylid canolbwyntio, ac mae ei chroen golau ac aur cyfoethog ei gwisg yn sefyll allan yn erbyn y cefndir plaen. Arysgrif Mae'r arysgrif ysgafn hwn yn dweud 'Katherine Tudor of Beren'. Roedd arysgrifau o'r fath yn cael eu hychwanegu'n aml ar ôl i'r portread gael ei beintio, nid o reidrwydd gan yr artist. Mae sawl fersiwn gwahanol o sillafiad Catrin. Roedd Catrin ei hun yn sillafu ei henw yn Katherin, Katryn ac yna Katheryn. Roedd hyn yn arfer gyffredin yn y cyfnod. Beren (neu Berain) oedd enw ei chartref yn Sir Ddinbych. Ffrog felfed Efallai bod ffrog felfed du hir Catrin yn edrych yn dywyll i ni, ond dyma oedd y ffasiwn diweddaraf yn Sbaen ym 1568. Ystyriwyd gwisgoedd du yn ffurfiol, urddasol – ac yn ddrud iawn, gan fod llifyn du yn anodd ei gael. Mae ffrog Catrin wedi’i bywiogi â brodwaith cymhleth ar ei llewys a’i choler. Llyfr gweddi Yn ôl y chwedlau, blwch yw hwn sy'n cynnwys llwch ei hail ?r, Rhisiart Clwch. Ond roedd yn fyw ym 1568 pan beintiwyd hwn, ac roedd y cwpwl wedi priodi ychydig cyn hynny. Mae'n fwy tebygol i fod yn llyfr gweddi y mae Catrin er mwyn ei phortreadu ei hun fel Cristion ffyddlon. Gwregys gadwyn Mae Catrin yn gwisgo gwregys gadwyn ffasiynol, gan ei ddolennu i fyny i ddangos i ni'r hyn sy'n ymddangos fel loced ar y gwaelod, ond gallai fod yn berbelen neu'n eiddo gwerthfawr arall. Ysgrifennodd yr hynafiaethydd Thomas Pennant 'Clywais ei bod yn cadw gwallt ei hail ?r a'i hoff ?r yn y loced,' tra bod Haneswyr Celf wedi dweud bod y gadwyn o gwmpas ei gwasg yn symboleiddio ei hufudd-dod fel gwraig. Benglogau Yn ôl llên gwerin llofruddiodd Catrin lawer o'i chariadon. Ond nid un o benglogau y rhain yw hwn! Roedd y penglog yn brop cyfarwydd mewn portreadau cynnar. Fe'i gelwir yn ddyfais memento mori, gwrthrych sy'n cynrychioli tynged dyn. Mae'n gydnabyddiaeth i natur ddiflanedig bywyd, ac yn ddatganiad o ostyngeiddrwydd o flaen Duw. Pan fu farw ail ŵr Cathryn dramor, dychwelodd i Sir Ddinbych gyda'r portread hwn, a bu'r llun yno am bron i bedwar can mlynedd. Ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, fe'i gwerthwyd a'i gludo i'r Iseldiroedd. Yno, fe'i gwerthwyd i gasglwr a ddaeth â'r gwaith nôl i Brydain. Yn y pen-draw fe'i prynwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gyflwynodd y portread i ni ym 1957.
Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis gan Francsesco Guardi Anne Pritchard, 6 Medi 2011 Delwedd wedi'i hadfer yn rhannol o Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis Mae golau uwch-fioled yn dangos gwaith adfer blaenorol Mae'r paentiad bychan hwn gan Francesco Guardi yn dangos llysgenhadaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Fenis mewn manyldeb rhagorol. Saif yr adeilad yng nghanol prysurdeb bywyd bob dydd y Gamlas Fawr. Mae dillad yn sychu ar falconïau, cychod gondolïwyr yn pasio wrth eu gwaith a diplomyddion yn eu gwisgoedd drudfawr yn syllu o'u ffenestri neu'n cerdded ar y cei. Yng nghanol y môr o ffigyrau gwelwn fonheddwr mewn gwisg las — y llysgennad ei hun mwy na thebyg — yn sefyll ger mynedfa'r palazzo yn dal teyrnwialen aur. Uwch ei ben, gwelwn arfbais y gyfundrefn bwerus fu'n rheoli rhannau helaeth o ganolbarth Ewrop am ganrifoedd. Mae Guardi yn enwog fel un o beintwyr tirluniau Fenisaidd mwyaf y ddeunawfed ganrif; fe'u gelwid yn beintwyr veduta. Roedd ei weithiau yn hynod boblogaidd a cawsant ddylanwad ar artistiaid a chasglwyr Prydeinig a ymwelodd â Fenis yn ystod y Daith Fawr. Mae'r gwaith hwn yn esiampl dda o'i dechneg aeddfed ac yn cyfuno'r manyldeb cywrain a feistrolodd dan ddylanwad Canaletto â gwaith brws cynyddol fynegiannol, atmosffer a golau. Datgelodd gwaith glanhau gan gadwraethwyr yr Amgueddfa lewych syfrdanol yr effeithiau gwreiddiol yma. Pan ddaeth y paentiad hwn i feddiant yr Amgueddfa'n wreiddiol, doedd effaith y dechneg ryfeddol ddim yn gyflawn. Roedd yr haen uchaf o farnais a orchuddiai'r paentiad wedi afliwio'n ddrwg, gan droi'n frown dros amser. Drwy edrych ar y llun dan olau uwch-fioled, gwelwyd hefyd bod gwaith adfer gormodol wedi cael ei wneud ar yr awyr. Glanhaodd cadwraethwr yr Amgueddfa arwyneb y paent gan dynnu'r hen farnais a gwaith adfer blaenorol. Gwelwyd taw darnau bychan o bigment oedd y gronynnau du pitw yn y paent, yn hytrach na baw fel y tybid cyn hyn. Byddai'r artist wedi cymysgu ei baent ei hun a gellir gweld gronynnau tebyg mewn gweithiau eraill gan Guardi. Gyda llewych gwreiddiol gwaith Guardi bellach yn amlwg, cafodd y paentiad ei ail-farneisio a'i arddangos. Cyn ac wedi glanhau Mae cadwraethwyr yr Amgueddfa wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau'r gwaith, dyma lun o'r gwaith cyn ac ar ôl cael ei adfer: Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [cyn glanhau] Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [wedi glanhau]
Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle Emily O'Reilly, 11 Chwefror 2011 Castell Benfro Dinbych-y-pysgod Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Prynodd yr Amgueddfa'r brasluniau gan ddeliwr ym 1931. Roedd y deliwr wedi'u prynu yn Sotheby's mewn arwerthiant o gasgliad Coleg Celf Patrick Allan-Fraser yn Arbroath, yr Alban. Roedd y casgliad yn cynnwys darluniau, argraffiadau, crochenwaith a'r unig lun olew hysbys, sef hunanbortread, a ddaeth i law'n uniongyrchol drwy deulu Place. Mae'r darluniau wedi'u gwneud drwy gyfuno o leiaf dwy ddalen ar wahân a'u gludo ar ddalen arall i'w dal at ei gilydd, sef papur cynnar wedi'i wehyddu mwy na thebyg, sy'n awgrymu bod y gwaith yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rhai darluniau a oedd yn ymestyn dros y dudalen wedi'u gadael yn 'rhydd', fel bod modd i'r sawl a oedd yn edrych arnynt godi'r dudalen a gweld yr ochr arall. Roedd eraill wedi'u gludo i ddalen gynnal gan guddio'r braslun 'dibwys' ar y cefn. Brasluniau cudd Yn ystod y gwaith cadwraeth, penderfynodd staff yr Amgueddfa dynnu'r holl frasluniau oddi ar y dalenni cynnal. Ar ôl tynnu'r holl frasluniau o'r llyfr, daeth i'r amlwg bod darlun ar gefn un dudalen yn perthyn i ddarlun ar gefn tudalen arall, gan greu darlun dwy dudalen newydd. Drwy wneud hyn datgelwyd brasluniau nad oeddent wedi'u gweld ers i'r llyfr braslunio gwreiddiol gael ei ddarnio o leiaf 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn bosibl gweld trefn wreiddiol y brasluniau hefyd. Caerdydd Mae gan lawer o'r brasluniau groes neu saeth yn dangos lle mae'r olygfa banoramig yn ymestyn dros y dudalen. Mae Caerdydd yn ddau fraslun dwy dudalen sy'n uno. Mae yna groes ar dŵr yr eglwys yn y ddau fraslun, yn dangos lle mae'r ddau yn gorgyffwrdd. Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1 Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2 Caerdydd (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol. Golygfeydd panoramig nas gwelwyd o'r blaen Gan nad oedd llawer o botensial mewn dangos y golygfeydd hanesyddol hyn o Gymru mewn oriel draddodiadol, cafodd y lluniau eu sganio a'u cyfuno drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Roedd modd gweld y lluniau panoramig fel delweddau cyflawn am y tro cyntaf erioed wedyn. Yn ystod y broses, dadlennwyd gwybodaeth am ddulliau Place o weithio. Wrth gyfuno'r tudalennau gwahanol, nid oedd angen newid y gorwel yn y lluniau i sicrhau ei fod yn syth — tystiolaeth o allu Place fel dyluniwr. Er nad yw technoleg wedi newid y dulliau o drin y gwrthrychau hyn, mae wedi gwella ein gwybodaeth amdanynt drwy ddatgelu llawer am ddulliau gweithio'r arlunydd. Ystumllwynarth Mae gan Ystumllwynarth ddwy groes ar yr ymyl chwith, yn dangos bod y darlun yn parhau dros y dudalen. Ar ochr arall y ddalen ceir croesau cyfatebol ar yr ymyl dde. Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 1 Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 2 Ystumllwynarth (1678) Francis Place wedi'u cyfuno'n ddigidol Ymchwil Mae'r rhan fwyaf o waith gwreiddiol Place yn dod o arwerthiant Sotheby's ym 1931. Mae eitemau amrywiol o'r arwerthiant hwn bellach i'w gweld yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, gan gynnwys nifer o ddarluniau wedi'u mowntio a dau lyfr braslunio. Mae'r eitemau hyn yn awgrymu bod y darluniau sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn perthyn i un llyfr braslunio yn wreiddiol. Mae llyfr braslunio cyntaf Amgueddfa Victoria ac Albert yn cynnwys deunaw tudalen, yr un nifer yn union â'r un yn Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo'r un dyfrnodau; ceir rhestr ar ddechrau'r llyfr braslunio sy'n cyfateb i'r golygfeydd ynddo, ac mae'r rhestr yn parhau gyda llefydd yng Nghymru sy'n cyfateb i'r drefn a sefydlwyd ar ôl astudio brasluniau Amgueddfa Cymru. Er nad Place a ysgrifennodd y rhestr, mae'n ymddangos yn gymharol hen. Efallai mai un o ddisgynyddion Place a wnaeth y rhestr cyn symud y brasluniau gorau i'w mowntio mewn llyfr ar wahân? Ceir mwy o dystiolaeth yn ail lyfr braslunio Amgueddfa Victoria ac Albert, sy'n cynnwys darn o bapur wedi'i ludo y tu mewn i'r clawr cefn. Mae'r ddalen hon yn cyfateb i'r braslun olaf yn y llyfr braslunio cyntaf. Yn anffodus, mae'r dudalen olaf wedi'i gludo i lawr, ond ar yr unig ddarn bach y gellir ei godi, gwelir llinell pensil glir, a allai gyfateb i un o frasluniau Amgueddfa Cymru... Dinbych-y-Pysgod Gwelir enghraifft arall o blygu drosodd ynDinbych-y-Pysgod. Mae'r plyg ar ochr chwith y darlun yn dangos yr ochr arall. Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 1 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 2 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Wedi'u cyfuno'n ddigidol
Francis Place (1647-1728) Emily O'Reilly, 10 Chwefror 2011 Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Ond pwy oedd Francis Place? Brodor o Swydd Efrog oedd Francis Place, ac fe'i ganwyd i deulu cyfoethog ym 1647, yr olaf o ddeg o blant. Penderfynodd ei dad y dylai Francis ddilyn ei ôl troed ef fel cyfreithiwr, a phan oedd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw oed aeth Francis i Gray's Inn yn Llundain i astudio'r Gyfraith. Fodd bynnag, nid oedd y gyfraith yn apelio at Francis, a chafodd esgus i roi'r gorau i astudio a dychwelyd adref yn sgil y Pla Mawr ym 1665. Dychwelodd i Lundain yn fuan wedyn i weithio gyda Wenceslaus Hollar, a'i cyflwynodd i'r gwaith o wneud a gwerthu argraffiadau. Mae'n bosibl bod Place wedi derbyn ei holl etifeddiaeth, neu gyfran ohoni, cyn marwolaeth ei dad ym 1681, a byddai hyn wedi ei alluogi i ddilyn ei ddiddordeb mewn celf a physgota. Brenhiniaeth a'r oes Virtuosi Oes y Virtuosi oedd yr ail ganrif ar bymtheg — cyfnod pan oedd dynion cyfoethog ag amser ar eu dwylo rhannu diddordeb mewn celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth. Aeth llawer ohonynt ymlaen i sefydlu'r Gymdeithas Frenhinol ym 1660. Yn ystod hanner cyntaf y ganrif, dim ond aelodau o'r teulu brenhinol a'r rhai oedd â chysylltiad agos â nhw oedd yn dysgu sut i ddarlunio a pheintio. Tua diwedd y ganrif daeth celf yn boblogaidd ymhlith tirfeddianwyr cefnog a'u meibion a'u merched. Aethant ati i astudio er mwyn ennill gwybodaeth, a oedd yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn dibynnu ar ddarlunio fel bywoliaeth. Er mai amatur oedd Place yn y bôn, ceir tystiolaeth iddo dderbyn arian am ei waith, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Felly roedd Place yn debyg iawn i wŷr bonheddig eraill y cyfnod; roedd ganddo ddigon o amser ac arian, a dengys yr hyn sydd wedi goroesi o'i waith iddo arbrofi gyda sawl cyfrwng, gan gynnwys porslen. Roedd yn aelod o Virtuosi Efrog a oedd yn cynnwys Martin Lister, Henry Gyles, Thomas Kirke FRS a William Lodge. Mae'n bosibl iddo ennill comisiynau yn sgil ei aelodaeth o'r grŵp hwn. Diolch i arian ei dad, teithiodd Place yn helaeth o gwmpas y DU i fraslunio a physgota. Dengys ohebiaeth o'r cyfnod bod y brasluniau sydd gan Amgueddfa Cymru wedi'u gwneud yn ystod taith Place yng Nghymru a Gorllewin Lloegr ym 1678. Ri gyfaill William Lodge oedd ei gydymaith ar y daith, oedd hefyd yn aelod o Virtuosi Efrog. Roedd teithio yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn beryglus. Roedd sawl cynllwyn Pabaidd ar waith ar y pryd, a gwyddom i'r ddau ddyn dreulio noson yn y carchar yng Nghymru yn sgil amheuaeth eu bod yn ysbiwyr Jeswitaidd. Dinbych y Pysgod Braslun gwreiddiol Dinbych y Pysgod Dinbych y Pysgod wedi'u cyfuno'n ddigidol:
Dod yn artist yn y ddeunawfed ganrif 8 Hydref 2010 Joshua Reynolds (1723 - 1792), Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant. Olew ar gynfas, prynwyd 1998 gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. NMW A 12964 William Hogarth (1697 - 1764), Llun Sgwrs y Teulu Jones, 1730. Olew ar gynfas. Prynwyd 1996 Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 3978 Richard Wilson (1714 - 1782), Castell Dolbadarn. Olew ar banel, prynwyd 1937. NMW A 72 Yn draddodiadol, bu statws cymdeithasol artistiaid yn isel. I ennill parch darpar gleientiaid, roedd ar artist angen addysg gyffredinol dda, yn cynnwys peth gwybodaeth ynglŷn â geometreg, hanes clasurol a llenyddiaeth. Roedd nifer ohonynt felly'n feibion i bobl broffesiynol neu fasnachwyr dosbarth-canol. I raddau helaeth roedd hyfforddiant artist yn dal i fod yn seiliedig ar y system prentisiaeth draddodiadol. Âi'n ddisgybl i artist profiadol, gan dalu ffi iddo. Yn gyfnewid am hyn dysgwyd sgiliau technegol paratoi paent a chynfasau iddo, a dysgai drwy esiampl a thrwy gyflawni tasgau cyffredin. Sylweddolwyd bod angen hyfforddiant mwy ffurfiol a strwythuredig hefyd, ac roedd nifer o ysgolion darlunio yn Llundain. Mynychodd yr arlunydd Cymreig Thomas Jones ddwy o'r rhain am ddeunaw mis cyn treulio dwy flynedd yn astudio dan adain Richard Wilson. Wedi iddo ennill sgiliau o safon dderbyniol, gallai artist ganfod gwaith fel cynorthwy-ydd cyflogedig, ond byddai'n rhaid iddo sefydlu ei stiwdio ei hun yn y pen draw. Pe bai'n gallu fforddio hynny, roedd cyfnod o astudiaeth dramor yn gam hanfodol yn natblygiad ei yrfa. Aeth bron i ddau gant o artistiaid o Brydain ac Iwerddon i deithio yn yr Eidal yn ystod y ddeunawfed ganrif. Arbenigo Roedd yn rhaid i artistiaid Prydeinig o'r ddeunawfed ganrif ddatblygu sgil arbennig i ddenu cwsmeriaid drwy arbenigo mewn un o blith nifer o 'ganghennau' peintio. Ystyriai damcaniaethwyr mai lluniau hanes, gweithiau â negeseuon moesol, yn aml yn seiliedig ar hen hanes, oedd ffurf 'uchaf' celfyddyd. Mewn gwirionedd bodlonwyd y galw am luniau hanes gan yr Hen Feistri Ewropeaidd a gasglwyd gan gyfoethogion. Portreadwyr oedd y mwyafrif o'r arlunwyr Prydeinig, gan fod bron pawb a fedrai fforddio hynny'n comisiynu portread — mewn miniatur neu mewn sialc neu bensil, os oedd peintiad olew yn rhy ddrud. Yn gyfrwys, sebonai Reynolds ei gleientiaid cyfoethog â chyffyrddiadau yn arddull yr Hen Feistri yn ei bortreadau mawr ohonynt. Datblygodd rhai artistiaid, Hogarth yn arbennig, y darlun ymddiddan o ffigyrau'n rhyngweithio mewn lleoliad domestig neu beintiadau 'ffansi' neu genre o fywyd modern. Enillodd eraill eu lle drwy beintio anifeiliaid, llongau neu flodau. Tyfodd poblogrwydd peintio tirluniau wrth i agweddau pobl at natur newid. O fod yn ddelweddau o lefydd, daeth yn ffordd o fynegi delfrydau ac emosiynau. Roedd Richard Wilson yn arbenigo mewn tirluniau oedd yn cyfleu tawelwch y byd clasurol. Ceisiodd eraill gyfleu prydferthwch a mawredd byd natur. Geni proffesiwn I ennill statws ac arian, bu'n rhaid i artistiaid gefnu ar eu gwreiddiau fel crefftwyr a sefydlu gyrfa broffesiynol. Gwnaethant hyn drwy ddod yn fwy medrus, ond yn arbennig drwy sefydlu clybiau a chymdeithasau. Roedd y rhain yn hyrwyddo buddiannau'r aelodau, yn enwedig trwy arddangosiadau, gan gau allan y rhai nad oedd yn ddigon da. Ym 1768 sefydlwyd yr Academi Gelf Frenhinol gan nifer o artistiaid blaenllaw oedd yn anfodlon â'r Gymdeithas Artistiaid oedd yn fwy o lawer. Roedd aelodaeth yn gyfyngedig a thrwy etholiad yn unig. Eu Llywydd cyntaf oedd Syr Joshua Reynolds (1723-1792), peintiwr portreadau a damcaniaethwr, a gymdeithasai'n rhwydd ag elît y cyfnod. Roedd yr Academi'n hyrwyddo statws proffesiynol artistiaid ac yn darparu hyfforddiant. Gallai llwyddiant yn ei harddangosfa flynyddol sicrhau enw da artist. Cynhaliwyd arddangosfeydd yr Academi Frenhinol yn 'Ystafell Fawr' Somerset House o 1780 ymlaen. Câi'r lluniau eu hongian o'r llawr i'r nenfwd, a'r artistiaid yn cynllwynio i gael eu gwaith 'ar y llinell' - sef lefel llygaid y darpar-brynwyr. Roedd ar artist angen adeilad addas mewn ardal ffasiynol hefyd, er mwyn derbyn cleientiaid ac arddangos ei waith. Roedd y rhain yn ddrud ac yn codi prisiau artist llwyddiannus. Yn ei anterth gallai Reynolds godi £200 am bortread maint llawn, swm oedd bryd hynny'n gyflog blynyddol i berson dosbarth-canol.