Gwestai a thafarndai Cymru yn y 18fed ganrif 5 Gorffennaf 2007 Croeso cynnes Cymreig Golygfa o Langollen o Cambria Depicta gan Pugh — tref lle'r arweiniodd datblygiad y diwydiant ymwelwyr at welliannau mewn gwestai fel The Hand. Mae adroddiadau Saeson da eu byd am eu teithiau yng Nghymru tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif wedi bod yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr i rai sy'n astudio hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar. Gall y disgrifiadau o drefi, henebion, gwisgoedd, arferion, diwydiannau a dulliau cyfathrebu yn y gwahanol ardaloedd fod o gymorth mawr. Mae sylwadau'r teithwyr am y gwestai a'r tafarndai y buont ynddynt hefyd yn llawn manylion diddorol. Cyhoeddodd J. T. Barber ei adroddiad am ei daith ef a'i gyfaill trwy dde Cymru ym 1803. Ymhlith y tafarndai y buont yn aros ynddynt oedd y Green Dragon yng Nghaerfyrddin a'r Bridgewater Arms ym Mhontypridd, y ddau le'n cael eu disgrifio fel rhai cysurus, a'r Red Lion yn Llanrhy¬stud a oedd yn 'tolerably decent ale¬house'. Fodd bynnag, nid oedd gan Barber a'i gydymaith atgofion melus o bob tafarn y buont ynddynt. Ar ôl bod ar goll a chyrraedd Caeriw, doedd dim llety cysurus na stabl ar gyfer y ceffylau yn y dafarn gyntaf y daethant iddi. Doedd dim o gwbl yn yr ail dafarn ac felly dychwelodd y teithwyr i'r dafarn gyntaf, gan fod yno wely, o leiaf. 'Cwrw i godi cyfog' Roedd y tu mewn yn ddi-raen, roedd y tafarnwr a'i wraig yn edrych fel pe bai pwysau'r byd ar eu hysgwyddau a'r cyfan a gawsant i'w fwyta oedd bara barlys caled a menyn hallt, gyda 'chwrw oedd yn codi cyfog arnoch'. Sach o wellt oedd y gwely mewn cornel o ystafell lle'r oedd dau o blant y tafarnwr yn cysgu hefyd. Roedd y dillad gwely'n llaith iawn a chanfu'r teithwyr blinedig eu bod yn rhannu'r ystafell â haid o chwain a llygod ffyrnig hefyd. Roedd rhai gwestai ardderchog ar brif lwybrau'r ymwelwyr o Loegr, yn enwedig yr un ym Mhîl a godwyd gan deulu Talbot, Margam. Ym marn Barber, byddai modd camgymryd y gwesty hwn am blasty a dywedodd fod yno wasanaeth da i ymwelwyr. Mae Henry Skrine yn sôn am y gwesty hwn ym Mhîl yn ei adroddiad ef am ei deithiau yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym 1798. Dywed bod y lle'n debycach i balas nag i dafarn. Y Gogledd Yn adroddiad y Parchedig W. Bingley am ei daith yn y gogledd ym 1798, mae'n sôn am westy yng Nghaernarfon a godwyd gan Iarll Uxbridge. Dywed bod y gwesty'n cynnig golygfeydd da a llety ardderchog ac mai ychydig o westai yn Lloegr a allai gystadlu ag ef. Mae arweinlyfr i'r ardal a gyhoeddwyd ym 1827 yn cadarnhau bod yr Uxbridge Arms yn 'large, handsome, and commodious', a'i fod yn diwallu holl anghenion teithwyr am gost resymol. Dywed Bingley hefyd bod yr Eagles Inn yn Llanrwst yn lle cysurus ac mai hwn oedd yr unig fan lle cedwid hurfeirch neu geffylau post. Anfantais y gwesty hwn oedd ei fod yn rhy boblogaidd yn yr haf pan oedd yno ormod o bobl ac awyrgylch annifyr. Gwelir bod y prif westai a thafarndai ar lwybrau'r ymwelwyr trwy Gymru, yn enwedig y ffyrdd a ddefnyddiai pobl ar eu ffordd i Iwerddon, wedi dod trwy ddymuniad neu orfod yn llefydd addas i aros ynddynt. Er enghraifft, ym marn Bingley roedd The Hand yn Llangollen yn dderbyniol ond yn rhy llawn ac roedd y tafarnwr yn annymunol. Pan aeth y Parchedig G.J. Freeman ar daith yn y 1820au, sylwodd fod The Hand wedi newid yn fawr ers iddo ymweld â Llangollen gyntaf, flwyddyn cyn ymweliad Bingley. Roedd yr eithriadau, fel y dafarn yng Nghaeriw, mewn llefydd na fyddai disgwyl i ymwelwyr aros ynddynt; er enghraifft, byddai digon o westai derbyniol yn nhref Dinbych-y-pysgod. Fodd bynnag, weithiau, roedd ymwelwyr yn siomedig â'u llety. Gwestai budron Daeth E. D. Clarke ar ymweliad â Hwlffordd ym 1791 a dywedodd na theimlodd erioed mor awyddus i adael rhywle, yn enwedig gan fod y gwesty mor frwnt. Dywedodd fod ei ystafell fel twlc mochyn. Roedd y dillad gwely yn llaith a, gan nad oedd y gwely wedi'i newid ar ôl yr ymwelwyr cynt, roedd yn llawn tywod o draed pobl! Roedd gwaeth i ddod oherwydd, yn y bore, roedd pedwar ceffyl wedi'u rhoi i dynnu cerbyd Clarke yn hytrach na dau yn unol â'i gais. Doedd ganddo ddim dewis ond cymryd y pedwar — 'Roedd unrhyw ffwdan yn well nag aros gyda Pharo a'i lu'. Nid Clarke oedd yr unig un i gael profiad annifyr o Hwlffordd. Mae gan Henry Penruddocke Wyndham hanes tebyg yn ei adroddiad am ei deithiau yn y 1770au.
Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders 25 Ebrill 2007 "Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele". (Simon Jones, 1975). Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele. Y Gadair Ddu Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu. Llygad-dyst Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Clywch ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975: AWC 4763. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. AWC 4764. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. Simon Jones, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. "Mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de". (Simon Jones, 1975). Cenhedlaeth coll Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn. Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr. Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.
Dodrefn Bryn-mawr, 1929-40 23 Ebrill 2007 Arbrawf Bryn-mawr Cwpwrdd-cist Tal-y-bont a chadair freichiau Ynys-ddu a wnaed gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr. Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru. Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal projectau cymunedol a mentrau oedd yn cynnwys gwneud esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn. Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmnïau llwyddiannus eraill oedd yn eiddo i Grynwyr - yr archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol Grynwrol yng Nghaerefrog. Roedd pob cadair yn costio £1 (sef £41 neu $74 yn arian heddiw) ac aeth yr elw i brynu offer a pheiriannau newydd i'r cwmni. Paul Matt Poster hysbysebu Cwmni Dodrefn Bryn-mawr. Priodolwyd llwyddiant dodrefn Bryn-mawr yn bennaf i'w cynllunydd, Paul Matt. Bwrodd ei brentisiaeth dan ofal ei dad, saer dodrefn medrus, ond enillodd brofiad hefyd drwy weithio fel cynllunydd yn Llundain. Mae arddull syml dodrefn Bryn-mawr yn dangos yn gwbl glir y cafodd Matt ei ddylanwadu gan gelfi celfyddyd a chrefftau, a chynllunwyr fel Ambrose Heal a'r brodyr Russell. Bu Paul Matt hefyd yn gyfrifol am gynllunio dodrefn oedd yn gymharol syml eu gwneuthuriad; gwaith a roddai ystyriaeth i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ddi-grefft yn y blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy fabwysiadu dull o osod paneli laminedig o bren haenog mewn fframwaith solet o bren. Roedd yn defnyddio pren derw wedi'i fewnforio'n bennaf ac yn ei gaboli â haen o gwyr clir gan roi pryd a gwedd ddirodres a diaddurn i'r celfi, nodweddion oedd yn gydnaws ag athroniaeth y Crynwyr. Sgwâr Cavendish, Llundain Siop adrannol David Morgan a agorodd yng Nghaerdydd ym 1879. Bu'r siop yn gefn mawr i Gwmni Dodrefn Bryn-mawr rhwng 1932 a 1940. Ar ôl masnachu am gyfnod o 125 o flynyddoedd, gwerthwyd David Morgan Cyf. yn 2004. Yn ogystal â chynhyrchu dodrefn o'r ansawdd gorau, roedd y cwmni hefyd yn llwyddiannus wrth farchnata'r cynnyrch. Drwy ddefnyddio taflenni hysbysebu a chatalogau sgleiniog, pwysleisiwyd delfrydau dyngarol y cwmni, sef cynhyrchu celfi o'r ansawdd gorau o ran eu gwneuthuriad a'u cynllun, a darparu swyddi parhaol er budd y gymuned leol. Apeliodd y delfrydau hyn at ddosbarthiadau canol a phroffesiynol y 1930au megis athrawon felly aeth y cwmni ati i anelu ei gynnyrch at y garfan hon drwy geisio cadw pris y dodrefn o fewn eu cyrraedd. Gellid gweld dodrefn Bryn-mawr hefyd mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd mewn siopau adrannol megis Browns yng Nghaer a siopau Lewis's yn Birmingham a Manceinion. Ym 1938 cafodd y cwmni gafael ar leoliad arddangos barhaol yn ardal ffasiynol Sgwâr Cavendish, Llundain. Agorwyd yr arddangosfa gan Mrs Neville Chamberlain a oedd hefyd yn un o noddwyr dodrefn Bryn-mawr. Er i'r cwmni brofi cryn lwyddiant yn Lloegr, roedd hefyd yn awyddus i hyrwyddo dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Bu David Morgan Cyf., siop adrannol adnabyddus yng Nghaerdydd, yn gefn i'r cwmni o'r dyddiau cynnar, gan roi lle iddo arddangos y cynnyrch yn rhad ac am ddim rhwng 1932 a 1940. Bu'r cwmni hefyd yn cynnal arddangosfeydd blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyhoeddi deunydd hysbysebu yn y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, câi'r celfi eu marchnata fel rhai Cymreig a cawsant eu henwi ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, megis cist Cwmbrân, bord Llanelli, seld Talgarth a chadair Cwm-du. Sicrhaodd hyn gefnogaeth ffyddlon ymhlith cylchoedd proffesiynol ac academaidd Cymru drwy gydol y 1930au. Rhyfel Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr. Ym 1936 ymadawodd Paul Matt â'r cwmni er mwyn trefnu gwaith arall ar gyfer y di-waith yn ne Cymru. Ei olynydd oedd ei gynorthwywr, Arthur Reynolds, a fu'n gyfrifol am rai newidiadau bach i'r cynlluniau ac am gynnwys mwy o gelfi pren cyll Ffrengig yn y casgliadau. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ffatri hen waith Gwalia ei llosgi'n ulw a chodwyd adeilad newydd sbon gerllaw'r hen safle ym 1937. Er na chafodd hyn fawr o effaith ar y gwaith cynhyrchu, dirywiodd y gwerthiant yn araf ddiwedd y 1930au wrth i'r rhyfel agosáu. Wedi i'r rhyfel gychwyn roedd hi hefyd yn anodd mewnforio deunyddiau a gwaetha'r modd, yr unig ddewis oedd i gau ffatri Dodrefn Bryn-mawr ym 1940. Darllen Cefndir "Crafts and the Quakers" gan Gwen Lloyd Davies. Yn Planet, cyf. 51, tt.108-111 (Gorffennaf 1985). "Utopian designer: Paul Matt and the Brynmawr Experiment", gan Roger Smith. Yn Furniture History, cyf. 23, tt.88-94 (1987). "Philanthropic Furniture: Gregynog Hall, Powys" gan Lindsay Shen. Yn Furniture History, cyf. 31, tt.217-235 (1995).
Baledwyr Crwydrol Cymru 23 Ebrill 2007 Bertie Stephens Bertie Stephens, baledwr o Sir Gâr (1900-1978) Roedd baledwyr crwydrol yn ddiddanwyr pwysig yng Nghymru cyn dyddiau'r neuaddau cerdd a'r sinema. 'Y Baledwr Pen Ffair 'Rwy'n cofio ers dyddiau am hen gymeriadau Yn canu baledi mewn marchnad a ffair, Hwy ganent mor ddoniol, mewn gair mor gartrefol, Nes twyllo o'r bobl eu harian a'u haur...' Dafydd Jones ('Isfoel'), 1881-1968 Y 19eg ganrif oedd oes aur y baledwyr yng Nghymru, pan gafodd digonedd o ganeuon eu cyfansoddi a'u perfformio mewn ffeiriau, marchnadoedd a thafardai. Mae nifer fawr o'r bobl a recordiwyd ar gyfer y cannoedd o dapiau yn archif sain yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn cyfeirio at y baledwyr crwydrol yma. Bertie Stephens oedd un o'r rhain. Cafodd ei eni i deulu fferm yn Abergorlech, Sir Gâr ym 1900. Daeth dan ddylanwad y baledwyr, a recordiodd rhyw 80 o ganeuon difrifol a digri ar gyfer yr Amgueddfa, yn Gymraeg yn bennaf. Clywodd y rhan fwyaf o'r caneuon mewn ffeiriau lleol fel bachgen ifanc. Ond gyda'i gof syfrdanol, byddai'n aml yn cofio'n union pwy ganodd pob cân, a ble. Dechreuodd Bertie Stephens fynd i'r ffeiriau'n bump neu'n chwech oed. Crwydriaid fyddai'n canu'r rhan fwyaf o'r caneuon hyn wrth gasglu arian o'r dyrfa yn eu hetiau. Cafodd eu baledi'r fath argraff ar Bertie ifanc nes iddo eu dysgu nhw ar gof yn y fan a'r lle. Diddanu oedd nod y baledwyr, felly câi'r baledi eu canu mewn iaith syml a phlaen. Roedd y rhan fwyaf yn adrodd stori am achlysur neu brofiad arbennig. Doedd dim papurau newydd dyddio ar gaell, a doedd rhan helaeth o'r genhedlaeth hŷn ddim yn gallu darllen ar droad yr 20fed ganrif ta beth, felly roedd llawer o bobl yn dibynnu ar y baledwyr i glywed y newyddion diweddaraf. Roedd y geiriau'n hollbwysig felly am mai stori ar ffurf cân oedd y cyfansoddiad yn ei hanfod. Daliodd Bertie Stephens ati i ganu yn ei henaint, ac ym 1973, dywedodd: 'Galla'i garantïo i chi nag oes dim awr y dydd yn mynd heibio nag ŵyn canu, dim hanner awr hefyd. Pob dydd.' Hen Feible Annwyl Mam Hen Feibl Annwyl Mam Pan aeth Roy Saer, cyn-guradur yr Amgueddfa, i gyfweld ag ef, roedd Bertie Stephens yn cofio caneuon o'i blentyndod yn glir. Ei ffefrynnau oedd y caneuon crefyddol am ei fod yn teimlo bod mwy o sylwedd iddyn nhw na'r caneuon digri. Gallai caneuon fel Beibl Mam afael mewn perfformiwr, a phwysleisiodd ei bod hi'n hanfodol rhoi'ch cymeriad i gyd i mewn i bob cân. Clywodd ddyn mewn dillad anniben â Beibl dan ei gesail yn canu cân arall am y Beibl, Hen Feibl Mawr y Teulu, ar daith i'r Mwmbwls. Fel un o deulu crefyddol, tristaodd Bertie Stephens o weld y canwr yn defnyddio'r Beibl i godi arian i brynu cwrw. Roedd pobl yn gallu bod yn amheus o'r baledwyr a byddai'r heddlu'n aml yn arestio crwydraid meddw mewn dillad anniben am darfu ar yr heddwch. Dywedodd Bertie Stephens hanes am ei deulu'n rhoi bwyd a lloches i ddau grwydryn un noson, a dysgodd y ddau Gân yr Asyn iddo'n ddiolch. Er mawr siom i dad Bertie, canfu wythnosau wedyn eu bod nhw wedi dwyn peth o'i wlân newydd ei gneifio. Diolch i berfformiad ei fab o Gân yr Asyn, llwyddodd yr heddlu i ddal y dihirod ger Caerfyrddin pan glywsant y ddau'n canu'r un faled yn yr ardal honno. Wrth i'r diwydiant diddanu dyfu ac wrth i bethau fel y sinema a'r neuaddau cerdd ddod yn fwy poblogaidd, collodd y baledwyr eu hapêl, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedden nhw wedi diflannu bron yn llwyr. Wrth i'r cyngherddau ffurfiol ddod yn boblogaidd, symudodd yr hen faledi dan do, a'u daethon nhw'n lanach ac yn fwy parchus. Yn ffodus ddigon, daeth dirywiad y baledi'r ffair a'r stryd yr un pryd â diddordeb newydd mewn casglu alawon a gwybodaeth am y grefft, a ffurfiwyd Cymdeithas Ganeuon Gwerin Cymru ym 1908. Nid oes unrhyw amheuaeth am werth baledi fel sylwebaeth gymdeithasol bwysig, ac mae ein gwybodaeth am y cyfansoddiadau hanesyddol hyn llawer cyfoethocach diolch i unigolion fel Bertie Stephens. Darllen Cefndir Ballads in Wales / Baledi yng Nghymru gan Mary-Ann Constantine. Cyhoeddwyd gan FLS Books (1999). I Fyd y Faled gan Dafydd Owen. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gee, (1986).