: Hanes Bywyd Gwerin

Lleisiau o'r Oesoedd Canol (OC 1070au–1500au)

16 Mawrth 2010

Rhagarweiniad

Darn o Lyfr Gwyn Rhydderch, canol y 14eg ganrif

Darn o Lyfr Gwyn Rhydderch, canol y 14eg ganrif

Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.

Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007 ar gyfer oriel archeoleg newydd yn Amgueddfa Cymru Caerdydd. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma.

Eingl-Normaneg

Câi Eingl-Normaneg ei ysgrifennu a'i siarad gan elît bychan yn dilyn y gwladychiad Normanaidd. Wedi i Edward I orchfygu Cymru, cyflwynwyd Eingl-Normaneg fel iaith y dosbarth rheoli a ddaeth i Gymru. Mae'n goroesi mewn nifer fach o destunau llenyddol ac mewn dogfennau gweinyddol a chyfreithiol. Cafodd Eingl-Normaneg beth dylanwad ar yr iaith Gymraeg hefyd.

Daw'r enghraifft hon o lythyr John Peckham, Archesgob Caergaint (tua 1230-92) at y Brenin Edward I, yn disgrifio marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282.

Troswyd y darn i'r Saesneg gan Charles Trice Martin; mae'r darlleniad Eingl-Normaneg gan David Trotter

Trawsysgrif o'r clip sain

Sire, sachez ke cues [ceus?] ke furent a la mort Lewelin truverent au plus privé lu de sun cors menue choses ke nus avoms veues; entre les autres choses il i out une lettre deguisé par faus nuns de traysun. E pur co ke vus seyez garni, nus enveyum le transcript de la lettre a le eveske de Ba, e la lettre meymes tient Eadmund de Mortemer, e le privé seel Lewelin, e ces choses vus purrez aver a vostre pleysir, e ço vus maundum pur vus garner, e nun pas pur ce ke nul en seyt grevé, e vus priums ke nul ne sente mort ne mahayn pur nostre maundement, e ke (s) ce ke nus vus maundums seyt secré.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Arglwydd, bydded i chi wybod bod y rhai a fu'n bresennol pan fu farw Llywelyn wedi canfod ynghudd ar ei gorff rhai pethau bychain. Ymysg pethau eraill roedd llythyr bradwrus wedi'i gelu â ffugenwau. Er mwyn eich rhybuddio, anfonwyd gopi o'r llythyr at esgob Caerfaddon. Mae'r gwreiddiol, ag arno selnod cyfrin Llywelyn, ym meddiant Edmund Mortimer, ac fe gewch chi'r pethau hyn os dymunwch. Anfonwn hwn i'ch rhybuddio, ac nid i achosi trafferth i neb. Gobeithiwn na fydd neb yn dioddef marwolaeth neu anaf o ganlyniad i'n gwybodaeth, ac y caiff yr hyn a anfonwn atoch ei gadw'n gyfrinachol.

Cymraeg Canol

Datblygodd Hen Gymraeg yn Gymraeg Canol tua 1100. Roedd Cymraeg llafar yn cynnwys amrywiaeth o dafodieithoedd, megis Gwyndodeg (tafodiaith Gwynedd) a Gwenhwyseg (tafodiaith Gwent). Defnyddiwyd yr iaith ysgrifennedig ar gyfer llenyddiaeth grefyddol, testunau cyfreithiol, gweithiau meddygol, herodraeth a ffermio yn ogystal â chwedlau rhyddiaith a rhamantau. Parhaodd Cymraeg i fod yn brif iaith Cymru'r Canoloesoedd.

Daw'r enghraifft hon o Gymraeg Canol o un o dri chywydd gan y bardd proffesiynol Iolo Goch (tua 1320-98) sy'n canmol Owain Glyn Dŵr. Mae'r un yma'n canmol ei lys yn Sycharth.

Mae noddwyr Iolo'n cynnwys gwŷr eglwysig uchel-radd yn ogystal â theuluoedd bonheddig Eingl-Gymreig a Chymreig.

Mae'r darlleniad Cymraeg Canol gan Peter Wynn Thomas

Trawsgysgrif o'r clip sain

Llys Owain Glyn Dŵr

Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw gwardrob ar bob un,
Siopau glân glwys cynnwys cain,
Siop lawndeg fal Siêp Lundain;
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau â gwydrau gwiw;
Popty llawn poptu i'r llys,
Perllan, gwinllan ger gwenllys;
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloyw maendwr,
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle, nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw,
A'i dir bwrdd a'i adar byw,
Peunod, crehyrod hoywryw;
Dolydd glân gwyran a gwair,
Ydau mewn caeau cywair,
Parc cwning ein pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl;
Gerllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;

Saesneg Canol

Dinistriodd y Goncwest Normanaidd ddiwylliant uchel llenyddol y Loegr Eingl-Sacsonaidd. Roedd y Saesneg Canol a ddefnyddiwyd yn gynyddol eang unwaith eto ar ôl tua 1200 yn wahanol iawn o ran gramadeg i Hen Saesneg, ac roedd wedi benthyg nifer o eiriau Norsaidd ac Eingl-Normanaidd. Saesneg oedd iaith arferol y mwyafrif o drefi a sefydlwyd gan reolwyr Normanaidd a Seisnig yng Nghymru. Treiddiodd nifer fawr o eiriau Saesneg Canol i'r Gymraeg.

Daw'r enghraifft hon o Saesneg Canol o'r rhamant ganoloesol Sir Cleges,, hanes marchog gwastrafflyd sy'n cael ei yrru i dlodi cyn dod yn llewyrchus unwaith eto, â dathliadau'r Nadolig yn gefndir i'r stori.

Fe'i cyfansoddwyd yn y 1300au/1400au cynnar, yn ôl pob tebyg yng ngogledd-orllewin canolbarth Lloegr.

Mae'r darlleniad Saesneg Canol gan yr Athro John Hines.

Trawsgrifiad o'r clip sain

Sir Cleges and his son gent
The right waye to Cardiffe went
Uppon Cristemas Daye.
To the castell he cam full right
As they were to mete dy?t,
At noun, the soth to saye.
In Sir Cleges thow?t to goo,
But in pore clothyng was he tho
And in sympull araye.
The portere seyd full hastyly:
"Thou chorle, withdrawe þe smertly,
I rede the, without delaye —

'Ellys, be God and Seint Mari,
I schall breke thyne hede on hig?t!
Go stond in beggeres row?t.
Yf þou com more inward,
It schall þe rewe afterward,
So I schall þe clow?t.'
'Good sir,' seyd Sir Cleges tho,
'I pray you lat me in goo
Nowe, without dow?t.
The kynge I have a present brow?tt
From hym þat made all thynge of now?t;
Behold all abow?t!'

Cyfieithad i'r Gymraeg

Cymerodd Syr Cleges a'i fab y ffordd yn syth i Gaerdydd ar ddydd Nadolig. Aeth ar ei union i'r castell, wrth iddynt eistedd i fwyta, am ganol dydd i ddweud y gwir. Bwriadai Syr Cleges fynd i mewn, ond roedd golwg dlawd ar ei ddillad syml. Dywedodd y porthor yn gyflym iawn 'Ewch o'r lle yma ar unwaith, heb oedi, neu yn enw Duw a'r Forwyn Fair mi dorraf eich corun. Ewch i sefyll ynghanol y dorf o gardotwyr. Os dewch gam ymhellach, byddwch yn dyfaru. Fe'ch trawaf chi mor galed'. 'Gyfaill', meddai Syr Cleges, 'Rwy'n erfyn arnoch i'm gadael i mewn yr eiliad hon, heb amau. Rwyf wedi dod ag anrheg i'r brenin oddi wrtho ef a wnaeth bopeth o ddim. Edrychwch o'ch cwmpas.'

Ffynhonnell: D. Speed (gol) 1987, '4. Sir Cleges', Medieval English Romances Part One (Department of English, University of Sydney), 169-92.

Fflemineg (Iseldireg Canol)

Daeth Ffleminiaid i Loegr gyda byddin Gwilym Goncwerwr, ac yn ystod y 1100au fel masnachwyr a threfedigion yn y trefi newydd. Y grŵp enwocaf o drefedigion yw'r Ffleminiaid o dde-orllewin Cymru (Sir Benfro a Cheredigion). Llwyddodd y Ffleminiaid i gadw'u hunaniaeth fel grŵp a'u hiaith am nifer o genedlaethau tan y 1200au cynnar. Erbyn hynny roeddynt wedi gweddnewid cymeriad rhai ardaloedd o Ddyfed.

Daw'r darn hon o'r 'Roman van Walewein', stori Arthuraidd a dyfais Ffleminaidd mae'n debyg, â Gwalchmai (Gawain) fel prif gymeriad. Thema ganolog y stori yw'r cwest am fwrdd gwyddbwyll hedegog a ymddangosodd yn llys Arthur (gan ddiflannu drachefn).

Trawsysgrif o'r clip sain

Die koninck Arthur zat t'enen male
Te Carlioen in zine zale
Ende hild hof na konink zede
Alzo hi menigwerven dede
Met een deel zire man
Die ik niet wel genomen kan:
Ywein ende Percevaal,
Lanceloot ende Duvengaal
Entie hoofse Walewein;
Zijn gezelle was daar negein.
Ook was daar Keye, die drussate.
Daar die heren aldus zaten
Na den etene ende hadden gedwegen
Alzo hoge liede plegen,
Hebben zi wonder groot vernomen;
Een schaak ten veinstren inkomen
Ende breedde hem neder uptie aarde.
(...)

Cyfieithad i'r Gymraeg

Eisteddai'r Brenin Arthur un tro
Yn ei neuadd yng Nghaerllion
A chynhaliodd lys, fel y gwna brenhinoedd
Ac fel y gwnai yntau'n aml
Gyda nifer o'i ddynion
Na fedraf eu henwi i gyd.
Owain a Perceval,
Lawnslot a Duvengal
A'r bonheddig Gwalchmai;
A oedd heb ei debyg yno.
Roedd Kay, y stiward, yno hefyd.
Pan eisteddodd yr arglwyddi hyn yno
Ar ôl pryd o fwyd, ac wedi iddynt olchi (eu dwylo)
Fel y gwna gwŷr bonheddig,
Gwelsant ryfeddod mawr:
Daeth bwrdd gwyddbwyll i mewn drwy'r ffenest
a glaniodd ar y llawr.
(...)

Cyfieithiad Saesneg gwreiddiol gan D. F. Johnson a G. H. M. Claassens; darlleniad Fflemineg gan Lauran Toorians

Cyfrannwyd y stori gan Mark Redknap ar y cyd â Peter Wynn Thomas, Diarmait Mac Giolla Chríost, John Hines, David Trotter, Lauran Toorians.

Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au)

15 Mawrth 2010

Rhagarweiniad

Arysgrif ar gofeb o'r 9fed ganrif o Forgannwg

Arysgrif Ladin ar gofeb o'r 9fed ganrif o Eglwys Sant Illtud, Morgannwg. Codwyd y groes gan Houelt (Hywel) ar gyfer ei dad Res (Rhys).

Clywyd nifer o

leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.

Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma.

Hen Gymraeg:

Cymru yw'r unig ran o Ynysoedd Prydain lle mae fersiwn o iaith Frythonaidd wedi cael ei siarad yn ddi-dor hyd heddiw. Y Frythoneg oedd mamiaith y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg, Fe ddatblygodd i fod yn Hen Gymraeg yn ystod y 500au a'r 600au.

Daw'r enghraifft o Hen Gymraeg a glywir yma o gyfres o englynion tair llinell a gofnodwyd yn ysgrifenedig yn yr 800au. Fe'u hadnabyddir fel cerddi'r Juvencus. Galarnad milwr unig a geir yn y darn yma. Unig gwmni'r milwr yw hurfilwr o Ewrop. Er eu bod wedi ymladd ochr yn ochr, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig.

Credai'r Athro Ifor Williams fod y gair franc yn golygu 'milwr estron cyflogedig', gan ei gymharu â'r Wyddeleg francamais oedd yn dwyn yr un ystyr. Os oedd y gair yn cyfeirio at rywun oedd yn wreiddiol o ymerodraeth Siarlymaen, buasai'n siarad rhyw fath o iaith Gaelo-Romawns (neu os oedd yn hanu o ardaloedd dwyreiniol, iaith Ellmynig).

Trawsgrifiad o'r clip sain:

Niguorcosam nemheuaur    henoid
Mitelu nit gurmaur
Mi am [franc] dam ancalaur.

Nicanãniguardam nicusam    henoid
Cet iben med nouel
Mi amfranc dam anpatel.

Namercit mi nep    henoid
Is discirr micoueidid
Dou nam riceus unguetid.

Cyfieithiad i Gymraeg Fodern

1. Ni siaradaf hyd yn oed am awr heno,
Nid yw fy ngosgordd yn fawr,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein crochan.

2. Ni fyddaf yn canu, chwerthin, na mwynhau heno
Er i ni yfed medd clir,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein bowlen.

3. Na foed i neb ofyn imi am ddifyrrwch heno,
Cwmni crintachlyd wyf fi,
Gall dau arglwydd ymgomio: ond un sy'n siarad.

Mae'r darlleniad o Hen Gymraeg gan Peter Wynn Thomas

Lladin

Roedd y rhan fwyaf o bobl Brythonig-Rufeinig addysgedig yn ddwyieithog. Lladin oedd iaith y gyfraith, y llywodraeth, busnes a llenyddiaeth yn y Gymru Rufeinig. Cadwodd Lladin ei lle fel yr iaith ryngwladol o'r statws uchaf drwy'r canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Lladin oedd iaith testunau, litwrgi ac addysg Gristnogol.

Yn y clip sain clywir darlleniad o fersiwn y Fwlgat o Weddi'r Arglwydd gan Beatrice Fannon.

Trawsgrifiad o'r clip sain

PATER noster, qui es in caelis,
Sanctificetur nomen tuum.
Adveniat regnum tuum. Fiat voluntas tua, sicut in caelo et in terra.
Panem nostrum quotidianum da nobis hodie,
Et dimitte nobis debita nostra sicut et nos dimittimus debitoribus nostris.
Et ne nos inducas in tentationem, sed libera nos a malo.
Amen.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw,
Deled dy deyrnas,
Gwneler dy ewyllys,
Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd;
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
A maddau i ni ein dyledion,
Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr;
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
Eithr gwared ni rhag drwg.
Amen.

Hen Wyddeleg

Mae'n debyg mai ymfudwyr o'r Iwerddon ddaeth â'r Wyddeleg i Gymru tra bod Prydain yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Roedd y Gwyddelod yn arbennig o niferus trwy orllewin Cymru.

Diflannodd Gwyddeleg llafar o Gymru yn ystod y 600au mae'n debyg, ond mae'r iaith wedi gadael ei hôl ar nifer o enwau lleoedd Cymru ac ar yr iaith Gymraeg.

Daw'r enghraifft hon o Hen Wyddeleg o'r gerdd Yr Ysgolhaig a'i Gath, a ysgrifennwyd ar lawysgrif yn Awstria yn yr 800au cynnar. Mae'r ysgolhaig yn myfyrio am ei fywyd; Pangur yw enw ei gath.

Troswyd y gerdd i'r Saesneg gan D. Greene ac F. O'Connor. Mae'r darlleniad o'r Hen Wyddeleg gan Diarmait Mac Giolla Chriost.

Trawsysgrif o'r clip sain:

Meisse ocus Pangur Bán,
Cechtar nathar fria shaindán;
Bíth a menma-sam fri seilgg
Mo menma céin im shaincheird.
Caraim-se foss, ferr cach cló,
Oc mo lebrán léir ingnu;
Ní foirmtech frimm Pangur Bán,
Caraid cesin a maccdán.

Ó ro biam, scél cen scís,
I n-ar tegdais ar n-oendís,
Táithiunn díchríchide clius
Ní fris tarddam ar n-áithius.

Cyfieithad i'r Gymraeg:

Rwyf innau a Pangur Gwyn wrth ein gwaith; ef a'i feddwl ar hela, fy meddwl innau ar fy nhasg.

Gwell nag unrhyw glod i mi yw ennyd dawel gyda'm llyfr, ar drywydd gwybodaeth; nid yw Pangur Gwyn yn eiddigeddus ohonof – mae'n caru ei grefft blentynnaidd ei hun.

Nid oes diflastod pan fyddwn adref ar ein pennau'n hunain – cawn firi di-ben draw – a chyfle i ni'n dau ymarfer ein medrau.

Hen Norseg

Norseg oedd iaith Scandinafaidd y Llychlynwyr. Roedd yn dra thebyg i Saesneg y cyfnod, ac fe gymhathodd y ddwy iaith yn ardaloedd Llychlynnaidd gogledd a dwyrain Lloegr. Ceir nifer o enwau lleoedd o darddiad Llychlynnaidd o amgylch arfordiroedd Cymru.

Ym 1081 trechwyd y Normaniaid gan fyddin gyfunol Gymreig a Norwyaidd ym mrwydr afon Menai. Yn y gerdd hon, mae'r bardd llys Llychlynnaidd Þorkell hamarskáld yn dathlu'r fuddugoliaeth, yn enwedig cyfraniad y brenin Norwyaidd Magnós berfœttr (Magnus Goesnoeth). Cyfansoddwyd y gerdd i'w datgan ar lafar tua OC 1100.

Darllenir y gerdd gan yr Athro John Hines, Prifysgol Caerdydd.

Trawsysgrif o'r clip sain

Dunði broddr á brynju.
Bragningr skaut af magni.
Sveigði allvaldr Egða
Alm. Stọkk blód á hjalma.
Strengs fló hagl í hringa,
Hné ferð, en lét verða
Họrða gramr í harðri
Hjarlsókn banat jarli.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Saeth yn taro cot-mael. A'r pennaeth yn saethu'n galed. Plygodd arweinydd grymus Agder ei fwa. Taenwyd gwaed dros yr helmedau. Hyrddiodd saethau'r bwâu i mewn i'r mael, syrthiodd y fintai, a lladdwyd yr iarll gan dywysog Hordaland mewn brwydr ffyrnig dros dir.

Hen Saesneg

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid a ymgartrefodd yn Lloegr ar ôl diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid yn siarad yr iaith Germanaidd, a wahanodd yn raddol oddi wrth ei berthnasau Ewropeaidd. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd gwelwyd cyrchoedd milwrol cyson o Loegr i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Ond ffurfiwyd perthnasau mwy adeiladol, a rhannwyd diddordebau cyffredin ar hyd ffin hir Clawdd Offa.

Daw'r enghraifft hon o Hen Saesneg o Groniclau'r Eingl-Sacsoniaid (Llawysgrif Caerwrangon. Llyfrgell Brydeinig MS Cotton Tiberius Biv, ff. 3-86). Cofnod clerigwr ydyw o effaith cyrch Llychlynnaidd ar Gymru yn 915.

Mae'r darlleniad o'r Hen Saesneg gan yr Athro John Hines

Trawsysgrif o'r clip sain

Her on þissum geare wæs Wæringwic getimbrod; ond com mycel sciphere hider ofer suðan of Lioðwicum; ond twegen eorlas mid, Ohtor ond Hroald; ond foron þa west abuton þæt hi gedydon innan Sæfan muðan; ond hergodon on Norð Wealas aeghwær be þam staðum þær hi þonne onhagode; ond gefengon Cameleac bisceop on Iercingafelda; ond læddon hine mid him to scipe; ond þa alysde Eadweard cyning hine eft mid feowertigum pundum.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Yma, yn y flwyddyn hon, adeiladwyd Warwick, a daeth byddin ysbeiliol draw ar long o'r de o Lydaw, a dau bennaeth, Ohtor a Hroald gyda nhw. Aethant o amgylch y gorllewin nes cyrraedd aber Hafren, gan ysbeilio ar hyd glannau Cymru, gan gipio Cameleac, esgob Ergyng, a mynd ag ef ar y llong gyda nhw; talodd y Brenin Edward pedwar deg punt i'w ryddhau.

Ffynhonnell: Michael Swanton 1996, The Anglo-Saxon Chronicle (London: Dent, J. M.).

Gwerthu Losin Du: bwyd fel incwm

2 Mawrth 2010

Cyflwyniad

Stondin cynnyrch y ffermdy

Stondin cynnyrch y ffermdy ym marchnad Caerfyrddin yng ngofal Mrs E. Evans, Pencader.

Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du...

Mae'r hen rigwm cyfarwydd yn tynnu sylw at brysurdeb un wraig arbennig yn gwerthu nwyddau o'i chartre'. Dychmygol yw'r rhigwm, o bosibl, and y mae'n gofnod hanesyddol pwysig o'r math o weithgarwch a âi ymlaen ar hyd a lled Cymru yn y dyddiau gynt cyn sefydlu'r wladwriaeth les a'i nawdd cymdeithasol.

Ddiwedd y 19eg ganrif ac ymlaen i'r 1920au a'r 1930au 'roedd gwerthu bwydydd, naill ai o'r cartre' neu ar y farchnad leol, yn arfer pur cyffredin yn y pentrefi a'r trefi diwydiannol yng Nghymru. Mewn cyfnod o gynni oherwydd salwch neu farwolaeth y penteulu neu golli cyflog oherwydd anghydfod diwydiannol, byddai'r gwragedd yn cynorthwyo i gynnal eu teuluoedd drwy baratoi a gwerthu bwydydd cartre'. Byddai'r bwydydd hynny yn eu tro, yn cael eu cyfrif yn ddanteithion gan aelodau o'r gymdeithas leol.

Ffagots

Ymhell cyn dyddiau'r siopau pysgod-a-sglodion ym mhentrefi glofaol de Cymru, byddai'r bobl leol yn cyrchu i dai arbennig i brynu 'ffagots a pys'. Er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd, roedd hi'n arfer gan wragedd neu weddwon y glöwyr baratoi llond tun mawr o ffagots a sosbenaid fawr o bys i'w gwerthu o'u cartrefi ar nosweithiau penodol bob wythnos — nos Fawrth a nos Wener, fel rheol. Tyrai'r cwsmeriaid lleol yno gan gario'u bowlenni ar gyfer rhyw amser penodedig. Gwyddys bod yr arfer hwn wedi parhau mewn rhai ardaloedd tan bumdegau'r ugeinfed ganrif. 'Roedd gwerthu rhyw gant o ffagots am ddwy geiniog yr un bob nos Wener yn galluogi'r gwragedd i brynu, ymhlith pethau eraill, darn a gig ffres i'w rostio ar gyfer y Sul.

Pennog picl

Pennog picl oedd un o'r bwydydd cyffelyb a nodweddai'r ardaloedd diwydiannol yng ngogledd Cymru. 'Roedd pysgota penwaig, yn ôl y tymor, yn ddiwydiant pwysig yn y trefi a'r pentrefi ar yr arfordir, ond lledai'r arfer o baratoi a gwerthu pennog picl i ardaloedd y chwareli llechi. Cofnodwyd yr hanes am wragedd yn croesawu cwsmeriaid i'w cartrefi ar ryw un noswaith yr wythnos. Byddai'r gweision ffermydd a'r chwarelwyr yn ymgynnull yno i gael sgwrs a chwmnïaeth ddifyr tra'n bwyta'r pennog picl a'r bara ceirch cartre'; cawsent bryd da o fwyd am tua chwe cheiniog yr un. Ai'r gwragedd ati i goginio nifer fawr o bennog mewn dysglau pridd yn y popty a'u blasu nionod, finegr a sbeisys. Fyddai'r gweithwyr yn cael pryd o fwyd sylweddol am ychydig geiniogau ond 'roeddent yn geiniogau gwerthfawr i'r teuluoedd anghenus na allent droi at unrhyw wladwriaeth les am gymorth ariannol.

Bara ceirch, pwdin bara a diod fain

Rhoi torthau ceirch ar ei gilydd i galedu

Mrs. Cathrin Evans yn rhoi'r torthau ar ei gilydd i galedu.

Bwydydd eraill a baratoid ar gyfer eu gwerthu yn y de diwydiannol oedd pice cwrens a phwdin bara, tra 'roedd galw mawr am fara ceirch yn siroedd y gogledd. Danteithion oedd yn gyffredin i siroedd y gogledd a'r de fel ei gilydd oedd taffi (neu losin dant) a chyflaith (neu india roc). Yn y lle cyntaf fe'u paratoid ar raddfa fach gan y gwragedd i'w gwerthu o'u cartrefi neu ar y farchnad leol. Gwyddys am deuluoedd a ddatblygodd y fasnach i'r graddau iddynt fedru sefydlu cwmnïau masnachol pur lwyddiannus.

Yn yr un modd y datblygwyd y fasnach ddiodydd meddal. 'Roedd y ddiod fain neu'r ddiod ddail (small beer, herb beer) yn dderbyniol iawn gan y chwarelwr a'r glöwr i dorri syched ar ôl diwrnod caled o waith. Y gwragedd a welodd eu cyfle i fasnachu'r ddiod y gwyddent fod galw mawr amdano. Aent allan i'r priffyrdd a'r caeau i gasglu dali danadl poethion a dail dant y llew, yn eu tymor, a'u golchi a'u sychu'n ofalus. Fe'u berwid ynghyd â dail cyrens duon, iorwg a sunsur; yna hidlid y trwyth hwnnw a'i felysu â siwgr. Ar ôl iddo glaearu rhoid burum ynddo a'i adael i eplesu dros nos. Drannoeth, hidlid y ddiod drachefn a'i arllwys i botel. Gwyddys am un wraig a werthai, ar gyfartaledd, ryw ddeugain potelaid o ddiod fain bob wythnos o'i chartre yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Gwnai elw o saith swllt yr wythnos, swm a oedd yn rhan hanfodol o incwm prin y teulu.

Gosod sylfeini: Sefydliadau Gweithwyr

10 Chwefror 2010

Sefydliadau Gweithwyr

Institiwt y Gweithwyr, Blaenafon, ddechrau'r 20fed ganrif

Institiwt y Gweithwyr, Blaenafon, ar ddechrau'r 20fed ganrif

Rhwng y 1880au a'r 1930au, codwyd nifer o Sefydliadau Gweithwyr yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de a gogledd-ddwyrain Cymru. Eu diben oedd cynnig cyfleusterau addysgiadol a hamdden i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Fel arfer byddent yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, lle byddai modd mwynhau'r papurau dyddiol. Gallent hefyd gynnwys ystafelloedd gemau (roedd snwcer, biliards a dominos yn arbennig o boblogaidd) yn ogystal â theatrau a sinemâu. Cynhelid darlithoedd cyhoeddus, ralïau gwleidyddol, cyngherddau, dawnsfeydd ac eisteddfodau yno. Roeddent hefyd yn fannau cyfleus i grwpiau a chymdeithasau i gyfarfod ac i fandiau lleol i ymarfer a pherfformio. Roedd rhai o'r adeiladau hyn gymaint â phedwar neu bum llawr o ran uchder ac roedd ganddynt byllau nofio, hyd yn oed!

Oakdale

Ystafell Ddarllen Institiwt Oakdale, tua 1946

Ystafell Ddarllen Institiwt Oakdale, tua 1946

Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale yn gwasanaethu'r gymuned o amgylch Glofa Oakdale yn Sir Fynwy. Suddwyd y siafft gyntaf yn y rhan hon o Gwm Sirhywi — a fu hyd hynny’n gymharol ddilychwyn — ym 1906, a suddwyd ail siafft — y Waterloo — bedair blynedd yn ddiweddarach. Gwelwyd bod y gwythiennau glo yn ardderchog o ran safon y glo yn ogystal â thrwch y gwythiennau. Darparwyd llety i'r gweithwyr a'u teuluoedd mewn 'pentref model' pwrpasol o'r enw Oakdale.

Gosod sylfeini

Canolbwynt y pentref oedd Sefydliad y Gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu hwn ym 1917, ac ar 3 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni i osod dwy garreg sylfaen. Cyflwynwyd tryweli engrafiedig i'r ddau ŵr blaenllaw, sef Harry Blount, ar ran y gweithwyr, ac Alfred S. Tallis, Rheolwr-gyfarwyddwr Cwmni Haearn a Glo Tredegar a oedd yn berchen ar bwll Oakdale. Cwblhawyd yr adeilad y flwyddyn ganlynol ac mae'n debyg y byddid wedi cynnal seremoni bryd hynny, hefyd, gan osod carreg gopa i nodi bod y gwaith adeiladu wedi dod i ben.

Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 10 Medi 1917, a chyflwynwyd allwedd arbennig i A. S. Tallis yn arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor adeiladu am gael benthyg £10,000 gan y cwmni at gost codi'r adeilad.

Bywyd newydd yn Sain Ffagan

Rhoddwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1987 a chafodd ei ddatgymalu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ailgodwyd ef a'i adfer i'w gyflwr ar ddiwedd y 1930au a'i agor i'r cyhoedd ym 1995. Cyflwynwyd y ddau drywel a ddefnyddiwyd yn y seremoni i osod y garreg sylfaen i'r Amgueddfa yn y misoedd cyn yr agoriad gan berthnasau'r derbynwyr gwreiddiol. Roedd un trywel wedi teithio cyn belled ag Ynys Wyth, a'r llall yn Abertawe. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock. (Ar y pryd roedd yn Gomisiynydd Trafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond cyn hynny ef oedd arweinydd y Blaid Lafur a'r AS dros etholaeth Bedwellte, yr oedd Oakdale yn rhan ohoni.) Rai dyddiau cyn yr agoriad cyflwynwyd yr allwedd engrafiedig a roddwyd i Gwmni Haearn a Glo Tredegar i'r Amgueddfa hefyd.

The 'Stute

Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.

Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.

Bando - Gêm y ffon gam

8 Chwefror 2010

Gêm y ffon gam

Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b8f77810079" />

Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845

Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu bando yn gêm tîm boblogaidd trwy Gymru, ac yn arbennig felly yn Sir Forgannwg.

Yn wir ym 1797 fe nododd un teithiwr rhwng y Bont-faen a’r Pîl mor brin oedd coed ynn a choed llwyfen yno, a hynny oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i wneud ffyn bando. Roedd John Elias (1774-1841), un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd o Bwllheli, Sir Gaernarfon, a’r gwleidydd David Lloyd George (1863-1945), a fagwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ill dau yn chwaraewyr brwd yn wŷr ifainc.

Roedd bando yn debyg i ryw ffurf gynnar ar hoci, gan mai nod y gêm oedd taro pêl gyda ffon grom o’r enw ‘bando’ ar draws maes y chwarae cyn ceisio ei gyrru i gôl y gwrthwynebwyr. Daw’r term ‘bando’ o’r gair Ffrangeg bande, sy’n golygu ‘ffon gam’. Gwnaed y ffyn yma o wahanol fathau o bren caled lleol, a byddai’r bêl, a oedd yn debyg o ran ei maint i bêl hoci heddiw, yn aml yn cael ei naddu o bren celyn neu focs.

Medd-dod, trais a thranc y gêm

Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b8f77810079" />

Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845

Yn draddodiadol byddai’r gornestau hyn yn cael eu cynnal rhwng gwahanol blwyfi. Byddai’r chwaraewyr yn cymryd y rhain gymaint o ddifrif nes eu bod, weithiau, hyd yn oed yn hyfforddi o flaen llaw. Er mai dynion a fyddai’n chwarae bando fel arfer, byddai merched yn gwylio’r gêm yn frwd. Yn wir, ceir tystiolaeth am un ornest fando a chwaraewyd ym Mro Morgannwg lle cuddiodd gwraig un o’r chwaraewyr y bêl o dan ei phais nes i’w gŵr ddod heibio i’w nôl. Bydda’r gemau’n amrywio yn ôl yr ardal, oherwydd nid oedd unrhyw reolau safonol, dim cyfnod penodol i’r chwarae na chyfyngiadau ar y nifer oedd i gymryd rhan. Roedd trais yn gyffredin, a hyd yn oed os oedd dyfarnwr yn bresennol nid oedd y chwaraewyr yn brin o daro eu gwrthwynebwyr gyda’u ffyn. Yn aml byddai’r gwylwyr yn gosod betiau ar y sgôr derfynol, a byddai’r tafarnwyr lleol yn sicrhau’n ddi-os bod digon o ddiod feddwol ar gael. Y cyfuniad peryglus hwn o gamblo, y ddiod ac ymddygiad aflywodraethus ar y cae ac oddi arno fu’n gyfrifol yn y pen draw am dranc y gêm.

Bois Bando Margam

Bathodyn Milwrol Gwirfoddolwyr Morgannwg

Ffurfiwyd The First Glamorgan Rifle Volunteers ym Margam, Port Talbot yn 1859. Mabwysiadwyd y bathodyn hwn, sy'n dangos dwy ffon bando, ganddynt yn 1875.

Yn ôl Edward Matthews (1813-92) o Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd y gêm mor boblogaidd ym Margam, gorllewin Morgannwg fel na fyddai neb dros ei flwydd oed yn fodlon cael ei weld heb ffon fando, ac ar adegau byddai cymaint â 3,000 o wylwyr yn mynychu’r gemau. Yn wir, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bando’n bennaf gysylltiedig â Sir Forgannwg ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysbrydolodd amlygrwydd y gêm ym Margam faled o’r enw ‘The Margam Bando Boys’ a ddathlai fedrusrwydd y tîm hyglod hwn. Yn ôl y faled, roedd gemau tîm eraill yn ddim o’u cymharu â bando:

Due praises I'll bestow
And all the world shall know
That Margam valour shall keep its colour
When Kenfig's waters flow

Our master, straight and tall
Is foremost with the ball;
He is, we know it, and must allow it,
The fastest man of all

Let cricket players blame,
And seek to slight our fame,
Their bat and wicket can never lick it,
This ancient manly game

Our fame shall always stand
Throughout Britannia's land;
What men can beat us? Who dare meet us?
Upon old Kenfig's sand?

Should Frenchmen raise a voice
To crush our peaceful joys,
They'll get by storming a precious warming
From Margam bando boys

Like lions we'll advance
To charge the sons of France;
The Straits of Dover we'll ferry over
And make the traitors dance

Napoleon shall repent,
If war is his intent;
He'll sadly rue it if he'll pursue it;
Proud Paris shall lament

Bold Britons rule the main,
And every hill and plain,
From every nation throughout creation
Our rights we will maintain

Chwaraewyd bando yn ardal Aberafan hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1876 bu farw Theodore Talbot, capten y Margam Bando Boys a’r etifedd i ystâd Margam, tua’r un adeg ag y sefydlwyd gweithiau tun Mansel, Avon Vale, a Thai-bach. Disodlwyd bando mewn byr o dro, wrth i’r gweithwyr tun droi at y gêm newydd honno, rygbi. Datblygodd y syniad o faes chwarae penodol yn ystod y 1870au, ac wrth i glybiau pwrpasol gael eu sefydlu crewyd caeau chwarae ar gyfer y timau a’u cefnogwyr. Roedd sefydlu cyrff i reoli gwahanol chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales) ym 1876 ac Undeb Rygbi Cymru (Welsh Rugby Union) ym 1881, yn arwydd o oes newydd lle'r oedd chwaraeon o dan reolaeth ganolog, ac felly fe gollwyd unrhyw amrywiadau rhanbarthol.