Baner Gymreig Capten Scott Elen Phillips, 1 Mawrth 2012 Y Terra Nova yn gadael Caerdydd ar 15 Mehefin 1910. Mae'r Ddraig Goch yn cyhwfan o'r hwylbren canol, tra bod y Lluman Gwyn yn cyhwfan o'r tryfer canol. Gwelir baner Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen. Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Hysbyseb llawn tudalen ar gyfer James Howell & Co. a welwyd yn rhaglen Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Cyhoeddwyd gan y Great Western Railway Co. Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910–13.Dangoswyd y faner hon mewn cinio ffarwel a gynhaliwyd er anrhydedd i Capten Scott a'i swyddogion yng Nghaerdydd ar 13 Mehefin 1910, ac a hedfanodd ar fwrdd y Terra Nova wrth i'r llong hwylio o Gaerdydd ac ar ei dychweliad ym 1913.Ar ddydd Gŵyl Dewi 1911 a 1912, codwyd y faner uwchlaw caban pencadlys Scott yn yr Antarctig.Mae wedi'i gwneud o ddefnydd gwlanen garw gyda selfeisiau ar yr ymylon uchaf ac isaf ac yn mesur 3.45m x 1.83m. Torrwyd y motiff draig o ddefnydd gwahanol a'i wnio â pheiriant i'r ffabrig cefndir gwyrdd a gwyn. Mae manylion — fel y crafangau, y tafod a'r llygaid — wedi'u paentio arni â phaent du gwyn.James Howell & Co. o GaerdyddWyddon ni ddim pwy bwythodd neu liwiodd y faner, ond rydyn ni'n gwybod taw cwmni James Howell & Co yng Nghaerdydd a'i cynhyrchodd, yn yr adran wisgoedd mwy na thebyg.Cyhoeddwyd mewn cinio a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1909 er anrhydedd i'r Is-gapten E. R. G. R. Evans, aelod o alldaith Scott, bod Howell wedi cynnig cynhyrchu baner Draig Goch fawr iddo ei chludo i Begwn y De. Roedd Evans wedi rhoi'r gorau i drefnu Alldaith Antarctig Gymreig ei hun ac wedi ymuno â Scott fel ei ddirprwy.Bu Evans yn hynod ddylanwadol yn hyrwyddo a chasglu nawdd i'r alldaith, a hynny'n bennaf drwy olygydd y Western Mail, Willie Davies — gwraig Davies gafodd y syniad o gyflwyno baner Cymru i'r alldaith.Caerdydd yn 'un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'Estynnodd trigolion Caerdydd groeso cynnes i'r Alldaith Antarctig Brydeinig — mwy nag unrhyw ardal arall o bosibl. Wedi ennill statws dinas ym 1905, roedd arweinwyr dinesig Caerdydd wrthi'n ceisio ei hailfrandio. Yng ngeiriau Clerc y Dref, J. L. Wheatley, roeddent am hyrwyddo Caerdydd 'fel un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'.Roedd cael ei chysylltu'n agos â mordaith Scott i Antarctica — un o'r cyffindiroedd mawr olaf — yn brawf o'r hyder dinesig newydd hwn.Un o ffigurau blaenllaw cymuned fusnes Caerdydd oedd James Howell. Sefydlwyd ei siop adrannol, James Howell & Co, ym 1865 fel siop ddillad fechan ar Yr Aes ac erbyn dechrau'r ganrif roedd yn un o'r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Does dim syndod fod James Howell yn teimlo cymhelliad i gyfrannu at fenter Scott mewn rhyw fodd ac yntau â hanes o 'noddi' digwyddiadau dinesig yng Nghaerdydd. Yn nechrau 1909, darparodd un o'i adeiladau ar Stryd Wharton i Basiant Cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim. Cerdyn post i goffau Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909 Ardalyddes Biwt fel 'Dame Wales' ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 1909. Yn haf 1914, cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa dros dro o luniau dyfrlliw a brasluniau Edward Wilson o'r Antarctig. Wilson oedd Prif Wydonydd yr alldaith a bu farw gydag ef ar y daith yn ôl o Begwn y De ym 1912. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas gan fod adeilad yr Amgueddfa heb ei gwblhau ar y pryd. Pasiant Cenedlaethol CymruI bob pwrpas, cyfle i fawrion cymdeithas ail-greu golygfeydd o hanes arwrol Cymru oedd y Pasiant Cenedlaethol. Roedd angen 40,000 o wisgoedd ar drefnwyr y pasiant a cyflogwyd tîm o 800 o fenywod. Sefydlodd y menywod gweithdy yn Stryd Wharton am chwe mis. Fel un o noddwyr y Pasiant byddai Howell hefyd wedi darparu gwneuthurwyr gwisgoedd proffesiynol o'i weithlu ei hun. Yn wir, mae gwisg eiconig 'Dame Wales' o olygfa agoriadol y Pasiant ar 16 Gorffennaf 1909 wedi ei chreu mewn modd tebyg iawn i faner y Terra Nova. Mae gan y ddwy addurn gosod ar lun motiff draig goch, mewn dyluniad naïf. Gyda'r ddwy wedi'u creu ychydig fisoedd ar wahân yn un o weithdai James Howell & Co, ai'r un dwylo a'u pwythodd ys gwn i?Draig Goch y 1890auMae'r ddraig ar faner y Terra Nova yn amlwg yn wahanol i'r faner bresennol. Mae'n fwy talsyth, dragon segreant yn hytrach na dragon passant. Roedd yr arddull hwn yn gyffredin yn y 1890au a dechrau'r 1900au a gellir ei weld, mewn ffurfiau amrywiol, ar gadeiriau eisteddfodol y cyfnod a llu o arwyddluniau cenedlaethol eraill. Mae'n siŵr taw o ffynonellau tebyg y gweithiodd gwneuthurwyr dillad Howell wrth greu draig y Terra Nova.Safoni Baner CymruYm 1910, ysgrifennodd yr Eisteddfod Genedlaethol at yr Amgueddfa yn gofyn am gymorth gyda ffurf y ddraig: 'Rydym yn awyddus i gael ffurf y ddyfais mor gywir a phosibl'. Cawsant ateb gan guradur: 'Gresynaf nad oes gennym sbesimen dilys o'r anifail yn yr Amgueddfa Genedlaethol'. Trosglwyddwyd y llythyr i Mr Thomas Henry Thomas, awdurdod cydnabyddedig ar faterion o'r fath, a fu wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cysoni ffurf y ddraig Gymreig. Mae ei frasluniau a'i bapurau bellach wedi eu cadw yn yr Amgueddfa.Torri'r faner yn gofroddionPan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym Mehefin 1913, gyda'r ddraig goch yn cyhwfan o'r mast, nododd y Western Mail ei bod 'dipyn yn llai na pan y codwyd hi am y tro cyntaf dair mlynedd yn ôl. Tra bod y Terra Nova wedi'i hangori yn Lyttleton, Seland Newydd, rhoddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y cymdeithasau Cymreig yno i dorri darnau o'r faner a'u cadw fel cofroddion o'r alldaith.'Mewn cinio yn y Royal Hotel ar 16 Mehefin 1913 i ddathlu dychweliad yr alldaith i Gaerdydd, cyhoeddodd Teddy Evans y byddai'r faner yn cael ei rhoi i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn y dathlu fodd bynnag, doedd neb yn siŵr iawn beth wnaeth Evans â'r faner. Roedd yn credu ei fod wedi ei rhoi i'r Arglwydd Faer, ond cafodd ei chanfod yn y Royal Hotel bedwar mis yn ddiweddarach!
Cylch a bachyn a doli glwt 16 Rhagfyr 2011 Teganau gwerin Grwp o blant yn Sgwar Rowe, Caerdydd, tua 1892. Mae un yn dal cylch haearn a dau arall yn eistedd ar ferfa ben i waered. Yng Nghymru ers talwm gwrthrychau syml o waith llaw a wnaed gartref oedd teganau. Fe’u lluniwyd o ba ddeunyddiau crai bynnag oedd yn digwydd bod ar gael yn lleol. Pren oedd prif ddeunydd teganau plant, gan ei fod yn rhwydd i’w saernïo yn wrthrychau o bob math – yn ddoliau, topiau troi a ratls i enwi dim ond tri. Roedd cylchoedd a bachau haearn a pheli troed a wnaed o bledrenni moch yn boblogaidd hefyd. Byddai’r rhain yn difyrru plant am oriau ac roeddent yn gyffredin yn y cartref ac ar fuarth yr ysgol. Roedd bod yn berchen ar bêl yn rhoi rhwydd hynt i chwarae llu o gemau tîm cyffrous fel rownderi, pêl law a phêl-droed, yn arbennig felly i fechgyn. Ar y llaw arall, byddai merched, hefyd, yn gyrru cylchoedd o bren neu haearn fel y mynnent, naill ai bob yn un, neu drwy gystadlu i weld pwy fyddai’n gallu eu rholio gyflymaf, arafaf neu bellaf. Trysorau plant Cyn dyfodiad cynnyrch ffatrioedd, byddai plant yn chwarae gyda theganau gwerin fel hyn. Mae'r cwpan a phêl, y chwiban a'r ratl a welir yma yn gopïau modern. Mae'r term teganau gwerin yn disgrifio'r teganau hynny a wnaed naill ai gan y plentyn ei hun neu gan rieni neu grefftwyr yn unol â dymuniadau’r plentyn. Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond y teganau symlaf oll fyddai gan blant o deuluoedd tlawd, lle'r oedd yr arian at hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn brin. Serch hynny byddai’r rhain yn drysorau yn llygaid y plant ac yn fodd i ddianc am ychydig rhag cynni eu bywydau beunyddiol. Gan mai tlodi oedd realiti byw i lawer teulu yn y cyfnod hwn, rhaid oedd iddynt greu eu diddanwch a’u difyrrwch eu hunain, ac roedd plant yn llawn balchder haeddiannol am eu bod yn gallu gwneud eu teganau eu hunain o ddim. Er enghraifft, y cyfan oedd ei angen i wneud barcud papur oedd ffrâm bren ysgafn ac ychydig o bapur, a byddai hyd yn oed y plant lleiaf yn gallu creu ceffyl pren o ddarn o bren a thipyn go lew o ddychymyg. I wneud si-so, yn aml byddid yn gosod dwy astell, y naill uwch ben y llall, dros gasgen. Byddai dau blentyn wedyn yn eistedd y naill ben a’r llall i’r estyll ac yn siglo i fyny ac i lawr yn fodlon nes iddynt flino ar y chwarae. Roedd modd defnyddio rhaffau i sgipio neu eu dringo trwy glymu un pen wrth gangen gref, gan adael y llall yn rhydd i’r plant glewaf ei dringo. I fechgyn, roedd creu eitemau fel barcutiaid papur, cychod tegan neu ffyn tafl yn rhoi teimlad o foddhad mawr, a gallai merched ddefnyddio eu doniau gwnïo i wneud doliau clwt a dodrefn ar gyfer tai doliau, neu chwarae siopau dillad trwy ddefnyddio tameidiau bychain o wahanol ddefnyddiau. Teganau ffatri Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, diwedd y 1950au Hyd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, yn ddieithriad bron, dim ond pobl gefnog a fedrai fforddio prynu teganau. Ond wrth i ddulliau masgynhyrchu ddatblygu cynhyrchwyd teganau rhatach, gan drawsnewid y farchnad deganau yng Nghymru a mannau eraill. Agorodd llu o ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dyfu’n amlycach ac yn ehangach eu dylanwad, roeddent yn llwyddo i gyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Yn ganlyniad i hyn, collodd y rhan fwyaf o blant ddiddordeb yn y tegan gwerin syml. Rhoesant y gorau i wneud eu teganau eu hunain, gan gynilo eu ceiniogau yn lle hynny at brynu’r fersiynau lliwgar, addurniadol a mwy ffasiynol oedd i'w gweld yn y siopau. Heddiw mae teganau gwerin a wnaed gartref yn cael eu hystyried yn aml yn wrthrychau braidd yn hen ffasiwn a hynod. Serch hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o grefftwyr wedi troi eu llaw at wneud teganau, efallai yn ymateb i’r mynyddoedd o eitemau ffatri sy’n cael eu mewnforio i Brydain o dramor. Er gwaethaf y bri sydd o hyd ar deganau masnachol, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod i wrthrychau cartref apêl fwy hirhoedlog, oherwydd pwy allai wadu atyniad diniwed a digyfnewid eitemau fel pyped bys wedi ei weu neu ddoli beg wedi ei phaentio? Mae natur unigryw darnau a wnaed â llaw ac ôl y gofal a’r amynedd sydd wedi mynd i’w creu yn ddi-os yn dweud mwy wrthym am y gwneuthurwr nag y gallai gêm gyfrifiadur neu ddol Barbie a fasgynhyrchwyd ei wneud erioed.
Maen magl a photel gwrach 16 Mehefin 2011 Wedi eich brathu gan gi cynddeiriog neu eich rheibio gan wrach? Swyn ar bapur yn erbyn rheibio, o Langurig, Maldwyn Pe bai ci cynddeiriog yn eich brathu chi neu wrach yn rhoi melltith arnoch chi, fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud? Mor ddiweddar â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, roedd yn arfer cyffredin mewn rhai mannau yng Nghymru i bobl ddefnyddio gwahanol fathau o swynion a swynbethau i'w hiachau neu i'w diogelu yn erbyn ystrywiau gwrachod. Gallai'r rhain fod ar ffurf geiriau tebyg i weddi a fyddai'n cael eu hadrodd neu eu hysgrifennu ar ddarn o bapur cyn ei guddio'n ddiogel. Yn ôl y gred roedd gwrthrychau fel esgidiau neu gerrig hefyd yn dod â lwc. Maen magl Glain Nadredd, o Ben-tyrch, Morgannwg Y swynbeth carreg enwocaf yng Nghymru oedd y maen magl neu'r glain nadredd. Ym 1695 disgrifiodd Edward Lhuyd y rhain fel Cerrig y Drudion - sef cerrig y Derwyddon. Y gred oedd y byddent yn cael eu creu wrth i nadroedd roi eu pennau at ei gilydd, gan ffurfio rhyw fath o swigen o amgylch pen un ohonynt. Mae'r 'swigen' hon yn debyg i gylch gwydr fel yr un a gafwyd yn Nhwyn-y-tila, Caerllion, a chredir ei bod yn dod â lwc i bwy bynnag sy'n dod o hyd iddi. Credid hefyd ei bod yn feddyginiaeth ar gyfer afiechydon y llygad a byddai galw mawr amdani yn aml. Mae'r term maen, wrth gwrs, yn enw arall ar garreg a hen air yw magl am anhwylder ar y llygad, fel llefrithen. Roedd modd dabio'r dŵr a ddefnyddiwyd i wlychu'r garreg ar y man sâl, ond roedd y driniaeth a ddefnyddid amlaf yn golygu rholio neu rwbio'r garreg dros yr amrant. Arferai pobl ddefnyddio'r ymadrodd 'fel y glaim', a oedd yn llythrennol yn golygu 'fel y garreg', i olygu iach dros ben. Gwella'r gynddaredd Carreg y Gynddaredd, o Henllan, Ceredigion Amrywiad ar y maen magl yw'r llaethfaen, a oedd — yn ôl y sôn — yn gallu gwella'r gynddaredd. Yn ei gyfrol Folk-Lore of West and Mid Wales, soniodd Jonathan Ceredig Davies am laethfaen a oedd 'very much in request' oherwydd y gred ei bod yn gwella pobl a gafodd eu brathu gan gi cynddeiriog, a oedd yn broblem gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Boed pwerau'r garreg yn rhai iachaol neu'n rhai ataliol, y gred oedd bod y bobl a ddefnyddiai'r garreg yn ddiogel rhag y gynddaredd. Soniodd Iolo Morgannwg iddo weld carreg fel hon yn Sir Benfro ym 1802, pan gyfarfu â dyn a oedd yn cerdded y wlad â charreg o'r fath gydag ef. Byddai'n crafu darn o'r garreg yn bowdwr y gellid ei doddi mewn diod, a'i werthu am bum swllt yr owns fel meddyginiaeth yn erbyn y gynddaredd. Potyn a photel gwrach Math gwbl wahanol o swynbeth yw potel gwrach. Edrychwch er enghraifft ar y jwg crochenwaith Bwcle yma o'r ddeunawfed ganrif — potel gwrach yw hon. Fe'i cafwyd wedi ei chladdu wrth wraidd hen ywen ger ffermdy Allt-y-Rhiw ger Llansilin, ym Mhowys. Yr hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â'r jwg yw bod ei chwarter yn llawn o blwm, sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn rhyw ffordd warchodol, neu fel ffordd o ddal neu amgáu ysbryd trafferthus mewn modd tebyg i'r esgidiau cuddiedig sydd yn ein casgliad. Gyda chredoau ynglŷn â dewiniaeth roedd y weithred o gau gwrthrych mewn potel neu botyn yn aml yn arwydd o fod wedi twyllo'r ysbryd aflan. Byddai'n cael ei ddefnyddio felly fel swynbeth gwarcheidiol. Mae llawer i stori am ysbrydion trafferthus yn cael eu 'diddymu' fel hyn, fel ysbryd 'Lady Jeffreys' a gafodd ei pherswadio i fynd i mewn i botel. Yna rhoddwyd corcyn yn y botel, ei selio a'i thaflu i'r pwll o dan y Bont Fer yn Llanidloes. 'Crinjars' neu ddynion hysbys Mr Evan Griffiths, crinjar o Langurig, sir Drefaldwyn, 1928 Medrai pobl a gafodd eu witsio hefyd ddilyn eu defodau eu hunain yn erbyn dewiniaeth trwy osod pethau miniog fel drain a phinnau mewn potel. Fel arfer byddent yn llenwi'r botel wedyn gyda lleisw'r dioddefwr cyn ei selio a'i berwi ar y tân neu ei chladdu o dan garreg yr aelwyd. Y gred oedd y byddai hyn yn poenydio'r wrach nes iddi ddangos pwy oedd hi, a thrwy wneud hynny godi'r swyn. Roedd y botel yn cynrychioli pledren y wrach, ac felly credid bod y pethau miniog yn achosi llawer o boen iddi. Gallech hefyd brynu swyn gan ddyn hysbys — sef dyn doeth. Roedd y bobl hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru ar un adeg, ac ymhlith eu doniau roedd gwrthweithio dewiniaeth, gwella pobl ac anifeiliaid, astroleg, dweud ffortiwn, a dod o hyd i eiddo coll. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif roedd enw mawr i Langurig oherwydd ei dynion hysbys. Byddai swynau yn erbyn dewiniaeth yn cael eu hysgrifennu ar ddarn o bapur, a gâi ei rolio'n ofalus a'i selio mewn potel. Gosodwyd hon wedyn o dan yr aelwyd neu ei chuddio yn un o brif drawstiau'r tŷ er mwyn gwarchod rhag dewiniaeth ac unrhyw ddrwgweithredwyr. Os digwydd i chi ddod o hyd i un o'r swynbethau hyn, cofiwch ei drin yn yr un ffordd â'r dillad cuddiedig. Tynnwch ffotograffau ohono a chofnodi manylion yr union fan y daethoch o hyd iddo, a chysylltu â'ch amgueddfa leol. A beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch ag agor y botel!
Cylch yr Orsedd 25 Gorffennaf 2010 Tyrfa enfawr yn gwylio seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, naill ai adeg y Cyhoeddi yn 1914 neu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun yn 1916. Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 1987 gyda Elerydd (W.J.Gruffydd) yn Archdderwydd a Gwyn Tre-garth yn arwain y canu ar y Maen Llog. Ymgeisiwyr ifanc llwyddiannus (13-14 oed) yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd yn aelodau yn Abertawe, 1962. Gŵyl y CyhoeddiMae'n rhaid cyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd yn ymweld â bro arbennig o leia flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Yn ystod y seremoni bydd y Cofiadur yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi a chyflwynir y copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol i'r Archdderwydd.Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymryson rhwng beirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi yn 1176 nodwyd i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi ledled Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a'r ynysoedd eraill, flwyddyn ymlaen llaw. Pan ail-sefydlwyd eisteddfodau ddiwedd y ddeunawfed ganrif penderfynwyd mabwysiadu'r drefn o gyhoeddi ymlaen llaw ac yn 1791 dewisodd Iolo Morganwg yntau gyhoeddi y byddai seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn cael ei chynnal ymhen blwyddyn a diwrnod ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain. Mae'r patrwm hwn wedi parhau hyd heddiw.O gerrig mân i gerrig ffugO fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonïau gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.I hwyluso cynnal seremonïau'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.Y Cylch yn ystod wythnos y SteddfodDefodau bore LlunCyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd a chroesewir y Celtiaid a chynrychiolwyr tramor eraill gan yr Orsedd. Bydd y Cofiadur yn coffáu'r Gorseddogion sy wedi marw yn ystod y flwyddyn a chenir emyn coffa. Yna daw defod urddo aelodau newydd trwy arholiad neu radd - i Urdd Ofydd neu Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor.Defodau bore GwenerCyflwynir y Flodeuged i'r Archdderwydd a pherfformir y Ddawns Flodau. Yna derbynnir aelodau newydd trwy anrhydedd i Urdd Derwydd yng Ngorsedd.Urddo aelodau newyddMae tair Urdd yng Ngorsedd y Beirdd:Urdd Ofydd: y wisg werdd. Bydd ymgeiswyr sy'n pasio Lefel 1 a 2 yn arholiadau'r Orsedd, mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth neu brofion i delynorion a datgeiniaid yn cael eu derbyn i'r urdd hon. Gellir urddo aelodau er anrhydedd am gyfraniad o safon cenedlaethol i'r wisg werdd hefyd. Urddwyd sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn eu plith y Frenhines, Dug Caeredin, a'r Brenin Siôr i'r urdd hon.Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor: y wisg las. Ar ôl pasio arholiad terfynol yr Orsedd y ceir mynediad i'r Urdd hon. Gall y sawl sy wedi graddio mewn Cymraeg neu gerddoriaeth (ac sy'n gallu siarad Cymraeg) wisgo'r wisg las yn ogystal. Ar fore dydd Llun yr urddir y rhain i'r Orsedd. Bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn mynd at borth y Cylch ac yn dal y Cleddyf ar ei draws a chael gan bob aelod newydd i osod ei law dde ar lafn y Cledd. Ar ôl eu hurddo arweinir hwy gan y Disteiniaid at Feistres y Gwisgoedd i'w harwisgo â phenwisg eu hurdd.Urdd Derwydd - y wisg wen. Mae enillwyr y prif gystadlaethau - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn cael eu hurddo yn awtomatig i'r Wisg Wen. Bydd eraill yn cael eu 'dyrchafu' yn Dderwyddon o'r wisg werdd neu'r wisg las. Bob blwyddyn hefyd bydd cymwynaswyr arbennig y genedl yn cael eu hanrhydeddu - yn eu plith cantorion ac actorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Sian Phillips ac Ioan Gruffudd; enwogion fel Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a chwaraewyr rygbi a phel-droed enwog.Roedd urddau gwahanol yng Ngorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792 ond pwysleisiai Iolo bod yr urddau yn gyfartal o ran statws. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd consýrn gwirioneddol am deilyngdod yr urddau a dechreuodd yr ysgolhaig, John Morris-Jones, feirniadu'r graddau oherwydd, meddai, 'derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru, ...'. Ar ôl hyn aethpwyd ati o ddifrif i arholi ymgeiswyr yn ofalus i godi safonau.
Gwnaed yn Tseina: cadair Eisteddfod 1933 25 Gorffennaf 2010 Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933; rhodd J.R.Jones, Shanghai. Yn y llun gwelir y crefftwyr a luniodd y gadair. Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr yn y llun i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T’ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth. Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T’ou-se-we i wneud y gadair. Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Enillwyd cadair debyg iawn, hefyd wedi'i gwneud yn T'ou-se-we, gan y bardd Gwenallt Eisteddfod Abertawe, 1926.