Tân yn y Felin Mark Lucas, 9 Gorffennaf 2019 Ym 1900 roedd 52 o felinau yn ardal Dre-fach Felindre. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd diwydiant gwlân Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu blancedi a gwisgoedd ar gyfer y lluoedd arfog. Cafodd gwisgoedd o frethyn cartref o’r enw Brethyn Llwyd eu comisiynu gan y swyddfa ryfel i roi teimlad gwladgarol i recriwtiaid newydd Corfflu Cymreig y Fyddin a ffurfiwyd yn ystod y rhyfel. Wedi’r rhyfel, cafodd 12 miliwn llath o wlanen dros ben ei werthu ar y farchnad agored am brisiau gwirion o isel, gan orfodi cynhyrchwyr gwlân i ostwng eu prisiau hefyd. Er enghraifft, câi crysau gwlanen eu gwerthu am 52s 6d y dwsin ym 1916 – erbyn 1923 roedd y pris wedi gostwng i 38 swllt. Methodd cynhyrchwyr gwlân gorllewin Cymru ag ymdopi â’r amodau newydd ar ôl y rhyfel, gyda rhai yn dal i gynhyrchu gwlân Angola israddol fel oeddent yn ei wneud yn ystod y rhyfel. Roedd y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr yn dal i ganolbwyntio ar greu gwlanen ar gyfer crysau, festiau a dillad isaf, ond bu lleihad yn y galw am ddillad isaf gwlanen wrth i ddillad isaf wedi’i wau yn nwyrain a gogledd Lloegr a’r Alban ddod yn fwy poblogaidd.. Ar 11 Gorffennaf 1919 aeth Melin Cambrian ar dân, a dinistriwyd yr adeilad tri llawr deheuol. Roedd rheolwr y felin, John Davies, ar ei wyliau gyda’i deulu yn Llanwrtyd ar y pryd, ac roedd ei ferch, Nesta Morgan yn cofio’i thad yn derbyn telegram yn y gwesty ond ei fod yn methu’i ddarllen am ei fod yn Saesneg. Pan ddeallodd y neges fod rhan o’r felin wedi’i dinistrio gan dân, roedd ei thad yn poeni’n arw. Cysylltodd â David Lewis a gofyn os y dylai ddod adref yn syth, ond dywedodd David Lewis wrtho y dylai gadw at ei drefniadau ac aros tan y diwrnod canlynol. David Lewis ar y chwith gyda mwstash a het yng nghanol olion Melin Cambrian Defnyddiodd David Lewis yr arian yswiriant i ailgodi’r felin – dim ond dau lawr oedd i’r felin newydd ond roedd hi’n llawer hirach. Melin newydd Cambrian Melin newydd Cambrian Gwydr wedi cracio yn y felin ogleddol o wres y tân yn y felin ddeheuol. Mae’r ffenestri hyn yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru Y tân ym Melin Cambrian oedd y cyntaf o 7 tân amheus ym melinau Dre-fach a’r ardal, gan gynnwys melinau Frondeg a Meiros oedd yn berchen i ddau frawd David Lewis, Daniel a John. Chafodd pob melin ddim ei hailgodi ar ôl mynd ar dân, ond roedd cwmnïau yswiriant yn dechrau amau nad damweiniau oedd y tanau hyn, a dechreuont fynnu eu bod yn cael eu hailgodi. Adeiladwyd melin newydd ym Meiros o frics coch, gydag arian yr yswiriant yn cael ei dalu fesul dipyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Melin newydd Meiros Caeodd 21 o ffatrïoedd yn Dre-fach Felindre a’r cylch yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. ‘[Wnaeth perchnogion melinau, oedd wedi gwneud elw mawr o gontractau’r rhyfel] ddim ymdrech i osod sylfaen ariannol gadarn i’w melinau, gan fodloni ar fancio’r arian neu brynu bythynnod glan môr’ Geraint Jenkins 1967, The Welsh Woollen Industry t. 278 Melin Dyffryn 29/6/1923 Melin Frondeg 7/2/1924 Melin Aberbanc 1926 Melin Ogof 1927 Melinau eraill wedi’u dinistrio gan dân: Meiros yn y 1920au Melin Llwynhelyg 1927 Melin Llainffald 1920au Melinau a gaewyd yn Dre-fach Felindre a’r cylch: Babel 1925 Cilwendeg 1928 Cwm-ty-mawr 1920 Melin Glyn 1930 Llwynbedw 1920 Pant-glas 1922 Spring Gardens 1925 Bach-y-gwyddil 1923 Cwm-gilfach 1923 Drefach 1923 Green Meadow 1928 Nant-y-bargoed 1925 Penwalk 1928 Ty Main 1923 Cawdor 1924 Cwm-pen-graig 1922 Felin-fach 1924 Henfryn 1920 Pandy 1920 Siop Pensarn 1921 Tower Hill 1925
Cadeiriau Arwisgo Tywysog Cymru Mark Lucas, 3 Gorffennaf 2019 Dyluniwyd y Gadair gan yr Arglwydd Snowdon ar gyfer arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd 4,600 o'r cadeiriau hyn eu gwneud ar gyfer y gwesteion yng Nghastell Caernarfon. Cafodd y gadair ei defnyddio gan Iorwerth Howells, cyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o gynrychiolwyr Sir Gaerfyrddin yn yr arwisgiad. Mae'r ffrâm wedi'i gwneud o bren ffawydd, y sedd a'r cefn o bren haenog gydag argaen pren onnen. Mae'r gadair wedi'i lliwio'n loywgoch ac wedi'i selio gyda lacr asid clir. Cafodd ei gwneud yn ffatrïoedd Remploy yn Nhrefforest a Wrecsam. Arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon Mae'r ffabrig wedi'i wneud o wlanen goch Gymreig a wnaed gan David Lewis Cyf, Melin Cambrian, Dre-fach Felindre - cartref Amgueddfa Wlân Cymru erbyn hyn. Cafodd 2,650 llath o ddefnydd ei gynhyrchu am 18/- y llath. Mae plu arfbais Tywysog Cymru wedi'u boglynnu mewn eurddalen gan Ferndale Book Company. Wedi'r seremoni cafodd y cadeiriau eu gwerthu am £12.00 yr un, gyda'r gwahoddedigion yn cael y cynnig cyntaf cyn iddynt fynd ar werth i'r cyhoedd. Y sampl gwreiddiol a anfonwyd i'r adran weithiau i gael ei wirio