: Cyffredinol

Project datblygu'r wefan

Amgueddfa Cymru a One Further, 23 Mai 2022

Gwrando ar leisiau defnyddwyr digidol Amgueddfa Cymru

Rydyn ni yng nghanol cyfres gyffrous o brojectau fydd yn gweddnewid ein darpariaeth ddigidol i gwsmeriaid. Rydyn ni'n datblygu cyfeiriad ffres i'n strategaeth ddigidol, gan ailedrych ar y systemau sy'n galluogi pobl i ymwneud â ni, ac yn ailfeddwl sut y byddwn ni'n mynegi ein hunain ar-lein.

At hyn, rydyn ni'n edrych ar rôl ein gwefan. Mae wedi bod yn gwasanaethu'r Amgueddfa ers blynyddoedd, ac er ei bod wedi esblygu yn yr amser hwnnw, mae'n amser am newid pellgyrhaeddol.

I ddechrau'r broses, byddwn ni'n gweithio gydag asiantaeth o'r enw One Further. Byddan nhw'n ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth well o sut mae'n gwefan yn gwasanaethu ein defnyddwyr a ble mae cyfleoedd i wella. Bydd eu persbectif allanol o fudd, oherwydd o weithio gyda'r wefan o ddydd i ddydd, mae'n anodd i ni gael trosolwg diduedd ohoni.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol iawn y bydd yn rhaid i'r wefan newydd wasanaethu pobl Cymru a darparu platfform i ddenu'r cymunedau rydyn ni'n cydweithio â nhw (a chymunedau rydyn ni am weithio gyda nhw yn y dyfodol). Rhaid i ni felly glywed yn uniongyrchol gan y bobl a'r cymunedau hynny.

Dyma elfen fawr o waith One Further droson ni. Yma maen nhw'n esbonio rhai o'r dulliau rydyn ni'n eu defnyddio i gasglu barn ein defnyddwyr digidol.

Pwy sy'n ymweld â'r wefan a pham

I gasglu amrywiaeth eang o ymatebion rydyn ni wedi bod yn defnyddio amrywiaeth o holiaduron ar ein gwefan.

Mae holiaduron bwriad defnyddwyr yn gofyn i bobl beth yw diben eu hymweliad. Yw'r rheswm yn bersonol neu'n broffesiynol? Ydyn nhw am gwblhau tasg benodol?

Mae holiaduron defnyddio cynnwys yn gofyn i bobl fesur safon tudalen benodol ac awgrymu gwelliannau.

Mae holiaduron gadael yn ymddangos pan mae'n edrych yn debyg bod rhywun am adael y wefan. Dyma pryd fyddwn ni'n gofyn am ansawdd eu profiad a pa welliannau yr hoffen nhw eu gweld.

Wrth gwrs, gall yr holiaduron fod yn boendod o'u defnyddio'n ansensitif. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr taw dim ond ar dudalennau priodol y byddan nhw'n ymddangos, ac nad ydyn ni'n tarfu ar rywun sydd ar hanner cwblhau tasg.

Mae mwyafrif y cwestiynau yn amlddewis er mwyn annog mwy o bobl i'w cwblhau, a fyddwn ni ddim yn dangos mwy nag un holiadur i bobl mewn un sesiwn.

Sgrinlun o wefan Amgueddfa Cymru yn dangos naidlen adborth

Hwyluso taith defnyddwyr

Rydyn ni am ddeall pa mor hawdd a chyflym y gall pobl ganfod gwybodaeth ar y wefan. Yw'r dyluniad yn reddfol? Ydyn ni'n defnyddio'r labeli cywir i gyfeirio pobl?

I brofi hyn rydyn ni'n defnyddio rhaglen o'r enw Treejack. Mae'n ein galluogi i greu model o ddyluniad gwefan a gosod tasgau i bobl eu cwblhau. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn iddyn nhw ble yn strwythur y wefan bydden nhw'n disgywl canfod gwybodaeth benodol.

Rydyn ni wedyn yn anfon dolenni at bobl ac yn aros i'r canlyniadau ddychwelyd.

Drwy ofyn i bobl gwblhau teithiau defnyddiwr cyffredin ar y wefan gallwn ni adnabod problemau, llwybrau seithug, a rhwystrau.

Os oes cyfran fawr o bobl yn mynd at adran anghywir o'r wefan, mae'n debyg bod angen i ni ailfeddwl pensaernïaeth y wefan. Os yw pobl yn cyrraedd yr adran gywir ond yna'n dilyn sawl opsiwn gwahanol, efallai bod angen ailfeddwl y labelu. Mae'r cyfan yn adborth defnyddiol.

Treejack feedback example

Profi defnyddioldeb wyneb yn wyneb

Mae'r ddau ddull uchod yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth eang. Ochr arall y glorian wedyn yw profi defnyddioldeb ar raddfa bersonol, a hynny gyda sgyrsiau unigol dros Zoom.

Rydyn ni'n gofyn i unigolion rannu eu sgriniau ac yn gosod cyfres o dasgau cyffredin i'w cwblhau.

Gyda'r person ar ochr arall y sgrin, gallwn ni ofyn cwestiynau pellach i ddeall yn well y penderfyniadau a'r rhagdybiaethau a welwn ni. Pan fydd rhywun yn mynd ar goll, mae'n anodd weithiau ceisio peidio eu rhoi nhw ar ben y ffordd!

Rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n siarad â sampl cynrychioliadol o bobl, a defnyddiwyd holiadur sgrinio ar y wefan cyn trefnu sesiwn ar amser oedd yn gyfleus iddyn nhw.

Cyn y pandemig bydden ni'n aml yn cynnal y profion yma mewn canolfan brofi defnyddioldeb arbennig, neu yn swyddfeydd ein cleient. Ond rydyn ni wedi gweld sawl budd o brofi o bell, yn enwedig:

  • Mae'r person yn gallu defnyddio eu hoffer eu hunain, mewn lleoliad cyfarwydd, sy'n gwneud iddyn nhw ymlacio,
  • Does dim angen teithio, felly gallwn ni brofi pobl fyddai ddim wedi gallu gwneud hynny fel arfer, ac
  • Nid yw'r gymaint o broblem os oes yn rhaid i berson ganslo ar y funud ola.

Defnyddio'r wybodaeth newydd

Mae casglu adborth uniongyrchol gan gynulleidfaoedd y wefan yn gynnar yn y broses yn hynod ddefnyddiol i lywio ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn gweld y wefan. Mae hyn wedi arwain at sgyrsiau mwy deallus gan bobl mewn gwahanol adrannau.

Bydd yr adborth hwn hefyd yn llywio gwelliannau i'r wefan. Mae rhai gwelliannau yn hawdd i'w cyflwyno, ond byddwn ni'n defnyddio ein dealltwriaeth newydd i awgrymu gwelliannau ehangach wrth lywio cyfeiriad y wefn i'r dyfodol.

 

Cân Cwiyr Gymraeg

Mair Jones & Norena Shopland, 24 Mawrth 2022

Yn hydref 2021, yn dilyn sgwrs ar drawswisgo mewn hanes gan Norena Shopland, daeth baled Cymraeg, ‘Can Newydd,’ i’r amlwg yn Yr Archif Gerddorol, yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymraeg. Gellir darllen mwy am honno ar ‘Balad Cwiyr Anweddus’. Yr hyn sy’n drawiadol yw natur rywiol amlwg y faled, sy’n darlunion merched yn trawswisgo a’n cael perthynas rywiol â merched eraill.

Mae Archifdy Ceredigion ac Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor, gyda gopïau yn eu casgliadau, ond ym mis Chwefror 2022 lleolwyd trydydd copi yn Amgueddfa Cymru, fodd bynnag teitl y fersiwn hon yn syml yw ‘Can’ a mae ganddo ychydig o wahaniaethau. Mair Jones, a wnaeth y cyfieithiad cyntaf o ‘Can Newydd,’ hefyd a wnaeth y cyfieithiad ar gyfer ‘Can’.

Ysgrifennwyd geiriau’r ddwy fersiwn gan faledwr unllygeidiog, a throseddwr rhan amser braidd yn ecsentrig, Abel Jones, ‘yr olaf o’r baledwyr “mawr,” ond a adweinid yn aml wrth ei enw barddol Bardd Crwst ar ôl ei fro enedigol, Llanrwst. Roedd Jones yn faledwr a deithiodd a pherfformio mewn ffeiriau ledled Cymru, gan werthu ei faledi fel ‘Can Newydd’ ar bynciau penodol, fel marwolaeth Ymerawdwr Rwsia, damweiniau a thrychinebau diwydiannol, Rhyfel y Degwm a llofruddiaethau – er ddim bob amser yn hanesyddol gywir, oherwydd gwerthu ei faledi oedd ei brif nod. Weithiau byddai'n eu gwerthu gyda'i fab, ac fel arfer i bobl fel y gymuned amaethyddol dosbarth-gweithiol. Roedd baledwr mwyaf adnabyddus a phoblogaidd ei oes, er iddo farw yn Nhloty Llanrwst.

Mae’n anodd dyddio’r faled, er bod dyddiadau rhwng 1865-1872 wedi’u hawgrymu (gweler ‘Balad Cwiyr Anweddus’ am ragor o fanylion) ac nid oes dim yn ‘Can’ i awgrymu a yw’n dod cyn neu ar ôl ‘Can Newydd’. Fodd bynnag, mae pob un o'r tair fersiwn o Can Newydd wedi'u harwyddo ‘Bardd Crwst’ tra bod fersiwn Amgueddfa Cymru wedi'i harwyddo ‘Abel Jones, (Bardd Crwst)’ ac efallai bod rheswm am hyn.

Ysgrifennodd Jones nifer o faledi ddigrif, gan ddefnyddio’r dôn ‘Robin yn Swil’ yn aml, yr un fath ag ar gyfer ‘Can Newydd’, alaw ‘fwy addas i’r dafarn nag i’w chanu mewn cyngherddau ac eisteddfodau parchus.’ Un o’i faledi a restrir fel cerdd am ‘garwriaeth’, un arall am Dic Sion Dafydd, ac un arall am wraig feddw, tra’r oedd ei gerddi ‘carwriaeth’ eraill yn gyngor i beidio â phriodi a’n gwynion gŵr am ei wraig. 

Mae un sôn am ‘Can Newydd’ ym mhapur newydd 1915, wrth drafod gweithiau Bardd Crwst, sef ‘Cân am ddwy Ferch Ieuangc yn myned i guro at Ffermdy Tu Ucha’r Glyn, ger Harlech’, â nodyn ychwanegol gan y casglwr, 'Ni roddais benawd yr olaf yn gyflawn,' sy'n dangos y byddai hyn wedi bod yn rhy amharchus hyd yn oed i'r papur newydd, gan gynnwys gadael allan yr agwedd groeswisgo.

Mae'n bosibl bod natur risqué, nid yn unig y geiriau ond y dôn yr oedd yn gysylltiedig â hi, wedi achosi i Jones dynnu ei enw llawn o fersiwn ‘Can Newydd’. Nid oes unrhyw dôn yn gysylltiedig â fersiwn Amgueddfa Cymru felly mae'n bosibl daeth ‘Can’ yn gyntaf, a Jones wedi ei gwneud yn fwy swnllyd yn yr ail fersiwn ond wedi penderfynu hepgor ei enw llawn. Mae ‘Can’ hefyd yn defnyddio rhai geiriau Sasneg, fel ‘beauty,’ ‘Kate Pugh,’ ‘Visles’ a ‘Cirnoleens,’ [sp] tra bod ‘Can Newydd’ yn defnyddio sillafu Cymraeg fel ‘biwti,’ ‘Cit Pugh,’ ‘busle’ ac wedi cywiro’r sillafu o ‘crinoline’.

Gwahaniaeth arall yw'r lleoliad. Y rhagymadrodd i ‘Can’ yw “Can am ddwy ferch ieuaingc a wisgoedd eu hunain mewn dillad meibion a myned i guro at Ffarmdy at ddwy Ferch Ieuangc arall, a chael myned i’r Ty, i’r gwely fel dau fab a dau gariad anwyl.” Tra yn ‘Can Newydd’ y mae “Hanes dwy Ferch ieuanc o’r fro hon a wisgodd eu hunain mewn dillad meibion, a myned i balasdy i garu at ddwy ferch ieuanc, rhai dyeithr iddynt.”

Mae’r ffermdy wedi diflannu ac yn ei lle mae ‘Plas uchaf a Glyn’. Mae Plas Uchaf (Neuadd Uchaf) 1.5 milltir (2.4 km) o Gorwen, Sir Ddinbych, a Phlas Glyn o bosib yn fyr am Blas Glynllifon 56 milltir (90km) o Gorwen. Ymddengys fod Jones wedi symud y lleoliad o amaethdy dosbarth gweithiol aneglur i dai boneddigaidd a enwyd, er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw gyfeiriad trawswisgo mewn cysylltiad â'r ddau eiddo hyn. Er hynny, mae’n trop(e) a ddefnyddir hyd yn oed heddiw, sef gosod straeon gwefreiddiol ymhlith y cyfoethogion, sy’n llai eu nifer ac sydd â mwy o amser ar eu dwylo, na phobl y dosbarth gweithiol, ac efallai nad oedd Jones eisiau sarhau ei brif gynulleidfa.

Beth bynnag oedd pwrpas y faled, penderfynwyd ei hadfywio ar gyfer cyflwyniad ym Mis Hanes LHDCT+ 2022 gan Aberration a recordiwyd gan Cerys Hafana gyda lleisiau cefndir gan y gymuned.

Trwy rannu’r faled cwiyr heddiw fel rhan o’n hanes Cymreig, mae’n cael ei hadennill gan y gymuned LHDTC+, yn cael ei hail-ddychmygu’n greadigol ac yn helpu i adeiladu ein cymuned cwiyr Gymreig heddiw.

Mae Trawsnewid yma!

Oska von Ruhland, 10 Mawrth 2022

Mae’r arddangosfa rad ac am ddim i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, rhwng 12 Mawrth a 17 Gorffennaf 2022.

Mae Trawsnewid yn datgelu ac yn dathlu hanes queer Cymru a newid cymdeithasol. Daw'r gwrthrychau yn yr arddangosfa o gasgliad LHDTQ+ Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a'u cyflwyno gyda naratif newydd sbon ochr yn ochr â gweithiau celf queer Cymreig. Gall ymwelwyr gamu i'n gorffennol – gorffennol sy'n aml yn cael ei anghofio – a gweld sut mae'r frwydr dros newid cymdeithasol yn parhau hyd heddiw. Gyda gwrthrychau queer hanesyddol, o ddiwedd y 1700au hyd y pandemig presennol, mae amrywiaeth eang o gymunedau, hunaniaethau a mudiadau yn cael eu cynrychioli yn yr arddangosfa.

Dewiswyd y gwrthrychau sy'n cael llwyfan yn yr arddangosfa gan gyfranogwyr project Trawsnewid. Pobl ifanc yw'r rhain sy'n cynnal ac yn mynychu gweithdai sy'n trafod hanes a diwylliant pobl LHDTQ+ Cymru, ac maen nhw wedi cydweithio i ddatblygu thema'r arddangosfa, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gelf a chreu queer. Dros sawl wythnos mae'r bobl ifanc wedi mynd drwy'r casgliad a dewis y darnau sy'n sefyll allan fel conglfeini pwysig hanes queer Cymru.

Yn rhan o'r arddangosfa mae casgliad o weithiau newydd gan rai o'r gwirfoddolwyr. Mae pob gwaith wedi'i ysbrydoli gan agwedd ar hanes queer Cymru, boed yn eitem o'r casgliadau LHDTQ+ neu'n gymuned o'u cwmpas. Drwy gyfuno myrdd o gyfryngau artistig mae nhw'n taflu goleuni heddiw ar yr hanes anghofiedig hwn.

Bydd cyfle hefyd yn yr arddangosfa i weld Cabaret Queer – cyfres o ffilmiau byr gan gyfranogwyr Trawsnewid yn trafod eu profiadau, eu cysylltiad â Chymru, a'u hunaniaeth queer. Mae'r Cabaret i gyd i'w weld ar YouTube, ond yn yr arddangosfa gallwch chi ei fwynhau wrth ymgolli yn yr hanes a'r diwylliant sydd wedi'i gasglu a'i guradu gan bawb ym mhroject Trawsnewid a'r casgliad LHDTQ+.

Mis Hanes LHDT+ 2022

Mark Etheridge, 1 Chwefror 2022

Mae Chwefror bob blwyddyn yn Fis Hanes LHDT+, gyda digwyddiadau gydol y mis yn helpu i hyrwyddo hanes a phrofiad bwyd pobl LHDT+. Fel arfer, mae thema wahanol ar gyfer y mis, a'r thema eleni yw ‘Gwleidyddiaeth mewn Celf’.

Mae Amgueddfa Cymru wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar gyfer Mis Hanes LHDT+ 2022:

Drwy gydol y mis bydd cynllun gwreiddiol bathodyn Lesbians and Gay Men Support the Miners Jonathan Blake o 1985 i'w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bydd yn cael ei arddangos yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan ar y cyd â bathodyn gwreiddiol LGSM. Grŵp oedd  Lesbians and Gay Men Support the Miners fu'n codi arian ar gyfer glowyr de Cymru oedd yn dioddef yn ystod streic fawr 1984-85. Erbyn diwedd 1984 roedd unarddeg o ganghennau LGSM ar draws y DU. Roedd pob cangen wedi 'gefeillio' â chymuned benodol, a changen Llundain yn cefnogi cymunedau yng nghymoedd Nedd, Dulais a Tawe Uchaf. Anfarwolwyd yr hanes hwn, ac ymweliad LGSM ag Onllwyn, yn 2014 yn y ffilm Pride. Mark Ashton, un o sylfaenwyr LGSM ym 1984, oedd un o wynebau Mis Hanes LHDT+ 2021 ac mae'n fraint dathlu eto eleni lwyddiannau rhyfeddol ymgyrch Lesbians and Gay Men Support the Miners.

Fel rhan o gyfres 'Sgyrsiau Amgueddfa' Amgueddfa Cymru bydd y curadur Mark Etheridge yn cynnal sgwrs ar gasgliad LHDT+ Sain Ffagan a phwysigrwydd cynrychiolaeth mewn casgliadau. Gallwch archebu tocyn ar - Sgyrsiau'r Amgueddfa: Casgliad LHDTQ+ Sain Ffagan | English | Amgueddfa Cymru.

Rydyn ni hefyd yn datblygu project cyffrous ar gyfer Mis Hanes LHDT+. Diolch i nawdd Cyngor y Celfyddydau, bydd LGBTQ+ History Wales Songbook gan Gareth Churchill yn cael ei berfformio yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan yn ystod y mis. Bydd y perfformiad cerddorol i lais a phiano/allweddell yn dathlu a rhoi llais cerddorol i gasgliad hanes LHDTQ+ Sain Ffagan. Perfformiad caeëdig fydd hwn i ddechrau, yn cael ei ffilmio a'i ddarlledu ar-lein fel diweddglo i Fis Hanes LHDT+ a'i hysbysebu ar bob un o sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Amgueddfa.

Wrth gwrs, nid am un mis yn unig y dylai hanes LHDTQ+ gael ei ddathlu. Cadwch lygad drwy gydol 2022 am ragor o arddangosiadau a digwyddiadau yn safleoedd Amgueddfa Cymru. Dyma rai o'r cynlluniau sydd ar y gweill:

Yn Sain Ffagan mae nifer o wrthrychau LHDTQ+ bellach yn cael eu harddangos yn orielau Cymru... a Byw a Bod...  Yn ogystal â'r bathodynau LGSM, mae tebot a phadl yn perthyn i Fenywod Llangollen (o bosib y pâr lesbiaidd enwocaf erioed) a chopi o gerddoriaeth We'll Gather Lilacs a gyfansoddwyd gan Ivor Novello.

O ganol mis Mawrth bydd gwrthrychau o'r casgliad LHDTQ+ i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o arddangosfa Trawsnewid. Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae'n edrych ar ffigurau queer, neu sydd ddim yn glynnu at rywedd ddeuaidd yn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan brofiad bywyd.

Amgueddfeydd mwy gwyrdd

Amgueddfa Cymru, 28 Hydref 2021

Gyda'r cynnydd yn lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer a thymheredd byd-eang, mae taclo newid hinsawdd yn bwysicach nag erioed.

 

Yr wythnos hon cynhelir Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow er mwyn ceisio uno'r byd i ymladd newid hinsawdd, ac dyma ni'n manteisio ar y cyfle i weld sut i greu amgueddeydd mwy gwyrdd.

 

Ym mis Medi 2019 dyma ni'n ymuno ag eraill i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang. Dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt byddwn yn lleihau ein hôl-troed carbon a'n heffaith ar yr amgylchedd.

 

Ein hyfforddiant

Rydym wedi datblygu cwrs hyfforddi ar lythrennedd carbon, wedi ei achredu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon. Mae dros 100 o staff bellach yn garbon llythrennog, ac rydym yn edrych ymlaen i ddarparu'r hyfforddiant i weddill ein staff dros y flwyddyn nesaf.

Rydym hefyd wedi derbyn statws Sefydliad Carbon Llythrennog Lefel Efydd am ein hyffroddiant, a byddwn yn cymryd rhan yn y Diwrnod Gweithredu Lythrennedd Carbon cyntaf ar 1 Tachwedd. Fel rhan o'r hyfforddiant, gwnaeth staff addewidion i leihau eu hôl-troed carbon, a recordio fideo byr:

 

Ein Staff

I'n helpu i ddod yn garbon niwtral, rydym wrthi yn recriwtio Cydlynydd Datblygiad Cynaliadwy. Byddant yn llywio ein hymateb i'r argyfwng amgylcheddol drwy ddatblygu ein cynllun gweithredu rheoli carbon a phrojectau lleihau carbon a rheoli tir gwyrdd. Edrychwn ymlaen at rannu mwy gyda chi'n fuan!

 

Ffyrdd o weithio

Ar hyn o bryd mae’r ymgynghorwyr GEP Environmental yn cynnal Adolygiad Carbon ym mhob amgueddfa. Bydd yr adolygiad yn dangos beth yw ein hôl troed carbon presennol, ac yn adnabod cyfleon i leihau ein carbon ym mhob agwedd o'n gwaith. Bydd hefyd yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

Arddangosfeydd ac Allestyn
Bydd newid hinsawdd a chynaliadwyedd yn dod yn rhan o'n rhaglenni arddagnosfeydd ac addysg cyhoeddus. Bydd yr arddangosfa mwynau sydd ar y gweill yn edrych ar effaith amgylcheddol gwrthrychau bob dydd fel ffonau symudol.

Ein digwyddiadau
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wneud ein gweithagreddau yn fwy cynaliadwy. Byddwn unwaith eto yn cynnal y digwyddiad cynaliadwyedd Olion i sbarduno eraill i weithredu.

 

Ein hymgysylltu

Diolch i 700 o wirfoddolwyr a 100 o bobl ifanc greadigol (Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru) rydym yn hyrwyddo llythrennedd carbon drwy gydweithio â phobl ifanc. Drwy gydweithio â chymunedau gobeithiwn greu Cymru fwy gwyrdd a gwneud yn siŵr fod popeth a wnawn yn llesol i'r amgylchedd.

 

Amlinelliad person aur gyda swigen lleferydd gyda'r testun 'Carbon Literate Organisation Bronze'