Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au 19 Chwefror 2007 Siwt felfed yn dyddio o 1770 Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda. Syr Watkin Williams-Wynn Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd. Secwinau aur ac edafedd arian Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian. Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda. Brodwaith cyfoethog Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben. Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau. Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain. Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.
Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan 18 Ionawr 2007 Prototeip o dŷ pre-fab alwminiwm yn cael ei godi, yn barod i'w arddangos, y tu allan i'r Tate Gallery yn Llundain, 1945. Hawlfraint y Goron NMR
Dydd Gŵyl Dewi 11 Ionawr Pryd mae Dydd Gŵyl Dewi?Ar 1 Mawrth bob blwyddyn, byddwn ni'r Cymry yn dathlu ein nawddsant, Dewi.Beth ydyn ni’n ei wybod am fywyd Dewi Sant?Ychydig iawn wyddon ni yn bendant am hanes ei fywyd. Mae'r wybodaeth brin sydd ganddon ni yn dod o hanes a ysgrifennwyd gan Rhygyfarch tua diwedd yr 11eg ganrif.Pryd oedd Dewi Sant yn fyw?Yn ôl llawysgrif Ladin Rhygyfarch bu farw Dewi yn y flwyddyn 589. Enw ei fam oedd Non, ac roedd ei dad, Sant, yn fab i Ceredig, brenin Ceredigion. Cafodd ei addysg yng Ngheredigion cyn mynd ar bererindod drwy dde Cymru a gorllewin Lloegr, lle sefydlodd nifer o ganolfannau crefyddol o bwys, fel Glastonbury a Croyland. Aeth hefyd ar bererindod i Jerwsalem, lle cafodd ei wneud yn archesgob.Pam mai Dewi yw Nawddsant Cymru? Daeth Dewi yn ôl i fyw yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi), lle sefydlodd gymuned grefyddol asetig a llym iawn.Mae sôn ei fod wedi cyflawni nifer o wyrthiau – un tro, pan oedd e'n pregethu yn Synod Brefi, fe achosodd e i'r ddaear godi o dan ei draed fel y gallai pawb ei weld a'i glywed. Ond mae'n anodd gwybod faint o wir sydd i'r hanes â ysgrifennodd Rhygyfarch.Rhaid cofio taw mab i Esgob Tyddewi oedd Rhygyfarch, a bod y Fuchedd (hanes bywyd y sant) wedi'i hysgrifennu fel propaganda i godi statws Dewi a gwarchod Tyddewi rhag cael ei goresgyn gan Gaergaint a'r Normaniaid.Sut ddaeth Dewi Sant yn enwog?O'r 12fed ganrif ymlaen, lledodd enwogrwydd Dewi drwy dde Cymru i Iwerddon a Llydaw. Daeth Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn gyrchfan boblogaidd i bererinion, yn enwedig ar ôl i Dewi gael ei gydnabod yn swyddogol fel sant Catholig yn 1120. Baner Dewi Sant Ar ôl y cyfnod hwn mae cyfeiriadau cyson at Dewi ym marddoniaeth beirdd canoloesol fel Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi. Yn 1398, rhoddwyd gorchymyn i bob eglwys yn nhalaith Caergaint i gadw gŵyl Dewi.Er iddi orffen fel gŵyl grefyddol gyda'r Diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif, daeth diwrnod ei ben-blwydd yn ŵyl genedlaethol o'r 18fed ganrif ymlaen.Sut mae pobl yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi?Heddiw mae ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru yn dathlu ar 1 Mawrth. Y traddodiad ar y diwrnod hwnnw yw gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr – dau o'n harwyddion cenedlaethol – ac i'r plant wisgo'r wisg genedlaethol.Ond pa mor agos yw'r gwisgoedd hyn at beth oedd pobl yn ei wisgo yn y gorffennol? Pam fod y genhinen yn symbol cenedlaethol Cymru? Symbol cenedlaethol - y genhinen Yn ôl yr hanes, Dewi Sant wnaeth annog milwyr Cymru i wisgo cennin yn eu helmedau mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid yn ystod y 6ed ganrif, ac ym Mrwydr Crecy yn 1346, ymladdodd saethwyr dewr a theyrngar o Gymru mewn cael o gennin. Erbyn 1536, pan roddodd Harri VIII genhinen i'w ferch ar 1 Mawrth, roedd yn cael ei chysylltu â Dydd Gŵyl Dewi. Mae'n bosibl bod y Tuduriaid wedi cymryd y lliwiau gwyrdd a gwyn fel eu lliwiau teuluol o'r genhinen. Pryd ddechreuodd pobl wisgo cennin Pedr ar Ddydd Gŵyl Dewi? Symbol cenedlaethol - y genhinen Bedr Dim ond yn ddiweddar y daeth y cennin Pedr yn symbol cenedlaethol pwysig.Daeth yn flodyn poblogaidd yn y 19eg ganrif, yn enwedig gan fenywod, a cododd ei statws eto pan gafodd ei wisgo gan y prif weinidog o Gymru, David Lloyd George, ar ddydd Gŵyl Dewi ac mewn seremonïau yn 1911 i Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.