: Hanes Bywyd Gwerin

Cyfenwau Cymraeg: Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru?

8 Chwefror 2010

Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru?

Os ydych wedi treulio amser yn hel achau, yna mae'r nifer gyfyngedig o gyfenwau sydd gan y Cymry wedi creu rhwystredigaeth ichi. Pam mae cyn lleied? Dyma ateb yr Athro Prys Morgan...

Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry?

Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry?

Fe ddechreuodd y Cymry gael cyfenwau parhaol tua phum can mlynedd yn ôl. Cyn hynny, 'doedd y Cymry ddim yn defnyddio cyfenwau parhaol. Beth on nhw'n defnyddio fel enwau? Wel beth on nhw'n defnyddio fel enwau oedd eu henw bedyddiol eu hunain, dwedwch fel Siôn neu rywbeth fel yna. Ac os oedd pobl yn gofyn 'Wel, ie, pa Siôn ych chi, achos mae 'na nifer o bobl â'r enw Siôn?', fydden nhw'n dweud, 'Wel fi yw Siôn ap Gruffydd ap Llywelyn ap Meilyr,' ac odd yr ap yma yn golygu mab rhywun. Ac och chi'n dweud Siôn ap Gruffydd ap Meilyr ap Gruffydd ap Rhys, ac och chi'n mynd yn ôl gyda'r ap yma, yn ôl tua naw cenhedlaeth.

A'r rheswm am hynny oedd nad och chi ddim yn meddwl am eich hunan fel unigolyn o gwbl yng Nghymru. Yn ôl cyfraith Hywel Dda, a dyna oedd cyfraith y rhan fwya o bobol yn byw yng Nghymru hyd at bum can mlynedd yn ôl, 'doedd yr unigolyn ddim yn cyfrif fel unigolyn. Beth oedd yn bwysig oedd bod chi'n rhan o dylwyth.

Pryd newidiodd y drefn?

Pryd newidiodd hynny?

Fe newidiodd y system gyda'r Ddeddf Uno. Tua phum can mlynedd yn ôl, fe ddaeth y Saeson i Gymru a mynnu bod y Cymry yn derbyn y cyfenwau parhaol, yr un fath â'r Saeson. Felly pan ofynnwyd i'r Cymry dderbyn rhywbeth oedd yn mynd i ddangos beth oedden nhw, ffordd oen nhw'n wahanol i bobl eraill, fe ddwedodd y Cymry, 'Wel, beth sy'n bwysig amdanon ni yw enwau'n tadau ni. Felly dw i yn Siôn, a mae 'nhad yn Siôn. A mae 'nhaid yn Gruffydd.' O wel, byddai'r clerc yn dweud, 'Gewch chi fod yn John son of John, a'r ffordd symlaf o'i ysgrifennu fe lawr yn Saesneg yw John Jones.

Ond pam cymaint o Jonesiaid?

Yn yr un cyfnod ag y gorfodwyd y Cymry i gael enwau parhaol — a dyma'r peth mwya' pwysig i gofio — yr oedd 'na broses o symleiddio yr enwau bedydd, enwau cyntaf plant. Yn lle bo' chi'n cael amrywiaeth aruthrol o enwau hyfryd fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Llywarch a Gwalchmai, yn dod o gyfnod cynnar iawn neu o gyfnod Catholig, roedd rhain yn cael eu hystyried yn enwau peryglus. On nhw'n enwau o bosibl yn baganaidd, ac odd lot ohonyn nhw yn enwau Catholig, fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Gwasteilo, Gwasdewi. On nhw'n enwau Catholig, felly on nhw'n hollol waharddedig. Felly odd yr eglwys yn dweud bod rhaid i bawb cael enwau o gatalog syml iawn. Enwau saff iawn, fel John a David a Tomos ac ambell i enw brenin saff fel William ac Edward a Henry, ac yn y blaen. Dyna'r unig enwau saff. Ac felly, yn lle cael amrywiaeth o ryw gant a hanner o enwau oedd yn gyffredin trwy Gymru, fe symleiddiwyd rhain yn yr un cyfnod i ryw wyth neu naw neu ddeg o enwau!

Felly Tomos, Davies, Jones ac yn arbennig felly Jones. Yn arbennig yn y gogledd, rych chi'n cael cannoedd ar gannoedd o bobl yn cael yr enw Jones yn cael ei orfodi arnyn nhw.

Ymladd ceiliogod

14 Awst 2009

Introduction

Ymladd ceiliogod

Roedd ymladd ceiliogod yn nodwedd amlwg o'r calendr gwledig, ac roedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry yn gyffredinol hyd flynyddoedd cynnar y 19g.

Y Rhufeiniaid ddaeth ag ymladd ceiliogod i Brydain. Roedd yn adloniant poblogaidd ymhlith pob dosbarth cymdeithasol ledled Cymru hyd ddechrau'r 19eg ganrif.

Yng nghyfnod y Tuduriaid dechreuodd y teulu brenhinol ymladd ceiliogod. Pan adeiladwyd talwrn ar gyfer Harri VIII galwyd yr arfer yn 'adloniant brenhinol'. Roedd rhai o feirdd canoloesol Cymru'n frwd eu cefnogaeth i ymladd ceiliogod, fel y tystia'r englyn Saesneg hwn:

A cock out of stock like steel — with his head,
As hard as an anvil,
Unparallel'd in peril,
A sour heart and a sure heel.

Sbardunau fel cleddyfau

Sbardun

Sbardun

Byddai'r adar yn cael eu rhoi ar fwydlen gaeth a rhaglen hyfforddi lem a chyn cystadlu byddent yn cael eu tocio, eu cribo a'u plethu. I ymladd, gorchuddiwyd eu sbardunau naturiol gan rai metel, fel cleddyfau, a allai ladd gwrthwynebydd ag un trawiad a dod â'r ornest i ben yn sydyn.

Defnyddid talyrnau dan do a rhai awyr agored i ymladd ceiliogod. Roedd talyrnau dan do yn grwn neu'n wythochrog â muriau uchel, ac roedd y tu mewn i rai ohonynt yn 18 i 20 troedfedd o ddiamedr. Byddai'r arwynebedd ymladd yn cynnwys tywod, ysbwrlathau a cherrig llorio; eisteddai'r gwylwyr ar seddi o gerrig crynion. Cynhwysai'r talyrnau awyr agored gylch wedi'i amgylchynu â ffos. Eisteddai'r cefnogwyr ar eu cwrcwd i rwystro'r adar rhag dianc.

Roedd y gornestau yn arbennig o boblogaidd yn ystod y Pasg a mis Mai. Gan fod betio yn rhemp, byddai'r gornestau'n aml yn arwain at ymladd ac anrhefn llwyr.

Gwaharddwyd ymladd ceiliogod ym Mhrydain ym 1849, yn dilyn y Ddeddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid.

Y Welsh Main

Llestr gwydr wedi'r arysgrifio â delwedd o geiliogod yn ymladd

Llestr gwydr wedi'r arysgrifio â delwedd o geiliogod yn ymladd, ag enw J. Lewis. 1850. O Bontypridd.

Er gwaetha'r teitl, arferid y Welsh Main yng Nghymru a Lloegr. Dyma oedd y prawf llymaf yng nghalendr y ceiliog ymladd. Oherwydd ei lymder, fe'i cynhelid am uchafswm o bedair gwaith y flwyddyn, a dim ond yr adar gorau fyddai'n cystadlu. Byddai'r ornest yn dechrau gyda thua 16 pâr o geiliogod ac fe'u gorfodid i ymladd yn erbyn ei gilydd nes bod hanner y ceiliogod wedi'u lladd. Roedd y brwydrau benben hyn parhau tan na fyddai ond un ceiliog ar ôl. Byddai symiau mawr o arian yn cael eu hennill a'u colli ar y canlyniad.

Taflu at geiliogod

Gyda'r math hwn o ymladd ceiliogod, byddai'r ceiliog yn cael ei osod mewn talwrn a theflid darnau o bren ato. Roedd gan y taflwyr dri chynnig i fwrw'r ceiliog i'r llawr a'i ddal cyn iddo godi ar ei draed.

Taflu ffyn at geiliogod

Ffurf arbennig o greulon o'r adloniant, lle byddai'r ceiliog yn cael ei glymu wrth gordyn i bolyn a saethid ffyn ato. Y sawl a lwyddai i daro'r ergyd farwol fyddai'n fuddugol.

Taflu ffyn at geiliogod

Ffurf arbennig o greulon o'r adloniant, lle byddai'r ceiliog yn cael ei glymu wrth gordyn i bolyn a saethid ffyn ato. Y sawl a lwyddai i daro'r ergyd farwol fyddai'n fuddugol.

Swyndlysau ymladd ceiliogod

Weithiau defnyddid swyndlysau wrth ymladd ceiliogod. Credid eu bod yn amddiffyn ac yn diogelu'r perchennog. Cynhwysent adnodau o'r Beibl neu eiriau cyfrin ac arwyddion ar ddarnau papur digon bach i'w gosod yn y sbardunau dur ar goesau'r aderyn. Adnod gyffredin a ddefnyddid at y pwrpas oedd:

Taking the shield of faith wherewith ye shall be able to quench all the fiery darts of the wicked.

I wneud swyndlws cryfach hyd yn oed, gosodid briwsionyn o'r bara cysegredig a adawyd ar y Bwrdd Cymun ar ôl gwasanaeth crefyddol yn y sbardun dur. I greu effaith mor gryf â phosib, cymerid y briwsionyn o'r eglwys ganol nos. Hefyd credai perchnogion ofergoelus y byddai adar a fwytai bridd a geid o dan allor yr eglwys yn troi'n anorchfygol.

Serch hynny, collai hud a swynau o'r fath eu grym mewn brwydrau a gynhelid ar dir sanctaidd y fynwent, lle ymleddid gornestau gonest, na ellid eu cyffwrdd gan bwerau allanol.

Ffynonellau:

Owen, Elias, 'Churchyard Games in Wales', The Reliquary and Illustrated Archaeologist, vol 2 (1896), 154-161.

Peate, Iorwerth C., 'The Denbigh Cockpit and Cockfighting in Wales', Denbighshire Historical Society Transactions, vol.19 (1970), 125-132.

Awdur: Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol

Pysgota traddodiadol ar yr Afon Hafren

25 Medi 2007

Y rhwyd lâf.

Y rhwyd lâf.

Pysgotwyr Rhwydi Lâf Y Garrreg Ddu, gerllaw'r ail bont ar draws afon Hafren. O'r chwith i'r dde: Bob Leonard, Richard Morgan a Martin Morgan.

Pysgotwyr Rhwydi Lâf Y Garrreg Ddu, gerllaw'r ail bont ar draws afon Hafren. O'r chwith i'r dde: Bob Leonard, Richard Morgan a Martin Morgan.

Mae'r dull hynafol hwn o bysgota yn parhau ar hyd glannau afon Hafren.

Mae dyfroedd Môr Hafren gyda'r peryclaf yng Nghymru ond nid yw hyn wedi rhwystro cenedlaethau o bysgotwyr rhag pysgota am eogiaid yn ei dyfroedd cyforiog o bysgod. Mae'r dulliau Cymreig traddodiadol o ddal y pysgod yn dal i fod yn fyw iawn yn yr ardal. O fewn cof, defnyddid amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys rhesi o drapiau ar ffurf cewyll (putchers), cychod aros, putts, rhwydi drifft a rhwydi lâf. Gwaetha'r modd, dim ond y dull olaf sydd wedi goroesi hyd yr unfed ganrif ar hugain.

Mae nifer y pysgotwyr lâf wedi lleihau dros y blynyddoedd ac erbyn hyn dim ond yng nghyffiniau'r ail bont dros afon Hafren, heb fod yn bell o bentrefi Sudbrook a Phorth Sgiwed (Sir Fynwy), y mae modd dod ar eu traws. Mae'r dynion hyn, aelodau o Gymdeithas Pysgotwyr Rhwydi Lâf y Garreg Ddu, yn cadw'n fyw draddodiad ac iddo arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol unigryw. Mae cadeirydd y Gymdeithas, Bob Leonard, wedi bod yn rhwydwr lâf ers 57 mlynedd ac mae'n egluro ei bod hi'n holl-bwysig eich bod yn pysgota dyfroedd y foryd "yng nghwmni dyn sy'n gyfarwydd â'r afon neu fel arall byddwch mewn sefyllfa beryglus iawn".

Caiff y pysgod eu dal yn ystod llanw isel, gan ddefnyddio rhwyd a ddelir yn y llaw. Ar un adeg, caniateid pysgotwyr i bysgota o Chwefror i Awst ond ers hynny mae'r tymor wedi'i gyfyngu i'r cyfnod o Fehefin i Awst. Ar y mwyaf, gallant bysgota am awr a hanner ar y tro, yn dibynnu ar y tywydd.

Mae'r pysgota'n dechrau, yn ôl yr arfer, wedi i'r pysgotwyr ymlwybro tua'r lan ger y Garreg Ddu. Yn aml, saif y pysgotwyr yn y mannau hynny lle yr arferai eu tadau a'u teidiau sefyll.

Mae techneg sylfaenol pysgota â rhwyd lâf yn syml: mae'r pysgotwr yn dal coes y rhwyd ag un llaw a phen yr astell â'r llaw arall, tra bod y bysedd sy'n cydio'n sownd yng ngwaelod y rhwyd yn teimlo am y pysgod. Caiff y rhwyd ei gosod o flaen y pysgotwr, i wynebu llif y dŵr. Rhaid ystyried cyfeiriad y gwynt ac uchder y llanw, ac mae'r amodau ar eu gorau pan fo'r môr fel llyn llefrith. Nid yw glaw o anghenraid yn eu poeni. Fel yr eglura Bob Leonard, unwaith y maent yn eu lle, maent "yn craffu ar y dŵr am arwyddion diamau o bysgod". Maent yn synhwyro cryfder llif y dŵr a chaiff eu gobeithion eu codi gan symudiad sydyn yn y rhwyd. Pan synhwyrir symudiad pysgodyn mae'r pysgotwr yn camu'n ôl ac yn codi coes y rhwyd allan o'r dŵr.

Unwaith y mae'r pysgodyn wedi'i ddal, caiff ei ladd â phastwn (neu'r priest yn Saesneg, gan mai offeiriad sy'n gyfrifol am yr eneiniad olaf!) a chaiff ei osod yn y cwch. Eir â'r eog tua'r lan ac yno caiff ei rannu'n gyfartal rhwng y rhwydwyr p'un ai a fuont yn pysgota neu beidio. Ar un adeg, nid oedd angen rhannu'r ddalfa oherwydd fod digon o eogiaid i bawb. Ond daeth tro ar fyd ac nid yw pysgota masnachol â'r rhwydi lâf wedi bod yn bosibl ers cyn yr Ail Ryfel Byd. Cyn 1939 cai'r pysgod eu hanfon i farchnad Billingsgate yn Llundain.

Mae'r rhwydwyr lâf yr un mor fedrus â'u cyndeidiau ond o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y pysgod maent yn fwy na hapus os llwyddant i ddal mwy na deg yn ystod y tymor. Maent yn pysgota er mwyn cadw eu crefft hynafol yn fyw, fel yr esbonia Martin Morgan, Ysgrifennydd y Gymdeithas, "Mae pysgota â rhwydi lâf yn draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl dros fil o flynyddoedd yng Nghymru. Roedd fy hen dad-cu yn bysgotwr a throsglwyddodd ei sgiliau i'w ddisgynyddion".

Darllen Cefndir

Severn Tide gan Brian Waters. Cyhoeddwyd gan J.M. a'i Feibion Cyf. (1947).

Nets and Coracles gan J. Geraint Jenkins. Cyhoeddwyd gan David and Charles (1974).

Gwyliau mabsant

11 Medi 2007

Gŵyl mabsant

Gêm pumoedd

Yn aml, chwaraeid pumoedd — math o sboncen gyntefig — yn erbyn muriau'r eglwys. Delweddau o The Cambrian Popular Antiquities, Peter Roberts (1815).

Gwylmabsant oedd un o wyliau mwyaf poblogaidd calendr y Cymry. Ymgysegriad gweddïgar i goff'u sant y plwyf lleol oedd y dathliad blynyddol hwn yn wreiddiol, ond datblygodd i fod yn ŵyl â chanddi raglen o weithgareddau hamdden i bawb eu mwynhau.

Roedd gwyliau mabsant, a gofnodwyd am y tro cyntaf ym 1470, yn gyffredin ledled Cymru hyd ail hanner y 19g. Ym 1803, disgfrifiodd yr awdur Benjamin Malkin firi plwyfi Sir Faesyfed fel "rendered a kind of circus for every sport and exercise", a mynnai un o bersoniaid Dyffryn Clwyd, a ddyfynnwyd gan Elias Owen ym 1886, fod gwylmabsantau yn rhoi "an individuality to parochial life and fostered parish patriotism".

Ymhlith y gemau a chwaraeid yn gyson roedd gwahanol fathau o fabolgampau, gan gynnwys rhedeg rasys, cystadlaethau crechwenu ar gyfer hen wragedd, a gyrru berfâu â mwgwd am y llygaid. Yn y mabolgampau a gynhelid dros gyfnod o dri diwrnod yn Llangyfelach ger Abertawe ym 1780, roedd y cystadlaethau a'r gwobrau yn cynnwys ras i ferched a oedd yn ymgiprys am smoc a betgwn, bwyta pwdin poeth am lwy bwrdd arian, a baetio tarw, gornest y dyfarnwyd llo tarw i berchennog y ci gorau. Roedd chwaraeon yn ymwneud ag anifeiliaid yn dra chyffredin, yn enwedig ymladd ceiliogod lle byddai pobl yn betio arian mawr ar yr ymrysonau. Câi'r ceiliogod eu hyfforddi ar gyfer yr ymryson, ac roedd perchennog ceiliog talwrn buddugol yn cael parch mawr.

Câi math ar bêl-droed ei chwarae dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac adeg Gŵyl y Gyffes. Deuai torfeydd mawr ynghyd i wylio'r gemau, ac oherwydd nad oedd unrhyw reolau pendant yn perthyn iddynt, roedden nhw'n tueddu i droi'n ymrysonau ymladdgar lle câi chwaraewyr eu hanafu.

Bando oedd un o'r hoff gemau eraill ar gyfer timoedd ac roedd yn cael ei chwarae mewn rhai ardaloedd hyd ddiwedd y 19g. Yn boblogaidd iawn ym Morgannwg, roedd bando yn debyg i hoci heddiw a defnyddiai timoedd ffyn i daro'r bêl tua'r gôl. Roedd y gêm yn cynnwys elfennau oedd yn rhan hanfodol o chwaraeon ar hyd y canrifoedd ac a oedd yn rhagflas o gemau trefnedig. Roedd y rhain yn cynnwys nifer benodedig o chwaraewyr, maes chwarae penodedig, timau mewn gwisgoedd o liw gwahanol (megis y rhai coch a gwyn a ddewiswyd gan dîm Margam, gorllewin Morgannwg), gamblo ar ganlyniadau, a gemau a gâi eu noddi'n hael gan fragwyr.

Betio, gwledda a diota

Ymladd ceiliogod

Roedd ymladd ceiliogod yn nodwedd amlwg o'r calendr gwledig, ac roedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry yn gyffredinol hyd flynyddoedd cynnar y 19g.

O ystyried y cyfuniad o fetio, gwledda a diota, nid oedd yn syndod fod gwyliau plwyfi yn ennill enw drwg am eu twrw. Chwaraeai tafarnwyr ran flaenllaw yn y gwaith o drefnu a hyrwyddo mabolgampau yn aml, a threfnwyd nifer o ymladdfeydd ceiliogod, rasys a chystadlaethau o'r fath dros ddiod. Yn amlach na pheidio, roedd y gemau a chwaraeid yn ddigwyddiadau eithaf brwd ac yn aml câi rheolau anysgrifenedig eu llunio cyn dechrau unrhyw gêm. Oherwydd fod nifer o chwaraeon yn ddigwyddiadau lleol, amrywiai'r rheolau o le i le, gan arwain at anghytundebau rhwng plwyfi.

O ddiwedd y 18g. ymlaen, mynegodd mwy a mwy o bobl, ac yn enwedig arweinwyr crefyddol, eu consyrn am y rhialtwch didrwydded a'r goryfed a ddigwyddai'n gyson adeg y gwyliau, yn ogystal â'u pryder am fendithion amheus y gemau eu hunain.

Ymosododd y Diwygiad Methodistaidd a diwygiadau eraill a ysgubodd ar draws Cymru rhwng canol y 18g. a blynyddoedd cynnar yr 20g., ar chwaraeon o bob math yn ddiwahân gan hawlio eu bod yn ddiwerth ac yn bechadurus. Mynnai rhai fod gweithgareddau hamdden yn fygythiad mawr i foesau'r boblogaeth, a cheisiai arweinwyr crefyddol adnabyddus fel Thomas Charles a Griffith Jones atal cynnal ffeiriau a gwyliau annuwiol. Ym 1799 honnai Griffith Jones fod Cymru yn "sunk in superstition and vice". O ganlyniad, troai plwyfolion fwyfwy tua'r eglwysi a'r capeli am ollyngdod a achubiaeth, a chan fod cyfarfodydd gweddi yn cael eu trefnu'n fwriadol weithiau i gyd-daro â mabolgampau, daeth crefydd yn rym yn nirywiad a thranc gweithgareddau o'r fath.

"Gŵyl Mabsant" gan T.Llew Jones. Yn Llafar Gwlad tt.10-11 (Gaeaf, 1997), tt.8-9 (Gwanwyn, 1998).

"Festivals and social structure in early modern Wales" gan Richard Suggett. Yn Past and Present, cyf. 152, tt. 79-112 (Awst, 1996).

Y Wisg Gymreig 'Go Iawn'?

6 Gorffennaf 2007

Mae'r darlun o'r 'Wisg Gymreig', sef het ddu dal, siôl goch a sgert wlanen yn adnabyddus iawn. Daeth i gael ei nabod fel gwisg genedlaethol Cymru. Ond ai dyma oedd merched yn ei wisgo slawer dydd go iawn?

Braslun dyfrlliw o Gymraes yn gwau, yn dangos sanau heb draed, canol y 19eg ganrif

Braslun dyfrlliw o Gymraes yn gwau, yn dangos sanau heb draed, canol y 19eg ganrif

Beth yw gwisg genedlaethol?

Mae haneswyr yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth i ganfod beth oedd pobl yn ei wisgo bob dydd go iawn. Crewyd gwisg genedlaethol o'r dillad yr oedd merched cefn gwlad yn eu gwisgo. Mae hyn wedi sicrhau bod sawl rhan o'r 'wisg Gymreig' yn arfer cael eu gwisgo gan ferched Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth cynnar

Er mwyn gwybod yn iawn beth roedd pobl yn ei wisgo yng nghefn gwlad yn y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n rhaid ymchwilio i ffynonellau o'r cyfnod hwnnw. Yn achos y cyfnodau cynharaf, adroddiadau, dyddiaduron a llythyron teithwyr yng Nghymru ar ffurf llawysgrifau a llyfrau, ynghyd â darluniau gan arlunwyr a deithiai trwy Gymru yw'r prif ffynonellau.

O'r 1830au ymlaen, ceir mwy o adroddiadau gan drigolion Cymru a phobl oedd yn ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a'r ffyrdd traddodiadol o fyw, nid arlunwyr a haneswyr yn unig, ond pobl fel Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer.

Twristiaeth dorfol

Cyn diwedd y ganrif, gyda dyfodiad y rheilffyrdd, gwelwyd dechreuadau twristiaeth dorfol, a daeth galw am brintiau, llestri ac, yn nes ymlaen, gardiau post, i gofio'r gwyliau. Mae'n dda bod gan lawer o ffotograffwyr wir ddiddordeb yn y diwylliant traddodiadol, crefftau gwledig ac amaethyddiaeth. Maent wedi cofnodi cymdeithas goll a, thrwy hynny, eu dillad. Mae'r rhan fwyaf o'r dillad a welir mewn casgliadau amgueddfeydd heddiw yn dod o ganol y 19eg ganrif ac wedyn.

Ystyriwch yn ofalus

Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth ystyried yr holl ffynonellau hyn. Dieithriaid sy'n gyfrifol am bron yr holl ffynonellau ysgrifenedig ac maent yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hynod a'r anghyffredin. Gall darluniau gael eu rhamanteiddio ac yn aml mae ffotograffwyr yn trefnu i'w lluniau ddangos yr hyn y dymunant ei weld. Tua dechrau'r 19eg ganrif, roedd gan bobl ddiddordeb mawr yn nelwedd y Cymry ac arweiniodd hyn at greu gwisg genedlaethol 'safonol', artiffisial fel na wyddem am flynyddoedd lawer bod gwisg y Cymry gwledig mewn gwirionedd yn amrywiol iawn.

Dillad cefn gwlad

Trwy ddadansoddi'n ofalus, cawn dystiolaeth o'r hyn yr oedd pobl yn ei wisgo yn eu bywyd bob dydd, yn enwedig i weithio. Yn sicr, mae modd gwybod beth oedd rhai elfennau o ddillad y Cymry cefn gwlad. Er enghraifft, gwnaed llawer o ddefnydd o wlân a byddai menywod yn gwisgo ffedogau, ffunennau a hetiau dynion. Parhaodd elfennau o hyn yng nghefn gwlad hyd yn oed i mewn i'r 20fed ganrif.

Dillad gwaith ynteu wisg genedlaethol?

Ffedogau a siolau yw'r unig ddillad y mae llaweroedd ohonynt wedi goroesi. Fe rheol, byddai ffrogiau a sgerti'n treulio neu'n cael eu hailddefnyddio fel rhacs. Nid yw hyn yn syndod o gofio cyflwr rhai a ddangosir mewn ffotograffau. Mae nifer o beisiau gwlanen gennym o hyd hefyd, efallai gan fod y sgerti'n eu gwarchod rhag traul. Cedwir llawer o'r rhain mewn casgliadau amgueddfeydd fel enghreifftiau o'r 'wisg Gymreig' ond, mewn gwirionedd, nid oeddent yn perthyn i 'wisg draddodiadol' ymwybodol o gwbl, ond yn ddillad y byddai pobl cefn gwlad yn eu gwisgo'n naturiol.