Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar 11 Ebrill 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40. Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu. Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau. Parti brenhinol cyntaf Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg. Corsedau o asgwrn morfil Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur. Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar. Darllen Cefndir M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54. Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52. Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).
Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan 11 Ebrill 2007 Ym 1992 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa. Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd. Swyddfa Bost lleiaf Cymru, ym Mlaenwaun, Sir Gaerfyrddin Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Swyddfa Bost y Wlad Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt. Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr. Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar. Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau. Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa. Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng. Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991. Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.
Dawnsio Gwerin - bron â diflannu i ebargofiant 10 Ebrill 2007 Parti'r Gest, cystadleuwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 1955 Canu a Dawnsio i gyfeiliant y Delyn: Peter Roberts, The Cambrian Popular Antiquities of Wales (Llundain, 1815) Can mlynedd yn ôl, bu bron i'r traddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru ddiflannu'n llwyr oherwydd blynyddoedd o wrthwynebiad gan yr Anghydffurfwyr. Heddiw, mae'n boblogaidd eto. Mae dros 20 o grwpiau ledled Cymru, ac mae nifer o bobl ifanc brwdfrydig yn dysgu'r grefft a oedd bron â mynd yn angof. Dawnsio Gwerin yng Nghymru Ar un adeg, roedd dawnsio gwerin yn gyffredin ledled Cymru. Byddai'r 'gwerinwyr' yn ymgynnull ar gyfer digwyddiadau awyr agored a gwyliau, tra byddai'r bonheddwyr yn cynnal dawnsfeydd a phartïon. Roedd dawnsio gwlad, a fyddai'n cael ei berfformio yn yr awyr agored dros fisoedd cynnes yr haf, yn un o uchafbwyntiau'r dathliadau tymhorol, ac yn cynnig cyfle prin i ddianc rhag bywyd pob dydd, ac ymuno yn y dathliadau cymunedol. Bu dylanwad cynyddol yr Anghydffurfwyr yn y 19eg ganrif yn gyfrifol am newid agweddau pobl at arferion gwerin traddodiadol, gan gynnwys dawnsio. Er nad dyma'r unig ffactor oedd yn gyfrifol am ddirywiad dawnsio gwerin Cymreig, mae'n sicr iddo chwarae rhan fawr yn y broses. Ymysg y ffactorau eraill oedd dirywiad bywyd gwledig, y Chwyldro Diwydiannol, a dyfodiad y rheilffyrdd, a gynigiodd y posibilrwydd o weithgareddau hamdden a chyffrous newydd a phellach i ffwrdd. Yr Anghydffurfwyr Ymddangosodd Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn ystod y 1730au. Roedd yn ffydd a berswadiai ei ddilynwyr i fyw bywyd mwy crefyddol ac i ymrwymo i'r neges Gristnogol. Roedd y gweinidogion anghydffurfiol o'r farn bod gweithgareddau fel dawnsio, yn enwedig dawnsio cymysg, yn wamal ac yn llwgr, ac yn eu condemnio. Does dim syndod felly bod dawnsio ar frig y rhestr o bechodau a luniodd Rhys Prydderch yn Gemmeu Doethineb (1714), o flaen gweithredoedd amhur eraill fel priodi plant. Bu bron i ddawnsio gwerin ddiflannu'n llwyr o Gymru yn dilyn bron i 200 mlynedd o feirniadaeth gyson yr Anghydffurfwyr. Roedd y ffeiriau a'r gwyliau traddodiadol wedi darfod, ac mewn cymdeithas oedd yn newid ac yn canolbwyntio ar ehangu diwydiannol, roedd traddodiadau gwledig Cymru a Lloegr yn raddol ddiflannu. Bron â cholli Dawnsio Gwerin am byth Sylweddolodd Cecil Sharp (sylfaenydd yr English Folk Dance Society ym 1911) fod dawnsio gwerin ar fin diflannu o Gymru am byth, ac aeth ati i gofnodi symudiadau dawnsiau oedd ar gof a chadw ar ôl eu pasio o un genhedlaeth i'r llall. Yng Nghymru, bu Lois Blake, Saesnes a symudodd i Sir Ddinbych yng nghanol y 1930au, yn gwneud yr un fath. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am achub gweddillion y traddodiad a fu unwaith mor boblogaidd yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer o bamffledi ag arnynt ddawnsiau a cherddoriaeth, a'i gwnaeth yn bosib ailgyhoeddi dawnsiau o'r gorffennol fel Jig Arglwydd Caernarfon o 1652, set Llangadfan o 1790 a Dawns Llanofer, a oedd yn boblogaidd yn Llys Llanofer tan ddiwedd y 19eg ganrif. Adfywiad Dawnsio Gwerin Yn fuan, cododd brwdfrydedd newydd, a atgyfnerthwyd wrth gyflwyno dawnsio gwerin i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, a Thwmpathau'r 1960au a'r 1970au, a sicrhawyd sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol dawnsio gwerin. Ers sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ym 1949, mae dawnsio gwerin wedi ffynnu yma a dros y môr. Mae'r gweithdai cyson, y darlithoedd, a'r cyrsiau a drefnir gan y gymdeithas yn boblogaidd o hyd, ac mae dawnsfeydd yr Eisteddfod yn denu cynulleidfaoedd mawr. O ystyried ei orffennol ansefydlog, mae'n argoeli'n dda fod gan ddawnsio gwerin Cymreig ddyfodol llewyrchus o'i blaen.
Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan 22 Chwefror 2007 Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Tal-y-bont, yn ei safle grweiddiol ym 1984 Ffenestr garreg fylinog o'r Oesoedd Canol a ssaeth i'r amlwg o dan haenau o wyngalch a rendr yn ystod y broses o ddatgymalu'r eglwys Murlun o Santes Catrin, yn ei safle gwreiddiol, a ddarganfuwyd ar fur dwyreiniol transept y de. Mae'n debyg y'i paentiwyd tua 1400 Yr eglwys ganoloesol o Landeilo Tal-y-bont yw'r eglwys gyntaf o'i math i gael ei symud a'i hailgodi mewn amgueddfa awyr-agored Brydeinig. Mae'r murluniau a ddarganfuwyd o dan wyngalch ei waliau yn bwrw goleuni pellach ar arferion addoli a chredoau'r 15fed ganrif. O Landeilo Tal-y-bont i Gaerdydd Adeiladwyd Eglwys Sant Teilo yn ystod yr 13eg ganrif. Mae'n debygol iddi gael ei hadeiladu ar safle eglwys gynharach. Cefnwyd ar yr eglwys yn y 1960au, ac fe'i hychwanegwyd at restr henebion Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru yn y 1980au. Gan nad oedd modd achub yr eglwys ddadfeiliedig ar ei safle gwreiddiol, cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1984 er mwyn ei datgymalu a'i hailgodi yn Sain Ffagan. Ar ddechrau'r broses o ddatgymalu'r Eglwys yn ofalus, darganfuwyd dau furlun hynod o'r 15fed a'r 16eg ganrif, yn ogystal â thestunau niferus a rhannau'n cynnwys patrymau arddurniadol. Cofnodwyd pob un ohonynt, cyn eu symud a'u cadw'n ofalus. Wrth dynnu haenau o wyngalch yn ofalus o wyneb y murluniau, daethpwyd o hyd i gliwiau ynglŷn â dyddiad yr adeilad gwreiddiol. Wedi tynnu'r morter oddi ar y muriau allanol, roedd modd gweld y newidiadau a wnaed yn ystod Oes Fictoria neu'n ddiweddarach. Ar ôl gorffen datgymalu'r adeilad fe gloddiodd yr Amgueddfa'r seiliau, gan ddatgelu rhagor o gliwiau am adeiladwaith yr Eglwys. Hanes yr Eglwys Mae'n debyg bod yr adeilad cyntaf i oroesi yn adeilad bach dwy-gell, sef y prif gorff a'r gangell, o'r 13eg - 14eg ganrif. Roedd hwn yn batrwm cyffredin ledled Cymru ar y pryd. Yr ychwanegiad nesaf oedd transept y gogledd, ac adeiladwyd transept y de tua'r un adeg neu'n fuan wedi hynny, gan mai technegau adeiladu tebyg a ddefnyddiwyd i godi'r ddau. Credir bod y rhain yn dyddio o'r 14eg neu ddechrau'r 15fed ganrif, sy'n cyfateb i ddyddiad y murlun ar fur dwyreiniol transept y de. Tybir mai ddiwedd y 15fed ganrif yr estynnwyd capel y de i ffurfio eil. Yn lle'r hen fur deheuol daeth arcêd o ddau fwa, gyda dau arall yn arwain i'r ddau gapel. Y peth olaf i gael ei ychwanegu at yr eglwys oedd porth a arweiniai at ystlys y de. Twf cynulleidfaoedd yn ystod Cyfnod y Tuduriaid Cymreig Penderfynodd yr Amgueddfa ailadeiladu'r Eglwys fel y byddai wedi ymddangos tua 1510-30. Mae'n bosibl defnyddio cliwiau archeolegol o'r cyfnod i gael gwell dealltwriaeth o'r cefndir cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol fu'n sail i lunio a dodrefnu'r Eglwys. Digwyddodd hyn yn fuan wedi estyn capel y de i ffurfio ystlys y de, i ddal cynulleidfa fwy mae'n debyg. Gallai hyn gyd-fynd â'r adferiad mawr yn economi Cymru, wedi'r cyfnod pan ddaeth y Tuduriaid Cymreig yn Frenhinoedd Lloegr ddiwedd y 15fed ganrif. Bryd hynny cafwyd cyfnod cymharol dawel wedi cyfnodau hir o ansefydlogrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, yn cynnwys rhyfel cartref. Mae'r cliwiau yn llunio darlun o'r ffordd yr oedd pobl yn addoli yn ystod y cyfnod hyd at 1530. Y pwysicaf ohonynt yw'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Maent yn dangos gwahanol themâu o fywyd Crist a nifer o seintiau, gan gynnwys Santes Catrin a Sant Cristoffer. Canfuwyd cerrig Corbel yng ngwaith carreg y bwa yn y gangell sy'n dangos olion croglen sgrin a llofft. Byddai'r murluniau, y groglen sgrin a'r llofft wedi cael eu peintio mewn lliwiau llachar. Beibl y dyn tlawd Mae murluniau mewn eglwysi wedi cael eu disgrifio fel "Beibl y werin dlawd". Cawsant eu cynllunio fel bod modd i gynulleidfa anllythrennog ddeall golygfeydd o'r Beibl. Eu pwrpas hefyd oedd ennyn arswyd, parchedig ofn, ac ufudd-dod. Mewn rhai achosion, murluniau fel y rhai a ganfuwyd yn Sant Teilo oedd yr unig fodd o gyfleu unrhyw neges grefyddol o gwbl, gan nad oedd cynulleidfaoedd yn deall Lladin, sef iaith y Beibl a phregethu ar y pryd. Cyfnod o addoli'n dod i ben O ganlyniad i'r cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal, datblygiad eglwysi eraill mwy, fandaliaeth gyson, cefnwyd ar Sant Teilo'n gyfan gwbl. Gellir dadlau bod y digwyddiadau hyn yn adlewyrchu hanes cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol, yn yr un modd ag y gwna'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad. Bydd ailgodi'r eglwys yn yr Amgueddfa'n dynodi pennod arall yn ei hanes, lle bydd ymwelwyr yr 21ain ganrif yr un mor bwysig â'r pererinion o'r Oesoedd Canol! Bellach mae gan Eglwys Sant Teilo bob cyfle i oroesi am flynyddoedd lawer.